{"id":1259,"date":"2023-09-22T10:50:39","date_gmt":"2023-09-22T09:50:39","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1259"},"modified":"2024-07-31T12:16:53","modified_gmt":"2024-07-31T11:16:53","slug":"strategaethau-chwilio-am-swydd-job-searching-strategies","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/swyddi-a-phrofiad-jobs-and-experience\/strategaethau-chwilio-am-swydd-job-searching-strategies\/","title":{"rendered":"Strategaethau chwilio am swydd"},"content":{"rendered":"<h4>Strategaethau o ran chwilio am swyddi<\/h4>\n<p>Mae chwilio am rolau lefel graddedigion yn sg\u00ecl ynddo&#8217;i hun ac nid yw mynd ati i wneud cais am swyddi a hysbysebir ar-lein yn ddim ond y dechrau. Mewn gwirionedd, mae myfyrwyr yn dod o hyd i swyddi trwy ddulliau<strong> adweithiol<\/strong> (er enghraifft, ymateb i hysbyseb swydd) a <strong>rhagweithiol<\/strong> (lle rydych yn achub y blaen wrth rwydweithio neu wneud cais gobeithiol) fel ei gilydd.<\/p>\n<p>Mae&#8217;n bwysig eich bod yn gwybod lle a sut i chwilio am swyddi graddedigion, yn ogystal \u00e2 sut i ffocysu eich proses o chwilio am swydd. Mae&#8217;n debygol y byddwch yn gwneud cais am nifer o rolau yn eich blwyddyn olaf, a bydd targedu eich proses o chwilio am swydd yn arbed amser i chi ac yn sicrhau bod pob cais a gyflwynwch yn cyfrif. Hyd yn oed gyda dull effeithiol o chwilio am swyddi, gallai gymryd sawl ymdrech cyn i chi sicrhau eich r\u00f4l raddedig gyntaf! Mae hyn yn gyffredin iawn, ac mae meithrin gwytnwch i ymdopi ag anawsterau ar hyd y ffordd yn sg\u00ecl hanfodol o ran rheoli gyrfa a fydd yn eich helpu i fynd ati\u2019n hyderus i lywio eich profiad o chwilio am swydd a&#8217;ch bywyd gwaith yn y dyfodol.<\/p>\n<h4>Ffyrdd o chwilio am swyddi<\/h4>\n<p>Wrth chwilio am unrhyw r\u00f4l i raddedigion, dylech ddefnyddio sawl dull i wneud y mwyaf o&#8217;ch siawns o lwyddo.<br \/>\nIsod, nodir y ffyrdd mwyaf cyffredin y mae myfyrwyr yn dod o hyd i swyddi a&#8217;u sicrhau, ac rydym yn argymell cyfuno nifer o&#8217;r dulliau hyn i wneud yn si\u0175r nad ydych yn colli cyfleoedd:<\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-ways-to-look-for-jobs-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Chwilio am swyddi sy\u2019n cael eu hysbysebu<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-ways-to-look-for-jobs-cy-1\"><p>Mae'n debyg mai chwilio am swyddi gwag o'r math yr ydych yn chwilio amdanynt ac sy\u2019n cael eu hysbysebu yw'r man cychwyn i lawer o bobl sy\u2019n dechrau chwilio am waith. Dechreuwch gyda'r bwrdd swyddi yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> os ydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd neu newydd raddio. Mae cannoedd o gyflogwyr lleol, cenedlaethol a byd-eang yn gofyn am gael hysbysebu eu swyddi gwag yma.<\/p>\n<p>Defnyddiwch fyrddau swyddi poblogaidd tebyg i <a href=\"https:\/\/uk.indeed.com\/?from=gnav-jobsearch--indeedmobile\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Indeed<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.totaljobs.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Totaljobs<\/a> a <a href=\"https:\/\/uk.linkedin.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">LinkedIn<\/a>. Hefyd, defnyddiwch wefannau megis <a href=\"https:\/\/www.milkround.com\/jobs\/graduate\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Milkround<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/graduate-jobs\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a>,\u00a0 <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/search\/jobs?search=\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.ratemyplacement.co.uk\/search-jobs\/graduate\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">RateMyPlacement<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.gradcracker.com\/search\/all-disciplines\/engineering-graduate-jobs\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gradcracker <\/a>(yn fwy ar gyfer ddisgyblaethau STEM) sydd wedi\u2019u hanelu at fyfyrwyr prifysgol a graddedigion.