{"id":1301,"date":"2023-09-08T14:19:03","date_gmt":"2023-09-08T13:19:03","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1301"},"modified":"2024-11-04T16:20:56","modified_gmt":"2024-11-04T16:20:56","slug":"ceisiadau-ol-raddedig-a-datganiadau-personol-postgraduate-applications-and-personal-statements","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/astudiaeth-ol-raddedig-postgraduate-study\/ceisiadau-ol-raddedig-a-datganiadau-personol-postgraduate-applications-and-personal-statements\/","title":{"rendered":"Ceisiadau \u00f4l-raddedig a datganiadau personol"},"content":{"rendered":"<h4>Pryd i wneud cais<\/h4>\n<p>Bydd y rhan fwyaf o gyrsiau \u00f4l-raddedig yn agor ceisiadau o&#8217;r hydref, ond mae&#8217;n bwysig dechrau ymchwilio i gyrsiau yr haf cyn i chi ddymuno gwneud cais fel y gallwch wneud nodyn o unrhyw ddyddiadau cau pwysig. Mae rhaglenni \u00f4l-raddedig fel arfer yn cymryd niferoedd llai o fyfyrwyr nag ar lefel israddedig, felly er y byddant fel arfer yn postio dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, byddant yn aml yn cau&#8217;r ffenestr ymgeisio cyn gynted ag y byddant wedi llenwi&#8217;r cwrs. Fel y cyfryw, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted \u00e2 phosibl a pheidiwch \u00e2\u2019i siawnsio hi trwy ei adael tan y dyddiad cau, oherwydd efallai y cewch eich siomi. Cyn gwneud cais, ystyriwch ffonio&#8217;r t\u00eem derbyn myfyrwyr perthnasol i ddeall faint o fyfyrwyr y maent fel arfer yn eu cymryd ar y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo a pha mor gystadleuol ydyw fel arfer.<\/p>\n<p>Bydd gan y rhan fwyaf o gyrsiau \u00f4l-raddedig ofynion mynediad academaidd, fel arfer, ond nid bob amser, gradd anrhydedd 2:1 neu ddosbarth cyntaf. Fodd bynnag, mae rhai cyrsiau yn derbyn dosbarthiadau gradd is ac efallai y bydd ganddynt fwy o ddiddordeb yn eich profiad perthnasol yn y maes.<\/p>\n<p>Edrychwch ar ein canllaw defnyddiol am wneud cais am gyrsiau \u00f4l-raddedig isod:<\/p>\n<div class=\"well\">\n<h4 style=\"text-align: center;color: #333f48\">Rhestr wirio astudiaethau \u00f4l-raddedig<\/h4>\n<p style=\"text-align: center;color: #333f48\">Dechreuwch hyn yr haf cyn i chi ystyried gwneud cais<\/p>\n<figure id=\"post-870 media-870\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/02\/Grey-divider-line-H-3px-20-Percent-Opacity.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<div class=\"d-flex flex-wrap flex-md-nowrap mb-0\">\n<div class=\"\">\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column flex-grow justify-content-center\">\n<div class=\"h-0\"><strong class=\"\" style=\"font-size: 50px;color: #e4251b;line-height: 60px\">1<\/strong><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center ml-3\">\n<div>Ymchwiliwch i gyrsiau&#8217;n ofalus a gwnewch restr fer o&#8217;r rhai yr hoffech wneud cais amdanynt<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<figure id=\"post-870 media-870\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/02\/Grey-divider-line-H-3px-20-Percent-Opacity.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<div class=\"d-flex flex-wrap flex-md-nowrap mb-0\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column flex-grow justify-content-center\">\n<div class=\"h-0\"><strong class=\"\" style=\"font-size: 50px;color: #e4251b;line-height: 60px\">2<\/strong><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center ml-3\">\n<div>Gwnewch nodyn o derfynau amser unrhyw gyrsiau a rhowch ddigon o amser i chi&#8217;ch hun ar gyfer eich cais<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<figure id=\"post-870 media-870\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/02\/Grey-divider-line-H-3px-20-Percent-Opacity.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<div class=\"d-flex flex-wrap flex-md-nowrap mb-0\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column flex-grow justify-content-center\">\n<div class=\"h-0\"><strong class=\"\" style=\"font-size: 50px;color: #e4251b;line-height: 60px\">3<\/strong><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center ml-3\">\n<div>Casglwch unrhyw dystiolaeth neu ddogfennau y gallai fod angen i chi eu cyflwyno fel rhan o\u2019ch cais (er enghraifft, trawsgrifiad)<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<figure id=\"post-870 media-870\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/02\/Grey-divider-line-H-3px-20-Percent-Opacity.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<div class=\"d-flex flex-wrap flex-md-nowrap mb-0\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column flex-grow justify-content-center\">\n<div class=\"h-0\"><strong class=\"\" style=\"font-size: 50px;color: #e4251b;line-height: 60px\">4<\/strong><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center ml-3\">\n<div>Cysylltwch \u00e2&#8217;ch canolwr mewn da bryd i ofyn am ganiat\u00e2d i roi geirda i chi<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<figure id=\"post-870 media-870\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/02\/Grey-divider-line-H-3px-20-Percent-Opacity.