{"id":3093,"date":"2024-08-16T14:54:32","date_gmt":"2024-08-16T13:54:32","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/?page_id=3093"},"modified":"2024-09-19T13:19:14","modified_gmt":"2024-09-19T12:19:14","slug":"gweithio-i-chi-eich-hun","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/gweithio-i-chi-eich-hun\/","title":{"rendered":"Gweithio i chi eich hun"},"content":{"rendered":"<p>Mae gweithio i chi eich hun yn ddewis gyrfaol poblogaidd gan fod mwy na 4.2 miliwn o bobl hunangyflogedig yn y DU. Yn rhan o hunangyflogaeth mae creu busnes newydd, rhedeg eich busnes eich hun (hwyrach eich bod yn cyflogi pobl eraill hyd yn oed) a gwaith llawrydd (cyflwyno gwaith, prosiectau neu gontractau i gleientiaid penodol ar sail hunangyflogedig). Er mwyn bod yn hunangyflogedig, mae angen craffter busnes a chynnyrch neu wasanaeth gwerthfawr, ond ar ben hynny mae angen set benodol o sgiliau hefyd \u2013 rydyn yn galw&#8217;r rhain yn sgiliau entrepreneuraidd. Mae&#8217;r sgiliau hyn yn hollbwysig os ydych chi eisiau gweithio i chi eich hun, ac mae llawer o\u2019r rhain hefyd yn sgiliau trosglwyddadwy pwysig y mae galw mawr amdanyn nhw gan gyflogwyr.<\/p>\n<h4>Dewis hunangyflogaeth<\/h4>\n<p>Mae pobl yn dewis hunangyflogaeth am sawl rheswm. Er enghraifft, efallai y byddwch chi\u2019n dechrau busnes newydd am fod gennych chi syniad unigryw yr hoffech chi ei gyflwyno i&#8217;r farchnad neu efallai y byddwch chi eisiau mynd yn weithiwr llawrydd am ei fod yn rhoi mwy o hyblygrwydd ichi o ran eich oriau gwaith. Gallech chi fod yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig ar yr un pryd hyd yn oed, er enghraifft gweithio ar eich busnes eich hun neu ddechrau busnes yn eich amser rhydd. Beth bynnag sy\u2019n eich cymell i ddewis hunangyflogaeth, mae&#8217;n bwysig eich bod yn ystyried y manteision a&#8217;r anfanteision dan sylw \u2013 mae gan <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/self-employment\/is-self-employment-right-for-you\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Prospects<\/a> ganllaw defnyddiol i&#8217;ch helpu i benderfynu a yw hunangyflogaeth yn addas i chi.<\/p>\n<h4>Datblygu sgiliau entrepreneuraidd<\/h4>\n<p>Mae sgiliau menter a sgiliau entrepreneuraidd yn hollbwysig os ydych chi eisiau bod yn hunangyflogedig, ac maen nhw\u2019n ddeniadol iawn i gyflogwyr graddedigion hefyd! Mae&#8217;r rhain yn set o sgiliau rydyn ni\u2019n aml yn eu cysylltu ag entrepreneuriaid, ond mewn gwirionedd, gall unrhyw un ddatblygu a dangos sgiliau entrepreneuraidd. Ymhlith y rhain mae pethau fel creadigrwydd, y gallu i arloesi a datrys problemau a gwytnwch.<\/p>\n\n\n<figure class=\"quote  \">\n          \n    \n    <blockquote class=\"quote-body\">\n      \"Yn aml, bydd myfyrwyr a graddedigion yn meddwl mai dim ond os ydyn nhw'n bwriadu mynd yn entrepreneur a sefydlu eu busnes eu hunain ar \u00f4l graddio y bydd angen sgiliau entrereneuraidd arnyn nhw. Ond yn aml, bydd cyflogwyr yn chwilio am feddylfryd entrepreneuraidd wrth recriwtio graddedigion. Ased yw'r graddedigion hyn gan y byddan nhw\u2019n gallu gweld bylchau yn y farchnad ac arloesi, ac oherwydd eu bod yn fasnachol eu meddwl. Gall graddedigion sy\u2019n chwilio am swyddi ddangos eu cryfderau yn y maes hwn drwy ddangos eu gallu i weithio\u2019n annibynnol a meddwl yn wreiddiol, yn ogystal \u00e2\u2019u synnwyr busnes cadarn a\u2019u diddordeb yn y farchnad y mae eu darpar gyflogwr yn rhan ohoni.