{"id":3105,"date":"2024-08-21T11:58:04","date_gmt":"2024-08-21T10:58:04","guid":{"rendered":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/?page_id=3105"},"modified":"2024-09-20T11:55:33","modified_gmt":"2024-09-20T10:55:33","slug":"moeseg-ach-gyrfa","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/moeseg-ach-gyrfa\/","title":{"rendered":"Moeseg a&#8217;ch gyrfa"},"content":{"rendered":"<p>Mae gyrfa foesegol yn golygu chwilio am waith sy&#8217;n cyd-fynd \u00e2&#8217;ch gwerthoedd ac yn helpu i wneud y byd yn lle gwell, boed hynny drwy fynd i&#8217;r afael \u00e2 phroblemau cymdeithasol, helpu&#8217;r amgylchedd neu sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg. Ynghlwm wrth y gyrfaoedd hyn mae gwneud penderfyniadau sy&#8217;n ystyried lles yr holl randdeiliaid, gan gynnwys cyflogeion, cwsmeriaid, cymunedau a&#8217;r amgylchedd. Mae&#8217;r hyn rydych chi&#8217;n ei ystyried yn yrfa foesegol yn rhywbeth sy\u2019n bersonol i chi ac efallai y bydd yn wahanol i bawb.<\/p>\n<h4>Diffinio gyrfa foesegol neu gynaliadwy<\/h4>\n\n\n<figure class=\"quote  \">\n          \n    \n    <blockquote class=\"quote-body\">\n      \"Efallai y byddwch chi\u2019n ystyried gweithio yn y sector amgylcheddol ar y dechrau, ond mae\u2019n bosibl bod gan yrfa foesegol gwmpas sy\u2019n llawer ehangach. Yn yr ystyr ehangaf, mae'n golygu gweithio i gwmni neu sefydliad sy\u2019n cael effaith gadarnhaol ar y byd. Hwyrach y bydd hyn yn digwydd drwy gyflogaeth, menter gymdeithasol neu sefydlu eich cwmni eich hun.\"    <\/blockquote>\n    <figcaption class=\"quote-author\">\n    \n                        <a href=\"https:\/\/career-advice.jobs.ac.uk\/career-development\/an-ethical-career-how-you-can-make-a-positive-impact\/\">Jobs.ac.uk (2024) 'Gyrfa foesegol \u2013 sut gallwch chi gael effaith bositif'<cite class=\"quote-source\"><\/cite><\/a>        \n                   \n\n    <\/figcaption>\n<\/figure>\n<p>Mae cynaliadwyedd, sy&#8217;n golygu defnyddio adnoddau mewn ffordd sydd heb niweidio pobl, y blaned neu genedlaethau&#8217;r dyfodol, yn chwarae rhan fawr mewn gyrfaoedd moesegol. Mae <a href=\"https:\/\/sdgs.un.org\/goals\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">17 Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig<\/a> yn cynnig trosolwg defnyddiol o\u2019r blaenoriaethau allweddol o ran cynaliadwyedd yn fyd-eang gan eu bod yn ymdrin \u00e2 phethau fel dod \u00e2 thlodi i ben, ymladd yn erbyn anghydraddoldeb a diogelu&#8217;r amgylchedd at y dyfodol. Efallai y byddwch chi\u2019n dod ar draws tri philer cynaliadwyedd, sy&#8217;n tynnu sylw at yr angen i gydbwyso ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ogystal a\u2019u hintegreiddio\u2019n rhan o\u2019n gwaith:<\/p>\n<ul>\n<li>Cynaliadwyedd amgylcheddol \u2013 mae&#8217;r piler hwn yn ymwneud \u00e2 diogelu adnoddau&#8217;r blaned. Efallai y byddwch chi\u2019n chwilio am gyfleoedd gwaith gyda sefydliadau sy&#8217;n blaenoriaethu cynaliadwyedd yn eu gweithrediadau a&#8217;u cadwyni cyflenwi, neu elusennau a sefydliadau anllywodraethol (NGO) sy&#8217;n canolbwyntio&#8217;n bennaf ar wella neu ddiogelu&#8217;r amgylchedd<\/li>\n<li>Cynaliadwyedd cymdeithasol \u2013 mae&#8217;r piler hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i gael bywyd da, ni waeth pwy ydyn nhw. Efallai y byddwch chi\u2019n ystyried swyddi gyda sefydliadau sy&#8217;n blaenoriaethu amrywiaeth a chynhwysiant, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol ac ymgysylltu \u00e2&#8217;r gymuned<\/li>\n<li>Cynaliadwyedd economaidd \u2013 mae&#8217;r piler hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod ein harian a&#8217;n hadnoddau yn para at y dyfodol. Efallai