{"id":1261,"date":"2023-09-22T10:53:06","date_gmt":"2023-09-22T09:53:06","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1261"},"modified":"2024-11-07T15:43:57","modified_gmt":"2024-11-07T15:43:57","slug":"cael-profiad-gwaith-getting-work-experience","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/swyddi-a-phrofiad-jobs-and-experience\/cael-profiad-gwaith-getting-work-experience\/","title":{"rendered":"Cael profiad gwaith"},"content":{"rendered":"<p>Nid yw gradd ar ei phen ei hun yn docyn aur i lwyddiant! Bydd cael profiad gwaith cyn i chi raddio yn eich helpu i greu argraff ymhlith y dorf, yn enwedig mewn marchnad swyddi gystadleuol. Mae profiad gwaith yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau pwysig ac archwilio eich opsiynau o ran gyrfa, ac mae&#8217;n well gan gyflogwyr raddedigion sydd \u00e2 phrofiad o fyd gwaith. Gall profiad gwaith fod ar sawl ffurf a chynnwys sawl math gwahanol o rolau, felly mae&#8217;n bwysig eich bod yn dod o hyd i gyfleoedd sy&#8217;n gweithio i chi, eich nodau o ran eich gyrfa, a&#8217;ch ffordd o fyw. Rydym yn cydnabod y gall dod o hyd i brofiad gwaith deimlo&#8217;n llethol os nad ydych yn gwybod lle i ddechrau, felly rydym wedi darparu cyngor i chi ar sut i chwilio am brofiad gwaith a sut y gall Dyfodol Myfyrwyr eich cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd.<\/p>\n<h4>Manteision Profiad Gwaith<\/h4>\n<p>Mae yna lawer o resymau pam y dylech wneud profiad gwaith tra eich bod yn y brifysgol. Gall profiad gwaith eich helpu i wneud y canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Archwilio syniadau o ran gyrfa<\/strong> \u2013 bydd profiad uniongyrchol o swydd neu sector penodol yn eich helpu i ddarganfod a yw&#8217;n iawn i chi ai peidio. Weithiau gall profiad gwaith amlygu nad yw swydd yn iawn i chi, a gall hyn fod yr un mor werthfawr yn yr hirdymor \u00e2 dod o hyd i&#8217;ch swydd ddelfrydol!<\/li>\n<li><strong>Cael profiad perthnasol i gefnogi eich nodau o ran eich gyrfa<\/strong> \u2013 os ydych yn teimlo&#8217;n angerddol ynghylch swydd neu sector penodol, yna bydd cael profiad perthnasol yn eich helpu i ddangos hyn i gyflogwyr ac yn helpu i\u2019ch gwneud yn fwy cystadleuol pan fyddwch yn ymgeisio am swyddi yn y dyfodol<\/li>\n<li><strong>Creu argraff ar gyflogwyr<\/strong> \u2013 mae&#8217;r ystadegau i gyd yn dangos bod cyflogwyr am i ymgeiswyr graddedig fod wedi cael rhyw fath o brofiad gwaith yn ystod eu hastudiaethau, a&#8217;u bod yn llawer llai tebygol o gyf-weld \u00e2 rhywun heb y profiad hwnnw. Bydd cael profiad yn y byd go iawn yn eich helpu i ddatblygu eich proffesiynoldeb a&#8217;ch <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/gwneud-eich-ymchwil-doing-your-research\/\" rel=\"noopener\">ymwybyddiaeth fasnachol<\/a> ac yn rhoi digon o enghreifftiau perthnasol i chi eu rhannu mewn cyfweliad<\/li>\n<li><strong>Datblygu&#8217;n bersonol ac yn broffesiynol<\/strong> \u2013 gall bod mewn amgylchedd newydd a gweithio gyda phobl newydd fod yn heriol! Efallai mai\u2019r profiad gwaith y byddwch yn ei wneud yn y brifysgol fydd y tro cyntaf erioed i chi weithio mewn amgylchedd proffesiynol neu fod yn gyfrifol am gyflawni gwaith. Gall fod yn brofiad brawychus i ddechrau, ond mae&#8217;n sicr o&#8217;ch helpu i feithrin sgiliau pwysig sy\u2019n ofynnol ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol (megis rheoli amser, cyfathrebu a gwaith t\u00eem), yn ogystal \u00e2 hyder y gallwch ffynnu mewn amgylcheddau newydd!<\/li>\n<li><strong>Pontio i fyd gwaith ar \u00f4l i chi raddio<\/strong> \u2013 bydd cael rhywfaint o gysylltiad \u00e2 bywyd gwaith yn ystod eich gradd yn ei gwneud yn haws pontio o&#8217;r brifysgol i&#8217;r byd gwaith wedyn yn llawer haws! Er bod pob gweithle yn wahanol, byddwch yn meithrin dealltwriaeth dda o sut beth yw gwaith a\u2019r modd y mae&#8217;n wahanol i&#8217;r brifysgol, er enghraifft o ran bod \u00e2 mwy o drefn a gweithio gyda chyd-weithwyr a rheolwyr mewn strwythurau mwy hierarchaidd<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gwyliwch y fideo isod i glywed pam mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad gwaith wrth recriwtio myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Caerdydd:<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Mewnwelediadau Cyflogwyr Dyfodol Myfyrwyr: Manteision profiad gwaith\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/uAMTXJ247YU?