{"id":1328,"date":"2023-09-22T10:32:42","date_gmt":"2023-09-22T09:32:42","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/futures-online\/?page_id=1328"},"modified":"2024-09-17T11:27:18","modified_gmt":"2024-09-17T10:27:18","slug":"parhau-ach-datblygiad-proffesiynol","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/bywyd-ar-ol-prifysgol-life-after-university\/parhau-ach-datblygiad-proffesiynol\/","title":{"rendered":"Parhau \u00e2\u2019ch datblygiad proffesiynol"},"content":{"rendered":"<p>Y brifysgol yw\u2019r adeg berffaith i ddatblygu sgiliau newydd, cwrdd \u00e2 phobl newydd, a thyfu eich rhwydwaith. Bydd hyn yn eich helpu chi i adeiladu arfer o ddatblygiad proffesiynol y gallwch ei gario i gam nesaf eich gyrfa. Mae sgiliau rheoli gyrfa pwysig fel y gallu i addasu, hyblygrwydd, a gweld cyfleoedd i wella pan na fydd pethau\u2019n mynd fel y disgwyl (bod \u00e2 meddylfryd \u2018twf\u2019) oll yn eich galluogi i lywio eich gyrfa\u2019n llwyddiannus ac yn hyderus, drwy adegau da a drwg. Mae\u2019r sgiliau hyn hefyd yn eich annog chi i ddatblygu eich profiad, eich sgiliau a\u2019ch gwybodaeth yn barhaus, sy\u2019n eich rhoi chi mewn sefyllfa well i fachu cyfleoedd newydd a chyffrous, o newid cyfeiriad eich gyrfa, gwneud cais am ddyrchafiad, neu hyd yn oed ddechrau eich busnes eich hun.<\/p>\n<h4>Nodi meysydd i&#8217;w datblygu<\/h4>\n<p>Sylfeini datblygiad proffesiynol effeithiol yw <strong>myfyrio a blaengynllunio<\/strong>. Yn gyntaf, mae angen i chi adnabod beth ddylech chi weithio arno, ac yna deall sut bydd gweithio ar y pethau hynny o fudd i chi\u2019n broffesiynol. Does dim angen i chi fod wedi cynllunio\u2019ch gyrfa gyfan, ond bydd bod \u00e2 chynllun byr-dymor o ble rydych chi\u2019n gweld eich hun yn y dyfodol neu sut rydych chi\u2019n gobeithio datblygu yn sicrhau bod unrhyw weithgareddau datblygu ychwanegol rydych chi\u2019n eu gwneud yn mynd \u00e2 chi i lle hoffech chi fod. Mae datblygiad proffesiynol parhaus (\u2018DPP\u2019 neu \u2018CPD\u2019) hefyd yn gallu bod yn fwy ffurfiol mewn rhai sefydliadau neu broffesiynau, gan ddarparu llwybrau clir i chi barhau i ehangu eich sgiliau, eich gwybodaeth a\u2019ch arbenigedd.<\/p>\n<p><strong>Myfyrio<\/strong><\/p>\n<p>Tra byddwch chi yn eich swydd raddedig newydd, mae\u2019n bwysig eich bod yn cymryd amser rheolaidd i fyfyrio ar sut mae pethau\u2019n mynd. Meddyliwch ynghylch eich cyraeddiadau a\u2019ch llwyddiannau, yn ogystal \u00e2 chamgymeriadau neu brofiadau yr hoffech chi eu bod wedi mynd yn wahanol. Cymerwch amser i ystyried beth rydych chi\u2019n ei wneud yn dda, ond hefyd beth allech chi ei wneud yn well.<\/p>\n<p>Mae myfyrio\u2019n sg\u00ecl \u2013 mae\u2019n cymryd amser i\u2019w datblygu. Byddwch wedi datblygu sgiliau myfyrio eisoes gan ei fod yn<a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/datblygu-priodoledd-i-raddedigion-developing-graduate-attributes\/\"> un o chwe rhinwedd graddedigion Prifysgol Caerdydd<\/a>. Gall fod o fudd defnyddio modelau arfer myfyriol i helpu i strwythuro\u2019r myfyrio rydych chi\u2019n ei wneud. Mae gwahanol rai i ddewis o\u2019u plith, ac maen nhw bron bob amser yn eich annog i feddwl am yr hyn rydych chi wedi\u2019i ddysgu o\u2019r profiad neu beth fyddwch chi\u2019n ei wneud yn y dyfodol os byddwch chi mewn sefyllfa debyg eto. Mae OpenLearn yn cynnig<a href=\"https:\/\/www.open.edu\/openlearn\/mod\/oucontent\/view.php?id=51386&amp;section=4\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"> rhestr ddefnyddiol o fodelau myfyriol<\/a> y gallwch eu defnyddio ac mae gan <a href=\"https:\/\/ca.indeed.com\/career-advice\/career-development\/reflective-practice-example\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Indeed<\/a> enghreifftiau o arfer myfyriol hefyd.