{"id":1319,"date":"2023-09-13T11:38:10","date_gmt":"2023-09-13T10:38:10","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1319"},"modified":"2024-08-02T10:13:46","modified_gmt":"2024-08-02T09:13:46","slug":"myfyrwyr-cymraeg-eu-hiaith-welsh-speaking-students","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cefnogaeth-wedii-theilwra-tailored-support\/myfyrwyr-cymraeg-eu-hiaith-welsh-speaking-students\/","title":{"rendered":"Cyngor i fyfyrwyr sy&#8217;n siarad Cymraeg"},"content":{"rendered":"<p>Os ydych chi\u2019n siarad Cymraeg yn rhugl neu efallai\u2019n dysgu, mae\u2019n bosibl eich bod chi ddim wedi meddwl llawer am sut y gall y Gymraeg gael effaith gadarnhaol ar eich gyrfa. Mae siarad mwy nag un iaith yn sgil bwysig y gallwch chi roi sylw iddo mewn ceisiadau am swyddi neu brofiad gwaith, ond yng Nghymru gallai eich sgiliau Cymraeg agor drysau a chynnig cyfleoedd cyffrous i chi.<\/p>\n<h4>Manteision bod yn ddwyieithog<\/h4>\n<p>Mae llawer o fanteision i siarad mwy nag un iaith a gall llawer o\u2019r sgiliau a\u2019r rhinweddau y byddwch chi\u2019n eu datblygu er mwyn prosesu, cyfathrebu a dysgu mwy nag un iaith eich helpu yn eich gyrfa:<\/p>\n<ul>\n<li>Mae&#8217;n dda i&#8217;r ymennydd \u2013 mae ymchwil yn dangos bod siarad iaith arall yn datblygu ystod eang o sgiliau gwybyddol, gan gynnwys y gallu i ymgymryd \u00e2 mwy nag un dasg ar y pryd, cael llygad craff fanylion a phrosesu gwybyddol. Darllenwch ragor am hyn ar wefan y <a href=\"https:\/\/www.bbc.com\/future\/article\/20160811-the-amazing-benefits-of-being-bilingual\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">BBC<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.futurelearn.com\/info\/courses\/multilingual-practices\/0\/steps\/22658\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">FutureLearn<\/a>. Mae&#8217;r sgiliau hyn yn bwysig mewn llawer o swyddi a gallen nhw hefyd eich helpu i gael canlyniadau da mewn profion recriwtio sy&#8217;n ceisio mesur y sgiliau hyn<\/li>\n<li>Gall bod yn ddwyieithog eich helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol a sgiliau cymdeithasol, yn enwedig os yw eich dwyieithrwydd yn golygu y gallwch chi siarad \u00e2 phobl sydd ddim efallai\u2019n cyfathrebu mewn iaith arall<\/li>\n<li>Gwell rhagolygon swyddi &#8211; gall bod yn siaradwr Cymraeg yng Nghymru agor drysau i chi o ran eich gyrfa. Mae deddfwriaeth Gymraeg yn golygu bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgil dymunol ar gyfer llawer o rolau, a allai roi mantais i siaradwr Cymraeg os gallan nhw fodloni\u2019r meini prawf hanfodol ar gyfer swydd. Gall eich sgiliau Cymraeg hefyd helpu gyda chyfathrebu o ddydd i ddydd yn y gweithle, yn enwedig ar gyfer rolau sy\u2019n ymwneud \u00e2 chwsmeriaid neu wasanaethau cyhoeddus lle mae\u2019n fuddiol i\u2019r sefydliad allu cynnig gwasanaeth dwyieithog i\u2019w gwsmeriaid neu gleientiaid<\/li>\n<\/ul>\n<h4>Sectorau sy&#8217;n chwilio am siaradwyr Cymraeg<\/h4>\n<p>Yng Nghymru, mae deddfwriaeth ynghylch y Gymraeg yn ei gwneud yn gyfraith i fathau arbennig o sefydliadau gynnig gwasanaeth dwyieithog i\u2019r cyhoedd ac mae <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/cymraeg-2050-strategaeth-y-gymraeg\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Llywodraeth Cymru<\/a> yw gwthio\u2019n galed i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru a defnydd o\u2019r Gymraeg yn y gweithle. Er y gallai pob cyflogwr yng Nghymru bellach weld y Gymraeg yn sgil wych i\u2019w chael, mae yna sectorau penodol yng Nghymru sydd \u00e2 gofynion cyfreithiol i gynnig gwasanaeth Cymraeg ac sy\u2019n mynd ati i chwilio am siaradwyr Cymraeg.