{"id":1240,"date":"2023-09-14T11:36:05","date_gmt":"2023-09-14T10:36:05","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1240"},"modified":"2024-07-31T11:07:13","modified_gmt":"2024-07-31T10:07:13","slug":"rhwydweithio-a-chyfryngau-cymdeithasol-networking-and-social-media","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/rhwydweithio-a-chyfryngau-cymdeithasol-networking-and-social-media\/","title":{"rendered":"Rhwydweithio a chyfryngau cymdeithasol"},"content":{"rendered":"<p>Mae rhwydweithio yn sg\u00ecl hanfodol y bydd ei angen arnoch i reoli&#8217;ch gyrfa yn effeithiol, ond nid yw bob amser yn hawdd gwybod ble i ddechrau. Er nad yw llawer o bobl yn mwynhau&#8217;r syniad o rwydweithio (ac yn aml yn mynd o&#8217;u ffordd i\u2019w osgoi), does dim angen iddo fod yn frawychus! Yn ei graidd, mae rhwydweithio yn ymwneud \u00e2 chyfathrebu a meithrin perthnasoedd, a byddwch eisoes yn gwneud hynny yn ddyddiol gydag ystod eang o bobl. Mae gennych rwydwaith eisoes, sy&#8217;n debygol o gynnwys teulu, ffrindiau, cymdogion, cyflogwyr a chydweithwyr, ond mae&#8217;r brifysgol yn adeg wych i fireinio&#8217;ch sgiliau rhwydweithio ac ehangu eich cysylltiadau personol a phroffesiynol.<\/p>\n<p>Yr hyn sy&#8217;n gwneud rhwydweithio yn offeryn mor bwerus ar gyfer eich gyrfa yw nad ydych byth yn gwybod pwy o fewn eich rhwydwaith all eich helpu chi, na phryd. O gael cyngor, cymorth a mentora, i gael mynediad at swyddi neu brofiad gwaith, mae rhwydweithio yn dod \u00e2 llawer o fanteision. Gall rhwydweithio ddigwydd drwy deulu a ffrindiau mewn sefyllfa anffurfiol yn ogystal \u00e2 mwy ffurfiol megis mewn ffair yrfaoedd neu yn ystod cwrs hyfforddi neu gynhadledd. Yn fwy aml yn yr oes ddigidol, mae rhwydweithio yn digwydd ar-lein trwy&#8217;r cyfryngau cymdeithasol a LinkedIn.<\/p>\n<p>Mae rhwydweithio yn seiliedig ar y cwestiwn &#8216;Sut alla i helpu?&#8217;, yn hytrach na &#8216;Beth alla i ei gael?&#8217; a phan fyddwch chi&#8217;n meithrin cysylltiadau, mae&#8217;n bwysig meddwl sut y gallwch chi helpu pobl eraill hefyd. Mae Tupper ac Ellis yn defnyddio&#8217;r term &#8216;karma gyrfa&#8217; i adlewyrchu natur ddwyochrog rhwydweithio:<br \/>\n\n\n<figure class=\"quote  \">\n          \n    \n    <blockquote class=\"quote-body\">\n      Mae'n bwysig cofio mai pobl yn helpu pobl yw rhwydweithio yn y b\u00f4n... Er mwyn meithrin rhwydwaith effeithiol mae angen i chi fod yn glir am yr hyn y gallwch ei roi sy'n werthfawr i bobl a bod yn benodol ynghylch pa gymorth y mae ei angen arnoch a chan bwy. Os byddwch yn dechrau drwy fod yn gefnogol i bobl eraill, byddwch yn dechrau meithrin perthnasoedd a all fod yn drawsnewidiol i'ch gyrfa.    <\/blockquote>\n    <figcaption class=\"quote-author\">\n    \n                        Tupper, H. and Ellis, S., 2020. The Squiggly Career (pp 103-104)<cite  class=\"quote-source\"><\/cite>\n                   \n\n    <\/figcaption>\n<\/figure><\/p>\n<h4>Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer rhwydweithio<\/h4>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-top-tips-for-networking-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ymchwilio a pharatoi <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-top-tips-for-networking-cy-1\"><p>Wrth rwydweithio gyda darpar gyflogwyr, er enghraifft mewn ffair yrfaoedd, mae'n bwysig treulio peth amser yn meddwl am yr hyn y byddwch chi'n ei ddweud a sut y byddwch chi'n cyflwyno'ch hun.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-top-tips-for-networking-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Bod yn hyderus<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-top-tips-for-networking-cy-2\"><p>Darllenwch yr <a href=\"https:\/\/www.mindtools.com\/a9tm2ek\/10-ways-to-overcome-a-fear-of-networking\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">awgrymiadau defnyddiol hyn<\/a> ar gyfer goresgyn ofnau cyffredin am rwydweithio. Gall cyflwyniad byr fod yn ddefnyddiol mewn senarios rhwydweithio mwy ffurfiol, ond nid yw'r sgwrs yn dod i ben ar \u00f4l i chi gyflwyno'ch hun! Gallwch ddatblygu hyder yn eich sgiliau sgwrsio trwy ofyn cwestiynau ac ymateb i gwestiynau.