{"id":1257,"date":"2023-09-22T10:51:03","date_gmt":"2023-09-22T09:51:03","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1257"},"modified":"2024-08-02T06:56:23","modified_gmt":"2024-08-02T05:56:23","slug":"swyddi-a-chynlluniau-graddedigion-graduate-jobs-and-schemes","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/swyddi-a-phrofiad-jobs-and-experience\/swyddi-a-chynlluniau-graddedigion-graduate-jobs-and-schemes\/","title":{"rendered":"Swyddi a chynlluniau graddedigion"},"content":{"rendered":"<p>A chithau\u2019n fyfyriwr graddedig, byddwch yn gallu gwneud cais am amrywiaeth eang o swyddi, yn cynnwys swyddi i raddedigion, cynlluniau i raddedigion, rolau lefel mynediad, a rolau nad ydynt i raddedigion. Mae\u2019r mathau o rolau y byddwch yn dewis ymgeisio amdanynt yn dibynnu ar:<\/p>\n<ul>\n<li>y cyfleoedd sydd ar gael yn eich diwydiant dewisol \u2013 a natur gystadleuol y swyddi hyn<\/li>\n<li>yr hyn y mae arnoch ei eisiau o&#8217;ch bywyd gwaith a&#8217;ch swydd<\/li>\n<li>eich lefel bresennol o brofiad ac addasrwydd ar gyfer y rolau y mae gennych ddiddordeb ynddynt<\/li>\n<\/ul>\n<p>Fodd bynnag, nid oes unrhyw beth yn eich atal rhag gwneud cais am amrywiaeth o wahanol fathau o swyddi sy&#8217;n cefnogi eich cynlluniau o ran eich gyrfa \u2013 fel arfer dyma&#8217;r dull gorau i sicrhau eich bod yn cadw pob drws yn agored ac yn gwneud y mwyaf o&#8217;ch siawns o sicrhau r\u00f4l yn eich maes dewisol. Pan fydd gennych syniad o\u2019r math o swydd a fyddai&#8217;n gweddu orau i chi, gallwch ddefnyddio ein <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/swyddi-a-phrofiad-jobs-and-experience\/strategaethau-chwilio-am-swydd-job-searching-strategies\/\" rel=\"noopener\">cyngor ar chwilio am swydd<\/a> i&#8217;ch helpu.<\/p>\n<h4>Cynlluniau i raddedigion<\/h4>\n<p>Mae cynllun i raddedigion yn rhaglen strwythuredig a gynigir fel arfer gan <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/uk300\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gwmn\u00efau mawr<\/a>, er bod rhai cwmn\u00efau llai a sefydliadau&#8217;r sector cyhoeddus yn eu cynnig hefyd. Er y gall hyd y cynlluniau i raddedigion amrywio, maent fel arfer yn rhedeg dros ddwy neu dair blynedd ac, er nad oes yna unrhyw sicrwydd, os byddwch yn perfformio&#8217;n dda, efallai y bydd y cwmni&#8217;n cynnig contract parhaol i chi ar ddiwedd y cynllun.<\/p>\n<p>Mae cynlluniau i raddedigion wedi&#8217;u cynllunio i roi amrywiaeth eang o brofiadau i raddedigion ledled gwahanol feysydd o&#8217;r busnes, ac maent fel arfer yn cynnwys cylchdroi o amgylch gwahanol adrannau. Yn aml bydd yna garfan o raddedigion ar y cynllun gyda&#8217;i gilydd, ac mae cyflogwyr fel arfer yn cynnig pecyn cynhwysfawr o hyfforddiant, mentora a chymorth i helpu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau.<br \/>\nMae&#8217;r cynlluniau hyn yn hynod o gystadleuol, gyda nifer mawr o ymgeiswyr yn cystadlu am swyddi cyfyngedig bob blwyddyn. O&#8217;r herwydd, y tuedd yw cynnal prosesau recriwtio aml-gam, sy\u2019n cynnwys profion seicometrig a chanolfannau asesu.<\/p>\n<div class=\"well\">Er bod pob cyflogwr yn wahanol, mae recriwtio ar gyfer cynlluniau graddedigion fel arfer yn dechrau yn hydref eich blwyddyn olaf yn y brifysgol, gyda\u2019r cyfnod ymgeisio\u2019n agor mor gynnar \u00e2 mis Awst ac yn cau ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr. Fel arfer, cynhelir canolfannau asesu a chyfweliadau rhwng mis Tachwedd a mis Ionawr gyda\u2019r ymgeiswyr llwyddiannus yn dechrau ar eu cynlluniau ym mis Medi. Bydd rhai cyflogwyr yn cynnal rowndiau recriwtio pellach yn y gwanwyn a&#8217;r haf, ac mae nifer cynyddol yn recriwtio graddedigion trwy gydol y flwyddyn, ond maent i gyd fel arfer yn dechrau yn y mis Medi ar \u00f4l i chi raddio. Er bod llawer o gynlluniau yn agored i raddedigion o bob disgyblaeth radd, bydd amodau penodol ynghlwm wrth rai felly gofalwch eich bod yn gwirio cyn i chi wneud cais.<\/div>\n<h4>Swyddi i raddedigion<\/h4>\n<p>Swydd i raddedigion yw swydd lle bydd angen gradd arnoch a lle cynigir swydd barhaol i chi yn y cwmni. Fel yn achos unrhyw swydd, byddwch yn ymgymryd \u00e2 r\u00f4l benodol yn unol \u00e2 manyleb y swydd a disgwylir i chi ddatblygu eich sgiliau a&#8217;ch gwybodaeth yn y maes hwnnw. Er y gallech elwa o hyfforddiant a mentora, mae&#8217;n annhebygol y bydd y cyfnod hyfforddi mor strwythuredig a helaeth \u00e2\u2019r hyn a gynigir ar gynllun i raddedigion.