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Cofiwch na fydd unrhyw brofiad gwaith y byddwch yn dewis ymgymryd ag ef fyth yn wastraff amser, ac y bydd bob amser yn werthfawr i&#8217;ch gyrfa yn y dyfodol! Y sefyllfa orau posibl yw eich bod yn cadarnhau eich nodau o ran gyrfa neu&#8217;n cael profiad hanfodol i&#8217;ch gwneud yn fwy cystadleuol yn eich maes dewisol; y sefyllfa waethaf posibl yw eich bod yn nodi r\u00f4l neu sector nad yw&#8217;n iawn i chi, o bosibl, ond sy&#8217;n dal i ychwanegu profiad at eich CV, yn datblygu eich sgiliau ac yn ehangu eich rhwydwaith.<\/p>\n<h4>Mathau o Brofiad Gwaith<\/h4>\n<div>Mae unrhyw brofiad sydd gennych o weithio mewn sefydliad yn cyfrif fel profiad gwaith \u2013 o wirfoddoli a gwaith rhan-amser, i interniaethau a lleoliadau blwyddyn o hyd. Mae yna gynifer o ffyrdd i sicrhau profiad gwaith gwerthfawr tra eich bod yn y brifysgol:<\/div>\n\n        <div class=\"cu_tabs\">\n               \n        <ul class=\"nav nav-tabs\" role=\"tablist\">\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link active\" href=\"#content-types-of-work-experience-cy-1\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-work-experience-cy-1\">Cyfleoedd trwy Dyfodol Myfyrwyr<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-work-experience-cy-2\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-work-experience-cy-2\">Interniaethau<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-work-experience-cy-3\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-work-experience-cy-3\">Gwirfoddoli<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-work-experience-cy-4\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-work-experience-cy-4\">Cysgodi<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-work-experience-cy-5\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-work-experience-cy-5\">Swyddi rhan-amser<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-work-experience-cy-6\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-work-experience-cy-6\">Interniaethau ar y campws<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-work-experience-cy-7\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-work-experience-cy-7\">Blwyddyn nae modiwl lleoliad<\/a><\/li><\/ul> <div class=\"tab-content\">\n        <div class=\"tab-pane active\" id=\"content-types-of-work-experience-cy-1\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-work-experience-cy-1\">\n        <div>Mae'r t\u00eem Profiad Gwaith yn Dyfodol Myfyrwyr yn dod o hyd i lawer o gyfleoedd profiad gwaith i fyfyrwyr. Mae cyfleoedd yn bodoli mewn sawl sector a gydag ystod eang o gyflogwyr, ac maent wedi'u cynllunio i fod yn hyblyg ochr yn ochr \u00e2'ch astudiaethau. Darganfyddwch ragor am y <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/your-future\/jobs-and-work-experience\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">cynlluniau gwahanol yr ydym yn eu cynnig<\/a> i fyfyrwyr benderfynu pa fath o brofiad sy\u2019n iawn iddynt.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>Os nad ydych yn teimlo\u2019n hyderus ynghylch sicrhau profiad gwaith neu gyflogaeth, efallai eich bod yn gymwys ar gyfer <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/your-future\/jobs-and-work-experience\/get-support-to-secure-work-experience\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Career Confident<\/a>, cynllun o fewn Dyfodol Myfyrwyr a all ddarparu cymorth a threfnu profiad gwaith i fyfyrwyr a\u2019r rheiny sydd newydd raddio.