<\/p>\n<p>Os ydych yn gwybod pa fath o swydd yr ydych yn chwilio amdani, mae'n debygol y bydd yna wefannau penodol sydd dim ond yn hysbysebu swyddi gwag yn y maes hwnnw \u2013 defnyddiwch y proffiliau swyddi ar <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/job-profiles\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> i nodi\u2019r rhain.<\/p>\n<p>Defnyddiwch amrywiaeth o wefannau a sefydlwch rybuddion fel eich bod yn cael diweddariadau wedi'u targedu ac na fyddwch yn colli swyddi pan fyddant yn cael eu hychwanegu. Er bod hon yn elfen bwysig o'ch dull o chwilio am swydd, ni ddylai fod yr unig un. Ystyriwch hefyd ddefnyddio rhai o'r dulliau mwy rhagweithiol isod.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-ways-to-look-for-jobs-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Defnyddio eich rhwydwaith<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-ways-to-look-for-jobs-cy-2\"><p>Mae <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/rhwydweithio-a-chyfryngau-cymdeithasol-networking-and-social-media\/\" rel=\"noopener\">Rhwydweithio<\/a> yn un o'r sgiliau pwysicaf y gallwch ei ddatblygu i'ch helpu yn eich gyrfa yn y dyfodol. Mantais meithrin rhwydwaith proffesiynol yw nad ydych byth yn gwybod pwy a allai eich helpu a phryd.<\/p>\n<p>O ddweud gair o\u2019ch plaid pan ddaw cyfle i\u2019ch rhan, i roi gwybod i chi am gyfleoedd posibl, gall eich rhwydwaith eich helpu i gyrchu'r <strong>farchnad swyddi gudd<\/strong>, cyfleoedd heb eu hysbysebu na fyddech fyth, o bosibl, yn dod o hyd iddynt wedi'u rhestru ar wefannau tebyg i\u2019r rhai a restrir uchod. Er ei bod yn amhosibl gwirio'n swyddogol, mae arbenigwyr gyrfaoedd wedi awgrymu ers blynyddoedd lawer nad yw tua 70% o swyddi gwag yn cael eu hysbysebu.<\/p>\n<p>Wrth chwilio am swyddi, ystyriwch pwy yn eich rhwydwaith a allai gynnig cymorth \u2013 gallai hyn fod yn rhywun sy'n gweithio yn eich sector neu i gyflogwr y mae gennych ddiddordeb mewn ymuno ag ef, gallai hyd yn oed fod yn gyfoed sydd wedi sicrhau r\u00f4l debyg.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-ways-to-look-for-jobs-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Gwneud cais gobeithiol<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-ways-to-look-for-jobs-cy-3\"><p>Mae cais gobeithiol yn ffordd allweddol arall y gallwch gael mynediad i'r farchnad swyddi gudd. Cais gobeithiol yw pan fyddwch yn anfon CV (fel arfer ar y cyd \u00e2 llythyr eglurhaol) at gyflogwr yn gofyn a oes ganddo unrhyw swyddi gwag addas, er nad yw'n hysbysebu ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Gall bod yn rhagweithiol greu argraff wirioneddol ar gyflogwyr, yn enwedig os yw eich llythyr eglurhaol wedi'i deilwra i'w sefydliad. Mae dull gobeithiol yn llai tebygol o weithio mewn sefydliadau mwy, yn enwedig lle mae eu rolau'n gystadleuol iawn ac mae ganddynt broses recriwtio ffurfiol, ond gall fod yn ffordd dda o gael mynediad at fentrau bach a chanolig (BBaCh).<\/p>\n<p><strong>Wrth wneud cais gobeithiol, mae'n bwysig:<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Llunio rhestr o sefydliadau yr ydych am gysylltu \u00e2 nhw<\/li>\n<li>Bod yn benodol iawn ynghylch pam yr ydych yn anfon eich CV a'ch llythyr eglurhaol \u2013 cofiwch nad yw'r cyflogwr yn hysbysebu felly nid oes ganddo unrhyw syniad pam yr ydych yn cysylltu na beth yr ydych yn gofyn amdano<\/li>\n<li>Bod yn agored ac yn hyblyg \u2013 efallai na fydd y cyflogwr yn gallu cynnig swydd i chi, ond gallai eich cadw mewn cof ar gyfer swyddi yn y dyfodol, cynnig cyfnod o brofiad gwaith, neu roi cyngor defnyddiol i chi ar gyfer y dyfodol<\/li>\n<li>Mae gan <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/applying-for-jobs\/how-to-write-a-speculative-job-application\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> hefyd