<\/p>\n<p>Ymhlith y sectorau sy&#8217;n chwilio am sgiliau Cymraeg yn benodol mae:<\/p>\n<ul>\n<li><strong>Llywodraeth a\u2019r sector cyhoeddus<\/strong> &#8211; oherwydd y gofyniad cyfreithiol i gynnig gwasanaethau a gwybodaeth gwbl ddwyieithog yn y sectorau hyn, bydd bron pob swydd yn cynnwys y Gymraeg yn sgil dymunol ac efallai y bydd rhai rolau yn gofyn amdani yn sgil hanfodol. Gyda sefydliadau sector cyhoeddus arbennig o fawr yng Nghymru, mae\u2019n bosibl y bydd rolau yn ymwneud \u00e2 chefnogi cynnig gwasanaethau\u2019n ddwyieithog, er enghraifft wrth gefnogi gweithredu deddfwriaeth Gymraeg yn y sefydliad hwnnw neu drwy gyfieithu. Gallwch chi ddod o hyd i swyddi ar wefan <a href=\"https:\/\/www.llyw.cymru\/swydd-a-swyddi\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Llywodraeth Cymru<\/a> a <a href=\"https:\/\/www.civilservicejobs.service.gov.uk\/csr\/index.cgi?SID=b3duZXI9NTA3MDAwMCZwYWdlY2xhc3M9SG9tZSZsX3ByZWZfdT1zJm93bmVydHlwZT1mYWlyJnBhZ2VhY3Rpb249ZGVmYXVsdCZyZXFzaWc9MTcyMDQ0MTA4Ni00YTUwMzcwMzc3MjJlNzJkN2UzNDBjM2NiY2E0OWFlMjIwMzAzOGQw\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Civil Service Jobs<\/a><\/li>\n<li><strong>Addysg a gofal plant<\/strong> \u2013 mae\u2019r Gymraeg wedi\u2019i gwreiddio ym myd addysg yng Nghymru ac mae galw cynyddol am addysg cyfrwng Cymraeg. Mae bod yn ddwyieithog yn golygu y gallwch chi chwilio am swyddi mewn ysgolion Saesneg a Chymraeg gan fod ysgolion Saesneg yn dal i addysgu a hyrwyddo&#8217;r Gymraeg. Mae darpariaeth y blynyddoedd cynnar hefyd yn aml yn ceisio helpu plant i ddatblygu eu sgiliau iaith yn y Gymraeg a\u2019r Saesneg ac mae nifer o feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg ar gael. Gallwch chi bori gwefannau fel <a href=\"https:\/\/meithrin.cymru\/jobs\/?lang=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Mudiad Meithrin<\/a> ac <a href=\"https:\/\/www.eteach.com\/jobs\/teaching-jobs-in-wales\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Eteach<\/a> i ddod o hyd i swyddi ym myd addysg yng Nghymru. Er bod prifysgolion yng Nghymru ddim yn eiddo i\u2019r llywodraeth, maen nhw\u2019n derbyn cyllid cyhoeddus ac oherwydd hyn, mae ganddyn nhw hefyd rwymedigaethau yn ymwneud \u00e2\u2019r Gymraeg. Gallwch chi ddod o hyd i swyddi ym myd addysg uwch ar <a href=\"https:\/\/www.jobs.ac.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Jobs.ac.uk<\/a> ac ar dudalennau swyddi gwag prifysgolion penodol ledled Cymru<\/li>\n<li><strong>Twristiaeth a lletygarwch<\/strong> \u2013 mae sgiliau iaith Gymraeg yn fantais mewn rolau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru i hyrwyddo diwylliant Cymru yn llawn<\/li>\n<li><strong>Y cyfryngau a marchnata<\/strong> \u2013 yng Nghymru mae nifer o gwmn\u00efau\u2019r cyfryngau sy\u2019n gweithio\u2019n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae\u2019r gallu i gynhyrchu copi dwyieithog ac ymgyrchoedd marchnata hefyd yn werthfawr<\/li>\n<\/ul>\n<h4>Chwilio am swyddi sy\u2019n gofyn am y Gymraeg<\/h4>\n<p>Mae gwefannau penodol sy&#8217;n hysbysebu swyddi sy&#8217;n rhestru&#8217;r Gymraeg yn ddymunol neu&#8217;n hanfodol, er enghraifft <a href=\"https:\/\/safleswyddi.co.uk\/cy\/home\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Safle Swyddi<\/a>, <a href=\"https:\/\/swyddi.360.