{"id":2999,"date":"2024-07-25T10:02:01","date_gmt":"2024-07-25T09:02:01","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/?page_id=2999"},"modified":"2024-08-22T15:50:18","modified_gmt":"2024-08-22T14:50:18","slug":"cyngor-i-fyfyrwyr-sydd-heb-eu-cynrychiolin-ddigonol","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/cefnogaeth-wedii-theilwra-tailored-support\/cyngor-i-fyfyrwyr-sydd-heb-eu-cynrychiolin-ddigonol\/","title":{"rendered":"Cyngor i fyfyrwyr sydd heb eu cynrychioli\u2019n ddigonol"},"content":{"rendered":"<p>Pan rydyn ni\u2019n s\u00f4n am fyfyrwyr sydd heb eu cynrychioli\u2019n ddigonol yn y brifysgol, rydyn ni\u2019n golygu\u2019r myfyrwyr hynny sy&#8217;n llai tebygol yn ystadegol o fynd i&#8217;r brifysgol. Mae hynny\u2019n cwmpasu nifer fawr o fyfyrwyr o wahanol gefndiroedd ac amgylchiadau, gan gynnwys myfyrwyr:<\/p>\n<ul>\n<li>ag anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu sy&#8217;n niwroamrywiol<\/li>\n<li>sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eu teuluoedd<\/li>\n<li>sydd \u00e2 phrofiad o fod mewn gofal<\/li>\n<li>o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol<\/li>\n<li>sydd \u00e2 chyfrifoldebau gofalu, gan gynnwys cyfrifoldebau rhiant<\/li>\n<li>sy&#8217;n ffoaduriaid neu&#8217;n geiswyr lloches<\/li>\n<li>sy\u2019n dod o ardal o amddifadedd<\/li>\n<li>sy\u2019n dod o ardal lle mae lefel isel o gyfranogiad mewn addysg<\/li>\n<li>sy\u2019n dod o deuluoedd incwm isel<\/li>\n<li>sydd y cyntaf yn eu teuluoedd i fynd i\u2019r brifysgol<\/li>\n<li>sy\u2019n ystyried eu hunain yn LHDTC+<\/li>\n<li>o gefndiroedd Sipsi neu Deithiwr<\/li>\n<\/ul>\n<p>Nid rhestr hollgynhwysol yw hon. Cyn darllen y dudalen hon, hwyrach nad oeddech chi\u2019n ymwybodol eich bod yn dod o gr\u0175p a dangynrychiolir mewn addysg uwch. Efallai eich bod o\u2019r farn nad yw eich cefndir na\u2019ch amgylchiadau yn effeithio ar eich profiad yn y brifysgol neu\u2019ch gyrfa, ond weithiau, gall myfyrwyr o grwpiau sy&#8217;n llai tebygol o fynd i\u2019r brifysgol wynebu heriau neu rwystrau ychwanegol. Mae eich profiad unigryw yn ychwanegu gwerth a chryfder i unrhyw weithlu yn y dyfodol, ac mae cyflogwyr yn chwilio am y sgiliau rydych wedi&#8217;u hennill nid yn unig wrth ddod i&#8217;r brifysgol ond yn ystod eich gradd hefyd. Mae adnoddau a chymorth ychwanegol ar gael ichi wneud y mwyaf o&#8217;ch amser ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<h4>Gwerth gweithlu amrywiol<\/h4>\n<p>Mae eich amgylchiadau, eich profiadau a\u2019ch cefndiroedd unigol yn eich gwneud chi\u2019n <strong>unigryw<\/strong>, ac yn rhoi persbectif unigryw ichi ar y byd. Mae cael amrywiaeth o safbwyntiau, setiau sgiliau a phrofiadau yn bwysig i unrhyw sefydliad \u2013 mae&#8217;n cryfhau\u2019r broses o wneud penderfyniadau a datrys problemau, yn ogystal \u00e2 gwella cyfathrebu a chydweithio.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r e-Hwb Cyflogadwyedd, a gafodd ei greu ar y cyd rhwng Prifysgolion Cymru, sy\u2019n cynnwys Prifysgol Caerdydd, yn tynnu sylw at y <a href=\"https:\/\/employability.wales\/cy\/wynebu-realiti-yr-hyn-rydych-chin-dod-gyda-chi-ir-gweithle\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gwahanol sgiliau a chryfderau y gallwch chi eu cyfrannu<\/a>\u00a0at fywyd yn y brifysgol a&#8217;r gweithle, oherwydd eich profiadau bywyd. Mae&#8217;r rhain yn cynnwys empathi, y gallu i oresgyn anawsterau, a&#8217;ch ymwybyddiaeth o ddiwylliannau eraill a\u2019u derbyn.<\/p>\n\n\n<figure class=\"quote  \">\n          \n    \n    <blockquote class=\"quote-body\">\n      \"Mae\u2019r myfyrwyr hynny o grwpiau sy'n llai tebygol o fynd i\u2019r brifysgol yn aml yn dod \u00e2 safbwyntiau a gwytnwch unigryw gyda nhw i sefydliadau sy\u2019n gallu bod o gymorth i symud y sefydliadau hynny yn eu blaen. Dydy eich cefndir ddim yn fesur o'ch sgiliau, eich galluoedd na'ch ymroddiad, ond yn hytrach mae\u2019n sbardun i greu syniadau a datrysiadau arloesol.