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<div class=\"d-flex flex-wrap flex-md-nowrap mb-0\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column flex-grow justify-content-center\">\n<div class=\"h-0\"><strong class=\"\" style=\"font-size: 50px;color: #e4251b;line-height: 60px\">5<\/strong><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center ml-3\">\n<div>Eglurwch beth sydd ei angen arnoch i wneud cais a darllenwch y cyngor ar <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">CV, Ceisiadau a Chyfweliadau<\/a> i&#8217;ch helpu i ddechrau ar eich ceisiadau<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<figure id=\"post-870 media-870\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/02\/Grey-divider-line-H-3px-20-Percent-Opacity.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<div class=\"d-flex flex-wrap flex-md-nowrap mb-0\">\n<div class=\"\">\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column flex-grow justify-content-center\">\n<div class=\"h-0\"><strong class=\"\" style=\"font-size: 50px;color: #e4251b;line-height: 60px\">6<\/strong><\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center ml-3\">\n<div>Trefnwch apwyntiadau gyrfaoedd gyda Chynghorydd Gyrfa yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> i gael help gyda&#8217;ch ceisiadau!<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<figure id=\"post-870 media-870\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/02\/Grey-divider-line-H-3px-20-Percent-Opacity.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<h4>Sut i wneud cais<\/h4>\n<p>Mae ceisiadau am astudiaethau \u00f4l-raddedig yn amrywio ar draws cyrsiau a sefydliadau. Ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau astudio ymhellach, byddwch yn gwneud cais ar-lein yn uniongyrchol i&#8217;r brifysgol, er bod rhai eithriadau. Er enghraifft, mae&#8217;r gyfraith, addysgu, meddygaeth i raddedigion a deintyddiaeth i gyd yn defnyddio system dderbyn ganolog fel UCAS.<\/p>\n<p><strong>Fel rhan o\u2019ch cais, efallai y gofynnir i chi ddarparu un neu ragor o\u2019r canlynol:<\/strong><br \/>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-apply-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> CV<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-apply-cy-1\"><ul>\n<li>Wrth wneud cais am gwrs \u00f4l-raddedig, bydd angen i chi greu CV academaidd. Mae'r math hwn o CV yn canolbwyntio mwy ar eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau academaidd<\/li>\n<li>Ar gyfer cwrs sy'n seiliedig ar ymchwil, fel MRes, MPhil neu PhD, cofiwch ganolbwyntio o ddifrif ar y profiadau ymchwil rydych chi wedi'u cael hyd yn hyn. Efallai y byddwch hyd yn oed yn ystyried cynnwys adran 'Profiad Ymchwil' sy'n amlygu'n benodol yr ymchwil yr ydych wedi'i gwneud hyd yma. Gallai'r rhain fod yn brosiectau fel rhan o'ch cwrs neu brofiad gwaith, mewn interniaeth neu leoliad gwaith, er enghraifft<\/li>\n<li>Dylech hefyd ymhelaethu ar eich gradd israddedig os yw'n berthnasol i'r cwrs \u00f4l-raddedig. Gallai hyn gynnwys ehangu ar wybodaeth ddefnyddiol rydych wedi'i dysgu, neu amlygu graddau da yr ydych wedi'u cael mewn modiwlau perthnasol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Darllenwch <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/cvs\/\">ein cyngor manwl ar CVs<\/a>, lle gallwch lawrlwytho templedi ar gyfer CVs sydd wedi'u teilwra ar gyfer cyrsiau \u00f4l-raddedig.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-apply-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ffurflenni cais a datganiadau personol<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-apply-cy-2\"><p>I wneud cais am gwrs \u00f4l-raddedig, mae bron yn sicr y bydd gofyn i chi wneud cais trwy ffurflen gais ar-lein. Gofynnir i chi gyflwyno manylion am eich cymwysterau, hanes addysg a phrofiad gwaith. Bydd hefyd yn ofynnol i chi gyflwyno datganiad personol, a elwir weithiau yn ddatganiad ategol hefyd. Mae\u2019r datganiad yn cynnig cyfle i chi esbonio\u2019ch rhesymau dros wneud cais a pham y byddech chi\u2019n ymgeisydd gwych ar gyfer y cwrs. Cofiwch fod eich ffurflen gais a'ch datganiad personol yn enghraifft o'ch sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig felly gwnewch yn si\u0175r nad oes unrhyw wallau!<\/p>\n<p>Darllenwch <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/ffurflenni-cais\/\">ein cyngor ar ffurflenni cais<\/a> a gweler isod am ein canllaw defnyddiol i ddatganiadau personol.