y byddwch chi\u2019n ystyried cyfleoedd i weithio mewn sefydliadau sy&#8217;n blaenoriaethu cyflogau teg, safonau llafur teg a rheoli adnoddau mewn ffordd gyfrifol<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae gyrfa foesegol neu gynaliadwy yn rhywbeth <strong>sy\u2019n bersonol i chi<\/strong>. Yn unol \u00e2&#8217;n <a href=\"https:\/\/www.cardiff.ac.uk\/cy\/documents\/2729309-student-futures-code-of-ethics-and-impartiality\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">C\u00f4d Moeseg a Didueddrwydd<\/a>. Mae Dyfodol Myfyrwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei rymuso i wneud penderfyniadau cytbwys a gwybodus am ei lwybrau gyrfaol yn y dyfodol yn seiliedig ar egwyddorion, gwerthoedd a chredoau pob unigolyn.<\/p>\n<p>Dylech chi <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/welcome-cymraeg\/career-planning-2\/datblygu-hunanymwybyddiaeth\/\">fyfyrio ar eich gwerthoedd<\/a>, eich credoau a\u2019ch diddordebau eich hun i werthuso pwysigrwydd moeseg a chynaliadwyedd yn eich gyrfa. Bydd y ffordd y byddwch chi\u2019n dewis ymgorffori moeseg a chynaliadwyedd yn eich gyrfa yn dibynnu ar eich barn, eich dewisiadau a&#8217;ch amgylchiadau personol. Efallai y byddwch chi\u2019n dewis gweithio&#8217;n benodol mewn swydd sy&#8217;n canolbwyntio ar gynaliadwyedd a gwella\u2019r gymdeithas neu&#8217;r amgylchedd. Hwyrach mai ystyr gyrfa foesegol i chi fydd ymchwilio i werthoedd, moeseg a pholis\u00efau cyflogwyr, a hynny er mwyn bod yn ymwybodol o unrhyw waith y maen nhw\u2019n ei wneud sy&#8217;n cael effaith gymdeithasol neu amgylcheddol.<\/p>\n<h4>Ymchwilio i foeseg a gwerthoedd cyflogwyr<\/h4>\n<p>Cyn gwneud cais am unrhyw r\u00f4l, mae&#8217;n bwysig eich bod yn gwneud eich ymchwil. Bydd hyn yn helpu i wella eich ceisiadau <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/gwneud-eich-ymchwil-doing-your-research\/]\">drwy ddangos eich ymwybyddiaeth fasnachol<\/a>, ond bydd ar ben hynny yn eich helpu i ganfod a yw\u2019r cyflogwr yn addas i chi. Efallai y byddwch chi hefyd eisiau ymchwilio i werthoedd a moeseg sefydliad rydych chi\u2019n bwriadu ymuno ag ef. Mae <a href=\"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/cy\/sgiliau-a-phriodoleddau-skills-and-attributes\/datblygu-priodoledd-i-raddedigion-developing-graduate-attributes\">bod yn foesegol, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol ymwybodol<\/a>\u00a0hefyd yn rhinwedd allweddol y byddwch chi&#8217;n ei datblygu ym Mhrifysgol Caerdydd.<\/p>\n<p>Defnyddiwch yr adnodd isod i ddod o hyd i ffyrdd o ymchwilio i ymrwymiadau moeseg a chynaliadwyedd cyflogwyr:<\/p>\n\n<!-- iframe plugin v.6.0 wordpress.org\/plugins\/iframe\/ -->\n<iframe loading=\"lazy\" src=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_22333\" width=\"100%\" height=\"500\" scrolling=\"yes\" class=\"iframe-class\" frameborder=\"0\"><\/iframe>\n\n<p style=\"text-align: center\">Os ydych chi\u2019n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni\u2019n argymell eich bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn<a href=\"https:\/\/xerte.cardiff.ac.uk\/play_22333\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\"> ffenestr ar wah\u00e2n<\/a>.<\/p>\n<h4>Gwneud argraff yn y farchnad swyddi moesegol a chynaliadwy<\/h4>\n<p>Os ydych chi&#8217;n angerddol dros yrfa ym maes cynaliadwy, mae camau cadarnhaol y gallwch chi eu cymryd i gael rhagor o brofiad a datblygu eich gwybodaeth yn y maes hwn.