{"id":1274,"date":"2023-09-14T11:57:57","date_gmt":"2023-09-14T10:57:57","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1274"},"modified":"2025-05-13T14:01:38","modified_gmt":"2025-05-13T13:01:38","slug":"cvs","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/cvs\/","title":{"rendered":"CVs"},"content":{"rendered":"<p>Mae CV (curriculum vitae) yn ddogfen tua 2 ochr A4 fel arfer. Defnyddir CV i wneud cais am swyddi, profiad gwaith a chyrsiau \u00f4l-raddedig, ac mae\u2019n amlinellu eich addysg, eich profiad gwaith a\u2019ch sgiliau. Rydym yn argymell eich bod yn meddwl am eich CV, nid yn unig fel trosolwg ffeithiol o&#8217;r hyn rydych wedi&#8217;i wneud, ond yn fwy fel offeryn marchnata gyda phwrpas clir &#8211; sef hyrwyddo eich addasrwydd ar gyfer y swydd benodol rydych wedi gwneud cais amdani. Felly, mae&#8217;n bwysig iawn eich bod yn treulio amser ac yn gwneud ymdrech wrth ysgrifennu eich CV, gan sicrhau ei fod wir yn dangos eich potensial a&#8217;i fod wedi&#8217;i deilwra&#8217;n briodol ar gyfer pob cyfle.<\/p>\n<p>Sylwch fod y cyngor ar y dudalen hon yn berthnasol i&#8217;r DU \u2013 mae confensiynau CV yn amrywio ledled y byd. Os ydych chi&#8217;n fyfyriwr cyfredol ym Mhrifysgol Caerdydd, gallwch gyrchu platfform <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/students\/search?collection=student-meta&amp;query=goinglobal\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">GoinGlobal<\/a> ar gyfer templedi CV ar gyfer gwahanol wledydd.<\/p>\n<h4>Mathau o CVs<\/h4>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-types-of-cv-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> CV cronolegol<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-types-of-cv-cy-1\"><p>Gellir dadlau mai CV cronolegol yw'r CV mwyaf traddodiadol a\u2019r un sy\u2019n cael ei ddefnyddio\u2019n fwyaf cyffredin. Yn syml, cyflwynir gwybodaeth mewn trefn gronolegol o chwith. Felly ym mhob adran, eich addysg, profiad gwaith, cyflawniadau ac ati diweddaraf sy'n dod yn gyntaf ac yna'r cynharaf yn olaf. Addysg sy\u2019n ymddangos gyntaf fel arfer, ac yna profiad, yna sgiliau a diddordebau.<\/p>\n<p>Mae'n well defnyddio CV cronolegol pan fydd gennych brofiad sy'n berthnasol i'r hyn rydych yn gwneud cais amdano neu pan fyddwch yn gwneud cais am r\u00f4l neu gyfle sydd yn yr un maes \u00e2 phwnc eich gradd.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/05\/Templed-CV-Cronolegol.docx\"><span class=\"badge badge--outline badge--lg badge-important\">CV Templed Cronolegol<\/span><\/a><\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-types-of-cv-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> CV am sgiliau<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-types-of-cv-cy-2\"><p>Mae CV am sgiliau yn debyg iawn i CV cronolegol, ond y gwahaniaeth allweddol yw ei fod yn canolbwyntio mwy ar eich sgiliau.<\/p>\n<p>Os ydych chi'n gwneud cais am r\u00f4l lle nad oes gennych chi brofiad perthnasol neu r\u00f4l sydd mewn maes gwahanol i'ch pwnc gradd, yna mae CV am sgiliau yn fwy addas i chi. Canolbwyntiwch ar ddangos tystiolaeth o\u2019r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer y r\u00f4l \u2013 o ganlyniad, bydd eich adran sgiliau yn hirach nag mewn CV cronolegol a bydd yn debygol o ymddangos cyn adrannau eraill.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/05\/Templed_CV_seiliedig_ar_sgiliau1.docx\"><span class=\"badge badge--outline badge--lg badge-important\">Templed CV seiliad ar sgiliau<\/span><\/a><\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-types-of-cv-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> CV creadigol<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-types-of-cv-cy-3\"><p>Mewn rhai diwydiannau, mae eich CV hefyd yn gyfle i dynnu sylw at eich creadigrwydd yn weledol, yn ogystal \u00e2'ch sgiliau digidol, dylunio a brandio.