<\/div>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-work-experience-cy-2\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-work-experience-cy-2\">\n        <div>Mae interniaethau yn gyfnodau cystadleuol o brofiad gwaith sydd fel arfer yn cael eu cynnal dros yr haf ac sydd fel arfer yn cynnig t\u00e2l. Mae'n ddefnyddiol os ydych wedi cael profiad gwaith blaenorol i'ch helpu i greu argraff pan fyddwch yn gwneud cais am interniaeth. Gallwch ddarganfod rhagor am interniaethau ar wefan <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/work-experience-and-internships\/internships\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a>.<\/div>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-work-experience-cy-3\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-work-experience-cy-3\">\n        <div>Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gael profiad mewn maes neu sector penodol, gan hefyd wneud rhywbeth hynod o werthfawr ar gyfer achos pwysig. Nid yw gwirfoddolwyr yn cael eu talu fel rheol, ond fel arfer mae yna fwy o hyblygrwydd o ran yr ymrwymiad sy\u2019n ofynnol. Gall gwirfoddoli hefyd fod yn gyfle cyntaf gwych i gael profiad gwaith gan nad yw fel arfer yn ofynnol i chi feddu ar brofiad blaenorol. Gallwch ddarganfod rhagor am wirfoddoli ar wefan <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/work-experience-and-internships\/volunteering\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a>.<\/div>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-work-experience-cy-4\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-work-experience-cy-4\">\n        <div>Mae cysgodi yn ffordd ddefnyddiol o ddeall rhagor am sefydliad, sector neu fath o waith penodol. Nid ydych fel arfer yn cael profiad ymarferol; mae'n ymwneud mwy \u00e2 chael cipolwg ar yr hanfodion a meithrin gwell dealltwriaeth. Fel yn achos gwirfoddoli, gall fod yn gyfle cyntaf gwych i gael profiad gwaith gan nad yw profiad blaenorol yn ofynnol yn aml, fel arfer dim ond tystiolaeth bod gennych ddiddordeb yn y sefydliad, y sector neu'r swydd honno. Gallwch ddarganfod rhagor am gysgodi gwaith ar wefan <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/work-experience-and-internships\/work-shadowing\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a>.<\/div>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-work-experience-cy-5\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-work-experience-cy-5\">\n        <div>Peidiwch ag anghofio bod swydd ran-amser ochr yn ochr \u00e2'ch astudiaethau neu dros yr haf yn fath o brofiad gwaith lle byddwch wedi datblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig ac wedi meithrin ymwybyddiaeth fasnachol. Darllenwch ein cyngor ar <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/swyddi-a-phrofiad-jobs-and-experience\/swyddi-rhan-amser-part-time-jobs\/\" rel=\"noopener\">swyddi rhan-amser<\/a>.<\/div>\n<div><\/div>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-work-experience-cy-6\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-work-experience-cy-6\">\n        <div>Mae interniaethau ar y campws yn interniaethau haf \u00e2 th\u00e2l yn adrannau'r brifysgol ar gyfer myfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd. Mae yna wahanol fathau o interniaethau ar y campws y gall myfyrwyr eu cyflawni, yn cynnwys interniaethau mewn ymchwil, dysgu ac addysgu, arloesi ac effaith, a gwasanaethau proffesiynol.<\/div>\n<div><\/div>\n<div>Gall myfyrwyr presennol gael rhagor o wybodaeth am interniaethau ar y <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/your-future\/jobs-and-work-experience\/on-campus-internships\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Campws ar Fewnrwyd y Myfyrwyr<\/a>.<\/div>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-work-experience-cy-7\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-work-experience-cy-7\">\n        <div>Weithiau mae'n bosibl ymgymryd \u00e2 blwyddyn neu fodiwl lleoliad yn rhan o'ch cwrs, a fydd yn rhoi cipolwg i chi ar sefydliad penodol neu fath o waith sy'n berthnasol i'ch pwnc. Fel arfer, caiff eich profiad ar flwyddyn neu fodiwl lleoliad ei asesu ac mae hyn yn cyfrif tuag at eich gradd. Gall myfyrwyr ddewis ymgymryd \u00e2 blwyddyn neu fodiwl lleoliad pan fyddant yn gwneud cais am eu cwrs yn y lle cyntaf, ond weithiau mae'n bosibl ymgymryd \u00e2'r rhain wedi i chi ddechrau ar eich gradd. Siaradwch \u00e2'ch tiwtor personol a swyddfa'r ysgol i gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau.<\/div>\n\n        <\/div><\/div>\n        <\/div>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Dod o hyd i brofiad gwaith<\/h4>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-find-work-experience-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Cymorth a gynigir gan Dyfodol Myfyrwyr<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-find-work-experience-cy-1\"><p>Gall Dyfodol Myfyrwyr helpu myfyrwyr a graddedigion i ddod o hyd i brofiad gwaith. Mae'r t\u00eem Profiad Gwaith yn Dyfodol Myfyrwyr yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau a diwydiannau i sicrhau cyfleoedd sy\u2019n benodol i chi ac sy'n cael eu hysbysebu yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a>. Dysgwch ragor am y modd y gall y t\u00eem eich helpu i ddod o hyd i <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/your-future\/jobs-and-work-experience\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">brofiad gwaith ar fewnrwyd y myfyriwr<\/a>.<\/p>\n<p>Os nad oes gennych hyder ynghylch sicrhau profiad gwaith neu gyflogaeth, mae\u2019n bosibl eich bod yn gymwys ar gyfer <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/your-future\/jobs-and-work-experience\/get-support-to-secure-work-experience\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Career Confident<\/a>, sef cynllun yn Dyfodol Myfyrwyr a all drefnu profiad gwaith a chymorth cyflogadwyedd wedi'i deilwra i fyfyrwyr a graddedigion newydd.<br \/>\nGall myfyrwyr a graddedigion newydd gael rhagor o wybodaeth am y ddau d\u00eem drwy eu <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a>. Bydd rhaid i fyfyrwyr gofrestru fel <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/careers-and-learning\/careers\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">myfyriwr graddedig<\/a> trwy eu Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-find-work-experience-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Chwilio am interniaethau a hysbysebir ar-lein<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-find-work-experience-cy-2\"><p>Mae interniaethau, yn enwedig dros yr haf, yn cael eu hysbysebu ar-lein ar wefannau poblogaidd megis <a href=\"https:\/\/www.milkround.com\/jobs\/internships\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Milkround<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.ratemyplacement.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">RateMyPlacement<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.gradcracker.com\/search\/all-disciplines\/engineering-work-placements-internships\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gradcracker<\/a>. Mae interniaethau yn gystadleuol felly gofalwch eich bod yn gwneud cais yn gynnar \u2013 dechreuwch chwilio yn gynnar yn y flwyddyn academaidd a defnyddiwch ein cyngor ar ysgrifennu <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/\" rel=\"noopener\">CV, ceisiadau a chyfweliadau<\/a> i\u2019ch helpu.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-find-work-experience-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Defnyddio proffiliau swyddi Prospects i archwilio cyfleoedd sy'n berthnasol i'ch nodau chi o ran gyrfa<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-find-work-experience-cy-3\"><p>Mae gan y proffiliau swyddi ar wefan <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/job-profiles\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a>\u00a0gyngor defnyddiol iawn ar sut i gael profiad gwaith sy'n berthnasol i swyddi penodol, yn cynnwys cyfeiriadau at wefannau sy'n benodol i'r maes hwn. Mae hon yn ffordd wych o archwilio cyfleoedd a fydd yn cefnogi eich nodau o ran gyrfa, ac mae'n adnodd gwych os ydych yn gwybod beth yr ydych am ei wneud ar \u00f4l i chi raddio neu'n archwilio ychydig o rolau gwahanol.