gyngor defnyddiol ar geisiadau gobeithiol<\/li>\n<\/ul>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-ways-to-look-for-jobs-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ystyried defnyddio asiantaeth recriwtio<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-ways-to-look-for-jobs-cy-4\"><p>Mae asiantaeth recriwtio yn gweithio ar ran cyflogwr i ddod o hyd i ymgeiswyr addas ar gyfer ei swyddi gwag. Gallai ymuno ag asiantaeth recriwtio sicrhau mynediad i chi at swyddi nad ydynt yn cael eu hysbysebu mewn mannau eraill, a gall olygu eich bod yn cael eich paru \u00e2 rolau sy'n addas i chi. Mae rhai o'r asiantaethau recriwtio mwy, megis Hays, Reed a Randstad, yn amlddisgyblaethol ac yn cwmpasu amrywiaeth eang o sectorau, tra bo\u2019r asiantaethau llai yn tueddu i ganolbwyntio ar sectorau neu ddiwydiannau penodol.<\/p>\n<p>Bydd y cyflogwr yn talu'r asiantaeth recriwtio am ei gwasanaethau, sy'n golygu nad oes yna gost i chi am ei defnyddio. Er y gall bod \u00e2 rhywun yn chwilio am swydd i chi yn rhad ac am ddim ymddangos yn ddeniadol iawn, dylech ddewis a dethol yr asiantaethau a\u2019r ymgynghorwyr recriwtio y byddwch yn partneru \u00e2 nhw. Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn nodi\u2019n glir beth yw eich anghenion a'ch dymuniadau o'r cychwyn cyntaf, a pheidiwch byth \u00e2 theimlo dan bwysau i dderbyn swydd nad oes arnoch ei heisiau. Hefyd, peidiwch ag eistedd \u2019n\u00f4l a gadael i'r asiantaethau wneud y gwaith drosoch! Dylid eu defnyddio ochr yn ochr \u00e2'ch strategaethau eraill ar gyfer chwilio am swyddi.<\/p>\n<p>Gallwch chwilio am asiantaethau recriwtio ar wefan <a href=\"https:\/\/www.agencycentral.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Agency Central<\/a>. Mae gan <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/getting-a-job\/recruitment-agencies\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a>\u00a0hefyd gyngor defnyddiol y dylech ei ddarllen os ydych yn ystyried defnyddio asiantaeth recriwtio.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n<h4>Chwilio am eich swydd<\/h4>\n<p>Ystyriwch y cyngor isod ar wahanol agweddau ar y broses o chwilio am swydd:<br \/>\n\n        <div class=\"cu_tabs\">\n               \n        <ul class=\"nav nav-tabs\" role=\"tablist\">\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link active\" href=\"#content-your-job-search-cy-1\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"your-job-search-cy-1\">Cyn i chi ddechrau<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-your-job-search-cy-2\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"your-job-search-cy-2\">Wrth i chi chwilio am swydd<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-your-job-search-cy-3\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"your-job-search-cy-3\">Delio \u00e2 chynigion swyddi<\/a><\/li><\/ul> <div class=\"tab-content\">\n        <div class=\"tab-pane active\" id=\"content-your-job-search-cy-1\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"your-job-search-cy-1\">\n        <ul>\n<li><strong>Nodwch yr hyn yr ydych am ymgeisio amdano<\/strong> \u2013 dylai eich dull o chwilio am swydd fod yn unigryw i chi a'r hyn yr ydych yn chwilio amdano. Peidiwch \u00e2 dechrau chwilio am swyddi heb unrhyw syniad o'r hyn yr ydych am wneud cais amdano \u2013 bydd hynny\u2019n eich llethu a\u2019ch diflasu! Darllenwch ein <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/\" rel=\"noopener\">cyngor ar gynllunio gyrfa<\/a> i gael gwell dealltwriaeth o\u2019r hyn a fyddai\u2019n gweddu i chi<\/li>\n<li><strong>Lleoliad<\/strong> \u2013 ble ydych chi am weithio? Ymchwiliwch i'r ardal a darganfod pwy sy'n cyflogi pobl sy'n gwneud y math o waith y mae gennych ddiddordeb ynddo<\/li>\n<li>A oes yna lawer o swyddi ar gael yn y