{"id":1288,"date":"2023-09-14T12:02:11","date_gmt":"2023-09-14T11:02:11","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1288"},"modified":"2024-11-04T16:38:05","modified_gmt":"2024-11-04T16:38:05","slug":"cyfweliadau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/cyfweliadau\/","title":{"rendered":"Cyfweliadau"},"content":{"rendered":"<p>Felly rydych chi wedi cael eich gwahodd am gyfweliad, ond nawr rydych chi&#8217;n wynebu&#8217;r posibilrwydd brawychus o orfod ei wneud! Y peth cyntaf i&#8217;w wybod yw y bydd y rhan fwyaf o bobl yn teimlo\u2019n nerfus wrth wynebu cyfweliad. Mae&#8217;n gwbl normal. Er nad ydym yn awgrymu y byddwch chi wrth eich bodd \u00e2 chyfweliadau, mae yna strategaethau ymarferol iawn y gallwch chi eu rhoi ar waith i fod ar eich gorau a chyfleu eich addasrwydd a&#8217;ch brwdfrydedd am y swydd yn hyderus. Wedi&#8217;r cyfan, mae cyflogwyr yn chwilio am gadarnhad: y gallwch chi <strong>wneud y r\u00f4l mewn gwirionedd<\/strong> (eich <strong>addasrwydd<\/strong>); bod gennych chi<strong> ddiddordeb yn y r\u00f4l<\/strong> (eich <strong>cymhelliant<\/strong> ); ac y <strong>byddwch yn cyd-fynd \u00e2&#8217;u t\u00eem a\u2019u gweithle<\/strong> (eich<strong> personoliaeth<\/strong>).<\/p>\n<p>Gellid gofyn i chi gymryd rhan mewn amrywiaeth o fformatau cyfweliad, er enghraifft cyfweliad dros y ff\u00f4n, cyfweliad panel traddodiadol a chyfweliad gr\u0175p (sy\u2019n fwy cyffredin mewn canolfannau asesu) ac rydych bron yr un mor debygol o gael eich gwahodd i gyfweliad ar-lein y dyddiau hyn, nag yn bersonol. Efallai y gofynnir i chi gwblhau mwy nag un o&#8217;r cyfweliadau hyn o fewn un broses recriwtio. Gallant amrywio o ran ffurfioldeb hefyd, er enghraifft, bydd sgwrs am gyfle gwirfoddoli yn llawer llai ffurfiol na\u2019r broses gyfweld ar gyfer swydd PhD neu gynllun graddedig a ariennir. Serch hynny, mae&#8217;r adran hon yn cynnwys cyngor i&#8217;ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ar gyfer unrhyw fath o gyfweliad.<\/p>\n<p>Trwy gyfuno paratoi trylwyr gyda digon o ymarfer, a ffyrdd effeithiol o reoli eich nerfau, gallwch sefyll allan a theimlo&#8217;n hyderus mewn unrhyw gyfweliad sydd gennych i ddod!<\/p>\n<h4>Sut i baratoi ar gyfer cyfweliad<\/h4>\n<p>Mae paratoi yn hanfodol er mwyn llwyddo mewn unrhyw gyfweliad. Dylai eich gwaith paratoi ganolbwyntio ar:<\/p>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/gwneud-eich-ymchwil-doing-your-research\/\">ymchwilio i&#8217;r cyflogwr a&#8217;r r\u00f4l<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/datblygu-hunanymwybyddiaeth\/\">datblygu eich hunanymwybyddiaeth<\/a> a nodi eich cryfderau a&#8217;ch sgiliau allweddol<\/li>\n<li>dhagweld cwestiynau y gellid eu gofyn i chi a pharatoi atebion &#8211; amlygu sgiliau, profiadau a gwybodaeth allweddol y mae&#8217;r cyflogwr yn chwilio amdanynt sy&#8217;n ffurfio&#8217;r disgrifiad r\u00f4l, nodi enghreifftiau o&#8217;ch profiad y gallech eu defnyddio i ddangos tystiolaeth o bob un o&#8217;r rhain ac edrych ar ein cyngor ar sut i fynd i&#8217;r afael \u00e2 mathau cyffredin o gwestiynau cyfweliad isod<\/li>\n<\/ul>\n<h4>Ewch ati i ymarfer eich techneg cyfweliad<\/h4>\n<p>Mae&#8217;n bwysig nad eich cyfweliad yw&#8217;r tro cyntaf i chi gael cyfle i ymarfer ateb cwestiynau. Ewch ati i ymarfer trwy:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Ateb cwestiynau yn uchel<\/strong> &#8211; chwiliwch am <a href=\"https:\/\/www.brightnetwork.co.uk\/graduate-career-advice\/telephone-video-interviews\/how-to-answer\/10-common-questions\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gwestiynau cyffredin<\/a> mewn cyfweliadau ac ymarfer eu hateb yn uchel. Syniad gwell fyddai gofyn i ffrind neu aelod o\u2019r teulu wneud hyn gyda chi fel nad ydych chi\u2019n gwybod pa gwestiynau fydd yn cael eu gofyn nesaf<\/li>\n<li><strong>Defnyddio\u00a0<a href=\"https:\/\/www.graduatesfirst.com\/university-career-services\/cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">GraduatesFirst<\/a> <\/strong>&#8211; gallwch gael mynediad am ddim fel myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, i gwblhau ffug gyfweliadau ar-lein a derbyn adborth<\/li>\n<li><strong>Trefnu ffug gyfweliad gyda Chynghorydd Gyrfa yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> <\/strong>&#8211; cyfle i ymarfer ateb cwestiynau a derbyn adborth ar eich techneg cyfweliad<\/li>\n<\/ul>\n<h4><\/h4>\n<h4>Mathau cyffredin o gwestiynau a sut i fynd ati i\u2019w hateb<\/h4>\n<p>Mae sawl math o gwestiynau a ofynnir yn gyffredin mewn cyfweliad (mae llawer ohonynt hefyd yn gyffredin ar ffurflenni cais):<\/p>\n\n<!