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-apply-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Cynnig ymchwil<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-apply-cy-3\"><p>Dim ond ar gyfer cyrsiau sy'n seiliedig ar ymchwil y mae angen cynnig ymchwil fel arfer (e.e. MRes, MPhil neu PhD), a dim ond os ydych chi'n cynnig eich pwnc ymchwil eich hun (mwy cyffredin yn y celfyddydau, y gwyddorau cymdeithasol a'r dyniaethau na disgyblaethau STEM). Gallwch ddarllen cyngor Prifysgol Caerdydd ar <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/study\/postgraduate\/applying\/writing-a-research-proposal\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ysgrifennu cynnig ymchwil<\/a> yma. Mae gan <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/postgraduate-study\/phd-study\/how-to-write-a-successful-research-proposal\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> awgrymiadau defnyddiol hefyd ar ysgrifennu cynnig ymchwil.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-apply-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Geirdaon<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-apply-cy-4\"><p>Mae bron yn sicr y gofynnir i chi ddarparu manylion o leiaf un person a all ddarparu geirda yn cadarnhau eich addasrwydd ar gyfer y cwrs. Weithiau mae angen i chi ddarparu'r geirda ei hun fel atodiad yn eich cais ar-lein, felly gwnewch yn si\u0175r eich bod yn gwirio beth sydd ei angen. Fel arfer, y person gorau i ddarparu geirda ar gyfer cwrs astudiaethau \u00f4l-raddedig yw rhywun sydd wedi eich addysgu ar lefel israddedig ac sy'n gwybod eich gallu academaidd, er enghraifft tiwtor personol, darlithydd neu oruchwyliwr prosiect.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-how-to-apply-cy-5\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Trawsgrifiad<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-how-to-apply-cy-5\"><p>Mae trawsgrifiad yn gofnod prifysgol swyddogol o'ch perfformiad academaidd, a elwir yn aml yn HEAR - Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch. Gallwch ofyn am hwn gan eich Ysgol ac adran Gofrestrfa Prifysgol Caerdydd os oes angen.<\/p>\n<p>Efallai y bydd gofyn i chi hefyd gwblhau prawf derbyn ar gyfer rhai cyrsiau, fel y gyfraith a meddygaeth i raddedigion, neu dalu ffi i wneud cais, ond mae hyn yn llai cyffredin.<\/p>\n<p>Bydd angen cyfweliad ar gyfer rhai cyrsiau \u00f4l-raddedig; mae hyn yn gyffredin mewn cyrsiau addysgu a chyrsiau sy'n gysylltiedig \u00e2 gofal iechyd. Yn bendant, gofynnir i chi fynd i gyfweliad os byddwch yn gwneud cais am PhD \u2013 darllenwch <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/cyfweliadau\/\">ein cyngor i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfweld<\/a>.<\/p>\n<p>Mae gan <a href=\"https:\/\/www.findamasters.com\/guides\/masters-degree-interviews\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">FindAMasters<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.findaphd.com\/guides\/phd-interview\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">FindAPhD<\/a> awgrymiadau defnyddiol hefyd ynghylch cyfweliadau ar gyfer cyrsiau \u00f4l-raddedig.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div><\/p>\n<p>Bydd angen cyfweliad ar gyfer rhai cyrsiau \u00f4l-raddedig; mae hyn yn gyffredin mewn cyrsiau addysgu a chyrsiau sy&#8217;n gysylltiedig \u00e2 gofal iechyd. Yn bendant, gofynnir i chi fynd i gyfweliad os byddwch yn gwneud cais am PhD \u2013 darllenwch <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/cyfweliadau\/\">ein cyngor i&#8217;ch helpu i ddatblygu eich sgiliau cyfweld<\/a>.<\/p>\n<p>Mae gan <a href=\"https:\/\/www.findamasters.com\/guides\/masters-degree-interviews\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">FindAMasters<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.findaphd.com\/guides\/phd-interview\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">FindAPhD<\/a> awgrymiadau defnyddiol hefyd ynghylch cyfweliadau ar gyfer cyrsiau \u00f4l-raddedig.<\/p>\n<h4>Datganiadau personol<\/h4>\n<p>Mae datganiadau personol yn aml yn ofynnol ar gyfer llawer o gyrsiau \u00f4l-raddedig, yn enwedig cyrsiau Meistr, ac maent yn rhan bwysig iawn o&#8217;ch cais. Dyma&#8217;ch cyfle i ddangos:<\/p>\n<ul>\n<li>eich diddordeb yn y cwrs a&#8217;r brifysgol yr ydych yn gwneud cais iddi<\/li>\n<li>eich cymhelliant i hybu eich gwybodaeth a&#8217;ch arbenigedd yn y maes hwn<\/li>\n<li>eich addasrwydd ar gyfer y cwrs a sut y bydd yn ategu eich uchelgeisiau gyrfaol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gwyliwch y fideo isod am gyngor ar ysgrifennu datganiadau personol ar gyfer astudiaethau \u00f4l-raddedig:<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"CU Student Futures Insights: Writing an impactful personal statement\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/JGtkW-fvn4c?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<div class=\"well\">\n<div class=\"container\">\n<div class=\"row\">\n<div class=\"col text-center\">\n<h4 style=\"text-align: center;color: #333f48\">Datganiadau personol ar gyfer datganiadau \u00f4l-raddedig<\/h4>\n<p style=\"text-align: center;color: #333f48\">Gwnewch argraff dda ar y tiwtoriaid derbyn gan gynnwys y pwyntiau a geir isod!