{"id":1282,"date":"2023-09-14T12:00:26","date_gmt":"2023-09-14T11:00:26","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1282"},"modified":"2024-08-02T07:01:13","modified_gmt":"2024-08-02T06:01:13","slug":"profion-seicometrig","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/profion-seicometrig\/","title":{"rendered":"Profion seicometrig"},"content":{"rendered":"<p>Mae profion seicometrig yn asesiadau y mae cyflogwyr yn eu defnyddio&#8217;n bennaf i fesur naill ai sgil, tueddfryd neu allu penodol (mwy nag un yn aml) neu eich personoliaeth (pa mor dda rydych yn cyd-fynd \u00e2&#8217;u sefydliad a&#8217;r math o ymgeisydd maent yn chwilio amdano).<\/p>\n<p>Cyflogwyr graddedigion mawr sy\u2019n defnyddio profion seicometrig fel arfer, a hynny yn gynnar yn y broses recriwtio, felly rydych yn annhebygol o ddod ar eu traws os ydych yn gwneud cais i weithio i elusen neu fusnes bach neu ganolig (BBaCh). Adroddodd y Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr yn 2023 fod y rhan fwyaf o recriwtwyr mawr (67%) yn defnyddio profion seicometrig a bydd y rhan fwyaf ohonynt (54%) yn eu defnyddio fel cam cyntaf yr asesiad. Mae hyn yn helpu i sgrinio niferoedd mawr o ymgeiswyr ar gyfer cam nesaf y broses recriwtio.<\/p>\n<h4>Mathau o brofion seicometrig<\/h4>\n<p>Mae gwahanol fathau o brofion seicometrig, a\u2019r mwyaf poblogaidd ymhlith cyflogwyr graddedig yw rhesymu rhifiadol, profion craffter mewn sefyllfaoedd a rhesymu beirniadol a rhesymegol (ISE, 2023). Dysgwch am y mathau mwyaf poblogaidd o brofion seicometrig isod:<\/p>\n\n        <div class=\"cu_tabs\">\n               \n        <ul class=\"nav nav-tabs\" role=\"tablist\">\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link active\" href=\"#content-types-of-psychometric-test-cy-1\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-psychometric-test-cy-1\">Rhesymu rhifyddol<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-psychometric-test-cy-2\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-psychometric-test-cy-2\">Ymresymu llafar<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-psychometric-test-cy-3\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-psychometric-test-cy-3\">Craffter mewn sefyllfaoedd<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-psychometric-test-cy-4\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-psychometric-test-cy-4\">Seiliedig ar gemau<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-psychometric-test-cy-5\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-psychometric-test-cy-5\">Profion personoliaeth<\/a><\/li><\/ul> <div class=\"tab-content\">\n        <div class=\"tab-pane active\" id=\"content-types-of-psychometric-test-cy-1\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-psychometric-test-cy-1\">\n        <p>Mae rhesymu rhifyddol yn profi sgiliau mathemateg ymgeiswyr, eu gallu i ddadansoddi a dehongli data o graffiau a siartiau, yn ogystal \u00e2 chanfod patrymau mewn dilyniannau rhifiadol. Gellid gofyn i chi hefyd wneud rhifyddeg pen (er enghraifft adio, tynnu, lluosi a rhannu). Darllenwch ganllawiau <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/interview-tips\/how-to-pass-numerical-reasoning-tests\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> i brofion rhesymu rhifyddol.<\/p>\n<p>Profwch eich sgiliau rhesymu rhifyddol ar ein platfform <a href=\"https:\/\/www.graduatesfirst.com\/university-career-services\/cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Graduates First<\/a> (mynediad am ddim fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd).<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-psychometric-test-cy-2\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-psychometric-test-cy-2\">\n        <p>Mae ymresymu llafar yn gwerthuso gallu'r ymgeiswyr i ddeall, hynny yw, pa mor dda mae\u2019n gallu deall testun ysgrifenedig a dod i gasgliadau rhesymegol ohono. Fel arfer, cyflwynir darn o destun (neu weithiau sawl darn) i chi a gofynnir i chi raddio datganiadau am y testun naill ai'n gywir, yn anghywir neu nad yw\u2019n bosibl i chi ddweud o'r testun.