\"    <\/blockquote>\n    <figcaption class=\"quote-author\">\n    \n                        <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/skills-for-getting-a-job\/enterprise-and-entrepreneurial-skills-seizing-opportunities-and-seeing-them-through\">TargetJobs (2023) Enterprise and entrepreneurial skills: seizing opportunities and seeing them through<cite class=\"quote-source\"><\/cite><\/a>        \n                   \n\n    <\/figcaption>\n<\/figure>\n<p>Yn rhan o sgiliau entrepreneuraidd mae:<\/p>\n<ul>\n<li>Datrys problemau ac arloesi \u2013 mae gallu adnabod problemau a datblygu atebion arloesol yn allweddol mewn unrhyw yrfa, yn enwedig os ydych chi eisiau dechrau eich busnes eich hun. Ymhlith y rhain mae dod o hyd i fylchau yn y farchnad, canfod lle gall eich busnes neu&#8217;r cyflogwr rydych chi&#8217;n gweithio iddo fod cam ar y blaen a meddwl am atebion neu brosesau creadigol newydd.<\/li>\n<li>Gwaith t\u00eem ac arwain \u2013 mae\u2019r gallu i weithio gyda phobl eraill a dangos nodweddion arwain cryf yn hanfodol os ydych chi eisiau gweithio i chi eich hun, yn ogystal ag os ydych chi eisiau gweithio i gyflogwr. Efallai y bydd gofyn ichi weithio gyda phobl eraill ac yn rhan o d\u00eem i beri i&#8217;ch busnes weithio, ond bydd gofyn ichi arwain yn effeithiol hefyd, yn enwedig os ydych chi&#8217;n cyflogi pobl eraill. Mae <a href=\"https:\/\/www.indeed.com\/career-advice\/career-development\/entrepreneurial-leadership\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">arweinyddiaeth entrepreneuraidd<\/a>\u00a0yn set sgiliau defnyddiol i&#8217;w datblygu gan ei bod yn cyfuno llawer o sgiliau trosglwyddadwy pwysig eraill<\/li>\n<li>Hyblygrwydd a gwytnwch \u2013 rydyn ni gyd yn wynebu cael ein gwrthod yn ein gyrfaoedd, ond efallai bod entrepreneuriaid yn wynebu rhwystrau yn fwy na&#8217;r rhan fwyaf o bobl, yn enwedig wrth lansio neu ddechrau busnes newydd. Mae bod yn hyblyg a thrin rhwystrau yn gyfleoedd dysgu yn <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/rheoli-eich-gyrfa-managing-your-career\/\">sgiliau hanfodol i bawb er mwyn rheoli eu gyrfa<\/a>, nid entrepreneuriaid yn unig<\/li>\n<li>Rhwydweithio a meithrin perthnasoedd \u2013 mae creu rhwydwaith o gysylltiadau a chynnal perthnasoedd yn hollbwysig wrth ddechrau unrhyw yrfa, ac yn enwedig os ydych chi&#8217;n dechrau eich busnes eich hun neu&#8217;n mynd yn hunangyflogedig. Gall eich rhwydwaith roi cyngor a chymorth ichi, yn ogystal ag awgrymiadau defnyddiol er mwyn dod o hyd i gleientiaid newydd. Darllenwch <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/rhwydweithio-a-chyfryngau-cymdeithasol-networking-and-social-media\">ein cyngor mwy cynhwysfawr ar rwydweithio a\u2019r cyfryngau cymdeithasol<\/a> i\u2019ch helpu i ddechrau arni<\/li>\n<\/ul>\n<p>Byddwch chi\u2019n sylwi bod llawer o&#8217;r sgiliau entrepreneuraidd sy\u2019n cael eu rhestru yma yn rhai o&#8217;r sgiliau y <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/yr-hyn-y-mae-cyflogwyr-yn-chwilio-amdano\/\">mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw fwyaf<\/a>. Bydd treulio amser yn datblygu&#8217;r sgiliau hyn tra byddwch chi yn y brifysgol yn eich galluogi i ragori mewn unrhyw yrfa a ddewiswch chi, nid hunangyflogaeth yn unig. Mae bod yn arloesol, yn fentrus ac yn fasnachol ymwybodol hefyd yn <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/datblygu-priodoledd-i-raddedigion-developing-graduate-attributes\/\">un o chwe rhinwedd graddedigion rydych chi&#8217;n eu datblygu pan fyddwch chi ym Mhrifysgol Caerdydd<\/a>.<\/p>\n<h4>Cymorth menter gan Dyfodol Myfyrwyr<\/h4>\n<p>Mae gennym lawer o gymorth i&#8217;ch helpu i ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd a gweithio i chi eich hun, p\u2019un a ydych chi\u2019n dechrau busnes neu\u2019n mynd yn weithiwr llawrydd.