<\/p>\n<p>Mae CVs creadigol yn dod yn fwyfwy cyffredin ar gyfer y rolau canlynol:<\/p>\n<ul>\n<li>Y cyfryngau \u2013 gan gynnwys cynhyrchwyr, ysgrifenwyr sgript, gwneuthurwyr ffilmiau, ffotograffwyr a pheirianwyr<\/li>\n<li>Awduron cynnwys a newyddiadurwyr<\/li>\n<li>Hysbysebu digidol, cysylltiadau cyhoeddus, gwerthu a marchnata<\/li>\n<li>Pensaern\u00efaeth<\/li>\n<li>Rolau TG \u2013 gan gynnwys datblygu a dylunio gwe, pensaern\u00efaeth gwybodaeth, dylunio profiad defnyddiwr, datblygu rhyngwyneb gweithredu<\/li>\n<li>Arbenigwyr dillad \u2013 gan gynnwys steilyddion, technolegwyr dillad, gwerthwyr gweledol a gwerthwyr ffasiwn<\/li>\n<li>Dylunwyr \u2013 ffasiwn, tecstilau, 3D, dylunio mewnol<\/li>\n<li>Darlunwyr a bywddarlunwyr<\/li>\n<li>Artistiaid, gwneuthurwyr a pherfformwyr<\/li>\n<\/ul>\n<p>Ystyriwch pa mor briodol fyddai CV anhraddodiadol ar gyfer eich dewis sector a'r cyflogwr penodol rydych yn cyflwyno cais iddo. Gallai CV hynod weledol a chreadigol greu argraff ar gwmni darlunio neu asiantaeth hysbysebu ddigidol ond i\u2019r gwrthwyneb ar gyfer cwmni cyfreithiol!<\/p>\n<p>Defnyddiwch adnoddau fel <a href=\"https:\/\/cvparade.com\/category\/creative\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Parade<\/a>, <a href=\"https:\/\/weare.guru\/creative-cvs\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Guru<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.theguardian.com\/guardian-professional\/careers-blog\/gallery\/2015\/feb\/25\/the-worlds-most-creative-cvs-in-pictures?CMP=new_1194&amp;CMP=\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">The Guardian\u00a0<\/a> a\u2019r <a href=\"https:\/\/s3-eu-west-1.amazonaws.com\/potentially-cpd\/content\/cardiff\/assets\/bootcamp\/Creative_CV_Guide.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Creative CV Guide<\/a> i gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich CV creadigol.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-types-of-cv-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> CV Academaidd<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-types-of-cv-cy-4\"><p>Defnyddir CV academaidd i ymgeisio am swyddi yn y byd academaidd <strong>ar \u00f4l cwblhau<\/strong> PhD. Mae\u2019n debygol y bydd yn hirach na\u2019r CV a ddefnyddir i ymgeisio am y rhan fwyaf o swyddi eraill \u2013 mae hyd at 4 tudalen yn iawn ar gyfer CV academaidd, ond yn hollol anaddas ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi.<\/p>\n<p>Bydd CV academaidd yn rhoi mwy o bwyslais ar ymchwil, profiadau academaidd ac addysgu a gallai gynnwys adrannau ychwanegol fel profiad addysgu, profiad ymchwil, cyhoeddiadau, cynadleddau a chyllid, gwobrau ac ysgoloriaethau. Mae hefyd yn syniad da cynnwys eich geirdaon yn eich CV academaidd, yn enwedig gan eu bod yn debygol o fod yn gyd-academyddion yn eich dewis faes.<\/p>\n<p>Mae gan <a href=\"https:\/\/www.vitae.ac.uk\/researcher-careers\/pursuing-an-academic-career\/how-to-write-an-academic-cv\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Vitae<\/a> gyngor rhagorol ar greu CVs academaidd.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-types-of-cv-cy-5\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> CVs fideo<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-types-of-cv-cy-5\"><p>Er mwyn sefyll allan, gallwch ddewis cyflwyno CV fideo ochr yn ochr \u00e2'ch cais wrth ymgeisio am r\u00f4l. Mae'n fideo byr sy'n amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y swydd, gan ddangos eich personoliaeth i'r cyflogwr hefyd.