<\/p>\n<p>Profwch eich sgiliau ymresymu llafar ar ein platfform <a href=\"https:\/\/www.graduatesfirst.com\/university-career-services\/cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Graduates First<\/a> (mynediad am ddim fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd).<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-psychometric-test-cy-3\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-psychometric-test-cy-3\">\n        <p>Mae craffter mewn sefyllfaoedd yn asesu ymddygiad ymgeiswyr mewn senarios yn y gweithle. Cyflwynir sefyllfa waith i chi a gofynnir i chi sut byddech chi'n ymateb orau \u2013 mae hyn fel arfer yn golygu gosod amrywiaeth o ymatebion yn nhrefn priodoldeb. Er nad yw'n brawf seicometrig, mae her <a href=\"https:\/\/www.boltburdonkemp.co.uk\/crisis-point-accident-and-emergency\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Crisis Point: A Day in A+E<\/a> yn profi eich craffter dan bwysau!<\/p>\n<p>I brofi eich craffter mewn sefyllfaoedd ymhellach, yn ogystal \u00e2\u2019ch sgiliau rhesymegol, crynhoi a gofodol, ewch i\u2019n platfform <a href=\"https:\/\/app.graduatesfirst.com\/CARDIFF\/Account\/Login\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Graduates First<\/a> (mynediad am ddim fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd).<\/p>\n<p>Cofiwch ei bod yn bwysig ateb y cwestiynau hyn yn onest. Mae'n syniad da ymchwilio i'r cyflogwr a'i werthoedd ymlaen llaw i ddeall sut gall ddisgwyl i weithwyr ymddwyn mewn sefyllfaoedd penodol. Fodd bynnag, gallai ateb mewn ffordd y credwch y mae\u2019r cyflogwr yn ei disgwyl, ac nid sut byddech yn dewis ymateb yn y sefyllfa honno, guddio gwrthdaro sylfaenol mewn gwerthoedd neu ymddygiad a allai olygu nad yw\u2019r sefydliad penodol hwn yn addas ar eich cyfer chi.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-psychometric-test-cy-4\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-psychometric-test-cy-4\">\n        <p>Mae'r mathau hyn o brofion seicometrig yn teimlo fel eich bod chi'n chwarae g\u00eam ar-lein, fel y mae\u2019r enw yn ei awgrymu. Bydd tasg neu genhadaeth benodol i chi weithio trwyddi, yn hytrach nag ateb cwestiynau un ar \u00f4l y llall. Nid oes angen i chi fod yn chwaraewr gemau ond dylech gymryd y prawf o ddifrif a dilyn ein cyngor ar baratoi isod. Darllenwch ganllawiau <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/cvs-applications-and-tests\/graduate-job-hunters-guide-game-based-assessment\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJob<\/a> i asesiadau seiliedig ar gemau.<\/p>\n<p>Ceisiwch ymarfer rhai asesiadau seiliedig ar gemau trwy <a href=\"https:\/\/www.graduatesfirst.com\/university-career-services\/cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Graduates First<\/a> (mynediad am ddim fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd).<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-psychometric-test-cy-5\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-psychometric-test-cy-5\">\n        <p>Mae profion personoliaeth yn gwirio eich bod yn addas ar gyfer y r\u00f4l a'r sefydliad. Fel arfer, gofynnir i chi gytuno neu anghytuno (ar raddfa fel arfer) \u00e2 chyfres o ddatganiadau i ddeall yn well beth yw eich dewisiadau gwaith a pha amgylchedd gwaith a thasgau a allai fod yn fwyaf addas i'ch personoliaeth. Gallech gael datganiadau fel 'Mae'n well gen i weithio ar fy mhen fy hun yn hytrach na gydag eraill' neu 'Rwy'n hoffi gweithio ar un prosiect cyn i mi ddechrau ar yr un nesaf'. Nid oes atebion cywir nac anghywir - dylech ymddiried yn eich greddf ac ateb cwestiynau yn onest.