<\/p>\n<p>Cewch weithio drwy ein llwybrau cynhwysfawr ar-lein wrth eich pwysau eich hun. <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/leap\/pathways\/preview-pathway.html?pathway=200\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Ymunwch \u00e2&#8217;n llwybr cychwyn busnes a gweithio\u2019n llawrydd<\/a> drwy eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr i ddatgloi\u2019r llwybrau dilynol am greu eich busnes newydd a mynd yn weithiwr llawrydd.<\/p>\n<p>Rydyn ni hefyd yn cynnig:<\/p>\n<ul>\n<li>Digwyddiadau rhwydweithio<\/li>\n<li>Bwtcamps<\/li>\n<li>Gwobrau dechrau busnes<\/li>\n<li>Gweithdai sgiliau<\/li>\n<li>Cystadleuaethau a gwobrau drwy gydol y flwyddyn i annog arloesi a datblygu eich syniadau ym maes menter cymdeithasol, megis rhaglen Inspire a 100 o Syniadau Mawr<\/li>\n<li>Cymorth 1 i 1 gan gynghorydd busnes<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae rhagor o wybodaeth am y cymorth rydyn ni\u2019n ei gynnig i <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/your-future\/start-a-business\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">fyfyrwyr presennol Prifysgol Caerdydd<\/a> ar y fewnrwyd ac i&#8217;n <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/alumni\/careers-and-learning\/enterprise-support\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">graddedigion diweddar ar wefan Prifysgol Caerdydd<\/a>.<\/p>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Rhagor o adnoddau<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i ddysgu rhagor am y pwnc hwn:<\/p>\n<ul>\n<li>Cewch ragor o gyngor a chymorth gan <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/cy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Fusnes Cymru<\/a>\u00a0a <a href=\"https:\/\/businesswales.gov.wales\/bigideas\/cy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Syniadau Mawr Cymru<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.gov.uk\/working-for-yourself\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyngor Llywodraeth y DU<\/a> ar weithio i chi eich hun<\/li>\n<li>Cyngor Prospects ar <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/self-employment\/how-to-start-a-business\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">sut i ddechrau busnes<\/a><\/li>\n<li>Cyngor TargetJobs ar <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/career-ideas\/how-become-entrepreneur-when-you-graduate\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">fynd yn entrepreneur pan fyddwch chi'n graddio<\/a><\/li>\n<li>Canllaw\u2019r <a href=\"https:\/\/www.royalmail.com\/business\/small-business-support-hub\/side-hustles\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">RoyalMail<\/a> am swyddi ar yr ochr<\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Ystyriwch yr opsiynau i fod yn fos arnoch chi eich hun a sut y gall sgiliau entrepreneuraidd eich helpu mewn unrhyw yrfa.     ","protected":false},"author":9374,"featured_media":3088,"parent":619,"menu_order":5,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-3093","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3093","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9374"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3093"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3093\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3139,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3093\/revisions\/3139"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/619"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3088"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3093"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3093"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3093"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}