<\/p>\n<p>Yn yr un modd \u00e2 CVs creadigol, dylech ystyried pa mor briodol yw'r math hwn o CV ar gyfer y math o r\u00f4l rydych yn gwneud cais amdani. Bydd yn fwy addas ar gyfer rolau creadigol sy'n ymwneud yn uniongyrchol \u00e2 chwsmeriaid er enghraifft.<\/p>\n<p>Darllenwch gyngor Prospects ac Indeed ar greu CV fideo.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n<h4>Beth i\u2019w gynnwys yn eich CV<\/h4>\n<p>Gwyliwch y fideo isod am ganllaw manwl ar beth i&#8217;w gynnwys yn eich CV:<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Mewnwelediadau Dyfodol Myfyrwyr: Ysgrifennu CV nodedig\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/jkbSMIdetDI?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>I grynhoi, mae eich CV yn debygol o gynnwys yr wybodaeth ganlynol:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Manylion personol<\/strong> &#8211; rhowch eich enw, eich rhif ff\u00f4n a\u2019ch cyfeiriad e-bost. Efallai y byddwch hefyd am gynnwys dolen i&#8217;ch proffil LinkedIn neu broffiliau ar-lein perthnasol eraill sy&#8217;n tynnu sylw at eich sgiliau a&#8217;ch gwaith. Nid oes rhaid i chi gynnwys eich cyfeiriad, eich dyddiad geni na\u2019ch llun<\/li>\n<li><strong>Addysg<\/strong> \u2013 cynhwyswch fanylion eich TGAU (neu gyfwerth), eich Safon Uwch (neu gyfwerth) a\u2019ch gradd gyfredol. Ar gyfer cymwysterau a enillwyd y tu allan i&#8217;r DU, gall fod yn ddefnyddiol nodi yn eich CV y cymhwyster yn y DU y mae&#8217;n gyfwerth ag ef<\/li>\n<li><strong>Gwaith a phrofiad gwaith<\/strong> \u2013 rhowch fanylion unrhyw swyddi a phrofiad gwaith rydych wedi&#8217;u gwneud neu&#8217;n eu gwneud ar hyn o bryd. Tynnwch sylw at yr hyn rydych wedi\u2019i gyflawni, yn ogystal \u00e2 dyletswyddau a chyfrifoldebau<\/li>\n<li><strong>Sgiliau<\/strong> \u2013 rhowch enghreifftiau o ble rydych wedi datblygu\u2019r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y r\u00f4l benodol. Defnyddiwch y disgrifiad o\u2019r r\u00f4l i&#8217;ch helpu i wneud hyn<\/li>\n<li><strong>Diddordebau<\/strong> \u2013 mae cyflogwyr yn awyddus i ddeall pwy ydych chi y tu allan i\u2019r gwaith. Felly cynhwyswch enghreifftiau o hob\u00efau a diddordebau, ac eglurwch sut mae\u2019r rhain wedi eich helpu i ddatblygu rhinweddau a sgiliau sy\u2019n berthnasol i\u2019r r\u00f4l a\u2019r cyflogwr<\/li>\n<li><strong>Geirdaon<\/strong> \u2013 mae\u2019n gyffredin nodi \u2018Geirdaon ar gael ar gais\u2019 ar waelod eich CV, ond efallai y byddwch yn dewis darparu manylion y sawl sy\u2019n rhoi geirda i chi (enw, teitl swydd a gwybodaeth gyswllt) os ydynt yn amlwg yn eich maes (gyda\u2019u caniat\u00e2d wrth gwrs!)<\/li>\n<\/ul>\n<h4>Awgrymiadau ardderchog ar gyfer creu eich CV<\/h4>\n<p>Cofiwch yr acronym <strong>TEC<\/strong> i greu CV effeithiol:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>T &#8211; <\/strong><em>Teilwra<\/em> eich CV<\/li>\n<li><strong>E &#8211; <\/strong><em>Edrychiad<\/em> &#8211; fformatiwch eich CV yn effeithiol<\/li>\n<li><strong>C &#8211; <\/strong><em>Cryno<\/em> &#8211; defnyddiwch iaith gryno<\/li>\n<\/ul>\n<p>Cewch ragor o wybodaeth am hyn isod:<\/p>\n\n        <div class=\"cu_tabs\">\n               \n        <ul class=\"nav nav-tabs\" role=\"tablist\">\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link active\" href=\"#content-top-tips-for-creating-your-cv-tlc-cy-1\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"top-tips-for-creating-your-cv-tlc-cy-1\">Teilwra eich CV<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-top-tips-for-creating-your-cv-tlc-cy-2\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"top-tips-for-creating-your-cv-tlc-cy-2\">Gwnewch yn si\u0175r ei fod yn edrych yn