{"id":1255,"date":"2023-09-22T10:50:52","date_gmt":"2023-09-22T09:50:52","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1255"},"modified":"2024-08-02T06:53:46","modified_gmt":"2024-08-02T05:53:46","slug":"swyddi-rhan-amser-part-time-jobs","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/swyddi-a-phrofiad-jobs-and-experience\/swyddi-rhan-amser-part-time-jobs\/","title":{"rendered":"Swyddi rhan-amser"},"content":{"rendered":"<p>Mae llawer o fyfyrwyr yn gwneud swyddi rhan-amser ochr yn ochr \u00e2&#8217;u hastudiaethau. Gall swydd ran-amser wneud cyllidebu yn y brifysgol yn haws, ac mae&#8217;n ffordd wych o feithrin sgiliau cyflogadwyedd pwysig y mae cyflogwyr <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/yr-hyn-y-mae-cyflogwyr-yn-chwilio-amdano\/\" rel=\"noopener\">graddedigion yn chwilio amdanynt<\/a>, megis rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a gwaith t\u00eem. Gall ennill profiad mewn gweithle go iawn hefyd eich helpu i ddatblygu eich <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/gwneud-eich-ymchwil-doing-your-research\/\" rel=\"noopener\">ymwybyddiaeth fasnachol<\/a> a\u2019ch dealltwriaeth o\u2019r modd y mae busnesau\u2019n gweithio.<\/p>\n<p>Er mwyn cynnal cydbwysedd da \u00e2&#8217;ch astudiaethau, mae Prifysgol Caerdydd yn argymell peidio \u00e2 gweithio mwy na 15 awr yr wythnos, ac os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, bydd yna gyfyngiadau penodol ynghlwm wrth eich fisa ynghylch faint o oriau yr wythnos y gallwch weithio.<\/p>\n<p>Er bod llawer o\u2019n cyngor ar <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/swyddi-a-phrofiad-jobs-and-experience\/strategaethau-chwilio-am-swydd-job-searching-strategies\/\" rel=\"noopener\">chwilio am swydd<\/a> ac y<a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/\" rel=\"noopener\">sgrifennu CV, ceisiadau a chyfweliadau<\/a> yn dal i fod yn berthnasol, darllenwch ein cyngor ar y dudalen hon i\u2019ch helpu i addasu eich dull o chwilio am swyddi rhan-amser yn benodol.<\/p>\n<h4>Rolau Rhan-Amser Cyffredin<\/h4>\n<p>Mae swyddi rhan-amser o&#8217;r math achlysurol a hyblyg sy&#8217;n aml yn ofynnol gan fyfyrwyr prifysgol yn gyffredin mewn rhai diwydiannau, megis m\u00e2n-werthu (siopau ac archfarchnadoedd) a lletygarwch (tafarndai, siopau coffi a bwytai). Mae rolau rhan-amser poblogaidd eraill yn cynnwys gwaith hyrwyddo ar gyfer nosweithiau myfyrwyr, rolau llysgenhadon brand, a rolau cyfieithu llawrydd.<\/p>\n<p>Mae rhai swyddi rhan-amser hefyd yn dymhorol iawn, sy\u2019n golygu bod yna alw llawer uwch amdanynt ar adegau penodol o\u2019r flwyddyn, fel arfer yn <a href=\"https:\/\/careerswales.gov.wales\/plan-your-career\/features\/summer-seasonal-jobs\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ystod yr haf<\/a> ac yn y cyfnod sy\u2019n arwain at y <a href=\"https:\/\/careerswales.gov.wales\/plan-your-career\/features\/christmas-seasonal-jobs\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Nadolig<\/a>.<\/p>\n<h4>Dod o hyd i Swyddi Rhan-Amser<\/h4>\n<p>Mae&#8217;n syniad da dechrau ymgeisio am swyddi rhan-amser yn gynnar, yn enwedig os ydych yn gwybod y bydd arnoch angen yr incwm o&#8217;r swydd i gefnogi eich astudiaethau.<\/p>\n<p>Fel yn achos <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/swyddi-a-phrofiad-jobs-and-experience\/strategaethau-chwilio-am-swydd-job-searching-strategies\/\" rel=\"noopener\">chwilio am rolau lefel graddedig<\/a>, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i sicrhau gwaith rhan-amser:<br \/>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-find-part-time-jobs-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Chwilio am gyfleoedd gwaith rhan-amser ar y campws<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-find-part-time-jobs-cy-1\"><p>Mae <a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/jobs-skills\/jobshop\/students\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Jobshop<\/a> yn wasanaeth sy\u2019n gysylltiedig ag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ac sy\u2019n hysbysebu gwaith achlysurol ym Mhrifysgol Caerdydd, Undeb y Myfyrwyr neu gyda chyflogwyr lleol, swyddi sy\u2019n hyblyg ochr yn ochr \u00e2\u2019ch astudiaethau.