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Swyddi 360 <\/a>a <a href=\"https:\/\/lleol.cymru\/classified\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Lleol Cymru<\/a>.<\/p>\n<p>Wrth chwilio am swyddi yng Nghymru sy\u2019n gofyn i chi defnyddio\u2019ch sgiliau Cymraeg ar wefannau cyffredinol fel Indeed, Total Jobs neu LinkedIn, ceisiwch ddefnyddio geiriau fel \u2018siaradwr Cymraeg\u2019 neu \u2018Cymraeg\u2019 i hidlo canlyniadau, er enghraifft fel ar wefan <a href=\"https:\/\/www.jobsinwales.com\/welsh-speaking\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Jobs In Wales<\/a>.<\/p>\n<p>Mae gan <a href=\"https:\/\/gyrfacymru.llyw.cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gyrfa Cymru<\/a> broffiliau swyddi a chyngor gyrfaoedd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd.<\/p>\n\n        <div class=\"cu_tabs\">\n               \n        <ul class=\"nav nav-tabs\" role=\"tablist\">\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link active\" href=\"#content-how-to-demonstrate-your-welsh-skills-in-recruitment-cy-1\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"how-to-demonstrate-your-welsh-skills-in-recruitment-cy-1\">CV<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-how-to-demonstrate-your-welsh-skills-in-recruitment-cy-2\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"how-to-demonstrate-your-welsh-skills-in-recruitment-cy-2\">Ffurflen gais<\/a><\/li>\n        <li class=\"nav-item \" role=\"presentation\"><a class=\"nav-link \" href=\"#content-how-to-demonstrate-your-welsh-skills-in-recruitment-cy-3\" data-toggle=\"tab\" role=\"tab\" id=\"how-to-demonstrate-your-welsh-skills-in-recruitment-cy-3\">Cyfweliad<\/a><\/li><\/ul> <div class=\"tab-content\">\n        <div class=\"tab-pane active\" id=\"content-how-to-demonstrate-your-welsh-skills-in-recruitment-cy-1\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"how-to-demonstrate-your-welsh-skills-in-recruitment-cy-1\">\n        <p>Mae sawl ffordd y gallech chi amlygu eich sgiliau Cymraeg yn eich CV:<\/p>\n<ul>\n<li>Gallech chi gynnwys ieithoedd fel sgil yn eich adran Sgiliau ac amlygu eich hyfedredd yn y Gymraeg<\/li>\n<li>Os oes gennych chi gymwysterau ffurfiol yn y Gymraeg, gallech chi ychwanegu'r rhain at eich adran Addysg. Os nad oes gennych chi gymwysterau ffurfiol yn y Gymraeg, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig<a href=\"https:\/\/colegcymraeg.ac.uk\/cy\/myfyrwyr\/prifysgol\/tystysgrif-sgiliau-iaith\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"> Tystysgrif Sgiliau Iaith<\/a>, sydd ar gael i fyfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru i roi tystiolaeth o lefel eich sgiliau Cymraeg<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gallech chi hefyd amlygu eich gallu yn y Gymraeg mewn llythyr eglurhaol, pan fyddwch chi\u2019n manylu ar pam eich bod yn addas ar gyfer y r\u00f4l. Darllenwch <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/llythyrau-clawr\/\">ein cyngor ar lythyrau eglurhaol<\/a> am ragor o wybodaeth am beth i'w roi yn eich llythyr eglurhaol.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-how-to-demonstrate-your-welsh-skills-in-recruitment-cy-2\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"how-to-demonstrate-your-welsh-skills-in-recruitment-cy-2\">\n        <p>Fel gyda'ch CV, gallech chi gynnwys unrhyw gymwysterau iaith Gymraeg ffurfiol mewn adran Addysg neu Gymwysterau.Efallai y bydd gan ffurflen gais gwestiwn penodol am eich sgiliau Cymraeg, yn enwedig os yw'n ddymunol neu'n hanfodol ar gyfer y swydd, felly gallwch chi eu hamlygu.