effeithiol<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-top-tips-for-creating-your-cv-tlc-cy-3\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"top-tips-for-creating-your-cv-tlc-cy-3\">Ysgrifennwch yn gryno<\/a><\/li><\/ul> <div class=\"tab-content\">\n        <div class=\"tab-pane active\" id=\"content-top-tips-for-creating-your-cv-tlc-cy-1\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"top-tips-for-creating-your-cv-tlc-cy-1\">\n        <p>Er ein bod yn awgrymu datblygu templed meistr o'ch CV yn gynnar yn eich gradd, dylech bob amser ei deilwra i'r swydd benodol rydych wedi gwneud cais amdani. Bydd cyflogwr yn adolygu eich CV gan ystyried ei ofynion penodol, felly gwnewch hi'n hawdd iddo weld bod gennych chi'r sgiliau, y profiad a\u2019r cymwysterau mae'n chwilio amdanynt. Gall recriwtwyr profiadol sylwi ar CV cyffredinol heb ei deilwra\u2019n hawdd. Felly gwnewch yn si\u0175r eich bod yn rhoi\u2019r amser a\u2019r sylw y mae\u2019n ei haeddu os ydych am symud ymlaen i gam nesaf y recriwtio.<\/p>\n<p>Gallwch wneud hyn trwy:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Yr iaith a\u2019r geiriau a ddefnyddiwch<\/strong> \u2013 cynhwyswch y geiriau a ddefnyddir yn y disgrifiad o\u2019r r\u00f4l<\/li>\n<li><strong>Sut rydych chi'n cyflwyno gwybodaeth<\/strong> \u2013 cyflwynwch eich CV yn nhrefn pwysigrwydd a gwnewch yn si\u0175r bod cyflogwr yn gweld profiadau perthnasol yn gyntaf<\/li>\n<li><strong>Cynnwys proffil personol<\/strong> \u2013 dylai eich proffil personol fod yn grynodeb sy\u2019n canolbwyntio\u2019n benodol ar amlygu sut rydych chi\u2019n addas ar gyfer y r\u00f4l a mynegi nod (neu nodau) gyrfa clir sy\u2019n cyd-fynd \u00e2\u2019r r\u00f4l<\/li>\n<li><strong>Sgiliau<\/strong> \u2013 rhowch enghreifftiau clir o ble rydych wedi dangos y sgiliau penodol y mae\u2019r cyflogwr yn chwilio amdanynt mewn adran Sgiliau<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae rhai cyflogwyr hefyd yn defnyddio Meddalwedd Olrhain Ymgeiswyr (ATS), sef meddalwedd electronig sy'n sganio'ch CV, fel arfer ochr yn ochr \u00e2 gofynion y swydd. Bydd yn canfod pa mor addas ydych chi ar gyfer y r\u00f4l, yn seiliedig ar yr wybodaeth a gyflwynir yn eich CV. Mae\u2019n bwysig iawn bod eich CV wedi\u2019i deilwra\u2019n dda i\u2019r r\u00f4l, boed y sawl sy\u2019n recriwtio\u2019n berson go iawn neu\u2019n system ATS.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-top-tips-for-creating-your-cv-tlc-cy-2\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"top-tips-for-creating-your-cv-tlc-cy-2\">\n        <p>Dylai eich CV fod yn hawdd i gyflogwr ei sganio'n gyflym oherwydd efallai mai dim ond ychydig eiliadau fydd gennych i greu argraff dda. Mae CV sydd wedi\u2019i osod yn glir ac yn effeithiol yn ei gwneud hi'n hawdd i'r cyflogwr ddarllen a phrosesu'r wybodaeth fwyaf perthnasol.<\/p>\n<ul>\n<li>Anelwch at <strong>2 ochr A4<\/strong>, a dim mwy na hynny (oni bai eich bod yn defnyddio CV academaidd). Gallech ddefnyddio 1 ochr A4 os yw cyflogwr yn gofyn am hynny neu os nad oes gennych lawer o brofiad eto<\/li>\n<li>Defnyddiwch dempled clir, fel un o'r rhai rydym wedi'u cynnwys isod. Mae fformat syml yn well, oni bai eich bod yn gwneud cais mewn diwydiant lle mae eich templed CV yn gyfle i arddangos sgiliau dylunio (gweler ein cyngor ar CVs creadigol uchod). Wrth ddefnyddio templed, gwnewch yn si\u0175r eich bod chi'n personoli'r holl wybodaeth<\/li>\n<li>Defnyddiwch ffont syml ac anelwch at faint ffont o ddim mwy nag 11<\/li>\n<li>Osgowch ddefnyddio tablau \u2013 maent yn anodd eu dilyn ac mae\u2019n anodd i systemau ATS eu prosesu<\/li>\n<li>Defnyddiwch bwyntiau bwled i dorri brawddegau, fel nad oes gan gyflogwyr baragraffau hir o destun i'w darllen<\/li>\n<\/ul>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-top-tips-for-creating-your-cv-tlc-cy-3\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"top-tips-for-creating-your-cv-tlc-cy-3\">\n        <p>Defnyddiwch iaith gadarnhaol a gweithredol i arbed lle ac amlygu beth rydych wedi\u2019i gyflawni a pha effaith rydych wedi\u2019i chael. Gwnewch hyn trwy ddechrau brawddegau gyda berfau (fel datblygu, dadansoddi, creu, adrodd, ymchwilio, gweithredu, newid, cyflawni).