<\/p>\n<p>Gallwch hefyd wneud cais am interniaethau \u00e2 th\u00e2l trwy Dyfodol Myfyrwyr trwy eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a>. Gellir cwblhau interniaethau yn hyblyg o hyd ochr yn ochr \u00e2'ch gradd, ond maent yn fwy tebygol o fod yn faes gwaith sy'n gysylltiedig \u00e2'ch maes gradd. Darllenwch ein cyngor ar <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/swyddi-a-phrofiad-jobs-and-experience\/cael-profiad-gwaith-getting-work-experience\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Brofiad Gwaith<\/a> a'r cyfleoedd sydd ar gael trwy Dyfodol Myfyrwyr.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-find-part-time-jobs-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Chwilio am swyddi sy\u2019n cael eu hysbysebu<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-find-part-time-jobs-cy-2\"><p>Defnyddiwch Google i chwilio am 'Swyddi rhan-amser Caerdydd\u2019 i weld pa wefannau a fydd yn ymddangos \u2013 dewiswch y rhai sydd fwyaf defnyddiol i chi a'u gwirio'n rheolaidd. Sefydlwch rybuddion er mwyn i chi gael gwybod am swyddi gwag newydd.<\/p>\n<p>Mae gwefannau swyddi poblogaidd yn cynnwys <a href=\"https:\/\/www.totaljobs.com\/jobs\/part-time\/in-cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TotalJobs<\/a>, <a href=\"https:\/\/uk.indeed.com\/q-part-time-l-cardiff-jobs.html?vjk=49bcf732e432779f\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Indeed<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.reed.co.uk\/jobs\/part-time-jobs-in-cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Reed<\/a> a\u00a0<a href=\"https:\/\/www.google.com\/search?q=part+time+jobs+in+cardiff&amp;rlz=1C1CHBF_en-GBGB866GB866&amp;oq=part+ti&amp;gs_lcrp=EgZjaHJvbWUqDAgBEAAYQxiABBiKBTIGCAAQRRg5MgwIARAAGEMYgAQYigUyDQgCEAAYkgMYgAQYigUyDAgDEAAYQxiABBiKBTIGCAQQRRg9MgYIBRBFGDwyBggGEEUYPDIGCAcQRRhB0gEIMzkzMmowajeoAgCwAgA&amp;sourceid=chrome&amp;ie=UTF-8&amp;ibp=htl;jobs&amp;sa=X&amp;ved=2ahUKEwjHyY2HjeqFAxXOW0EAHUPDBw0QudcGKAF6BAggECg#htivrt=jobs&amp;htidocid=xdywinYMtsRfdgCaAAAAAA%3D%3D&amp;fpstate=tldetail\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Google Jobs<\/a>. <a href=\"https:\/\/www.studentjob.co.uk\/part-time-job\/cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">StudentJob<\/a> yn wefan a sefydlwyd y benodol ar gyfer myfyrwyr prifysgol sy\u2019n chwilio am swyddi rhan-amser.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-find-part-time-jobs-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Gwneud cais gobeithiol<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-find-part-time-jobs-cy-3\"><p>Ewch \u00e2'ch CV i fusnesau bach, lleol a gofynnwch a oes ganddynt unrhyw swyddi gwag. Cofiwch fod yr argraff gyntaf yn cyfrif, felly byddwch yn gwrtais a brwdfrydig a cheisiwch ddarganfod pwy yw'r sawl sy\u2019n gwneud penderfyniadau fel y gallwch gwrdd ag ef. Er bod sefydliadau llai yn fwy tebygol o groesawu ceisiadau gobeithiol, mae pob cyflogwr yn hoffi gweld unigolion sy\u2019n rhagweithiol ac yn ddyfal wrth chwilio am swydd, felly peidiwch \u00e2 bod ofn camu y tu hwnt i\u2019r hyn sy\u2019n gysurus i chi a mynd ati i\u2019ch gwerthu eich hun wyneb yn wyneb.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-find-part-time-jobs-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ystyried defnyddio asiantaeth recriwtio<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-find-part-time-jobs-cy-4\"><p>Er bod asiantaethau recriwtio yn tueddu i weithio gyda\u2019r rheiny sy\u2019n chwilio am swyddi dros dro a pharhaol tymor hwy, bydd rhai yn cynnig rolau rhan-amser a allai weithio o amgylch eich astudiaethau neu rolau tymhorol y tu allan i dymor y brifysgol.