<\/p>\n<figure id=\"post-870 media-870\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/02\/Grey-divider-line-H-3px-20-Percent-Opacity.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"row\">\n<div class=\"col-12 col-lg-6\">\n<figure class=\"d-flex m-0\" style=\"width: 100%\"><img decoding=\"async\" class=\"mx-auto\" style=\"width: 85%\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/07\/ImpressAdmissionsTutorsImage.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"col-12 col-lg-6\">\n<div class=\"d-flex gap-2 flex-column\">\n<div class=\"d-flex mb-2\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 60px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center\">\n<div class=\"pl-2\">Eich diddordeb yn y maes<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex mb-2\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 60px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center\">\n<div class=\"pl-2\">Eich diddordeb yn y cwrs penodol<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex mb-2\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 60px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center\">\n<div class=\"pl-2\">Yr hyn sy\u2019n apelio o ran astudio yn y brifysgol (os yw\u2019n bosibl)<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex mb-2\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 60px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center\">\n<div class=\"pl-2\">Eich addasrwydd ar gyfer y cwrs<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex\">\n<div>\n<figure class=\"m-0\" style=\"width: 60px\"><img decoding=\"async\" style=\"width: 60px\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/06\/Black-Tick-1.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<div class=\"d-flex flex-column justify-content-center\">\n<div class=\"pl-2\">Eich dyheadau gyrfaol a sut mae&#8217;r cwrs \u00f4l-raddedig yn cyd-fynd \u00e2\u2019r rhain<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<div class=\"row\">\n<figure id=\"post-870 media-870\" class=\"image align-none\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/02\/Grey-divider-line-H-3px-20-Percent-Opacity.png\" alt=\"\" \/><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n<\/div>\n<h4>Syniadau da ar gyfer eich datganiad personol<\/h4>\n<p>Gwyliwch y fideo isod am ein hawgrymiadau gwych ar sut i ddrafftio datganiad personol rhagorol ar gyfer cyrsiau \u00f4l-raddedig:<\/p>\n<h4>Enghreifftiau o ddatganiadau personol<\/h4>\n<ul>\n<li><a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/files\/2024\/11\/Biowyddorau-Datganiad-Personol-MSc.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Biowyddorau Datganiad Personol &#8211; MSc<\/a><\/li>\n<\/ul>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach:<\/p>\n<ul>\n<li>Trefnwch apwyntiad gyda Chynghorydd Gyrfa yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\/student\/login\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> i gael adborth ar eich ceisiadau a\u2019ch datganiadau personol \u00f4l-raddedig<\/li>\n<li>Cyngor <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/postgraduate-study\/masters-degrees\/personal-statements-for-postgraduate-applications\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> ar ysgrifennu datganiadau personol \u00f4l-raddedig<\/li>\n<li>Cyngor ymgeisio\u00a0<a style=\"color: #045bc6;background: 0px 0px\" href=\"https:\/\/www.findamasters.com\/guides\/applying-for-a-masters\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">FindAMasters<\/a><span style=\"color: #383735;font-size: 17px\">\u00a0<\/span><\/li>\n<li>Cyngor ymgeisio <a href=\"https:\/\/www.findaphd.com\/guides\/phd-applications\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">FindAPhD<\/a><\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Deall yr hyn sy'n ofynnol mewn ceisiadau ar gyfer astudiaeth bellach a sut i gyflwyno datganiadau cefnogol cryf.","protected":false},"author":9375,"featured_media":713,"parent":1204,"menu_order":3,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1301","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1301","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1301"}],"version-history":[{"count":25,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1301\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3333,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1301\/revisions\/3333"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1204"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/713"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1301"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1301"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1301"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}