<\/p>\n<p>Mae\u2019n gyffredin ysgrifennu eich CV heb unrhyw <strong>ragenwau personol<\/strong> \u2013 er enghraifft, yn lle dweud \u2018Datblygais fy sgiliau ymchwil trwy gynnal adolygiad llenyddiaeth trylwyr\u2019, gallech ysgrifennu \u2018Datblygu sgiliau ymchwil rhagorol trwy gynnal adolygiad llenyddiaeth trylwyr\u2019.<\/p>\n<p>Fel gyda phob cais, gwnewch yn si\u0175r nad oes gan eich CV unrhyw gamgymeriadau sillafu na gramadeg!<\/p>\n\n        <\/div><\/div>\n        <\/div>\n<p>Gwyliwch ein fideo isod i glywed cyngor gan gyflogwyr am y CV cyffredin a chamgymeriadau llythyr eglurhaol i&#8217;w hosgoi:<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Mewnwelediadau Cyflogwyr Dyfodol Myfyrwyr: Camgymeriadau CV Cyffredin\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/7x3M2NHTw_g?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<h4>Enghreifftiau CV<\/h4>\n<p>Defnyddiwch y enghreifftiau CV a\u2019r\u00a0 isod i gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich CV, ond cofiwch mai eich dogfen chi yw eich CV!<\/p>\n<p><strong>Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a&#8217;r Gwyddorau Cymdeithasol<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/CV-Busnes-Adnoddau-Dynol-AD.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Busnes &#8211; Adnoddau Dynol (AD)<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/CV-Daearyddiaeth-a-Chynllunio.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Daearyddiaeth a Chynllunio<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/CV-Gwleidyddiaeth-Polisi.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Gwleidyddiaeth &#8211; Polisi<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/12\/CV-Gwyddorau-Cymdeithasol-Ymgysylltu-a-datblygu-cymunedol-.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Gwyddorau Cymdeithasol &#8211; Ymgysylltu a datblygu cymunedol<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/12\/CV-Ieithoedd-Modern-Ol-raddedig-Cyfieithu.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Ieithoedd Modern (\u00d4l-raddedig) &#8211; Cyfieithu<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/12\/Llenyddiaeth-Saesneg-Cyhoeddi-CV.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Llenyddiaeth Saesneg &#8211; Cyhoeddi\u00a0<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2025\/05\/CV-Newyddiaduraeth-a-Chyfathrebu.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Newyddiaduraeth a Chyfathrebu<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/CV-MA-Hanes.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV MA Hanes<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/CV-Rheoli-Busnes.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Rhoeli Busnes<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/CV-y-Gyfraith.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV y Gyfraith<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/CV-Biowyddorau-Ecoleg-a-chadwraeth.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Biowyddorau &#8211; Ecoleg a chadwraeth<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2025\/05\/CV-Ffisiotherapi.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Ffisiotherapi<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2025\/05\/CV-Gwyddorau-Bywyd.