<\/p>\n<p>Cofiwch gymryd rhan lawn mewn unrhyw brosesau adolygu perfformiad yn eich swydd. Mae\u2019n debygol y bydd eich rheolwr llinell neu oruchwyliwr yn cwrdd \u00e2 chi\u2019n rheolaidd i drafod eich gwaith, eich cynnydd yn gweithio tuag at eich nodau neu amcanion, ac unrhyw bryderon neu broblemau sydd gennych chi \u2013 bydd myfyrio yn rhan allweddol o\u2019r broses hon. Gellid gwneud hyn yn wythnosol neu\u2019n fisol, ac yn flynyddol mewn adolygiad mwy manwl o\u2019ch perfformiad yn y gwaith dros y flwyddyn (a gaiff ei alw\u2019n aml yn arfarniad neu\u2019n adolygiad o berfformiad). Dyma gyfle perffaith i chi ofyn i\u2019ch rheolwr am eu barn am sut gallech chi barhau i ddatblygu, yn ogystal \u00e2 mynegi eich ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae cyflogwyr yn hoff o weithwyr sy\u2019n awyddus i dyfu a dysgu\u2019n barhaus, ac yn aml mae ganddyn nhw gyllideb hyfforddi a datblygu y gallan nhw ei defnyddio i gefnogi hyn. Efallai y bydd modd i\u2019ch rheolwr llinell gynnig eich enw ar gyfer hyfforddiant ychwanegol neu gynghori ar sut gallwch ddatblygu ymhellach.<\/p>\n<p><strong>Cynllunio ar gyfer y dyfodol<\/strong><\/p>\n<p>Er nad yw unrhyw gyfle i ddatblygu\u2019ch hun, eich sgiliau neu eich hyder yn wastraff amser, mae\u2019n well nodi cyfleoedd datblygiad proffesiynol a fydd yn eich helpu gyda\u2019ch nodau gyrfa \u2013 gallai hyn gynnwys symud ymlaen yn y maes o\u2019ch dewis neu symud i faes arall. Gall deall pa sgiliau, profiad neu wybodaeth sy\u2019n ofynnol yn y maes hwnnw roi cynllun mwy clir i chi o beth ddylech ganolbwyntio arno. Mae Prospects yn awgrymu cyfleoedd datblygiad proffesiynol sy\u2019n berthnasol i swyddi penodol <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/job-profiles\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">yn eu proffiliau swyd<\/a>d. Gallwch edrych yn \u00f4l ar ein hadran cynllunio gyrfa am fwy o gyngor ar <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/rheoli-eich-gyrfa-managing-your-career\/\/\">sut i gynllunio eich gyrfa<\/a>.<\/p>\n<h4>Ffyrdd o ddatblygu pan fyddwch chi mewn swydd<\/h4>\n<p>Mae cael eich swydd gyntaf ar \u00f4l graddio yn gyflawniad gwych, ac yn dyst i\u2019r holl waith caled rydych chi wedi\u2019i wneud i gael y gorau o\u2019ch profiad yn y brifysgol. Ond, dim ond dechrau eich bywyd gwaith yw hyn! Dylech fod \u00e2\u2019r un awydd i wella eich sgiliau a\u2019ch gwybodaeth yn eich swydd newydd ag oedd gennych chi yn ystod eich cyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd. Drwy chwilio am gyfleoedd newydd i ddysgu a datblygu, chi sydd wrth lyw eich gyrfa eich hun \u2013 ewch ati i chwilio am gam nesaf eich gyrfa a rhoi eich hun yn y sefyllfa orau bosib i gyrraedd yno.<\/p>\n<p>Mae myfyrio a nodi cyfleoedd datblygiad proffesiynol sy\u2019n berthnasol i\u2019ch nodau gyrfa yn allweddol, ond dyma rywfaint o gyngor ar sut i ddatblygu pan fyddwch chi eisoes mewn swydd:<\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-ways-to-develop-when-youre-in-a-job-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Dewch o hyd i fentor <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-ways-to-develop-when-youre-in-a-job-cy-1\"><p>Mentor yw rhywun sy\u2019n gallu rhoi cyngor a chefnogaeth answyddogol i chi ar eich llwybr gyrfa eich hun, yn seiliedig ar eu profiadau a\u2019r hyn maen nhw wedi\u2019i ddysgu o\u2019u gyrfa eu hunain. Yn ddelfrydol, bydd eich mentor yn gweithio yn eich dewis faes a byddan nhw\u2019n gallu rhoi cyngor i chi ar sut i fynd i\u2019r diwydiant penodol hwnnw, yn ogystal \u00e2 sut i wneud cynnydd. Mae gan Coursera <a href=\"https:\/\/www.coursera.org\/articles\/how-to-find-a-mentor\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gyngor defnyddiol ar ddod o hyd i fentor<\/a>.<strong><br \/>\n<\/strong><\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-ways-to-develop-when-youre-in-a-job-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Parhewch \u00e2'ch dysgu ac uwchsgiliwch <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-ways-to-develop-when-youre-in-a-job-cy-2\"><p>Mae Fforwm Economaidd y Byd wedi nodi chwilfrydedd a dysgu gydol oes yn ddiweddar fel <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/skills-and-attributes\/what-employers-look-for\/\">rhai o\u2019r prif sgiliau mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanynt<\/a>. Parhewch i fireinio'ch arbenigedd a'ch gwybodaeth yn eich maes. Gallai hyn gynnwys mynd i hyfforddiant neu gymryd rhan mewn dysgu pellach. Mae platfformau fel OpenLearn, Coursera a Future Learn yn cynnig cyrsiau ar-lein, gyda rhai am ddim. Mae cyrff a sefydliadau proffesiynol hefyd yn cynnig cyfleoedd i barhau \u00e2'ch dysgu ac uwchsgilio yn eich maes, ond efallai y bydd rhaid i chi dalu i fod yn aelod er mwyn cael mynediad at yr hyfforddiant.