<\/p>\n<p>Mae rhai ffurflenni cais yn gofyn am ddatganiad ategol, a dyna le byddwch chi'n darparu tystiolaeth o sut rydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y swydd. Os yw\u2019r gallu i siarad Cymraeg yn un o\u2019r meini prawf hynny, gwnewch yn si\u0175r eich bod chi\u2019n ymhelaethu ar eich hyfedredd yn y Gymraeg yn eich datganiad ategol.<\/p>\n<p>I gael rhagor o gyngor, darllenwch <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/ffurflenni-cais\/\">ein cyngor ar ffurflenni cais<\/a>\u00a0gan gynnwys datganiadau ategol.<\/p>\n\n        <\/div>\n        <div class=\"tab-pane \" id=\"content-how-to-demonstrate-your-welsh-skills-in-recruitment-cy-3\" role=\"tabpanel\" aria-labelledby=\"how-to-demonstrate-your-welsh-skills-in-recruitment-cy-3\">\n        <p>Efallai y byddwch chi\u2019n cael eich gofyn am eich sgiliau Cymraeg mewn cyfweliad, lle mae eich gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu\u2019n ddymunol ar gyfer y swydd rydych chi wedi gwneud cais amdani. Efallai y cewch chi gwestiwn fel 'Pa mor gyfforddus ydych chi'n defnyddio'r Gymraeg mewn amgylchedd proffesiynol?' neu 'Allwch chi roi enghraifft o adeg pan rydych chi wedi defnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad proffesiynol?'. Efallai y byddwch chi\u2019n cael cwestiynau yn Gymraeg hyd yn oed.<\/p>\n<p>Os nad yw\u2019n codi\u2019n benodol yn y cyfweliad, ond mae\u2019n dal i fod yn berthnasol i\u2019r sefyllfa, efallai hoffech chi s\u00f4n am eich sgiliau Cymraeg wrth y cyfwelydd, er enghraifft os byddan nhw\u2019n gofyn i chi a oes unrhyw beth yr hoffech chi ei ychwanegu neu dydych chi ddim wedi s\u00f4n amdano eto. Efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gofyn iddyn nhw amdano, tra ar yr un pryd yn arddangos eich sgiliau Cymraeg - er enghraifft, 'mae'r hysbyseb ar gyfer y r\u00f4l yn s\u00f4n bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol\/dymunol ar gyfer y swydd hon. Rwy\u2019n gallu siarad Cymraeg [rhugl\/ ar lefel x], sut ydych chi'n meddwl y gallai'r sgiliau hynny fod yn ddefnyddiol yn y r\u00f4l?'<\/p>\n<p>Darllenwch <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cv-ceisiadau-a-chyfweliadau-cv-applications-and-interviews\/cyfweliadau\/\">ein cyngor ar sgiliau cyfweld<\/a> a'r ffordd orau o ymdrin \u00e2 gwahanol fathau o gwestiynau mewn cyfweliad.<\/p>\n\n        <\/div><\/div>\n        <\/div>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<h4>Datblygwch eich sgiliau Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd<\/h4>\n<p>Os ydych chi\u2019n siarad Cymraeg yn rhugl neu&#8217;n dysgu, mae llawer o ffyrdd y gallwch chi barhau i ddatblygu eich sgiliau iaith yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Mae cangen Caerdydd o&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.caerdydd.ac.uk\/coleg-cymraeg-cenedlaethol\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Coleg Cymraeg Cenedlaethol<\/a> yn gweithio gyda&#8217;r brifysgol i ddarparu hyfforddiant iaith Gymraeg a chyfleoedd astudio i fyfyrwyr a staff. Mae&#8217;n cynnig cymorth i fyfyrwyr sy&#8217;n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg gyda chyfleoedd ariannol, datblygiad personol a chefnogaeth i astudio ar gyfer y <a href=\"https:\/\/colegcymraeg.ac.uk\/myfyrwyr\/prifysgol\/tystysgrif-sgiliau-iaith\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Dystysgrif Sgiliau Iaith<\/a>.