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-top-tips-for-networking-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ymarfer <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-top-tips-for-networking-cy-3\"><p>Mireiniwch eich sgiliau cyfathrebu trwy ymarfer. Trwy <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/your-future\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ddyfodol Myfyrwyr<\/a>, gallech wneud cais i ymuno \u00e2'r cynllun mentora, mynd i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau cyflogwyr, cael profiad gwaith a chael cyngor mewn apwyntiadau gyrfaoedd. Bydd cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn yn eich galluogi i ymarfer cyfathrebu'n broffesiynol, boed hynny gyda Chynghorydd Gyrfaoedd neu gyflogwr. Mae bod yn gyfathrebwr effeithiol yn rhinwedd <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/datblygu-priodoledd-i-raddedigion-developing-graduate-attributes\/\">graddedig allweddol rydych chi'n ei datblygu tra byddwch yn y brifysgol<\/a>.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n<h4>Defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol a LinkedIn i rwydweithio<\/h4>\n<p>Mae mwy o gyflogwyr nag erioed yn defnyddio&#8217;r cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i\u2019r ymgeiswyr cywir, sy\u2019n eu gwneud yn fforwm hanfodol i hysbysebu eich sgiliau, sefydlu eich brand ar-lein, rhwydweithio gyda chysylltiadau a throi darpar gysylltiadau rhithwir yn gyfleoedd gwaith bywyd go iawn. 89% o gyflogwyr Mae llawer o gyflogwyr bellach yn cynnal gwiriadau cefndir ar ymgeiswyr:<\/p>\n\n\n<figure class=\"quote  \">\n          \n    \n    <blockquote class=\"quote-body\">\n      Mae gwirio'r cyfryngau cymdeithasol bellach yn rhan safonol o sgrinio cyn cyflogaeth. Yn \u00f4l ymchwil ddiweddar gan YouGov, mae hyd at 80% o gyflogwyr yn debygol o wirio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ymgeisydd fel rhan o'u gweithdrefn recriwtio a chynefino.    <\/blockquote>\n    <figcaption class=\"quote-author\">\n    \n                        YouGov, 2023. Would Britons be willing to share their social media profiles with employers?<cite  class=\"quote-source\"><\/cite>\n                   \n\n    <\/figcaption>\n<\/figure>\n<p>Dyma pam ei bod mor bwysig gwirio&#8217;ch \u00f4l troed digidol a gweld beth sy&#8217;n weladwy yn gyhoeddus amdanoch chi ar-lein. Y ffordd orau o wneud hyn yw chwilio amdanoch eich hun a gweld beth sy&#8217;n codi! Mae hefyd yn syniad da sicrhau bod cyfrifon personol ar y cyfryngau cymdeithasol yn breifat a chreu cyfrifon ar wah\u00e2n y gallwch eu defnyddio&#8217;n broffesiynol yn unig.<\/p>\n<h4>X, Facebook, Instagram a TikTok<\/h4>\n<p>Gall llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mwy anffurfiol fod yn ddefnyddiol o hyd ar gyfer rhwydweithio a datblygiad eich gyrfa. Cyn i chi ddechrau, meddyliwch am eich nodau a&#8217;ch dyheadau gyrfaol a&#8217;r hyn rydych chi&#8217;n gobeithio ei gyflawni trwy ddefnyddio platfform cyfryngau cymdeithasol ar gyfer datblygiad eich gyrfa. Gyda&#8217;r platfformau a restrir isod, gallwch greu hunaniaeth broffesiynol glir a brand ar-lein, trwy bethau fel proffil a delwedd broffesiynol a&#8217;r ffordd rydych chi&#8217;n ymgysylltu \u00e2 chynnwys.