<\/p>\n<p>Bydd y cyflogwr yn talu'r asiantaeth recriwtio am ei gwasanaethau, sy'n golygu nad oes yna gost i chi am ei defnyddio. Er y gall bod \u00e2 rhywun yn chwilio am swydd i chi yn rhad ac am ddim ymddangos yn ddeniadol iawn, dylech ddewis a dethol yr asiantaethau a\u2019r ymgynghorwyr recriwtio y byddwch yn partneru \u00e2 nhw. Gofalwch eich bod yn nodi\u2019n glir beth yw eich anghenion a'ch dymuniadau o'r cychwyn cyntaf, a pheidiwch byth \u00e2 theimlo dan bwysau i dderbyn swydd nad oes arnoch ei heisiau. Hefyd, peidiwch ag eistedd \u2019n\u00f4l a gadael i'r asiantaethau wneud y gwaith drosoch! Dylid eu defnyddio ochr yn ochr \u00e2'ch strategaethau eraill ar gyfer chwilio am swyddi.<\/p>\n<p>Gallwch chwilio am asiantaethau recriwtio ar wefan <a href=\"https:\/\/www.agencycentral.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Agency Central<\/a>. Mae gan <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/getting-a-job\/recruitment-agencies\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> hefyd gyngor defnyddiol y dylech ei ddarllen os ydych yn ystyried defnyddio asiantaeth recriwtio.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div><\/p>\n<h4>CV ar gyfer swyddi rhan-amser<\/h4>\n<p>Bydd eich CV ar gyfer swydd ran-amser yn edrych yn wahanol iawn i CV ar gyfer <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/cvs\/\" rel=\"noopener\">rolau lefel graddedigion<\/a>. Mae rhai o&#8217;r gwahaniaethau allweddol yn cynnwys:<\/p>\n<ul>\n<li>Gall eich CV ar gyfer swydd ran-amser fod un ochr A4<\/li>\n<li>Amlygwch eich sgiliau perthnasol a&#8217;ch profiad gwaith yn gyntaf, a symudwch eich Addysg ymhellach i lawr eich CV<\/li>\n<li>Dylech gynnwys adran ar ddiddordebau i ddangos eich personoliaeth<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Defnyddiwch ein templed CV ar gyfer swyddi rhan-amser i&#8217;ch helpu:<\/strong><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/07\/Templed-CV-ar-gyfer-swyddi-rhan-amser.docx\"><span class=\"badge badge--outline badge--lg badge-important\">Templed CV ar gyfer swyddi rhan-amser<\/span><\/a><\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:<\/p>\n<ul>\n<li>Trefnwch apwyntiad gyrfaoedd yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> i gael cymorth i ddod o hyd i waith rhan-amser<\/li>\n<li>Cyngor TargetJobs ar eich <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/university-life\/full-time-student-part-time-worker-know-your-employment-rights\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">hawliau cyflogaeth fel gweithiwr rhan-amser<\/a> y modd y gall swydd ran-amser sicrhau r\u00f4l raddedig eich <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/university-life\/part-time-jobs-will-kick-start-your-graduate-career\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">breuddwydion<\/a> i chi<br \/>\n\u2022 Cyngor Prospects ar <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/work-experience-and-internships\/student-jobs-at-university\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">swyddi myfyrwyr yn y brifysgol<\/a> cyngor ar swyddi myfyrwyr yn y brifysgol a\u2019r modd i <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/applying-for-university\/university-life\/how-to-balance-work-and-study\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gydbwyso gwaith ac astudiaethau<\/a><\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gwybod sut i chwilio am waith rhan-amser os oes arnoch angen swydd wrth astudio.","protected":false},"author":9375,"featured_media":2194,"parent":1195,"menu_order":3,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1255","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1255","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1255"}],"version-history":[{"count":16,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1255\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2909,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1255\/revisions\/2909"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1195"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2194"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1255"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1255"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1255"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}