<\/p>\n<p>Er mwyn ymgyfarwyddo \u00e2 phrofion personoliaeth, rhowch gynnig ar <a href=\"https:\/\/www.graduatesfirst.com\/university-career-services\/cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Holiadur Personoliaeth Gwaith<\/a> trwy Graduates First (mynediad am ddim fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd) a\/neu\u2019r <a href=\"https:\/\/www.16personalities.com\/personality-types\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Holiadur 16 Math o Bersonoliaeth<\/a>.<\/p>\n\n        <\/div><\/div>\n        <\/div>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Profion seicometrig disgybl-benodol\u00a0<\/strong><\/p>\n<p>Efallai y bydd angen profion seicometrig ar gyfer rhai mathau o gyrsiau neu mewn rhai proffesiynau, er enghraifft <a href=\"https:\/\/www.ucat.ac.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">UCAT<\/a> neu <a href=\"https:\/\/gamsat.acer.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">GAMSAT<\/a> ar gyfer cyrsiau meddygaeth neu ddeintyddol (gan gynnwys mynediad i raddedigion) neu brawf meddwl yn feirniadol <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/interview-tips\/watson-glaser-critical-thinking-test\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Watson Glaser<\/a>, a ddefnyddir yn gyffredin ym maes y gyfraith.<\/p>\n<h4>Sut i baratoi ar gyfer profion seicometrig<\/h4>\n<p>Mae\u2019n haws paratoi ar gyfer rhai profion seicometrig nag eraill. Er enghraifft, mae&#8217;n anodd iawn paratoi ar gyfer prawf personoliaeth \u2013 nid oes ateb cywir neu anghywir o reidrwydd; yn hytrach mae cyflogwyr yn chwilio am y rhai sy&#8217;n fwyaf addas ar gyfer y r\u00f4l a&#8217;u sefydliad. Fodd bynnag, gallwch wella eich sgiliau rhesymu rhifyddol \u2013 gallwch adolygu eich sgiliau Mathemateg TGAU (yr arholiadau y mae disgyblion 16 oed yn eu sefyll yn y DU a\u2019r lefel a ddefnyddir fel arfer mewn profion seicometrig) ar wefan <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/bitesize\/subjects\/z6vg9j6\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">BBC Bitesize<\/a>.<\/p>\n<p>Paratowch ar gyfer profion seicometrig trwy:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Ymarfer<\/strong> \u2013 dewch mor gyfarwydd \u00e2 phosibl \u00e2\u2019r profion seicometrig y mae angen i chi eu cymryd, gan ddefnyddio\u2019r gwefannau a restrir isod. Cofiwch fod profion seicometrig bron bob amser wedi&#8217;u hamseru, felly dylech ymarfer cymryd profion wedi&#8217;u hamseru o dan bwysau o&#8217;r un math y gofynnwyd i chi eu cwblhau<\/li>\n<li><strong>Deall gofynion pob prawf penodol<\/strong> \u2013 darllenwch gyfarwyddiadau\u2019r cyflogwr yn ofalus ac, yn enwedig ar gyfer profion rhesymu, atebwch gwestiynau sy\u2019n seiliedig ar yr wybodaeth a roddwyd i chi yn unig, nid ar unrhyw wybodaeth flaenorol o\u2019r pwnc<\/li>\n<li><strong>Myfyrio ar eich personoliaeth, eich sgiliau a\u2019ch cryfderau ac ateb yn onest<\/strong> \u2013 bydd dod i\u2019r arfer \u00e2 myfyrio ar eich rhinweddau, eich sgiliau a\u2019ch cryfderau yn eich helpu gyda phrofion personoliaeth \u2013 tarwch olwg ar <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/datblygu-hunanymwybyddiaeth\/\">ein cyngor ar ddatblygu hunanymwybyddiaeth<\/a><\/li>\n<li><strong>Cael yr amgylchedd yn iawn<\/strong> \u2013 sefyll profion seicometrig o dan yr amodau priodol \u2013 yn dawel heb unrhyw ymyrraeth a gyda chysylltiad rhyngrwyd sefydlog<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os oes gennych anabledd, mae\u2019n syniad da meddwl pa addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch er mwyn gwneud yn dda mewn prawf seicometrig. Gallai gofyn i&#8217;r cyflogwr am addasiadau ar y cam hwn olygu\u2019r gwahaniaeth rhwng parhau yn y broses recriwtio neu beidio. Cofiwch y gallwch siarad yn gyfrinachol \u00e2 Chynghorydd Gyrfa ynghylch sut i ofyn am addasiadau mewn apwyntiad gyrfaoedd. Trefnwch apwyntiad trwy eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a>. Gallwch hefyd gael mynediad at <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cefnogaeth-wedii-theilwra-tailored-support\/cyngor-i-fyfyrwyr-ag-anabledd-neu-niwroddargyfeiriad\/\">ein cyngor cyflogadwyedd manylach ar gyfer myfyrwyr ag anableddau<\/a>.