{"id":1278,"date":"2024-02-02T17:57:01","date_gmt":"2024-02-02T17:57:01","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1278"},"modified":"2024-07-31T14:29:49","modified_gmt":"2024-07-31T13:29:49","slug":"canolfannau-asesu","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/canolfannau-asesu\/","title":{"rendered":"Canolfannau asesu"},"content":{"rendered":"<p>Mae canolfannau asesu fel arfer yn un o gamau olaf proses recriwtio ac yn cael eu defnyddio amlaf gan gyflogwyr graddedigion mawr wrth recriwtio ar gyfer eu cynlluniau graddedigion hynod gystadleuol. Fel arfer fe\u2019u cynhelir dros hanner diwrnod, diwrnod neu weithiau hyd yn oed sawl diwrnod, ac maent yn gyfle i gyflogwyr eich asesu mewn amrywiaeth eang o senarios a thasgau. Byddant yn gwerthuso pa mor dda rydych yn arddangos y cymwyseddau, y sgiliau a&#8217;r agweddau craidd maent yn chwilio amdanynt.<\/p>\n<p>Mae myfyrwyr a graddedigion yn aml yn gweld canolfan asesu fel un o agweddau mwyaf brawychus y broses recriwtio. Yn sicr, gall fod yn un o&#8217;r rhai mwyaf heriol, ond mae&#8217;n gyfle euraidd i adael i&#8217;r recriwtiwr eich gweld yn arddangos yr hyn y mae&#8217;n chwilio amdano! Mae gennych chi hefyd amryw o dasgau a senarios i fynd i\u2019r afael \u00e2 nhw, felly os nad yw un yn mynd cystal ag yr oeddech chi&#8217;n gobeithio, mae gennych chi gyfle i wneud iawn amdano yn yr un nesaf. Trwy ymarfer a pharatoi\u2019n briodol, byddwch yn gallu gwybod beth i&#8217;w ddisgwyl mewn canolfan asesu a beth yw&#8217;r ffordd orau i sefyll allan.<\/p>\n<h4>Beth i\u2019w ddisgwyl<\/h4>\n<p>Mae canolfan asesu fel arfer yn cynnwys cymysgedd o dasgau gr\u0175p ac unigol, yn ogystal ag amrywiaeth o sefyllfaoedd i weld sut rydych chi&#8217;n rhyngweithio mewn gwahanol senarios a gydag eraill. Bydd cyflogwyr yn gwerthuso sut rydych yn dangos arweinyddiaeth, gwaith t\u00eem, sgiliau cyfathrebu, datrys problemau a hyblygrwydd. Mae\u2019r rhain yn <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/yr-hyn-y-mae-cyflogwyr-yn-chwilio-amdano\/\">sgiliau cyffredin y mae recriwtwyr graddedigion yn chwilio amdanynt<\/a> mewn ymgeiswyr. Gwnewch yn si\u0175r eich bod hefyd wedi gwneud eich gwaith ymchwil i&#8217;r sgiliau, y cymwyseddau a&#8217;r gwerthoedd sy&#8217;n bwysig i&#8217;r cyflogwr ac sy&#8217;n berthnasol i&#8217;r r\u00f4l rydych yn ymgeisio amdani.<\/p>\n<p>Isod mae ymarferion a senarios sy&#8217;n gyffredin mewn canolfannau asesu. Gallwch ymarfer nifer o\u2019r rhain ar blatfform <a href=\"https:\/\/www.graduatesfirst.com\/university-career-services\/cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Graduates Firs<\/a>t, a gallwch gael mynediad am ddim iddo fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.<br \/>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ymarferion gr\u0175p<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-1\"><p>Efallai y bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn trafodaeth gr\u0175p neu ddadl, cwblhau tasg gr\u0175p (un sy\u2019n berthnasol i'r r\u00f4l fel arfer) neu hyd yn oed chwarae r\u00f4l mewn gr\u0175p lle rhoddir r\u00f4l benodol i chi. Bydd aseswyr yn arsylwi gallu ymgeiswyr i gymryd rhan a chyfrannu, cyflwyno dadleuon rhesymegol, cyfathrebu'n effeithiol, gwrando ar eraill, cyd-drafod a chydweithio.