-- iframe plugin v.6.0 wordpress.org\/plugins\/iframe\/ -->\n<iframe loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_21960\" width=\"100%\" height=\"500\" scrolling=\"yes\" class=\"iframe-class\" frameborder=\"0\"><\/iframe>\n\n<p style=\"text-align: center\">Os ydych chi\u2019n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni\u2019n argymell eich bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn <a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_21960\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ffenestr ar wah\u00e2n<\/a>.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Awgrymiadau ardderchog &#8211; cyn, yn ystod ac ar \u00f4l eich cyfweliad<\/h4>\n\n        <div class=\"cu_tabs\">\n               \n        <ul class=\"nav nav-tabs\" role=\"tablist\">\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link active\" href=\"#content-top-tips-before-during-and-after-your-interview-cy-1\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"top-tips-before-during-and-after-your-interview-cy-1\">Cyn y cyfweliad<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-top-tips-before-during-and-after-your-interview-cy-2\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"top-tips-before-during-and-after-your-interview-cy-2\">Yn ystod y cyfweliad<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-top-tips-before-during-and-after-your-interview-cy-3\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"top-tips-before-during-and-after-your-interview-cy-3\">Ar \u00f4l y cyfweliad<\/a><\/li><\/ul> <div class=\"tab-content\">\n        <div class=\"tab-pane active\" id=\"content-top-tips-before-during-and-after-your-interview-cy-1\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"top-tips-before-during-and-after-your-interview-cy-1\">\n        <ul>\n<li>Dilynwch ein cyngor ar y dudalen hon am baratoi ar gyfer cyfweliadau a chael cyfle i ymarfer eich sgiliau cyfweld trwy drefnu apwyntiad yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a><\/li>\n<li>Os yw'r cyfweliad yn un wyneb yn wyneb, darganfyddwch ble mae hynny a chynlluniwch eich taith. Gwnewch yn si\u0175r eich bod yn gadael digon o amser ac yn anelu at gyrraedd yn gynnar. Meddyliwch am y cyfweliad fel un sydd wedi dechrau pryd bynnag y byddwch yn cerdded i mewn i\u2019r adeilad \u2013 gallai unrhyw argraffiadau y byddwch yn eu creu ar unrhyw aelod o staff y byddwch yn rhyngweithio ag ef effeithio ar y penderfyniad i\u2019ch cyflogi ai peidio<\/li>\n<li>Os yw'r cyfweliad ar-lein, gwiriwch unrhyw ddolenni neu apiau y gallech fod wedi'u cael gan y cyflogwr. Ar gyfer y cyfweliad, gwnewch yn si\u0175r eich bod mewn ystafell dawel heb unrhyw beth i darfu arnoch a bod modd eich gweld a\u2019ch clywed yn glir<\/li>\n<li>Penderfynwch beth fyddwch chi'n ei wisgo ar y diwrnod ymhell ymlaen llaw. Os nad ydych chi'n si\u0175r, cysylltwch \u00e2'r cyflogwr a gofynnwch, ond mae'n well gwisgo'n rhy smart, yn hytrach na gwisgo'n rhy anffurfiol gan y bydd hyn yn tynnu sylw at eich proffesiynoldeb<\/li>\n<li>Trefnwch beth fyddwch chi'n mynd gyda chi, er enghraifft copi o'ch CV a phortffolio neu gopi o\u2019ch gwaith os yw'n berthnasol i rai diwydiannau<\/li>\n<\/ul>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-top-tips-before-during-and-after-your-interview-cy-2\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"top-tips-before-during-and-after-your-interview-cy-2\">\n        <ul>\n<li>Cadwch gyswllt llygad os gallwch chi a gwenwch<\/li>\n<li>Byddwch yn ymwybodol o iaith eich corff \u2013 ceisiwch beidio \u00e2 bod yn rhy aflonydd<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 rhuthro i mewn i ateb ar unwaith, yn enwedig os gofynnir cwestiwn anodd i chi \u2013 mae hwn yn ymateb naturiol pan fyddwch chi'n dechrau mynd i banig! Yn hytrach, cymerwch ychydig funudau, cymryd llymaid o dd\u0175r a cheisio meddwl yn rhesymegol sut byddwch chi'n ateb y cwestiwn. Meddyliwch am strwythur cyn i chi ddechrau ateb<\/li>\n<li>Ceisiwch beidio \u00e2 dibynnu'n ormodol ar nodiadau ac osgoi rhoi atebion sydd wedi'u hymarfer yn ormodol<\/li>\n<\/ul>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-top-tips-before-during-and-after-your-interview-cy-3\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"top-tips-before-during-and-after-your-interview-cy-3\">\n        <ul>\n<li>Yn fuan ar \u00f4l y cyfweliad, gwnewch nodyn o unrhyw gwestiynau a ofynnwyd i chi yr oeddech yn cael trafferth \u00e2 nhw neu nad oeddech wedi eu rhagweld Meddyliwch sut gallech chi ateb y rhain y tro nesaf<\/li>\n<li>Treuliwch rywfaint o amser yn myfyrio ar sut aeth y cyfweliad yn eich barn chi, a cheisiwch wneud pethau rydych chi'n eu mwynhau neu sy'n tynnu sylw eich sylw, yn enwedig tra byddwch chi'n aros am y canlyniad. Mae cyfweliad yn brofiad sy\u2019n achosi straen a dylech ystyried pob cyfweliad a gewch yn gyflawniad personol ac yn gyfle i ddatblygu!<\/li>\n<li>Os byddwch yn aflwyddiannus, manteisiwch ar y cyfle i ofyn am adborth. Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn hapus i roi adborth ar y cam hwn a gall fod o gymorth mawr i fireinio'ch perfformiad ar gyfer eich cyfweliad nesaf. Gallai hyd yn oed helpu i dawelu eich meddwl bod ymgeisydd arall yn fwy addas ar gyfer y r\u00f4l, ac nad oedd dim y gallech fod wedi'i wneud yn wahanol. Ceisiwch beidio \u00e2 digalonni \u2013 bydd pawb yn cael eu gwrthod rywbryd yn ystod eu gyrfa ac er nad yw byth yn deimlad braf, bydd yn eich helpu i dyfu\u2019n broffesiynol a datblygu gwydnwch<\/li>\n<\/ul>\n\n        <\/div><\/div>\n        <\/div>\n<p>Gwyliwch y fideo isod i glywed sut y gallwch greu argraff ar ein cyflogwyr yn y cyfweliad:<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Mewnwelediadau Cyflogwyr Dyfodol Myfyrwyr: Gwneud argraff mewn cyfweliadau\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/SIWgQMbM6ZA?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<h4>Sut i ddelio \u00e2 nerfau mewn cyfweliadau<\/h4>\n<p>Hyd yn oed ar \u00f4l paratoi\u2019n drylwyr, mae&#8217;n naturiol i chi deimlo&#8217;n nerfus pan ddaw diwrnod eich cyfweliad. Dilynwch ein cyngor isod i reoli\u2019r nerfau hynny fel nad ydynt yn llesteirio eich perfformiad:<br \/>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-deal-with-interview-nerves-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Newid eich ffordd o feddwl<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-deal-with-interview-nerves-cy-1\"><p>Mae'r teimladau sy'n cyd-fynd \u00e2 nerfusrwydd a gorbryder yn debyg i\u2019r teimladau a gewch pan fyddwch yn gyffrous, er enghraifft eich calon yn curo\u2019n gyflymach neu eich meddyliau\u2019n rasio. Ceisiwch newid sut rydych chi\u2019n meddwl am y cyfweliad - yn hytrach na meddwl amdano fel rhywbeth sy'n achosi straen i chi, meddyliwch amdano fel rhywbeth rydych chi wir ei eisiau ac yn gyffrous yn ei gylch.<\/p>\n<p>Yn hytrach na gweld hwn yn brofiad brawychus, ceisiwch edrych arno fel cyfle euraidd i arddangos eich sgiliau a'ch galluoedd a chofiwch, rydych chi'n eu cyfweld hwy gymaint ag y maent hwythau yn eich cyfweld chi. Ar \u00f4l y cyfweliad, efallai y byddwch yn penderfynu nad yw'n iawn i chi mewn gwirionedd!<\/p>\n<p>Mae\u2019r<a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=1rRgElTeIqE\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"> fideo hwn<\/a> yn cynnig esboniad defnyddiol o sut gall newid eich ffordd o feddwl helpu.