{"id":1253,"date":"2023-09-22T10:50:16","date_gmt":"2023-09-22T09:50:16","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1253"},"modified":"2024-08-02T06:51:55","modified_gmt":"2024-08-02T05:51:55","slug":"y-farchnad-swyddi-i-raddedigion-the-graduate-job-market","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/swyddi-a-phrofiad-jobs-and-experience\/y-farchnad-swyddi-i-raddedigion-the-graduate-job-market\/","title":{"rendered":"Y farchnad swyddi i raddedigion"},"content":{"rendered":"<h4>Y farchnad swyddi i raddedigion<\/h4>\n<p>Rydym yn disgrifio&#8217;r dirwedd gyflogaeth bresennol, yn enwedig y modd y mae&#8217;n berthnasol i chi, y myfyriwr graddedig, fel y &#8216;farchnad lafur i raddedigion&#8217;. Gall deall y farchnad lafur i raddedigion eich helpu i nodi sectorau allweddol a chyflogwyr perthnasol ond hefyd sylweddoli a rhagweld y modd y gall ffactorau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a thechnolegol effeithio ar y farchnad swyddi a&#8217;r cyfleoedd sydd ar gael i chi ar \u00f4l graddio.<br \/>\n\n\n<figure class=\"quote  \">\n          \n    \n    <blockquote class=\"quote-body\">\n      Mae gwybodaeth am y farchnad lafur i raddedigion yn cyfeirio at y dirwedd economaidd a chyflogaeth gyfredol fel y mae'n berthnasol i raddedigion. Yn nodweddiadol, mae'n cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am ffactorau megis cyrchfannau graddedigion, cyflogau cychwynnol cyfartalog graddedigion, a thueddiadau ym mhatrymau recriwtio graddedigion \u2013 yn ogystal ag unrhyw beth a allai gael effaith ar y ffactorau hyn (er enghraifft, effaith Brexit ar arferion recriwtio graddedigion, newid technolegol, neu newidiadau ym mholisi'r llywodraeth).    <\/blockquote>\n    <figcaption class=\"quote-author\">\n    \n                        <a href=\"https:\/\/luminate.prospects.ac.uk\/labour-market-information-a-user-guide\">Smith, M-S and Greaves, L. (2023) 'Labour market information: a user guide'<cite class=\"quote-source\"><\/cite><\/a>        \n                   \n\n    <\/figcaption>\n<\/figure><\/p>\n<p>Mae\u2019r cyngor ar y dudalen hon yn cyfeirio\u2019n benodol at y farchnad lafur i raddedigion yn y DU, ond gallwch ddefnyddio\u2019r adran <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/working-abroad\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gweithio dramor<\/a> ar Prospects i archwilio marchnadoedd swyddi gwledydd eraill o amgylch y byd. Gall myfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd hefyd gael mynediad i <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/students\/search?collection=student-meta&amp;query=goinglobal\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">GoinGlobal<\/a> i gael canllawiau cynhwysfawr ar gyfer dros 190 o wledydd.<\/p>\n<h4>Deall y farchnad lafur i raddedigion<\/h4>\n<p>A chithau\u2019n fyfyriwr graddedig, mae yna alw mawr arnoch! Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi&#8217;r sgiliau, yr wybodaeth a&#8217;r priodoleddau yr ydych wedi&#8217;u meithrin trwy ymestyn eich addysg a chymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau a fydd yn eich helpu i <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/\" rel=\"noopener\">ddatblygu\u2019r sgiliau allweddol<\/a> y maent yn chwilio amdanynt.<\/p>\n<p>Pa un a ydych yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf sy&#8217;n ystyried eich opsiynau yn y dyfodol, neu&#8217;n unigolyn graddedig sy&#8217;n chwilio am r\u00f4l ar hyn o bryd, mae&#8217;n bwysig deall pa elfennau, tueddiadau a phatrymau allweddol a all ddylanwadu ar eich opsiynau a&#8217;ch rhagolygon.