<\/p>\n<p>Mewn ymarferion gr\u0175p, mae'n bwysig:<\/p>\n<ul>\n<li>Cael dealltwriaeth glir o'r wybodaeth neu'r briff a'r hyn sydd ei angen<\/li>\n<li>Gosod nodau a blaenoriaethau clir \u2013 efallai y byddwch yn ystyried pennu rolau os nad yw hyn wedi bod yn rhan o\u2019r briff yn barod<\/li>\n<li>Bod yn bendant ond hefyd yn barod i gyfaddawdu \u2013 mae hyn yn dangos eich gallu i gynhyrchu syniadau ond hefyd bod gennych feddwl agored<\/li>\n<li>Gweithio gyda\u2019r gr\u0175p \u2013 mae eich gallu i gydweithio ag eraill yn hanfodol ar gyfer y gweithle! Gwneud cyfraniadau cadarnhaol ond annog cyfraniadau gan bobl eraill a gwrando ar syniadau pobl eraill. Peidio \u00e2 siarad dros bobl eraill na thorri ar eu traws, a cheisio osgoi gadael i'r un peth ddigwydd i chi<\/li>\n<li>Cadw llygad ar yr amser i sicrhau bod y t\u00eem yn parhau i ganolbwyntio<\/li>\n<\/ul>\n<p>Darllenwch gyngor <a href=\"https:\/\/www.brightnetwork.co.uk\/graduate-career-advice\/assessment-centre-advice\/succeed-group-exercise\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Bright Network<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.assessmentday.co.uk\/group-exercise.htm\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Assessment Day<\/a> ar sut i wneud yn dda mewn ymarferion gr\u0175p.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Profion seicometrig<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-2\"><p>Mae profion seicometrig yn aml yn ymddangos yn gynharach yn y broses recriwtio ar gyfer rolau graddedigion cystadleuol iawn. Fodd bynnag, efallai y gofynnir i chi gwblhau un fel rhan o ganolfan asesu, neu hyd yn oed ailsefyll prawf seicometrig rydych wedi\u2019i wneud yn flaenorol. Gallwch ddarllen ein cyngor ar <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/profion-seicometrig\/\" rel=\"noopener\">brofion seicometrig<\/a> i gael rhagor o wybodaeth am beth i\u2019w ddisgwyl a sut mae paratoi.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Cyflwyniad<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-3\"><p>Efallai y gofynnir i chi roi cyflwyniad ar bwnc penodol \u2013 gallech gael gwybod am hyn ymlaen llaw neu gallech gael cyfnod penodol o amser i baratoi yn y ganolfan asesu ei hun. Wrth roi cyflwyniad, yn enwedig pan nad ydych wedi cael gwybod amdano ymlaen llaw, mae aseswyr yn chwilio am sgiliau rheoli amser cadarn, sgiliau cyfathrebu rhagorol a'ch gallu i weithio'n dda a chyflwyno syniadau clir dan bwysau.<\/p>\n<p>Wrth feddwl am eich cyflwyniad, ystyriwch gynnwys, strwythur a chyflwyniad:<\/p>\n<p><strong>Cynnwys<\/strong> - Beth yw pwrpas y cyflwyniad a phwy yw\u2019r gynulleidfa? Ymchwiliwch i'r pwnc a nodwch y pwyntiau a materion allweddol \u2013 beth yw eich barn ar y rhain? Blaenoriaethwch beth i'w gynnwys yn seiliedig ar bwysigrwydd a'r terfyn amser a osodwyd i chi.<\/p>\n<p><strong>Strwythur<\/strong> - Gall hyd yn oed y cynnwys gorau fynd ar goll os nad oes strwythur clir i\u2019ch cyflwyniad! Mae angen i'ch cyflwyniad fod yn rhesymegol ac yn hawdd ei ddilyn. Nodwch eich dadleuon a'ch casgliadau allweddol a sicrhewch fod eich cyflwyniad yn ymdrin \u00e2'r rhain.<\/p>\n<p>Dilynwch y strwythur defnyddiol hwn fel canllaw:<\/p>\n<ol>\n<li>Croeso, cyflwyniad ac amlinelliad \u2013 cyflwynwch eich hun a\u2019r cyflwyniad, eglurwch ddiben, fformat ac amlinelliad o\u2019ch cyflwyniad.<\/li>\n<li>Cyflwyno\u2019r pwnc \u2013 beth sydd angen i'r gynulleidfa ei wybod?<\/li>\n<li>Prif gorff \u2013 gwnewch bwyntiau clir, rhesymegol.<\/li>\n<li>Crynhoi a gwahodd cwestiynau.<\/li>\n<\/ol>\n<p><strong>Cyflwyniad<\/strong> - Mae'n gwbl normal teimlo'n nerfus wrth roi cyflwyniad ond bydd sgiliau cyflwyno effeithiol yn gwneud i chi ragori ar ymgeiswyr eraill ac ennyn diddordeb y gynulleidfa! Darllenwch yr awgrymiadau defnyddiol hyn gan <a href=\"https:\/\/www.coursera.org\/articles\/presentation-skills\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Coursera<\/a> ac <a href=\"https:\/\/uk.indeed.com\/career-advice\/career-development\/presentation-skills\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Indeed<\/a> fel canllaw.