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Gwyddorau Bywyd<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2025\/05\/CV-Optometreg.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Optometreg<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2025\/05\/CV-Seicoleg-\u2013-Gwaith-fforensig.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV\u00a0 Seicoleg \u2013 Gwaith fforensig<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2025\/05\/CV-Seicoleg-\u2013-Lleoliad-Seicoleg-Glinigol.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Seicoleg \u2013 Lleoliad Seicoleg Glinigol<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/CV-Cemeg-Lleoliad-diwydiannol.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Cemeg &#8211; Lleoliad diwydiannol<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/CV-Cemeg-Ymgysylltu-ar-cyhoedd-.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Cemeg &#8211; Ymgysylltu \u00e2&#8217;r cyhoedd<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/CV-Cyfrifiadureg-1-tudalen.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Cyfrifiadureg &#8211; 1 tudalen<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2025\/05\/CV-Ffiseg.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Ffiseg<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/CV-Mathemateg.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Mathemateg<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/CV-Peirianneg-Blwyddyn-gyntaf-.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Peirianneg &#8211; Blwyddyn gyntaf<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2025\/05\/CV-Peirianneg-\u2013-Blwyddyn-olaf.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV Peirianneg \u2013 Blwyddyn olaf<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/CV-y-Ddear.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV y Ddear<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Cael adborth ar eich CV<\/h4>\n<ul>\n<li>Defnyddiwch ein gwiriwr <a href=\"https:\/\/careerset.com\/cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV ar-lein<\/a> i gael adborth ar eich CV os ydych chi\u2019n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd neu wedi graddio o Brifysgol Caerdydd yn ddiweddar<\/li>\n<li>Trefnwch apwyntiad gyrfaoedd trwy eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> i gael adborth ar eich CV<\/li>\n<\/ul>\n<h4>Cwestiynau Cyffredin am CV<\/h4>\n<p><div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-cv-faqs-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Beth os nad oes gennyf lawer o brofiad i'w gynnwys yn fy CV?<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-cv-faqs-cy-1\"><p>Peidiwch \u00e2 phoeni! Mae hyn yn gyffredin, yn enwedig os ydych ar ddechrau eich gradd. Cofiwch fod y brifysgol yn amser gwych i gael profiadau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau pwysig, yn ogystal \u00e2 datblygu eich CV.<\/p>\n<p>Mae hefyd yn hanfodol ar gyfer rolau cystadleuol, fel interniaethau a swyddi i raddedigion. Darllenwch ein cyngor ar sut i <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/\" rel=\"noopener\">ddatblygu sgiliau <\/a>pan fyddwch yn y brifysgol, yn ogystal \u00e2 sut mae cael <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/swyddi-a-phrofiad-jobs-and-experience\/cael-profiad-gwaith-getting-work-experience\/\" rel=\"noopener\">profiad gwaith<\/a>, ac ystyriwch ymuno \u00e2 <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/students\/your-future\/the-cardiff-award\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gwobr Caerdydd<\/a> i wella eich cyflogadwyedd.