\"    <\/blockquote>\n    <figcaption class=\"quote-author\">\n    \n                        <a href=\"https:\/\/employability.wales\/cy\/wynebu-realiti-yr-hyn-rydych-chin-dod-gyda-chi-ir-gweithle\/\">e-Hwb Cyflogadwyedd (2023) 'Wynebu Realiti: Yr hyn rydych chi\u2019n dod gyda chi i\u2019r gweithle'<cite class=\"quote-source\"><\/cite><\/a>        \n                   \n\n    <\/figcaption>\n<\/figure>\n<h4>Gweithio i gyflogwyr cynhwysol<\/h4>\n<p>Mae cyflogwyr ym mhob diwydiant yn gwerthfawrogi gweithlu amrywiol ac mae llawer o gyflogwyr yn mynegi bwriad i wneud eu gweithleoedd yn fwy cynhwysol ac wedi ymroi i wneud hynny. <a href=\"https:\/\/www.deloitte.com\/content\/dam\/assets-shared\/docs\/campaigns\/2024\/deloitte-2024-genz-millennial-survey.pdf?dlva=1\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gwnaeth Arolwg gan Deloitte yn 2024<\/a> geisio tynnu sylw myfyrwyr cyfredol a graddedigion diweddar at bwysigrwydd gweithio i gyflogwyr sy\u2019n dymuno sbarduno newid go iawn yn y gymdeithas ac sy\u2019n mabwysiadu arferion gwaith cynhwysol. Mae Gen-Z a millennials yn fwyfwy tebygol o wrthod cyflogwyr nad yw eu gwerthoedd yn gydnaws \u00e2&#8217;u rhai eu hunain, gan gynnwys y rheiny sy&#8217;n ymwneud \u00e2 chynwysoldeb.<\/p>\n<p>Mae sawl ffordd o ymchwilio i ba mor gynhwysol yw cyflogwr:<\/p>\n<ul>\n<li>Cymerwch olwg ar wefan y cyflogwr \u2013 chwiliwch am bolis\u00efau&#8217;r cyflogwr ar gynwysoldeb ac amrywiaeth. A yw eu cenhadaeth neu nodau yn cynnwys unrhyw s\u00f4n am amrywiaeth, cynhwysiant neu newid cymdeithasol?<\/li>\n<li>Edrychwch ar gyfryngau cymdeithasol y cyflogwr \u2013 gall lluniau sy&#8217;n cael eu postio ar-lein roi syniad i chi o ba mor amrywiol yw gweithlu&#8217;r cyflogwr, yn ogystal \u00e2 pha mor wirioneddol maen nhw&#8217;n ymgysylltu \u00e2 nhw<\/li>\n<li>Prosesau a deunyddiau recriwtio \u2013 edrychwch ar yr iaith a ddefnyddir, a gweld os yw&#8217;r cyflogwr yn crybwyll ei fod yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd neu&#8217;n dymuno recriwtio ymgeiswyr sy\u2019n dod o amrediad eang o gefndiroedd<\/li>\n<li>Gofynnwch gwestiynau yn y cyfweliad \u2013 holwch gwestiynau i\u2019r cyflogwyr ynghylch y polis\u00efau sydd ganddyn nhw ar amrywiaeth a&#8217;u diwylliant yn y gweithle<\/li>\n<li>Meincnodau cynhwysol \u2013 defnyddiwch feincnodau neu safonau cydnabyddedig er mwyn pennu pa mor gynhwysol yw\u2019r cyflogwr. Mae <a href=\"https:\/\/www.inclusivecompanies.co.uk\/inclusivetop50\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Inclusive Top 50<\/a> yn rhoi rhestr o\u2019r cwmn\u00efau sydd ar y blaen o ran hyrwyddo cynhwysiant yn y DU. Ceir nifer o feincnodau neu fesurau eraill sy&#8217;n ymwneud \u00e2\u2019r ffordd y mae cyflogwyr yn cefnogi ymgeiswyr neu weithwyr penodol, er enghraifft, y cynllun <a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/government\/publications\/disability-confident-employers-that-have-signed-up\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Hyderus o ran Anabledd,<\/a>\u00a0<a href=\"https:\/\/www.stonewall.org.uk\/global-workplace-equality-index\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall<\/a> a&#8217;r <a href=\"https:\/\/www.socialmobility.org.uk\/employerindex\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Mynegai Cyflogwr Symudedd Cymdeithasol<\/a><\/li>\n<\/ul>\n<p>Efallai eich bod yn angerddol am wneud gwahaniaeth o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant eich hun \u2013 cewch chi ddarllen rhagor am y gyrfaoedd sy&#8217;n bodoli yn y maes hwn ar <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/job-profiles\/equality-diversity-and-inclusion-officer\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> a <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/job-descriptions\/equality-and-diversity-officer-job-description#:~:text=Equality%20and%20diversity%20officers%20aim,specialise%20in%20a%20particular%20area.\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">TargetJobs.<\/a><\/p>\n<h4>Cymorth gan y Brifysgol<\/h4>\n<p>Yn Dyfodol Myfyrwyr, os ydych chi\u2019n dod o gr\u0175p heb eu cynrychioli\u2019n ddigonol mewn addysg uwch, hwyrach y byddwch chi\u2019n gymwys i gael cymorth gan <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/your-future\/jobs-and-work-experience\/get-support-to-secure-work-experience\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Hyder o ran Gyrfa<\/a>. Mae Hyder o ran Gyrfa yn cefnogi myfyrwyr cymwys nad ydyn nhw efallai&#8217;n teimlo&#8217;n hyderus ynghylch sicrhau profiad gwaith neu gyflogaeth. Bydd y t\u00eem yn gweithio gyda chi i ddeall beth yw eich nodau o ran gyrfa, pa ymrwymiadau sydd gennych chi, a phryd y byddwch chi ar gael i greu cynllun datblygu a fydd yn cynnwys cymorth cyflogadwyedd a phrofiad gwaith pwrpasol i ddiwallu eich anghenion. Gall Hyder o ran Gyrfa gefnogi myfyrwyr a graddedigion diweddar fel ei gilydd &#8211; gallwch chi fynegi eich diddordeb ar eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth?locale=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a> a chwrdd \u00e2 Swyddog Prosiect i drafod sut y gallech chi elwa o gael cymorth cyflogadwyedd ychwanegol. Os nad ydych chi\u2019n si\u0175r eich bod yn dod o gr\u0175p heb eu cynrychioli\u2019n ddigonol mewn addysg uwch ai peidio, cysylltwch \u00e2 ni y naill ffordd neu\u2019r llall, a gallwn ni eich cyfeirio at ffynonellau cymorth eraill.