{"id":1220,"date":"2023-09-14T11:22:08","date_gmt":"2023-09-14T10:22:08","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1220"},"modified":"2026-03-02T11:40:31","modified_gmt":"2026-03-02T11:40:31","slug":"rheoli-eich-gyrfa-managing-your-career","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/rheoli-eich-gyrfa-managing-your-career\/","title":{"rendered":"Rheoli eich gyrfa"},"content":{"rendered":"<p>Ni fu erioed mor bwysig dysgu sut i reoli eich gyrfa ac addasu i newid. Mewn 21ain ganrif gynyddol dechnolegol a byd-eang, mae byd gwaith yn parhau i esblygu&#8217;n gyflym. Mae&#8217;r syniad o swydd am oes yn llawer llai perthnasol nawr, wrth i&#8217;r gweithlu ddod yn fwy symudol, wrth i&#8217;r gweithle ddod yn fwy hyblyg ac wrth i&#8217;r farchnad swyddi ddod yn fwy cyfnewidiol. Mae&#8217;r datblygiadau hyn wedi dod \u00e2 llawer o swyddi newydd gyda nhw &#8211; swyddi nad oeddent hyd yn oed yn bodoli ychydig flynyddoedd yn \u00f4l! Er bod hyn wedi arwain at fwy o ddewis i&#8217;r gweithlu, mae llywio taith eich gyrfa wedi mynd yn fwyfwy cymhleth.<\/p>\n<p>Ystyriwch ble rydych chi ar daith eich gyrfa;<\/p>\n<ul>\n<li>A oes gennych gynllun clir ar gyfer y dyfodol?<\/li>\n<li>Oes gennych chi nifer o syniadau ac ar hyn o bryd rydych yn gweithio allan pa yrfa allai fod yn fwyaf addas i chi?<\/li>\n<li>Os nad oes gennych chi ddim syniad beth rydych chi eisiau ei wneud ac yn teimlo braidd yn ddi-glem (mae hyn yn hollol normal ac yn llawer mwy cyffredin nag y mae\u2019n bosibl rydych yn ei feddwl!)?<\/li>\n<\/ul>\n<p>Pa gam bynnag rydych chi arno, mae&#8217;r brifysgol yn blatfform perffaith i fireinio eich penderfyniadau a chynllunio ar gyfer dyfodol llwyddiannus.\u00a0 Cofiwch, nid oes rhaid i&#8217;r hyn rydych chi&#8217;n penderfynu ei wneud ar \u00f4l i chi raddio fod yr hyn rydych chi&#8217;n ei wneud ar gyfer eich gyrfa gyfan!<\/p>\n<h4>Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch i reoli eich gyrfa?<\/h4>\n<p>Meddyliwch am eich gyrfa fel prosiect parhaus lle chi yw rheolwr y prosiect! Bydd angen set gref o sgiliau arnoch chi \u2013 rydyn ni\u2019n galw\u2019r rhain yn <strong>sgiliau rheoli gyrfa<\/strong>.<\/p>\n\n<!-- iframe plugin v.6.0 wordpress.org\/plugins\/iframe\/ -->\n<iframe loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_21910\" width=\"100%\" height=\"500\" scrolling=\"yes\" class=\"iframe-class\" frameborder=\"0\"><\/iframe>\n\n<p style=\"text-align: center\">Os ydych chi\u2019n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni\u2019n argymell eich bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn<a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_21910\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"> ffenestr ar wah\u00e2n<\/a>.<\/p>\n<p>Gwyliwch y fideo isod i glywed cyngor hanfodol gan gyflogwyr am reoli eich gyrfa:<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Mewnwelediadau Cyflogwyr Dyfodol Myfyrwyr: Cyngor hanfodol i fyfyrwyr sy&#039;n dechrau ar eu taith gyrfa\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/7NesT7a6ViU?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<h4>Cynllunio gyrfa<\/h4>\n<p>Nid oes rhaid i chi fod \u00e2 mapio&#8217;r ugain mlynedd nesaf ond gall creu cynllun gyrfa tymor byr fod yn ddefnyddiol iawn gyda datblygiad cynnar eich gyrfa. Gall hyn roi synnwyr o gyfeiriad i chi a rhywbeth i weithio tuag ato hyd yn oed os nad ydych chi&#8217;n si\u0175r beth rydych chi eisiau ei wneud eto.<\/p>\n<p>Rydym yn argymell dilyn y model DOTS 4-cam hwn (Law B., Watts AG, 2003) i&#8217;ch helpu i ddechrau gyda rhywfaint o gynllunio gyrfa strwythuredig;<\/p>\n<figure id=\"post-1069 media-1069\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" style=\"max-height: 75vh\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Career-Development-Cycle-New-CU-brand-colours-Welsh-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<p>&nbsp;<\/p>\n\n        <div class=\"cu_tabs\">\n               \n        <ul class=\"nav nav-tabs\" role=\"tablist\">\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link