<\/p>\n<p>Gallwch chi ddatblygu eich sgiliau yn y Gymraeg gyda <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/welsh\/courses\/professional-courses-and-welsh-for-adults\/learn-welsh-cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Dysgu Cymraeg Caerdydd<\/a>, a manteisio ar gyrsiau am ddim a chithau\u2019n fyfyriwr Prifysgol Caerdydd. Mae cyrsiau ar gael ar wahanol lefelau, o ddechreuwyr i&#8217;r rhai sy&#8217;n dymuno gwella eu sgiliau Cymraeg ac sydd eisoes yn hyfedr.<\/p>\n<p>Gall cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg fod yn ffordd wych o ddatblygu eich sgiliau iaith. Mae llawer o gyfleoedd ym Mhrifysgol Caerdydd i chi ddefnyddio eich sgiliau Cymraeg mewn lleoliad cymdeithasol:<\/p>\n<ul>\n<li>Undeb <a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/about-cusu\/umcc\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd<\/a> \u2013 undeb sy\u2019n rhan o Undeb y Myfyrwyr sy\u2019n cynrychioli siaradwyr Cymraeg, dysgwyr ac unrhyw un gyda diddordeb yn yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Maen nhw&#8217;n gweithio gyda chymdeithasau a myfyrwyr i ddarparu ystod eang o ddigwyddiadau a gwasanaethau yn y Gymraeg<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/activities\/society\/ygymgym\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Y Gym Gym<\/a> \u2013 cymdeithas myfyrwyr sy\u2019n croesawu myfyrwyr o bob rhan o\u2019r Brifysgol sydd eisiau cyfleoedd i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg<\/li>\n<\/ul>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i ddysgu rhagor am y pwnc hwn:<\/p>\n<ul>\n<li>Trefnwch apwyntiad gyrfaoedd i drafod sut gall eich sgiliau Cymraeg eich helpu yn y gweithle drwy eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> - gallwch chi ofyn am gael siarad \u00e2 Chynghorydd Gyrfaoedd sy'n siarad Cymraeg<\/li>\n<li>Os ydych chi\u2019n fyfyriwr Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, gallwch chi gwblhau <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/your-future\/the-cardiff-award\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gwobr Caerdydd<\/a>\u00a0yn Gymraeg<\/li>\n<li>Cadwch lygad allan yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> am gyfleoedd profiad gwaith drwy\u2019r Gymraeg<\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dysgwch am fanteision siarad Cymraeg a sut i ddefnyddio eich sgiliau iaith yn eich gyrfa. ","protected":false},"author":9375,"featured_media":2612,"parent":1208,"menu_order":4,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1319","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1319","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1319"}],"version-history":[{"count":9,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1319\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2920,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1319\/revisions\/2920"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1208"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2612"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1319"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1319"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1319"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}