<\/p>\n<p>Dyma rai ffyrdd i&#8217;ch helpu i wneud argraff:<\/p>\n<div class=\"accordion accordion-accessible\"><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-stand-out-in-the-ethical-and-sustainable-jobs-market-cy-1\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ymgymryd \u00e2 rhagor o astudiaethau<\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-stand-out-in-the-ethical-and-sustainable-jobs-market-cy-1\"><p>Hyd yn oed os yw eich gradd mewn pwnc nad yw'n gysylltiedig \u00e2 chynaliadwyedd, mae cyfleoedd i ddysgu rhagor amdano. Beth am geisio:<\/p>\n<ul>\n<li>Chwilio am gyrsiau ar-lein \u2013 er enghraifft, edrych ar y cyrsiau sy\u2019n rhan o <a href=\"https:\/\/www.unep.org\/explore-topics\/education-environment\/what-we-do\/massive-open-online-courses\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Raglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig<\/a>\u00a0neu <a href=\"https:\/\/sdgacademy.org\/courses\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Academi SDG<\/a> a\u2019r hyn sydd ar gael ar lwyfannau fel <a href=\"https:\/\/www.open.edu\/openlearn\/nature-environment\/free-courses?filter=date\/grid\/all\/all\/all\/all\/all\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Open Learn<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.coursera.org\/courses?query=sustainability\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Coursera<\/a>\u00a0a <a href=\"https:\/\/www.futurelearn.com\/subjects\/nature-and-environment-courses\/sustainability\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Future Learn<\/a><\/li>\n<li>Gwylio rhaglenni dogfen a gwrando ar bodlediadau \u2013 i gychyn arni, chwiliwch ar-lein ac ar blatfformau ffrydio i weld rhaglenni dogfen cynaliadwyedd a rhowch gynnig ar gyfres podlediadau <a href=\"https:\/\/www.youtube.com\/playlist?list=PLcO119kzZF6-XqNNGywHrhonyH1lC4RST\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Sustainable Futures: Career Conversations<\/a>\u00a0a <a href=\"https:\/\/www.greenbiz.com\/blogs\/enterprise\/greenbiz-350-podcast\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">GreenBiz 350<\/a><\/li>\n<li>Ymchwil \u2013 plymiwch i ddyfnder materion cynaliadwyedd drwy ddarllen adroddiadau ac erthyglau gan arbenigwyr blaenllaw a llunwyr polis\u00efau. Gallai hyn gynnwys: tanysgrifio i gylchlythyr yr <a href=\"https:\/\/eciu.net\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Uned Gwybodaeth ar Ynni a\u2019r Hinsawdd<\/a> (ECIU); gwybod rhagor am bolisi'r DU, <a href=\"https:\/\/www.theccc.org.uk\/publicationtype\/report\/net-zero-reports\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Sero Net<\/a>; cyrchu adnoddau, newyddion ac astudiaethau achos ar-lein ar wefannau megis <a href=\"https:\/\/www.edie.net\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">edie<\/a>, <a href=\"https:\/\/www.renewableuk.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Renewable UK<\/a>\u00a0a'r <a href=\"https:\/\/www.r-e-a.net\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gymdeithas er Ynni Adnewyddadwy a Thechnoleg L\u00e2n<\/a> (REA)<\/li>\n<\/ul>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-stand-out-in-the-ethical-and-sustainable-jobs-market-cy-2\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Mynnwch brofiad sy\u2019n berthnasol <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-stand-out-in-the-ethical-and-sustainable-jobs-market-cy-2\"><p>Ceisiwch gael profiad uniongyrchol o weithio yn y maes hwn tra byddwch yn y brifysgol.<\/p>\n<p>Chwiliwch am gyfleoedd i wirfoddoli gyda sefydliadau sy'n ymwneud \u00e2 chynaliadwyedd. Mae llawer o gyrff anllywodraethol, elusennau a busnesau yn gweithio ar faterion cynaliadwyedd ac yn croesawu gwirfoddolwyr. Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gael profiad gwaith perthnasol i gael effaith uniongyrchol a chadarnhaol. Mynnwch wybod rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael yn eich <a href=\"https:\/\/cardiff.targetconnect.net\/unauth\/student\/login?locale=cy\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr<\/a>.