active\" href=\"#content-managing-your-career-career-planning-cy-1\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"managing-your-career-career-planning-cy-1\">Penderfyniad<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-managing-your-career-career-planning-cy-2\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"managing-your-career-career-planning-cy-2\">Ymwybyddiaeth o gyfleoedd<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-managing-your-career-career-planning-cy-3\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"managing-your-career-career-planning-cy-3\">Pontio<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-managing-your-career-career-planning-cy-4\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"managing-your-career-career-planning-cy-4\">Hunanymwybyddiaeth<\/a><\/li><\/ul> <div class=\"tab-content\">\n        <div class=\"tab-pane active\" id=\"content-managing-your-career-career-planning-cy-1\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"managing-your-career-career-planning-cy-1\">\n        <p>Nid yw gwneud penderfyniadau am eich dyfodol yn hawdd. Gall ymchwilio i\u2019r holl opsiynau ac ystyried pa rai y byddai\u2019n addas deimlo\u2019n llethol.\u00a0 Ceisiwch gasglu cymaint o wybodaeth \u00e2 phosibl.\u00a0 Os ydych chi\u2019n wybodus, byddwch chi\u2019n gwneud penderfyniadau gwell.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-managing-your-career-career-planning-cy-2\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"managing-your-career-career-planning-cy-2\">\n        <p>Defnyddiwch eich amser yn y brifysgol i ymchwilio i ystod eang o yrfaoedd, hyd yn oed os ydych yn eithaf sicr eich bod yn gwybod beth rydych am ei wneud. Does dim drwg mewn bod ag o leiaf un cynllun wrth gefn! Defnyddiwch wefannau fel <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> a <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a> i ymchwilio i sectorau, sefydliadau a swyddi ac edrychwch ar yr adran <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/ymchwilio-i-opsiynau-gyrfa-researching-career-options\/\" rel=\"noopener\">ymchwilio opsiynau gyrfa<\/a>\u00a0am ragor o gymorth.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-managing-your-career-career-planning-cy-3\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"managing-your-career-career-planning-cy-3\">\n        <p>Meddyliwch am eich sgiliau a\u2019ch profiadau \u2013 sut mae\u2019r rhain yn alinio \u00e2\u2019r gyrfaoedd rydych chi\u2019n eu hystyried? Beth yw eich meysydd i'w datblygu? Mae cwblhau dadansoddiad SWOT (cryfderau, gwendidau, cyfleoedd, bygythiadau) ar eich datblygiad proffesiynol eich hun yn ffordd ddefnyddiol o nodi bylchau a dechrau rhestru camau gweithredu y gallwch chi eu cymryd i fynd i\u2019r afael \u00e2 nhw.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-managing-your-career-career-planning-cy-4\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"managing-your-career-career-planning-cy-4\">\n        <p>Cyn y gallwch chi nodi gyrfa lwyddiannus a gwerth chweil, rhaid i chi ddeall eich cymhellion a\u2019ch diddordebau eich hun.<br \/>\nPa bethau sy'n debygol o'ch gwneud chi'n wirioneddol hapus mewn swydd? Beth yw\u2019r pethau na fyddwch chi\u2019n fodlon eu trafod? Nodwch beth rydych chi'n ei wneud yn dda, beth rydych chi'n ei fwynhau a beth sy'n bwysig i chi. Edrychwch ar ein hadran <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/datblygu-hunanymwybyddiaeth\/\">datblygu hunanymwybyddiaeth<\/a>\u00a0i'ch helpu i gychwyn arni.<\/p>\n\n        <\/div><\/div>\n        <\/div>\n<h4>Gwneud penderfyniad ynghylch eich gyrfa<\/h4>\n<p>Byddwch yn wynebu dewisiadau a phenderfyniadau yma ym Mhrifysgol Caerdydd a thrwy gydol eich bywyd gwaith a fydd yn cael effaith amrywiol ar eich gyrfa ar eich cyfeiriad yn y dyfodol. P&#8217;un a yw&#8217;n penderfynu rhwng opsiynau gyrfa neu&#8217;n penderfynu derbyn cynnig swydd, mae gallu gwneud penderfyniad gyrfa da yn sgil y gallwch ei datblygu dros amser.