<\/p>\n<p>Dyma rai awgrymiadau defnyddiol sydd wedi&#8217;u teilwra i bob platfform cyfryngau cymdeithasol a restrir isod:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>X (Twitter gynt)<\/strong> &#8211; Nid oes rhaid i chi drydar eich hun; gallech chi ddilyn cwmn\u00efau neu bynciau ac ail-drydar. Gall yr hyn rydych chi&#8217;n dewis ei drydar neu ei ail-drydar ddangos eich diddordeb mewn gyrfa neu sector penodol<\/li>\n<li><strong>Facebook<\/strong> &#8211; Mae Facebook yn ei gwneud hi&#8217;n hawdd gofyn i&#8217;ch cysylltiadau personol am wybodaeth a chyngor am eich gyrfa neu chwilio am swydd a gall hefyd ddarparu adnodd ar gyfer gwybodaeth am unigolion a chwmn\u00efau. Mae ei natur anffurfiol, a\u2019r modd y gellir rhyngweithio ag eraill yn golygu eich bod yn gallu cael gwybodaeth a chyfathrebu \u00e2 chyflogwyr mewn ffyrdd penodol<\/li>\n<li><strong>Instagram<\/strong> &#8211; Mae Instagram yn ffordd wych o hyrwyddo&#8217;ch sgiliau, eich gwybodaeth neu\u2019ch profiad trwy gynnwys gweledol iawn fel delweddau, straeon neu riliau. Mae&#8217;n blatfform arbennig o ddefnyddiol i&#8217;r rhai yn y diwydiannau celfyddydol neu&#8217;r diwydiannau creadigol arddangos eich creadigrwydd a&#8217;ch talent<\/li>\n<li><strong>TikTok<\/strong> \u2013 Gall TikTok ddarparu mewnwelediadau defnyddiol i wahanol yrfaoedd, er enghraifft fideo &#8216;Diwrnod Arferol&#8217;, a gall fod yn blatfform gwych i gael awgrymiadau defnyddiol ar gyfer eich gyrfa mewn ffordd ddeniadol ac anffurfiol. Fodd bynnag, gwnewch yn si\u0175r eich bod yn ystyried y cynnwys rydych chi&#8217;n ei weld yn feirniadol \u2014 a yw&#8217;n gywir ac a allwch chi ddibynnu arno? Nid yw&#8217;n cymryd lle cyngor gyrfaoedd go iawn gan arbenigwr cymwys, felly trefnwch apwyntiad gyrfaoedd yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> i gael cyngor ac arweiniad dibynadwy ar eich opsiynau gyrfa<\/li>\n<\/ul>\n<h2><strong>LinkedIn<\/strong><\/h2>\n<p>LinkedIn yw rhwydwaith proffesiynol mwyaf y byd, ac mae wedi newid y ffordd yr ydym yn rhwydweithio yn sylweddol \u2013 nawr nid oes rhaid i chi gwrdd \u00e2 rhywun yn bersonol hyd yn oed i&#8217;w hystyried yn rhan o&#8217;ch rhwydwaith! Mae LinkedIn yn offeryn ardderchog i unrhyw fyfyriwr a graddedig, a gall helpu gyda chwilio am swyddi, rhwydweithio ac ymchwilio i wahanol lwybrau gyrfa.<\/p>\n<p>Defnyddiwch yr adnodd isod i&#8217;ch tywys trwy ein hawgrymiadau defnyddiol ar gyfer creu eich proffil LinkedIn:<\/p>\n\n<!-- iframe plugin v.6.0 wordpress.org\/plugins\/iframe\/ -->\n<iframe loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_21953\" width=\"100%\" height=\"500\" scrolling=\"yes\" class=\"iframe-class\" frameborder=\"0\"><\/iframe>\n\n<p style=\"text-align: center\">Os ydych chi\u2019n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni\u2019n argymell eich bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_21953\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ffenestr ar wah\u00e2n<\/a>.<\/p>\n<h4>Defnyddio LinkedIn yn effeithiol<\/h4>\n<p>Dim ond man cychwyn gyda LinkedIn yw creu eich proffil. Darllenwch ein awgrymiadau defnyddiol isod ar ddefnyddio LinkedIn i&#8217;ch helpu chi yn eich gyrfa:<br \/>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-using-linkedin-effectively-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Tyfwch eich rhwydwaith<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-using-linkedin-effectively-cy-1\"><p>Peidiwch \u00e2 gadael i'ch proffil ddiflasu; p\u0175er LinkedIn yw ei allu i'ch helpu i dyfu'ch rhwydwaith proffesiynol yn hawdd! Pan fyddwch chi'n hapus gyda'ch proffil, gallwch gysylltu \u00e2 phobl eraill ar LinkedIn. Dechreuwch gyda'r rhai rydych chi'n eu hadnabod yn gyntaf, er enghraifft eich ffrindiau, ffrindiau ar eich cwrs neu gydweithwyr. Mae chwiliadau am bobl ar LinkedIn yn cael eu blaenoriaethu yn \u00f4l pa mor agos rydych chi'n gysylltiedig \u00e2'r unigolyn hwnnw \u2013 a po agosaf yw'r cysylltiad, y mwyaf o wybodaeth y gallwch ei gweld. Mae cysylltu \u00e2 phobl yn dod \u00e2 chi yn agosach at bobl yn eu rhwydwaith!