<\/p>\n<p>Drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd gennych chi fynediad at <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/study\/equality-diversity-and-inclusion\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gymorth a chyngor helaeth sy&#8217;n ymwneud \u00e2 chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant<\/a> ac ymhlith y rhain y mae:<\/p>\n<ul>\n<li>trosolwg o <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/study\/equality-diversity-and-inclusion\/how-we-are-inclusive\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">sut mae&#8217;r brifysgol yn gynhwysol<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/study\/equality-diversity-and-inclusion\/together-at-cardiff\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gyda&#8217;n Gilydd yng Nghaerdydd<\/a>\u00a0&#8211; cyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr sydd \u00e2 phrofiad o fod mewn gofal, sydd wedi ymddieithrio, sydd \u00e2 phrofiad milwrol, sy\u2019n ofalwyr neu\u2019n geiswyr lloches<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/study\/equality-diversity-and-inclusion\/lgbtq-students\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Myfyrwyr LHDTC+<\/a> &#8211; cymoth penodol i fyfyrwyr sy&#8217;n ystyried eu hunain yn LHDTC+<\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/study\/equality-diversity-and-inclusion\/support-for-ethnic-minority-students\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cymorth i fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig leiafrifol<\/a>\u00a0&#8211; cymorth penodol i fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol<\/li>\n<\/ul>\n<h4>e-Hwb Cyflogadwyedd<\/h4>\n<p>Gallwch chi hefyd gael cymorth pellach sydd wedi&#8217;i deilwra i fyfyrwyr heb eu cynrychioli\u2019n ddigonol ar yr <a href=\"https:\/\/employability.wales\/cy\/hafan\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">e-Hwb Cyflogadwyedd<\/a>, sef adnodd Cymru gyfan a gr\u00ebwyd gan brifysgolion ledled Cymru, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd.<\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Adnoddau pellach<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i ddysgu rhagor am y pwnc:<\/p>\n<ul>\n<li>Cyngor gan Prospects ar <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/careers-advice\/getting-a-job\/diversity-in-the-workplace\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">amrywiaeth yn y gweithle<\/a><\/li>\n<li>Erthygl gan Coursera ar <a href=\"https:\/\/www.coursera.org\/enterprise\/articles\/why-is-diversity-important\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">bwysigrwydd amrywiaeth yn y gweithle<\/a><\/li>\n<li>Cyngor gan y Sefydliad Siartredig Person\u00e9l a Datblygu (CIPD) ar <a href=\"https:\/\/www.cipd.org\/uk\/knowledge\/factsheets\/diversity-factsheet\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle<\/a><\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Cymorth ychwanegol i fyfyrwyr o gefndiroedd sy'n cael eu cynrychioli'n llai mewn addysg uwch.","protected":false},"author":9374,"featured_media":2997,"parent":1208,"menu_order":4,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-2999","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2999","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9374"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2999"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2999\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3024,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/2999\/revisions\/3024"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1208"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/2997"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2999"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2999"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2999"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}