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Cyfweliad<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-4\"><p>Mae cyfweliad yn dasg gyffredin mewn canolfan asesu. Fel gydag unrhyw gyfweliad, bydd aseswyr yn chwilio am dystiolaeth eich bod yn gallu gwneud y r\u00f4l, bod gennych ddiddordeb yn y gwaith ac y byddwch yn cyd-dynnu ac yn cydweithio'n dda \u00e2 chydweithwyr yn eu gweithle. Gallwch ddarllen ein <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/cyfweliadau\/\" rel=\"noopener\">cyngor ar gyfweliadau<\/a> i gael rhagor o wybodaeth am beth i\u2019w ddisgwyl a sut mae paratoi.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-5\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ymarferion mewnfasged ac e-fasged<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-5\"><p>Mae ymarferion mewnfasged ac e-fasged yn efelychu senario gwaith tebyg trwy roi amryw o bwysau a gofynion ar eich amser. Mae'r ddau ymarfer yn cyflwyno tasgau, negeseuon e-bost neu ddogfennau i chi eu didoli, eu blaenoriaethu ac ymateb iddynt. Yn syml, mae ymarfer e-fasged yn fersiwn ddigidol o ymarfer mewnfasged \u2013 fel arfer bydd ymarfer e-fasged yn efelychu blwch derbyn e-bost, tra bydd ymarfer mewnfasged ar bapur.<\/p>\n<p>Darllenwch yr holl wybodaeth a roddwyd i chi yn ofalus fel eich bod yn deall y cyfarwyddiadau a beth sydd angen i chi ei wneud. Mae'r ymarferion hyn yn profi amrywiaeth eang o sgiliau, o reoli amser i'ch sgiliau dadansoddi a datrys problemau (er enghraifft, efallai y bydd angen i chi flaenoriaethu terfyn amser neu gwblhau tasgau penodol cyn y gallwch ddechrau ar rai eraill), yn ogystal \u00e2'ch proffesiynoldeb a'ch cwrteisi negeseuon e-bost.<\/p>\n<p>Mae gan <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/interviews-and-assessment-centres\/what-are-tray-exercises\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.assessmentday.com\/e-tray-exercise.htm\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Assessment Day<\/a> gyngor defnyddiol ar sut mae mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r ymarferion hyn.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-6\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Astudiaethau achos<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-6\"><p>Gallech gael ymarfer astudiaeth achos, lle mae angen i chi naill ai adrodd ar broblem neu sefyllfa neu gyflwyno eich argymhellion i broblem neu sefyllfa a fyddai\u2019n ailadrodd un a wynebir gan weithwyr proffesiynol sy\u2019n gweithio yn y r\u00f4l rydych yn ymgeisio amdani. Mae astudiaethau achos fel arfer yn profi eich sgiliau datrys problemau a dadansoddi, yn ogystal \u00e2'ch ymwybyddiaeth fasnachol.<\/p>\n<p>Mae'n debygol y cyflwynir ystod o ddeunyddiau cefndir i chi weithio trwyddynt, efallai straeon newyddion, adroddiadau busnes neu ffigurau gwerthu. Mae aseswyr yn edrych ar ba mor dda rydych yn prosesu ac yn dadansoddi'r wybodaeth a roddwyd i chi, yn deall y broblem a gyflwynwyd i chi, yn nodi beth yw'r materion allweddol ac yna'n cyfiawnhau eich argymhellion.<\/p>\n<p>Darllenwch gyngor <a href=\"https:\/\/www.assessmentday.com\/case-study-exercise.htm\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Assessment Day<\/a> a <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/interviews-and-assessment-centres\/coping-case-studies-graduate-jobs\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a> ar ymarferion astudiaethau achos.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-7\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Chwarae r\u00f4l<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-what-to-expect-at-assessment-centres-cy-7\"><p>Mewn senario chwarae r\u00f4l, mae'n ofynnol i chi actio senario, fel arfer trwy ail-greu sefyllfa anodd fel cwyn cwsmer, cleient anodd neu'n esbonio gwybodaeth dechnegol. Peidiwch \u00e2 phoeni, nid yw ymarfer chwarae r\u00f4l yn profi eich sgiliau actio! Mae'n asesu sut byddech yn archwilio ac yn mynd i'r afael \u00e2 sefyllfa anodd fel hon yn y gweithle. Serch hynny, po fwyaf y gallwch chi fynd i gymeriad ac ymgolli yn y sefyllfa, po fwyaf y byddwch yn ymlacio ac y bydd yn teimlo\u2019n naturiol i chi.