<\/p>\n<p>Mae swyddi i raddedigion yn bodoli ym mhob sector a diwydiant a chyda llawer o gyflogwyr ym marchnad lafur y DU, yn cynnwys cyflogwyr graddedigion mawr, sefydliadau a busnesau llai (yr hyn a elwir yn &#8216;fentrau bach a chanolig&#8217;, neu BBaChau yn fyr), elusennau, a&#8217;r sector cyhoeddus. Er bod swyddi i raddedigion yn dal i fod yn gystadleuol, maent yn tueddu i fod \u00e2 phroses ymgeisio fyrrach na chynlluniau i raddedigion; mae\u2019n bosibl mai CV a chais byr yn unig a ystyrir ar gyfer cyfweliad.<\/p>\n<div class=\"well\">Tueddir i recriwtio ar gyfer swyddi i raddedigion trwy gydol y flwyddyn yn \u00f4l yr angen, felly yn wahanol i gynllun i raddedigion, mae\u2019n bosibl na fydd y cyflogwr yn recriwtio bob blwyddyn. Os ydych yn astudio ar hyn o bryd, byddech fel arfer yn ceisio dechrau gwneud cais am swydd i raddedigion dim mwy na thri mis cyn i chi fod ar gael i ddechrau gweithio gan fod y cyflogwr yn debygol o fod yn chwilio am rywun i ddechrau bron ar unwaith.<\/div>\n<h4>Swyddi lefel mynediad a swyddi nad ydynt yn rhai i raddedigion<\/h4>\n<p>Mae &#8216;lefel mynediad&#8217; fel arfer yn disgrifio swyddi lle nad oes disgwyl i&#8217;r ymgeisydd fod \u00e2 phrofiad perthnasol yn y diwydiant. Gallai&#8217;r rhain fod yn swyddi lefel gradd o hyd, ond nid dyna ydynt bob amser. Maent yn darparu ffordd ddefnyddiol o fynd i mewn i sector neu ddiwydiant.<br \/>\nNid yw swyddi nad ydynt yn rhai i raddedigion yn gofyn i chi feddu ar radd ond, fel yn achos rolau lefel mynediad, efallai y bydd eich gradd yn golygu eich bod yn fwy cystadleuol ar gyfer swyddi nad ydynt i raddedigion.<\/p>\n<p>Gall rolau lefel mynediad a swyddi nad ydynt yn rhai i raddedigion fod yn ffordd wych o sicrhau profiad perthnasol mewn sector penodol, yn enwedig os yw&#8217;r sector yn gystadleuol iawn neu os ydych yn gobeithio datblygu eich profiad yn y maes hwn. Maent hefyd yn darparu cyfle i ddysgu rhagor am swydd neu sector, yn enwedig os nad ydych yn teimlo&#8217;n barod i ymrwymo i swydd neu gynllun ar lefel raddedig. Er enghraifft, efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym maes seicoleg ac yn cymryd swydd gweithiwr cymorth lle nad oes angen gradd i gael profiad gwerthfawr o sut beth yw cefnogi rhywun gyda&#8217;i iechyd meddwl. Gallai&#8217;r profiad hwn gadarnhau i chi mai dyma yr hoffech ei wneud, a bydd hefyd yn eich helpu i greu argraff o gymharu \u00e2&#8217;r gystadleuaeth os byddwch wedyn yn mynd ymlaen i wneud cais am rolau lefel raddedig neu astudiaethau pellach yn y maes hwn.<\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:<\/p>\n<p>Trefnwch apwyntiad gyrfaoedd yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> os nad ydych yn si\u0175r pa swyddi i wneud cais amdanynt<\/p>\n<p>Edrychwch ar broffiliau swyddi ar <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/job-profiles\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> i ddeall y mathau o swyddi y gallwch wneud cais amdanynt yn eich sector dewisol<\/p>\n<p>Darganfyddwch ragor am swyddi i raddedigion ar <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/career-ideas\/what-graduate-job\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a><\/p>\n<p>Darganfyddwch ragor am gynlluniau i raddedigion ar <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/getting-a-job\/graduate-schemes\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.brightnetwork.co.uk\/graduate-career-advice\/no-idea-what-do\/what-is-a-graduate-scheme\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">BrightNetwork<\/a><\/p>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Nodi'r gwahaniaeth rhwng swydd a chynllun i raddedigion a pha un fyddai'n gweddu orau i chi. ","protected":false},"author":9375,"featured_media":2192,"parent":1195,"menu_order":5,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1257","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1257","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1257"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1257\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2910,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1257\/revisions\/2910"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1195"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2192"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1257"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1257"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1257"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}