<\/p>\n<p>Nid ydym yn meddwl bod y fath beth \u00e2 phenderfyniad perffaith &#8211; nid mewn bywyd, ac nid yn eich gyrfa! Mae bron yn amhosibl dweud a yw penderfyniad wedi troi allan am y gorau tan ar \u00f4l i&#8217;r penderfyniad gael ei wneud a gallwch fyfyrio ar y canlyniad. Hyd yn oed os nad yw penderfyniad yn troi allan yn y ffordd roeddech chi&#8217;n ei obeithio, gall yr hyn rydych chi&#8217;n ei ddysgu o&#8217;r broses barhau i fod yn hynod werthfawr i&#8217;ch gyrfa.<\/p>\n<p>Er mwyn cael y siawns orau o wneud y penderfyniadau cywir ar yr adegau cywir, ystyriwch ddefnyddio&#8217;r strategaethau gwneud penderfyniadau canlynol:<br \/>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-career-planning-strategies-to-make-effective-career-decisions-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Myfyrio ar benderfyniadau'r gorffennol<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-career-planning-strategies-to-make-effective-career-decisions-cy-1\"><p>Meddyliwch am sut rydych chi wedi gwneud penderfyniadau yn y gorffennol, er enghraifft dod i'r brifysgol a dewis pa gwrs i'w astudio. Myfyriwch ar sut y gwnaethoch chi wneud y penderfyniadau hynny a'r ffactorau a oedd yn bwysig i chi. Meddyliwch am y penderfyniadau a wnaethoch a oedd yn rhai da iawn. Pa ddull a gymerwyd gennych a sut yr oedd o gymorth yn eich barn chi?<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-career-planning-strategies-to-make-effective-career-decisions-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Siaradwch \u00e2 ffrindiau a theulu<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-career-planning-strategies-to-make-effective-career-decisions-cy-2\"><p>Gall canfod eich opsiynau a\u2019ch syniadau i bobl sy\u2019n eich adnabod ac rydych yn ymddiried ynddynt fod yn hynod o effeithiol, hyd yn oed os mai dim ond i roi cyfle i chi eu trafod ar goedd yn hytrach na meddwl amdanyn nhw yn eich pen yn unig!<\/p>\n<p>Pan fo'n bosibl, ceisiwch gael amrywiaeth o safbwyntiau er mwyn i chi gael set gytbwys o safbwyntiau. Fel y soniwyd eisoes, po fwyaf o wybodaeth sydd gennych, y mwyaf gwybodus fydd eich penderfyniad. Gwnewch yn si\u0175r nad ydych chi'n cael eich rhoi dan bwysau i wneud unrhyw benderfyniadau. Eich dyfodol chi ydyw, mae'n rhaid mai mater i chi ac i chi yn unig yw\u2019r penderfyniad terfynol.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-career-planning-strategies-to-make-effective-career-decisions-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Delweddu eich hunan yn y dyfodol <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-career-planning-strategies-to-make-effective-career-decisions-cy-3\"><p>Trwy ddelweddu ble rydyn ni'n gweld ein hunain yn y dyfodol a'r hyn rydyn ni'n ei ddychmygu y byddwn ni'n ei wneud pan fyddwn ni ar ein hapusaf, gallwn ni wneud y penderfyniadau mwyaf effeithiol. Gall hyn gymryd peth amser ac ymdrech ac mae angen i chi fod wedi datblygu eich dealltwriaeth o'r hyn rydych chi ei eisiau o'ch gyrfa yn gyntaf.<\/p>\n<p>Dechreuwch trwy edrych ar ein cyngor ar <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/pa-yrfaoedd-fyddain-addas-i-mi-what-careers-would-suit-me\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">adeiladu eich hunanymwybyddiaeth<\/a>. Mae gan wefan <a href=\"https:\/\/www.themuse.com\/advice\/visualization-exercises-boost-career\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Muse<\/a> hefyd ganllaw defnyddiol ar ddefnyddio delweddu i helpu gyda'ch gyrfa.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-career-planning-strategies-to-make-effective-career-decisions-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Pwyso a mesur y manteision a'r anfanteision <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-career-planning-strategies-to-make-effective-career-decisions-cy-4\"><p>Gall ysgrifennu rhestr o fanteision ac anfanteision (neu \u2018pros and cons\u2019 yn Saesneg) penderfyniad fod yn ddefnyddiol iawn. Fodd bynnag, yn hytrach na gwneud eich penderfyniad yn seiliedig ar nifer y manteision a'r anfanteision, rydym yn awgrymu eich bod hefyd yn ystyried pwysigrwydd pob un o'r manteision a'r anfanteision hynny i chi'n bersonol.