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-deal-with-interview-nerves-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ystyried agweddau ymarferol a chynllunio ymlaen llaw<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-deal-with-interview-nerves-cy-2\"><p>Mae cynllunio\u2019ch taith, gwirio\u2019ch technoleg (ar gyfer cyfweliad ar-lein) a rhoi trefn ar eich gwisg i gyd yn elfennau ymarferol ar gyfer y cyfweliad a all wneud i chi boeni os byddwch yn eu gadael tan y funud olaf. Cymerwch amser i roi trefn ar y pethau hyn ymhell ymlaen llaw.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-deal-with-interview-nerves-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ymarfer, ymarfer, ymarfer!<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-deal-with-interview-nerves-cy-3\"><p>Er bod rhai yn ymddangos yn fwy hyderus gyda chyfweliadau nag eraill, nid yw'n wir eich bod chi naill ai\u2019n dda mewn cyfweliadau neu ddim. Mae sgiliau cyfweld, fel gwybod sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau, ymarfer eich techneg cyfweliad a deall sut i ateb gwahanol fathau o gwestiynau yn sgiliau tebyg i unrhyw rai eraill \u2013 byddwch yn gwella po fwyaf y byddwch chi\u2019n ymarfer. Ewch ati i ymarfer yn uchel, defnyddio <a href=\"https:\/\/www.graduatesfirst.com\/university-career-services\/cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">GraduatesFirst<\/a> a chael cyngor gan <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Dyfodol Myfyrwyr<\/a>.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-deal-with-interview-nerves-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Dewch o hyd i\u2019r hyn sy\u2019n gweithio i chi<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-deal-with-interview-nerves-cy-4\"><p>Yn y pen draw mae pawb yn wahanol ac ni fydd strategaethau sy'n gweithio i chi yn gweithio i bobl eraill ac i'r gwrthwyneb. Rhowch gynnig ar wahanol dechnegau, o ymarferion anadlu i ganu eich hoff g\u00e2n cyn i chi fynd i mewn i'ch cyfweliad a darganfod beth sy'n gweithio orau i chi.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div><br \/>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:<\/p>\n<ul>\n<li>Gallwch gael cyngor ar baratoi ar gyfer cyfweliad a threfnu cyfweliad ffug trwy drefnu apwyntiad yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a><\/li>\n<li>Ewch ati i ymarfer eich techneg cyfweliad ar Shortlist Me - gallwch ddefnyddio\u2019r adnodd am ddim fel myfyriwr Prifysgol Caerdydd<\/li>\n<li>Cyngor <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/interview-tips\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> ar baratoi ar gyfer cyfweliadau a llwyddo<\/li>\n<li>Cyngor <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice#invited-to-interview-\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a> ar gyfweliadau<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.amazingif.com\/listen\/top-tips-for-interviews\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Podlediad Squiggly Careers<\/a> - y bennod sy\u2019n trafod argymhellion ardderchog ar gyfer cyfweliadau<\/li>\n<li>Fideo <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/watch?v=hPqn85XAVW4\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Indeed<\/a> - 5 ffordd i dawelu eich nerfau cyn cyfweliad<\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    <\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Bod ar eich gorau mewn cyfweliadau a deall sut i baratoi ar eu cyfer.  ","protected":false},"author":9375,"featured_media":1407,"parent":1199,"menu_order":6,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1288","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1288","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1288"}],"version-history":[{"count":14,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1288\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3337,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1288\/revisions\/3337"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1199"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1407"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1288"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1288"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1288"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}