<\/p>\n<p><strong>Dyma rai o nodweddion allweddol y farchnad lafur i raddedigion:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><strong>Hyblyg<\/strong> \u2013 nid yw eich pwnc gradd yn diffinio&#8217;r opsiynau sydd gennych gan fod llawer o swyddi a chynlluniau graddedigion yn agored i fyfyrwyr ag unrhyw ddisgyblaeth gradd. Er y bydd eich gwybodaeth am y pwnc bob amser yn bwysig, mae gan gyflogwyr ddiddordeb cynyddol yn y sgiliau, y priodoleddau a&#8217;r profiadau yr ydych wedi&#8217;u sicrhau a\u2019r modd y bydd eich personoliaeth a&#8217;ch agwedd yn cyd-fynd ag ethos a diwylliant eu sefydliad. Edrychwch ar y <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/job-profiles\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">proffiliau swyddi<\/a> ar wefan Prospects ac yn benodol yr adran &#8216;Cymwysterau&#8217;, sy&#8217;n nodi a oes angen gradd benodol ar gyfer y r\u00f4l<\/li>\n<li><strong>Eang<\/strong> \u2013 mae rolau graddedig fel arfer yn bodoli ym mhob sector a diwydiant, a hyd yn oed yn achos rolau lle nad yw cael gradd yn hanfodol, mae&#8217;n ddigon posibl y bydd yn eich helpu i sefyll uwchlaw\u2019r gystadleuaeth<\/li>\n<li><strong>Gwydn<\/strong> \u2013 Er bod ffactorau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol allanol yn effeithio ar y farchnad swyddi i raddedigion, yn yr un modd \u00e2 phob marchnad swyddi arall mae&#8217;n tueddu i fod yn fwy cadarn ac i beidio \u00e2 theimlo cymaint o effaith oherwydd y gwerth uchel y mae cyflogwyr yn ei roi ar raddedigion. Bu i bandemig y coronafeirws amlygu hyn, gyda\u2019r farchnad lafur i raddedigion yn adfer yn gymharol gyflym wrth i gyflogwyr barhau i flaenoriaethu&#8217;r angen i fuddsoddi mewn talent graddedigion<\/li>\n<li><strong>Esblygol a deinamig<\/strong> \u2013 yn debyg iawn i&#8217;r farchnad swyddi ehangach, mae&#8217;r farchnad swyddi i raddedigion yn newid mewn ymateb i ffactorau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a thechnolegol ehangach. Newid diweddar allweddol yw datblygiadau technolegol a thwf deallusrwydd artiffisial. Mae hyn wedi newid natur rolau lefel mynediad mewn rhai diwydiannau, yn enwedig lle gellir awtomeiddio tasgau arferol, ac wedi dylanwadu ar natur y sgiliau sy\u2019n ofynnol i weithio ochr yn ochr \u00e2 <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/defnyddio-ai-yn-natblygiad-eich-gyrfa-using-ai-in-your-career-development\/\" rel=\"noopener\">thwf technolegol<\/a>, gan roi mwy o bwyslais ar ddeallusrwydd emosiynol a sgiliau technolegol. Mae <a href=\"https:\/\/www.weforum.org\/publications\/the-future-of-jobs-report-2023\/infographics-2128e451e0\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Adroddiad Dyfodol Swyddi 2023 Fforwm Economaidd y Byd<\/a> yn tynnu sylw at rai o&#8217;r dylanwadau allweddol a fydd yn effeithio ar y farchnad lafur yn ystod y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys twf AI a\u2019r newid yn yr hinsawdd<\/li>\n<li><strong>Cystadleuol<\/strong> \u2013 mae&#8217;r farchnad lafur i raddedigion yn lle cystadleuol iawn. Yn \u00f4l yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, ymunodd tua 570,000 o fyfyrwyr \u00e2&#8217;r farchnad lafur i raddedigion yn 2023, ac mae\u2019r gystadleuaeth am swyddi graddedigion yn cynyddu. Mae&#8217;r Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr (ISE) yn awgrymu bod ceisiadau graddedigion fesul swydd wag wedi cynyddu trwy gydol 2023, i fyny 38%, gyda chyfartaledd o 86 o geisiadau am bob swydd wag<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae mynd i mewn i farchnad swyddi newidiol a hyblyg yn golygu bod angen i chi feithrin sgiliau a fydd yn eich helpu i lywio eich gyrfa yn y dyfodol, yn enwedig mewn cyfnodau o newid ac ansicrwydd \u2013 rydym yn galw&#8217;r rhain yn sgiliau rheoli gyrfa, a gallwch ddarllen rhagor amdanynt yn <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/rheoli-eich-gyrfa-managing-your-career\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ein cyngor ar reoli eich gyrfa<\/a>. Mae mabwysiadu \u2018meddylfryd twf\u2019 yn allweddol i ddatblygu eich <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/rheoli-eich-gyrfa-managing-your-career\/\">sgiliau rheoli gyrfa<\/a> a&#8217;ch gallu i wrthsefyll newidiadau yn y farchnad lafur i raddedigion. Mae meddu ar feddylfryd twf yn golygu bod yn barod i ddysgu a datblygu sgiliau newydd, dysgu o sefyllfaoedd nad ydynt yn mynd rhagddynt fel y disgwylir, ac wynebu heriau newydd.