<\/p>\n<p>Yn y cyfamser, ystyriwch ddefnyddio CV am sgiliau, lle gallwch ymhelaethu ar y sgiliau rydych wedi\u2019u hennill trwy eich gradd a\u2019ch diddordebau, tra byddwch yn cael rhagor o brofiad.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-cv-faqs-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Sut mae delio \u00e2 bylchau yn fy CV?<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-cv-faqs-cy-2\"><p>Mae'n bwysig peidio \u00e2 gadael unrhyw beth yn amwys yn eich CV - gwnewch yn si\u0175r nad oes bylchau neu fod unrhyw fylchau'n cael eu hegluro a hynny mewn ffordd mor gadarnhaol \u00e2 phosibl. Peidiwch \u00e2 phoeni am wyliau haf a chyfnodau bach o amser rhwng gwahanol gyrsiau addysg, er enghraifft, rhwng gorffen eich cwrs Safon Uwch a dechrau eich gradd prifysgol - nid yw'r rhain yn cael eu hystyried yn fylchau! Mae gennym <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cefnogaeth-wedii-theilwra-tailored-support\/cyngor-i-fyfyrwyr-ag-anabledd-neu-niwroddargyfeiriad\/\">gyngor ychwanegol am hyn os oes gennych fwlch yn eich CV oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd<\/a>.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-cv-faqs-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Sut gallaf deilwra fy CV os nad oes llawer o wybodaeth yn yr hysbyseb swydd?<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-cv-faqs-cy-3\"><p>Weithiau nid ydych chi'n cael llawer o wybodaeth am r\u00f4l i'ch helpu i deilwra'ch CV. Defnyddiwch y proffiliau swydd ar wefannau fel<a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/job-profiles\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"> Prospects<\/a> a <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/job-descriptions\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a> i gael syniad am y sgiliau sydd eu hangen yn aml ar gyfer y r\u00f4l honno. Gallech hefyd chwilio am rolau tebyg ar wefannau swyddi a gweld beth mae hysbysebion eraill yn ei ddweud am yr hyn sydd ei angen.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div><br \/>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:<\/p>\n<ul>\n<li>Cyngor gan <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/cvs-and-cover-letters\/how-to-write-a-cv\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> ar sut mae ysgrifennu CV\u00a0 a sut mae<a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/cvs-and-cover-letters\/writing-a-personal-statement-for-your-cv\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"> ysgrifennu proffil personol effeithiol<\/a> ar frig eich CV<\/li>\n<li>Canllaw manwl <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/cvs-applications-and-tests\/big-guide-cv-writing-make-our-template-your-own\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a> ar greu CV<\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Creu CV effeithiol sydd wedi'i deilwra, wedi'i strwythuro ac sy\u2019n berthnasol. ","protected":false},"author":9375,"featured_media":2265,"parent":1199,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1274","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1274","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1274"}],"version-history":[{"count":46,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1274\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3493,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1274\/revisions\/3493"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1199"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2265"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1274"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1274"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1274"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}