sector y mae gennych ddiddordeb ynddo yn yr ardal honno? Yn yr un modd, os ydych am weithio dramor, mae gan <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/working-abroad\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> ganllawiau i wledydd i\u2019ch helpu i ymchwilio i farchnad lafur y gwledydd y mae gennych ddiddordeb ynddynt<\/li>\n<li><strong>Ymchwiliwch i'ch diwydiant a'ch sector<\/strong> \u2013 ewch ati i feithrin eich dealltwriaeth o'ch diwydiant, eich sector a\u2019ch cyflogwyr o ddiddordeb (eich <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/gwneud-eich-ymchwil-doing-your-research\/\" rel=\"noopener\">ymwybyddiaeth fasnachol<\/a>) i helpu i lywio eich proses o chwilio am swydd<\/li>\n<li><strong>Sicrhewch fod gennych gynllun<\/strong> \u2013 gosodwch nodau byrdymor i weithio tuag atynt o ran chwilio am swydd. Gallai hyn olygu nodau sy'n ymwneud ag ymchwil, ceisiadau a lenwir neu amser a dreulir yn edrych ar swyddi. Sicrhewch fod eich nodau'n rhai i\u2019ch helpu i gadw ar y trywydd iawn<\/li>\n<\/ul>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-your-job-search-cy-2\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"your-job-search-cy-2\">\n        <ul>\n<li><strong>Cadwch olwg ar y ceisiadau a gyflwynwyd gennych<\/strong> \u2013 lluniwch daenlen y gallwch ei defnyddio i ychwanegu gwybodaeth am swyddi yr ydych wedi gwneud cais amdanynt a swyddi yr ydych yn bwriadu gwneud cais amdanynt. Gwnewch nodyn o unrhyw derfynau amser \u2013 bydd hyn yn eich helpu i flaenoriaethu ceisiadau a chadw trefn ar yr hyn yr ydych yn ei gyflwyno<\/li>\n<li><strong>Safon nid nifer<\/strong> \u2013 mae gennych siawns llawer gwell o lwyddo os byddwch yn cyflwyno llai o geisiadau sydd wedi'u teilwra'n dda i'r r\u00f4l, er bod y rhain yn cymryd mwy o amser i'w cwblhau. Safon, nid nifer, sy\u2019n allweddol yn achos ceisiadau sydd wedi\u2019u saern\u00efo\u2019n dda! Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/\" rel=\"noopener\">CV, ceisiadau a chyfweliadau<\/a><\/li>\n<\/ul>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-your-job-search-cy-3\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"your-job-search-cy-3\">\n        <p>Er bod cael nifer o gynigion swyddi gan gyflogwyr yn broblem wych i'w chael, gall fod yn anodd gwybod pa gynnig i'w dderbyn. Meddyliwch yn ofalus cyn i chi dderbyn cynnig am swydd \u2013 mae hwn yn gontract sy\u2019n rhwymo mewn cyfraith ac, er y gall cyflogwyr ddewis peidio \u00e2'i orfodi, byddwch yn colli proffesiynoldeb a hygrededd os byddwch yn derbyn swydd ac yna\u2019n ei gwrthod yn ddiweddarach. Mae gan <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/job-offers-and-working-life\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a> gyngor cynhwysfawr ar ddelio \u00e2 chynigion swyddi, yn cynnwys nifer o gynigion swyddi.<\/p>\n\n        <\/div><\/div>\n        <\/div><\/p>\n<h4>Gwytnwch a delio \u00e2 chael eich gwrthod<\/h4>\n<p>Ychydig iawn o fyfyrwyr a graddedigion sy&#8217;n cael r\u00f4l raddedig eu breuddwydion y tro cyntaf y byddant yn gwneud cais! Mae&#8217;n bwysig disgwyl a rhagweld y byddwch yn cael eich gwrthod \u2013 mae\u2019n rhan arferol o chwilio am swydd, ac mae dysgu sut i ddelio \u00e2 chael eich gwrthod fel nad yw hynny\u2019n amharu ar y broses o chwilio am swydd yn sg\u00ecl allweddol. Bydd meithrin gwytnwch yn eich helpu i ymdopi \u00e2 chael eich gwrthod am swyddi ac \u00e2 rhwystrau eraill. Nid yw bod yn wydn yn golygu nad ydych yn siomedig pan nad yw rhywbeth yn mynd yn \u00f4l y bwriad; yn hytrach, mae&#8217;n golygu bod gennych fecanweithiau ymdopi ar waith i adennill ffocws a pharhau i chwilio am swydd nes i chi sicrhau&#8217;r r\u00f4l gywir i chi. Mae pobl wydn yn fwy tebygol o feddu ar agwedd gadarnhaol, gweld cyfleoedd i ddysgu a datblygu (yr hyn a alwn yn &#8216;<a href=\"https:\/\/www.futurelearn.com\/info\/blog\/general\/develop-growth-mindset\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">feddylfryd twf<\/a>&#8216;) a gwybod at bwy i droi pan fydd arnynt angen cymorth.