<\/p>\n<p>Cyn i chi ddechrau, gwnewch yn si\u0175r eich bod wedi darllen y briff yn ofalus a\u2019ch bod yn deall beth mae'r senario yn ei olygu. Cychwynnwch gyda chwestiynau agored i gael rhagor o wybodaeth. Meddyliwch am yr hyn y mae angen i chi ei wybod i symud y senario yn ei flaen \u2013 er enghraifft, gyda ch\u0175yn gan gwsmer, beth yw\u2019r g\u0175yn a sut cododd y mater? Byddwch yn ymwybodol o'ch t\u00f4n a'ch sgiliau rhyngbersonol \u2013 os oeddech yn delio \u00e2 ch\u0175yn gan gwsmer, efallai y bydd angen i chi fod yn ymddiheuro a bod yn empathetig gan hefyd symud i fod yn fwy pendant, yn enwedig os yw'r cwsmer yn troi\u2019n anodd neu'n anghwrtais. Defnyddiwch yr hyn rydych chi'n ei wybod am y cyflogwr a'i werthoedd i'ch helpu i ystyried sut gallai fynd i'r afael \u00e2'r sefyllfa yn ei weithle.<\/p>\n<p>Mae gan <a href=\"https:\/\/www.assessmentday.com\/role-play-exercise.htm\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Assessment Day<\/a> gyngor defnyddiol ar ymarferion chwarae r\u00f4l mewn canolfannau asesu.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div><\/p>\n<h3>Awgrymiadau ardderchog ar gyfer canolfannau asesu<\/h3>\n\n        <div class=\"cu_tabs\">\n               \n        <ul class=\"nav nav-tabs\" role=\"tablist\">\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link active\" href=\"#content-top-tips-for-assessment-centres-cy-1\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"top-tips-for-assessment-centres-cy-1\">Cyn mynd i\u2019r ganolfan asesu<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-top-tips-for-assessment-centres-cy-2\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"top-tips-for-assessment-centres-cy-2\">Yn y ganolfan asesu<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-top-tips-for-assessment-centres-cy-3\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"top-tips-for-assessment-centres-cy-3\">Ar \u00f4l bod yn y ganolfan asesu<\/a><\/li><\/ul> <div class=\"tab-content\">\n        <div class=\"tab-pane active\" id=\"content-top-tips-for-assessment-centres-cy-1\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"top-tips-for-assessment-centres-cy-1\">\n        <ul>\n<li>Paratowch ar gyfer eich canolfan asesu fel y byddech yn ei wneud ar gyfer cyfweliad. Ymchwiliwch i'r r\u00f4l a'r cyflogwr yn drylwyr, yn ogystal \u00e2'r diwydiant ehangach. Mae <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/gwneud-eich-ymchwil-doing-your-research\/\" rel=\"noopener\">ymwybyddiaeth fasnachol<\/a> yn sgil bwysig i raddedigion ac mae nifer o ffyrdd y gall eich gwybodaeth am y sector ehangach eich helpu i ddisgleirio mewn <a href=\"https:\/\/www.brightnetwork.co.uk\/graduate-career-advice\/assessment-centre-advice\/how-demonstrate\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">canolfan asesu<\/a>.<\/li>\n<li>Gorffwyswch yn dda y noson cynt a cheisiwch ymlacio cyn mynd i\u2019r ganolfan asesu \u2013 po fwyaf naturiol a hyderus y byddwch mewn canolfan asesu, po hawsaf y bydd y profiad i chi a\u2019r gorau oll y byddwch yn dod drosodd.<\/li>\n<li>Cynlluniwch ymlaen llaw sut byddwch yn cyrraedd y ganolfan asesu os byddwch yn mynd yno'n bersonol ac anelwch at gyrraedd yn gynnar; os yw ar-lein, gwnewch yn si\u0175r bod gennych le tawel heb unrhyw ymyrraeth a bod eich WI-FI yn gweithio, yn ogystal \u00e2'ch sain a'ch fideo.<\/li>\n<\/ul>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-top-tips-for-assessment-centres-cy-2\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"top-tips-for-assessment-centres-cy-2\">\n        <ul>\n<li>Byddwch yn ymwybodol o bob math o ryngweithio, hyd yn oed ar amser segur ac yn ystod egwyliau \u2013 rydych yn dal i gael eich arsylwi a\u2019ch asesu! Mae gan <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/interviews-and-assessment-centres\/graduate-assessment-centre-etiquette-handling-social-side\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a> gyngor defnyddiol ar ddelio ag ochr gymdeithasol canolfannau asesu.