<\/p>\n<p>Mae gan lawer o brifysgolion hefyd swyddfeydd cynaliadwyedd neu grwpiau myfyrwyr sy'n trefnu prosiectau a digwyddiadau. Ymhlith rhai o\u2019r enghreifftiau ym Mhrifysgol Caerdydd mae\u2019r Gymdeithas Ffasiwn Gynaliadwy neu'r Gymdeithas Bywyd Gwyllt a Chadwraeth. Mae llawer o gymdeithasau myfyrwyr yn ymgorffori mentrau moesegol a chynaliadwy sy'n canolbwyntio ar gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd neu'r gymdeithas \u2013 dewch o hyd i'ch cymdeithas myfyrwyr ddelfrydol ar wefan <a href=\"https:\/\/www.cardiffstudents.com\/activities\/societies\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Undeb Myfyrwyr Caerdydd<\/a>. Gallech chi hefyd wneud cais i weithio <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/your-future\/jobs-and-work-experience\/on-campus-internships\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">ar interniaeth ar y campws<\/a> dros yr haf<\/p>\n<\/div> <\/div><div class=\"accordion-section\">\n        <h2 class=\"accordion-section-header-title collapsed\" data-toggle=\"collapse\" href=\"#content-stand-out-in-the-ethical-and-sustainable-jobs-market-cy-3\"\n        aria-expanded=\"false\"><svg class=\"icon icon-chevron-right\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" viewBox=\"0 0 19.75 32\">\n    <title>Chevron right<\/title>\n    <path d=\"M6.13,28.28L18.41,16,6.13,3.72,9.84,0l16,16-16,16Z\" transform=\"translate(-6.13 0)\"><\/path>\n<\/svg> Ymunwch \u00e2 sefydliadau i wybod rhagor am y cyfleoedd sydd ar gael yn y DU   <\/h2> <div class=\"accordion-section-body collapse \" id=\"content-stand-out-in-the-ethical-and-sustainable-jobs-market-cy-3\"><p>Mae cyrff proffesiynol neu sefydliadau aelodaeth yn cynnig gwybodaeth, digwyddiadau a rhwydweithio arbenigol. Mae rhai hefyd yn rhoi hyfforddiant i'w haelodau. Mae aelodaeth fel arfer yn cael ei chynnig ar sail gostyngiad i fyfyrwyr hefyd. Ymhlith y rheini sy'n arbennig o berthnasol y mae\u2019r Sefydliad Rheoli ac Asesu, y Sefydliad Siartredig Rheoli D\u0175r a'r Amgylchedd, Cymdeithas Ecolegol Prydain a Sefydliad y Gwyddorau Amgylcheddol. Hwyrach y bydd gan gyrff proffesiynol mewn sectorau neu feysydd eraill grwpiau amgylcheddol neu grwpiau sy\u2019n ymdrin \u00e2 chynaliadwyedd hefyd.<\/p>\n<p>Mae yna hefyd raglenni a chynlluniau penodol y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw yn y DU, megis:<\/p>\n<ul>\n<li>Green Alliance \u2013 mae\u2019n cynnig adnoddau amrywiol, gan gynnwys <a href=\"https:\/\/green-alliance.org.uk\/events\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">digwyddiadau<\/a>\u00a0a <a href=\"https:\/\/green-alliance.org.uk\/positive-action-trainee-scheme\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">chynlluniau i hyfforddeion<\/a><\/li>\n<li><a href=\"https:\/\/www.sos-uk.org\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Students Organising for Sustainability<\/a>\u00a0\u2013 elusen addysg dan arweiniad myfyrwyr sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd. Mae eu gwaith yn ymdrin \u00e2 meysydd megis yr amgylchedd, cyfiawnder a lles<\/li>\n<\/ul>\n<\/div> <\/div><\/div>\n \n\n                        <div class=\"alert alert-purple with-icon \">        \n                            <div class=\"alert-icon\">\n                    <svg class=\"icon\" xmlns=\"http:\/\/www.w3.org\/2000\/svg\" xmlns:xlink=\"http:\/\/www.w3.org\/1999\/xlink\" viewBox=\"0 0 196 148\" shape-rendering=\"geometricPrecision\" text-rendering=\"geometricPrecision\"><g clip-rule=\"evenodd\"><path