<\/p>\n<p>Gall ein cyngor ar <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/gwneud-eich-ymchwil-doing-your-research\/\" rel=\"noopener\">ymwybyddiaeth fasnachol<\/a> hefyd eich helpu i gael y newyddion diweddaraf am y diwydiant a&#8217;r sector.<\/p>\n<h4>Ymchwilio i&#8217;r farchnad swyddi i raddedigion<\/h4>\n<p>Mae yna lawer o adnoddau defnyddiol y gallwch eu defnyddio i ddeall yr hyn sy&#8217;n digwydd yn y farchnad swyddi i raddedigion:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.highfliers.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Ymchwil High Fliers<\/strong><\/a> \u2013 yn cynhyrchu adroddiad blynyddol ar y <a href=\"https:\/\/online.flippingbook.com\/view\/747999993\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Farchnad Lafur i Raddedigion<\/a> ac yn llunio canllaw <a href=\"https:\/\/digital.top100graduateemployers.com\/view\/835259398\/?utm_campaign=Website+link&amp;utm_source=High+Fliers+homepage&amp;utm_medium=Website+link\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">100 Uchaf Cyflogwyr Graddedigion y Times<\/a>, y gallwch ei weld ar-lein neu gael copi caled am ddim ohono o\u2019r hwb Dyfodol Myfyrwyr ar y llawr 1af yn y Ganolfan Bywyd Myfyrwyr<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/luminate.prospects.ac.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><strong>Prospects Luminate<\/strong><\/a> \u2013 erthyglau, adroddiadau ac ymchwil yn ymwneud \u00e2\u2019r farchnad lafur i raddedigion, yn cynnwys yr adroddiad blynyddol <a href=\"https:\/\/luminate.prospects.ac.uk\/what-do-graduates-do\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">What do graduates do?<\/a> Adroddiad<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/job-sectors\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyngor Prospects ar y sectorau swyddi<\/a> \u2013 cipolwg ar ddiwydiannau penodol<\/li>\n<li>Canllaw y Complete University Guide <a href=\"https:\/\/www.thecompleteuniversityguide.co.uk\/student-advice\/careers\/what-do-graduates-do-and-earn\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"><em>What do graduates do and earn?<\/em><\/a>\u00a0 \u2013 yn eich galluogi i gymharu cyflog cychwynnol cyfartalog yn \u00f4l pwnc gradd<\/li>\n<\/ul>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:<\/p>\n<ul>\n<li>Gwyliwch <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=_X0mgOOSpLU\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ted Talk Carol Dweck<\/a> ar b\u0175er credu y gallwch wella i ddysgu rhagor am Feddylfryd Twf<\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Deall beth sy'n diffinio'r farchnad lafur i raddedigion a sut i ymchwilio i dueddiadau cyfredol. ","protected":false},"author":9375,"featured_media":2195,"parent":1195,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1253","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1253","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1253"}],"version-history":[{"count":18,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1253\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2908,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1253\/revisions\/2908"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1195"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2195"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1253"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1253"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1253"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}