<\/p>\n<h4>Awgrymiadau i roi hwb i&#8217;ch gwytnwch<\/h4>\n<p>Nid yw gwytnwch yn rhinwedd statig; fel nifer o sgiliau eraill sy\u2019n ofynnol i lywio eich gyrfa yn llwyddiannus, gellir ei ddatblygu dros amser. Rhowch gynnig ar rai o&#8217;r awgrymiadau canlynol i roi hwb i&#8217;ch gwytnwch:<\/p>\n<ul>\n<li>Myfyrio ar brofiadau blaenorol mewn bywyd lle rydych wedi addasu&#8217;n dda i newid, er enghraifft dod i&#8217;r brifysgol neu ddechrau swydd neu hobi newydd. Sut y bu i chi ymdopi bryd hynny a sut y byddwch yn gwneud hynny eto?<\/li>\n<li>Rhoi cynnig ar bethau newydd \u2013 ystyriwch gymryd rhan mewn profiad gwaith neu gymdeithas myfyrwyr, neu efallai ddechrau hobi newydd. Dod i gysylltiad \u00e2 phobl newydd a sefyllfaoedd newydd<\/li>\n<li>Cysylltu ag eraill a gofyn am help \u2013 ceisiwch gymorth eich rhwydwaith ehangach a&#8217;r brifysgol, yn cynnwys Dyfodol Myfyrwyr<\/li>\n<li>Gosod nodau bach, hylaw i chi eich hun. Efallai mai &#8216;dod o hyd i swydd raddedig\u2019 yw\u2019r nod hirdymor, ond gall deimlo&#8217;n enfawr ac yn llethol. Mae &#8216;treulio awr yn edrych ar wefan swyddi x a nodi unrhyw swyddi y mae gennyf ddiddordeb ynddynt&#8217; yn llawer mwy cyraeddadwy. Bydd cyflawni llwyddiannau cyflym a nodau tymor byrrach yn eich helpu i barhau\u2019n frwdfrydig ac ar y trywydd iawn i wireddu eich cynlluniau tymor hwy<\/li>\n<li>Treulio amser yn gwneud yr hyn sy&#8217;n bwysig i chi yn eich bywyd. Gall chwilio am swydd achosi straen ar brydiau, a gall cymryd rhan mewn pethau sy&#8217;n tynnu eich sylw ac yn peri llawenydd i chi ganiat\u00e1u i chi adennill ymdeimlad o ffocws.<\/li>\n<li>Dathlu eich cyflawniadau a chydnabod y gwaith caled a&#8217;r ymdrech yr ydych yn eu gwneud<\/li>\n<\/ul>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:<\/p>\n<ul>\n<li>Trefnwch apwyntiad gyrfaoedd trwy eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a>\u00a0i gael help i chwilio am swydd<br \/>\n<a href=\"https:\/\/nationalcareers.service.gov.uk\/careers-advice\/advertised-job-vacancies\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyngor y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol<\/a> ar ddod o hyd i swyddi gwag<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/job-offers-and-working-life\/dealing-job-rejection-graduate\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyngor TargetJobs<\/a> ar ddelio \u00e2 chael eich gwrthod am swydd<\/li>\n<li>Dilynwch gwrs rhad ac am ddim y Brifysgol Agored, \u2018<a href=\"https:\/\/www.open.edu\/openlearn\/money-business\/developing-career-resilience\/content-section-overview?active-tab=description-tab\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Developing career resilience<\/a>\u2019<\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dysgwch sut i chwilio am swyddi i raddedigion a nodi dulliau rhagweithiol o chwilio am swyddi. ","protected":false},"author":9375,"featured_media":2196,"parent":1195,"menu_order":2,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1259","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1259","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1259"}],"version-history":[{"count":15,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1259\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2808,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1259\/revisions\/2808"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1195"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2196"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1259"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1259"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1259"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}