d=\"M37.5,-0.5c44,0,88,0,132,0c.283.78913.783,1.455796,1.5,2c.667,44,.667,88,0,132-10.418.987-20.918,1.32-31.5,1c.167-26.669,0-53.3354-.5-80-31.035,30.868-61.8682,61.868-92.5,93-.6667,0-1.3333,0-2,0-6.6307-7.132-13.4641-14.132-20.5-21-.6667-.667-.6667-1.333,0-2C54.8333,93.6667,85.6667,62.8333,116.5,32c-26.6646-.5-53.3313-.6666-80-.5-.3091-10.7483.0242-21.415,1-32Z\" opacity=\"0.967\" clip-rule=\"evenodd\" fill=\"#fefffe\" fill-rule=\"evenodd\"\/><\/g><\/svg>                <\/div>\n            \n            <div class=\"alert-body\">            \n                <h3>Rhagor o adnoddau<\/h3>                <p>Defnyddiwch yr adnoddau isod i wybod rhagor am y pwnc hwn:<\/p>\n<ul>\n<li>Os ydych chi'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, ymunwch \u00e2 <a href=\"https:\/\/intranet.cardiff.ac.uk\/cy\/students\/your-future\/the-cardiff-award\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Gwobr Caerdydd<\/a> i ddysgu rhagor am gynaliadwyedd<\/li>\n<li>Cyngor Prospects ar <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/the-topic\/going-green-getting-hired-a-guide-to-sustainable-careers\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">yrfaoedd cynaliadwy<\/a>\u00a0a <a href=\"https:\/\/www.prospects.ac.uk\/jobs-and-work-experience\/job-sectors\/environment-and-agriculture\/how-to-get-an-environmental-job\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">swyddi sy\u2019n ymwneud \u00e2'r amgylchedd<\/a><\/li>\n<li>Cyngor TargetJobs ar ddod o hyd i <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/career-ideas\/green-careers-find-graduate-job-helps-environment]\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">yrfa werdd<\/a>\u00a0a <a href=\"https:\/\/targetjobs.co.uk\/careers-advice\/career-ideas\/careers-make-difference\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">swyddi sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol<\/a><\/li>\n<li>Darllenwch <a href=\"https:\/\/www.open.edu\/openlearncreate\/mod\/oucontent\/view.php?id=79931&amp;section=6\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">drosolwg Open Learn ynghylch cynaliadwyedd<\/a><\/li>\n<li>Chwiliwch am swyddi ym mhob sector sy'n gwella'r amgylchedd drwy fynd i <a href=\"https:\/\/www.greencareershub.com\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Green Careers<\/a><\/li>\n<\/ul>\n            <\/div>\n        <\/div> \n\n    \n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"Dewch i ddeall sut i ymgorffori moeseg, gwerthoedd a chynaliadwyedd yn eich gyrfa.","protected":false},"author":9374,"featured_media":3104,"parent":619,"menu_order":6,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"categories":[],"tags":[],"class_list":["post-3105","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"meta_box":{"cu_accordion":"","cu_alert":"","cu_carousel":"","cu_tabs":"","cu_quote":""},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3105","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/users\/9374"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=3105"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3105\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3156,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/3105\/revisions\/3156"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/619"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media\/3104"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=3105"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=3105"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/sites.cardiff.ac.uk\/studentfuturesplus\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=3105"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}