<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-using-linkedin-effectively-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ymchwiliwch i ddewisiadau gyrfa<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-using-linkedin-effectively-cy-2\"><p>Chwiliwch broffiliau pobl sy'n gweithio mewn swyddi y mae gennych ddiddordeb ynddynt neu mewn cwmn\u00efau rydych chi am weithio iddynt ac ennill ysbrydoliaeth o deithiau eu gyrfaoedd a'u hawgrymiadau ar gyfer eich proffil eich hun. Er enghraifft, pa brofiad gwaith y gwnaethant neu pa sefydliadau proffesiynol y maent yn aelod ohonynt?<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-using-linkedin-effectively-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Cysylltwch \u00e2 chyn-fyfyrwyr<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-using-linkedin-effectively-cy-3\"><p>Drwy gynnwys Prifysgol Caerdydd yn eich adran Addysg, byddwch yn cael eich cysylltu \u00e2 thudalen LinkedIn Prifysgol Caerdydd ac yn gallu defnyddio'r <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/school\/cardiff-university\/people\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">swyddogaeth 'Alumni'<\/a>. Gallwch chwilio am bobl sydd wedi graddio o'ch cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hon yn ffordd wych o gael syniad o lwybrau gyrfa gyda'ch gradd ac ehangu eich rhwydwaith!<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-using-linkedin-effectively-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Chwiliwch am swyddi<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-using-linkedin-effectively-cy-4\"><p>Mae LinkedIn yn blatfform helaeth i chwilio am swyddi. Gallwch chwilio am swyddi sy'n ymwneud \u00e2'ch sgiliau a'ch cymwysterau ac mewn rhai achosion, gallwch ddefnyddio'ch proffil LinkedIn fel eich cais. Darllenwch <a href=\"https:\/\/www.linkedin.com\/help\/linkedin\/answer\/a511260\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gyngor LinkedIn<\/a> ar chwilio am swyddi ar eu gwefan.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-using-linkedin-effectively-cy-5\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Dangoswch eich nodau gyrfa a'ch diddordebau<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-using-linkedin-effectively-cy-5\"><p>Defnyddiwch LinkedIn yn weithredol i ddangos ymrwymiad cyson i'ch nodau gyrfa a'ch diddordebau. Dilynwch gwmn\u00efau y mae gennych ddiddordeb ynddynt neu sy'n amlwg yn eich sector. Ymunwch \u00e2 grwpiau sy'n gysylltiedig \u00e2'ch cwrs, eich diddordebau a'ch dyheadau o ran gyrfa. Gall eich gweithgarwch ar LinkedIn, eich postiadau a sut rydych chi'n ymgysylltu \u00e2 phostiadau pobl eraill hefyd helpu i roi tystiolaeth o'ch nodau gyrfa, er enghraifft tynnu sylw at erthygl newyddion ddiweddar sy'n gysylltiedig \u00e2'ch sector a dadansoddi sut y gallai effeithio ar y maes.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div><\/p>\n<div class=\"well\">\n<div class=\"container\">\n<div class=\"row\">\n<div class=\"col text-center\">\n<h4 style=\"text-align: center;color: #333f48\">Rhestr wirio eich proffil linkedin<\/h4>\n<p style=\"text-align: center;color: #333f48\">Wedi i chi gwblhau eich proffil dylech wirio\u2019r canlynol:<\/p>\n<figure id=\"post-870 media-870\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/02\/Grey-divider-line-H-3px-20-Percent-Opacity.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"row\">\n<div class=\"col-12 col-lg-6\">\n<div class=\"d-flex mb-2\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 60px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center\">\n<div class=\"pl-2\">Ydych chi wedi cynnwys llun perthnasol gyda\u2019ch proffil? A yw\u2019n llun clir o\u2019ch wyneb \u00e2 chefndir plaen?<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex mb-2\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 60px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center\">\n<div class=\"pl-2\">Ydych chi wedi cynnwys o leiaf 10 sgil sydd gennych y gall eraill eu cadarnhau?<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex mb-2\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 60px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center\">\n<div class=\"pl-2\">Ydych chi wedi cynnwys o leiaf 5 o gysylltiadau gyda\u2019r bwriad o greu 50 o gysylltiadau newydd o fewn y misoedd cyntaf?