{"id":1297,"date":"2024-02-02T18:06:02","date_gmt":"2024-02-02T18:06:02","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1297"},"modified":"2024-08-02T10:07:50","modified_gmt":"2024-08-02T09:07:50","slug":"opsiynau-astudio-ol-raddedig-postgraduate-study-options","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/astudiaeth-ol-raddedig-postgraduate-study\/opsiynau-astudio-ol-raddedig-postgraduate-study-options\/","title":{"rendered":"Opsiynau astudio \u00f4l-raddedig"},"content":{"rendered":"<p>Mae llawer o opsiynau \u00f4l-raddedig i chi ddewis ohonynt ac mewn llawer o feysydd academaidd gwahanol. Mae&#8217;n bwysig deall y gwahanol fathau o gyrsiau sydd ar gael er mwyn i chi allu nodi pa un fyddai&#8217;n gweddu orau i&#8217;ch diddordebau, sgiliau a nodau gyrfa.<\/p>\n\n        <div class=\"cu_tabs\">\n               \n        <ul class=\"nav nav-tabs\" role=\"tablist\">\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link active\" href=\"#content-types-of-postgraduate-courses-cy-1\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-postgraduate-courses-cy-1\">Diplom\u00e2u a thystysgrifau<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-postgraduate-courses-cy-2\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-postgraduate-courses-cy-2\">Cyrsiau Meistr<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-postgraduate-courses-cy-3\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-postgraduate-courses-cy-3\">Cyrsiau trosi<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-postgraduate-courses-cy-4\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-postgraduate-courses-cy-4\">Cyrsiau mynediad i raddedigion <\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-types-of-postgraduate-courses-cy-5\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"types-of-postgraduate-courses-cy-5\">PhDs<\/a><\/li><\/ul> <div class=\"tab-content\">\n        <div class=\"tab-pane active\" id=\"content-types-of-postgraduate-courses-cy-1\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-postgraduate-courses-cy-1\">\n        <p>Y lefel nesaf i fyny o radd israddedig yw diploma neu dystysgrif \u00f4l-raddedig. Mae'r cymwysterau hyn ar yr un lefel o astudio \u00e2 gradd Meistr, ond maen nhw'n fyrrach, ac nid oes rhaid i chi ysgrifennu traethawd hir. Maent yn aml yn addas ar gyfer y rhai nad oes ganddynt yr amser na'r arian ar gyfer gradd Meistr lawn neu os ydych yn meddwl y bydd cymhwyster \u00f4l-raddedig yn rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa, ond y byddai'n well gennych beidio \u00e2 gorfod gwneud llawer o ymchwil academaidd.<\/p>\n<p>Dysgwch fwy am ddiplom\u00e2u a <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/postgraduate-study\/postgraduate-diplomas-and-certificates\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">thystysgrifau \u00f4l-raddedig<\/a>.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-postgraduate-courses-cy-2\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-postgraduate-courses-cy-2\">\n        <p>Mae cyrsiau Meistr yn caniat\u00e1u i chi ddyfnhau neu arbenigo ar eich gwybodaeth pwnc, ac maent fel arfer yn para 1 flwyddyn, yn llawn amser. Gall cyrsiau Meistr a addysgir (er enghraifft MSc neu MA) fod yn eithaf tebyg i'ch gradd israddedig, yn aml yn cynnwys modiwlau a addysgir ac yna prosiect ymchwil. Mae Graddau Meistr Ymchwil (MRes neu MPhil) yn canolbwyntio mwy ar eich paratoi gyda'r sgiliau a'r wybodaeth ymchwil angenrheidiol i ymgymryd \u00e2 phrosiect ymchwil annibynnol hirach.<\/p>\n<p>Darllenwch ragor ar <a href=\"https:\/\/www.findamasters.com\/guides\/masters-degree-faqs\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">FindAMasters<\/a> a gwefan <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/postgraduate-study\/masters-degrees\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a>.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-postgraduate-courses-cy-3\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-postgraduate-courses-cy-3\">\n        <p>Mae cyrsiau trosi yn rhaglenni \u00f4l-raddedig dwys sy'n eich galluogi i symud i yrfa wahanol nad yw eich gradd israddedig neu yrfa broffesiynol wedi eich paratoi ar ei chyfer. Yn aml, maent yn alwedigaethol eu natur, ac yn para rhwng sawl mis a sawl blwyddyn, gan ddibynnu ar y cymhwyster a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser). Mae llawer o gyrsiau trosi\u2019n crynhoi gradd israddedig yn gyfnod byrrach.<\/p>\n<p>Ceir rhagor o fanylion am gyrsiau Trosi ym <a href=\"https:\/\/www.caerdydd.ac.uk\/study\/postgraduate\/taught\/conversion-courses\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Mhrifysgol Caerdydd<\/a> a sut y gallant ategu eich penderfyniad i newid gyrfa.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-postgraduate-courses-cy-4\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-postgraduate-courses-cy-4\">\n        <p>Mae rhaglenni Mynediad i Raddedigion wedi'u cynllunio i fyfyrwyr israddedig astudio graddau llwybr cyflym i fynd i mewn i broffesiynau penodol, yn fwyaf nodweddiadol o fewn y gwyddorau biofeddygol\/bywyd a gofal iechyd. Mae Meddygaetih i Raddedigion yn gwrs gradd mynediad graddedig arbennig o boblogaidd yn y DU. Ceir rhagor o fanylion ar wefannau\u2019r <a href=\"https:\/\/www.medschools.ac.uk\/studying-medicine\/how-to-apply-to-medical-school-in-the-uk\/entry-requirements?type=graduate-entry-medicine\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyngor Ysgolion Meddygol<\/a> a\u2019r <a href=\"https:\/\/www.dentalschoolscouncil.ac.uk\/making-an-application\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyngor Ysgolion Deintyddol<\/a>.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-types-of-postgraduate-courses-cy-5\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"types-of-postgraduate-courses-cy-5\">\n        <p>Mae PhD yn golygu o leiaf 3 blynedd o weithio amser llawn ar brosiect ymchwil annibynnol. Ychydig iawn o gynnwys a addysgir sydd fel arfer. Mae PhD yn hanfodol os ydych am ddilyn gyrfa ymchwil academaidd, a gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer dilyn rolau ymchwil y tu allan i'r byd academaidd, gan ddibynnu ar eich diwydiant. Mae gwneud PhD yn benderfyniad mawr \u2013 darllenwch <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/astudiaeth-ol-raddedig-postgraduate-study\/ystyried-phd-considering-a-phd\/\">ein cyngor ar wneud PhD<\/a> i ddarganfod mwy.<\/p>\n\n        <\/div><\/div>\n        <\/div>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple\">        \n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:<\/p>\n<ul>\n<li>Cyngor <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/postgraduate-study\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs<\/a> ar astudiaethau \u00f4l-raddedig<\/li>\n<li>Cyngor <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/postgraduate-study\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> ar astudiaethau \u00f4l-raddedig<\/li>\n<li>Trefnwch apwyntiad gyda Chynghorydd Gyrfa yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\/student\/login\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> i drafod eich nod gyrfa ac opsiynau astudiaethau \u00f4l-raddedig<\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Gallwch ddeall eich opsiynau astudio \u00f4l-raddedig a nodi pa un sy'n iawn i chi.","protected":false},"author":9375,"featured_media":712,"parent":1204,"menu_order":2,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1297","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1297","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1297"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1297\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2914,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1297\/revisions\/2914"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1204"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/712"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1297"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1297"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1297"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}