<\/li>\n<li>Cadwch yn bositif trwy gydol y dydd - efallai y bydd rhai ymarferion yn cyd-fynd yn well \u00e2'ch cryfderau nag eraill.<\/li>\n<li>Cymerwch eich amser i ddeall yn llawn yr hyn sy'n ofynnol gennych ym mhob ymarfer a darllenwch yr holl wybodaeth a chyfarwyddiadau yn ofalus fel nad ydych yn colli dim.<\/li>\n<\/ul>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-top-tips-for-assessment-centres-cy-3\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"top-tips-for-assessment-centres-cy-3\">\n        <ul>\n<li>Myfyriwch ar eich profiad yn y ganolfan asesu \u2013 sut brofiad gawsoch chi? Oeddech chi'n teimlo'n barod? Beth aeth yn dda a beth nad aeth cystal? A oedd y profiad cystal \u00e2\u2019r disgwyl? Defnyddiwch eich myfyrdod i ddeall beth fyddwch chi'n ei wneud y tro nesaf.<\/li>\n<li>Cofiwch longyfarch eich hun! Mae canolfan asesu yn gam trwyadl a heriol o\u2019r broses recriwtio. Mae canolfan asesu yn cael ei defnyddio fel arfer ar gyfer rolau hynod gystadleuol \u2013 mae cael gwahoddiad i ganolfan asesu yn gyflawniad ynddo\u2019i hun.<\/li>\n<li>Os byddwch yn aflwyddiannus, gofynnwch i'r cyflogwr am adborth a all eich helpu y tro nesaf. Ceisiwch beidio \u00e2 digalonni \u2013 bydd pawb yn cael eu gwrthod rywbryd yn ystod eu gyrfa ac er nad yw byth yn deimlad braf, bydd yn eich helpu i dyfu\u2019n broffesiynol a datblygu gwydnwch.<\/li>\n<\/ul>\n\n        <\/div><\/div>\n        <\/div>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau Pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:<\/p>\n<ul>\n<li>Trefnwch apwyntiad yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> i gael cyngor ar baratoi ar gyfer canolfannau asesu<\/li>\n<li>Os ydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, manteisiwch ar fynediad i blatfform <a href=\"https:\/\/www.graduatesfirst.com\/university-career-services\/cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Graduates First<\/a> i ymarfer amrywiaeth eang o brofion seicometrig ac ymarferion canolfan asesu, gan gynnwys astudiaethau achos, cyflwyniadau ac ymarferion e-fasged<\/li>\n<li>Cyngor <a href=\"https:\/\/www.brightnetwork.co.uk\/graduate-career-advice\/assessment-centre-advice\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Bright Network<\/a> ar lwyddo mewn canolfannau asesu<\/li>\n<li>Cyngor <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/interview-tips\/assessment-centres\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> ar ganolfannau asesu<\/li>\n<li>Cyngor <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/search\/advice?search=assessment%20centres\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a> ar ganolfannau asesu, gan gynnwys cyngor ar gyfer diwydiannau a sectorau penodol<\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Beth sy'n digwydd mewn canolfannau asesu a sut mae sefyll allan.","protected":false},"author":9375,"featured_media":1895,"parent":1199,"menu_order":5,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1278","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1278","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1278"}],"version-history":[{"count":14,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1278\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2846,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1278\/revisions\/2846"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1199"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1895"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1278"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1278"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1278"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}