<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex mb-2\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 60px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center\">\n<div class=\"pl-2\">Ydych chi wedi ymuno ag o leiaf ddau gr\u0175p?<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex mb-2\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 60px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center\">\n<div class=\"pl-2\">Ydych chi\u2019n dilyn o leiaf pump o gyflogwyr?<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"col-12 col-lg-6\">\n<div class=\"d-flex gap-2 flex-column\">\n<div class=\"d-flex mb-2\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 60px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center\">\n<div class=\"pl-2\">Ydych chi wedi defnyddio URL byrrach, unigryw a allai gael ei gynnwys ar eich CV?<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 60px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center\">\n<div class=\"pl-2\">Ydych chi wedi prawfddarllen eich proffil?<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<figure class=\"d-flex m-0\" style=\"width: 100%\"><img decoding=\"async\" class=\"mx-auto\" style=\"width: 100%\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/linkedin-4763813_1280_edited_cropped_New_branding.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"row\">\n<figure id=\"post-870 media-870\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/02\/Grey-divider-line-H-3px-20-Percent-Opacity.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:<\/p>\n<ul>\n<li>Gwiriwch eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> am sesiynau gyrfaoedd ar rwydweithio a defnyddio LinkedIn<\/li>\n<li>Trefnwch apwyntiad gyrfaoedd i gael cyngor arbenigol ar rwydweithio a defnyddio LinkedIn trwy eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a><\/li>\n<li>Cyngor gwefan MindTools ar <a href=\"https:\/\/www.mindtools.com\/am8a1fv\/how-to-use-linkedin-effectively\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ddefnyddio LinkedIn yn effeithiol<\/a><\/li>\n<li>Cyngor <a href=\"https:\/\/www.brightnetwork.co.uk\/graduate-career-advice\/networking\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Bright Network<\/a> ar rwydweithio<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/hbr.org\/2023\/03\/a-beginners-guide-to-networking\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Harvard Business Review<\/a> Canllaw i Ddechreuwyr i rwydweithio<\/li>\n<li>Mae Gwasanaethau Llyfrgell Prifysgol Caerdydd wedi llunio canllaw ar-lein i <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_5466#page1\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">adeiladu eich proffil ar-lein<\/a>, sy'n cynnwys cyngor ar LinkedIn<\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dewch yn feistr ar grefft rhwydweithio a chyfathrebu proffesiynol a chreu proffil LinkedIn i greu argraff ar gyflogwyr.","protected":false},"author":9375,"featured_media":1593,"parent":1191,"menu_order":4,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1240","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1240","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1240"}],"version-history":[{"count":20,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1240\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2774,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1240\/revisions\/2774"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1191"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1593"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1240"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1240"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1240"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}