<\/p>\n<h4>Safleoedd ymarfer<\/h4>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/www.graduatesfirst.com\/university-career-services\/cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Graduates Firs<\/a>t &#8211;\u00a0 mynediad am ddim fel myfyriwr ym <a href=\"https:\/\/www.graduatesfirst.com\/university-career-services\/cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Mhrifysgol Caerdydd<\/a> ar hyn o bryd. Gwnewch yn si\u0175r eich bod chi&#8217;n defnyddio&#8217;r dudalen \u00e2 bathodyn y brifysgol neu ni fyddwch chi&#8217;n gallu cael mynediad i&#8217;r profion ymarfer. Mae gan Graduates First gyngor cynhwysfawr ar wahanol fathau o brofion seicometrig, llawer o brofion ymarfer i chi roi cynnig arnynt a chanllawiau manwl ar brosesau recriwtio ar gyfer llawer o gyflogwyr graddedig mawr<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.assessmentday.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">AssessmentDay<\/a> &#8211; nid oes angen i chi dalu am unrhyw un o\u2019r profion. Dewiswch y fersiwn am ddim o\u2019r prawf penodol rydych am roi cynnig arno<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.practiceaptitudetests.com\/free-aptitude-tests\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Practice Aptitude Tests<\/a> &#8211; amrywiaeth o brofion seicometrig am ddim<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.psychometrictest.org.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Psychometric Tests<\/a> &#8211; adnodd wedi\u2019i greu gan brifysgolion a myfyrwyr ymchwil yn y DU, sy\u2019n cynnwys profion am ddim<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.savilleassessment.com\/practice-tests\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Saville Assessment<\/a> &#8211; profion seicometrig am ddim<\/li>\n<\/ul>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:<\/p>\n<ul>\n<li>Os ydych yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, defnyddiwch eich mynediad i blatfform <a href=\"https:\/\/www.graduatesfirst.com\/university-career-services\/cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Graduates First<\/a> i ymarfer (a chael adborth ar) amrywiaeth eang o brofion seicometrig<\/li>\n<li>Erthygl <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/interview-tips\/psychometric-tests\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> ar brofion seicometrig<\/li>\n<li>Canllawiau <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/cvs-applications-and-tests\/psychometric-tests-what-they-are-and-why-graduates-need-know\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a> i brofion seicometrig<\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dysgu am yr amrywiaeth o brofion seicometrig y mae recriwtwyr yn eu defnyddio a sut i baratoi ar eu cyfer.","protected":false},"author":9375,"featured_media":2207,"parent":1199,"menu_order":4,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1282","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1282","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1282"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1282\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2912,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1282\/revisions\/2912"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1199"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2207"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1282"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1282"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1282"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}