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-ways-to-develop-when-youre-in-a-job-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Manteisiwch ar gyfleoedd newydd a chamwch allan o\u2019ch cylch cysur <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-ways-to-develop-when-youre-in-a-job-cy-3\"><p>Bachwch ar gyfleoedd i ddatblygu neu i ddysgu pan maen nhw\u2019n codi. Gallai hyn gynnwys mynd i gynadleddau, hyfforddiant ychwanegol neu wirfoddoli i weithio ar brosiect newydd. Gall ymgymryd \u00e2 heriau newydd fod yn frawychus, yn enwedig ar ddechrau eich gyrfa. Fodd bynnag, y mwyaf o heriau byddwch chi'n ymgymryd \u00e2 nhw, y mwyaf y byddwch chi'n ei ddysgu, a'r mwyaf y byddwch chi'n tyfu'n broffesiynol. Darllenwch ganllaw Positive Psychology ar <a href=\"https:\/\/positivepsychology.com\/comfort-zone\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gamu allan o\u2019ch cylch cysur ac i mewn i'ch cylch twf<\/a>.<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-ways-to-develop-when-youre-in-a-job-cy-4\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Tyfwch \u2013 a defnyddiwch \u2013 eich rhwydwaith <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-ways-to-develop-when-youre-in-a-job-cy-4\"><p>Gobeithio erbyn y byddwch chi wedi graddio y byddwch eisoes wedi creu proffil LinkedIn ac yn ei ddefnyddio\u2019n aml i dyfu eich rhwydwaith! Os naddo, peidiwch \u00e2 phoeni \u2013 mae ein cyngor ar rwydweithio a\u2019r cyfryngau cymdeithasol yn barod i\u2019ch gwasanaethu, <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/rhwydweithio-a-chyfryngau-cymdeithasol-networking-and-social-media\/\">gydag awgrymiadau ar gyfer creu proffil LinkedIn<\/a>.<\/p>\n<p>Wrth i chi ddatblygu yn eich gyrfa, mae\u2019n bwysig parhau i dyfu eich rhwydwaith. Cysylltwch \u00e2 chydweithwyr newydd a phobl rydych chi\u2019n cwrdd \u00e2 nhw mewn cynadleddau neu ddigwyddiadau hyfforddi. Darllenwch <a href=\"https:\/\/www.mindtools.com\/am8a1fv\/how-to-use-linkedin-effectively\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gyngor MindTool ar ddefnyddio LinkedIn yn effeithiol<\/a>.<\/p>\n<\/div> <\/div><\/div>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i ddysgu rhagor am y pwnc hwn:<\/p>\n<ul>\n<li>Defnyddiwch <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/bywyd-ar-ol-prifysgol-life-after-university\/cael-cymorth-i-raddedigion\/\">gymorth gyrfa gan Dyfodol Myfyrwyr sydd ar gael am dair blynedd ar \u00f4l graddio<\/a> er mwyn parhau \u00e2\u2019ch datblygiad proffesiynol a chael cymorth gyda chynllunio gyrfa<\/li>\n<li>Cyngor Prospects ar <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/getting-a-job\/cpd-opportunities-for-graduates\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus i raddedigion<\/a><\/li>\n<li>Mae gan <a href=\"https:\/\/www.amazingif.com\/toolkit\/\">Squiggly Careers<\/a> ystod eang o adnoddau ar-lein i helpu gyda\u2019ch datblygiad gyrfa, yn dibynnu ar beth hoffech chi ganolbwyntio arno a faint o amser sydd gennych<\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cymerwch gyfrifoldeb am ddatblygiad parhaus eich gyrfa a datblygwch eich hun yn broffesiynol. ","protected":false},"author":9375,"featured_media":3128,"parent":1214,"menu_order":2,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-1328","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1328","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9375"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1328"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1328\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3127,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1328\/revisions\/3127"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1214"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3128"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1328"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1328"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1328"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}