<\/p>\n<p>I wneud rhestr o fanteision ac anfanteision wedi'i phwysoli, aseiniwch werth rhwng 1 a 10 i bob mantais ac anfantais (gydag 1 yn golygu ddim yn bwysig o gwbl a 10 yn golygu\u2019n bwysig iawn). Adiwch werthoedd yr holl fanteision ac anfanteision ar y diwedd a chymharwch y cyfanswm ar gyfer pob colofn - bydd hyn yn rhoi adlewyrchiad mwy cywir i chi o bwysigrwydd y manteision a'r anfanteision a nodwyd gennych.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-career-planning-strategies-to-make-effective-career-decisions-cy-5\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Bod \u00e2 chynlluniau wrth gefn <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-career-planning-strategies-to-make-effective-career-decisions-cy-5\"><p>Gall fod yn ddefnyddiol ac yn galonogol fod \u00e2 nifer o opsiynau ar y bwrdd o ran gwneud penderfyniadau gyrfa. Boed hynny'n golygu ystyried rolau gwahanol, gweithio mewn sectorau gwahanol neu fod a nifer o gynigion swyddi i'w hystyried. Fel arfer gall cael opsiynau eich helpu i bwyso a mesur manteision ac anfanteision pob un yn haws ac mae'n wych i'ch hyder pan fyddwch chi'n gwybod bod gennych chi ddewis arall cryf iawn wrth gefn!<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-career-planning-strategies-to-make-effective-career-decisions-cy-6\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Trefnwch apwyntiad gyda Chynghorydd Gyrfaoedd <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-career-planning-strategies-to-make-effective-career-decisions-cy-6\"><p>Gall siarad \u00e2 Chynghorydd Gyrfaoedd fod yn ffordd dda iawn o gael barn ddiduedd a chyfrinachol gan rywun sy'n arbenigo mewn rheoli gyrfa ac sy'n canolbwyntio'n llwyr ar eich helpu i wneud y penderfyniad gorau i chi.<\/p>\n<p>Mae'n hawdd trefnu apwyntiad, mewngofnodwch i'ch <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> a dod o hyd i amser sy'n addas.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div><\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-red with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Further resources<\/h3>                <p>Use the below resources to explore this topic further:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.amazingif.com\/listen\/#podcasts\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Squiggly Careers<\/a> - comprehensive podcast series with advice, tips and discussions on a wide range of career management skills<\/li>\n<li>There are hugely popular TedTalks about careers - you could start with the '<a href=\"https:\/\/www.ted.com\/talks\/sarah_ellis_and_helen_tupper_the_best_career_path_isn_t_always_a_straight_line\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">The best career path isn't always a straight line<\/a>' and '<a href=\"https:\/\/www.ted.com\/talks\/emilie_wapnick_why_some_of_us_don_t_have_one_true_calling\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Why some of us don't have one true calling<\/a>'<\/li>\n<li>80,000 hours has a useful article on <a href=\"https:\/\/80000hours.org\/career-decision\/article\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">making tough career decisions<\/a><\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Darganfyddwch bwysigrwydd datblygu strategaethau rheoli gyrfa effeithiol i gefnogi datblygiad eich gyrfa.","protected":false},"author":9375,"featured_media":858,"parent":619,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1220","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1220","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1220"}],"version-history":[{"count":32,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1220\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3554,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1220\/revisions\/3554"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/619"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/858"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1220"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1220"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1220"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}