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-find-work-experience-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Gwneud cais gobeithiol<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-find-work-experience-cy-4\"><p>Gallwch greu eich cyfle eich hun o ran profiad gwaith trwy wneud cais gobeithiol. Cais gobeithiol yw pan fyddwch yn anfon CV (fel arfer ar y cyd \u00e2 llythyr eglurhaol) at gyflogwr yn gofyn a allwch ymgymryd \u00e2 phrofiad gwaith gydag ef, er nad yw'n hysbysebu ar hyn o bryd. Gall bod yn rhagweithiol greu argraff wirioneddol ar gyflogwyr, yn enwedig os yw eich llythyr eglurhaol wedi'i deilwra i'w sefydliad. Mae'n annhebygol y bydd dull gobeithiol yn gweithio mewn sefydliadau mwy, yn enwedig lle mae eu rolau'n gystadleuol iawn ac mae ganddynt broses recriwtio ffurfiol, ond gall fod yn ffordd dda o gael mynediad i fusnesau bach a chanolig (BBaCh).<\/p>\n<p>Wrth wneud cais gobeithiol, mae'n bwysig:<\/p>\n<ul>\n<li>Llunio rhestr o sefydliadau yr ydych am gysylltu \u00e2 nhw<\/li>\n<li>Byddwch yn benodol iawn ynghylch pam yr ydych yn anfon eich CV a'ch llythyr eglurhaol \u2013 cofiwch nad yw'r cyflogwr yn hysbysebu, felly nid oes ganddo unrhyw syniad pam yr ydych yn cysylltu na beth yr ydych yn gofyn amdano<\/li>\n<li>Byddwch yn agored a hyblyg \u2013 efallai na fydd y cyflogwr yn gallu cynnig interniaeth i chi er enghraifft, ond gallai gynnig cyfnod o gysgodi gwaith neu roi cyngor defnyddiol i chi ar gyfer y dyfodol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae gan <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/work-experience-and-internships\/how-to-ask-employers-for-work-experience\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> hefyd gyngor defnyddio ar sut i ofyn i gyflogwyr am brofiad gwaith.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-find-work-experience-cy-5\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Siarad \u00e2'ch rhwydwaith a ffrindiau a\u2019ch teulu<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-find-work-experience-cy-5\"><p>Os oes gennych bobl yn eich rhwydwaith presennol, gan gynnwys ffrindiau a theulu, sy'n gweithio mewn swyddi neu sectorau sydd o ddiddordeb i chi, peidiwch \u00e2 bod ofn gofyn iddynt a allant eich helpu i ddod o hyd i brofiad gwaith! Efallai y byddant yn gallu cynnig profiad gwaith i chi eu hunain neu eich rhoi mewn cysylltiad ag eraill yn eu rhwydwaith a allai helpu. Cofiwch gadw meddwl agored \u2013 hyd yn oed os na chewch gyfleoedd o ran profiad gwaith trwy eich rhwydwaith presennol, efallai y cewch gynnig mentor neu gyngor amhrisiadwy ar yrfaoedd!<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:<\/p>\n<ul>\n<li>Trefnwch apwyntiad yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> i drafod profiad gwaith<\/li>\n<li>Cyngor\u00a0<a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/internships\/when-apply-internship-and-more-careers-advice-students-wanting-work-experience\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a> i'ch helpu i benderfynu pa opsiwn profiad gwaith sydd orau i chi<\/li>\n<li>Cyngor gan\u00a0<a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/work-experience-and-internships\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> Brofiad Gwaith ac interniaethau<\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Darganfyddwch sut i gael profiad gwaith gwerthfawr i archwilio eich syniadau am yrfa a chreu argraff ar gyflogwyr yn y dyfodol. ","protected":false},"author":9375,"featured_media":2193,"parent":1195,"menu_order":4,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1261","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1261","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1261"}],"version-history":[{"count":16,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1261\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3341,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1261\/revisions\/3341"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1195"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2193"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1261"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1261"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1261"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}