Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Hydref 2015

Annwyl gydweithiwr

Gadewch i mi ddechrau gyda mater sydd wedi cael sylw byd-eang yn y cyfryngau dros y wythnosau diwethaf: ein gwahoddiad i Germaine Greer draddodi darlith flynyddol Hadyn Ellis ar bwnc Menywod a Phŵer: Gwersi’r 20fed Ganrif. Ar ôl gwneud y cyhoeddiad, roedd Swyddog y Menywod, Undeb y Myfyrwyr, yn gyflym ei hymateb: sefydlwyd deiseb yn galw am dynnu’r gwahoddiad yn ôl, gan fod yr Athro Greer wedi mynegi’r farn (ymhlith pethau eraill sy’n ymwneud â materion trawsrywedd) nad oes modd i rywun a aned yn ddyn yn fiolegol fod yn fenyw drwy gael llawdriniaeth.

Er bod gennyf barch mawr at yr Athro Greer a’i chyflawniadau academaidd, hoffwn ddweud nad wyf, yn bersonol, yn cytuno â’r farn honno. Credaf fod gan bob un yr hawl i benderfynu ei hunaniaeth ei hun – gan gynnwys ei hunaniaeth o ran rhywedd – a dylai pobl eraill barchu’r dewisiadau rydym yn eu gwneud ynghylch materion o’r fath. Nid yw hunaniaeth o ran rhywedd yn fater corfforol yn unig, ac yn nid yw o reidrwydd yn seiliedig ar nodweddion biolegol.  Nid myfi yw’r unig un sydd o’r farn honno: mae gan Brifysgol Caerdydd gymuned LGBT+ balch sy’n ffynnu, ac mae’n cefnogi unrhyw fyfyriwr neu aelod o staff trawsrywiol.

Serch hynny, nid oes unrhyw achos dros dynnu gwahoddiad yn ôl, a estynnwyd i siaradwr academaidd nodedig a  rhagorol, ar y sail bod y safbwyntiau y mae wedi eu lleisio’n gyhoeddus ar faterion na fyddant yn rhan o bwnc y ddarlith arfaethedig, yn sarhaus i bobl eraill. Y peth gorau i’w wneud yw manteisio ar y cyfle i ymuno yn y ddadl gyhoeddus, gan ddadlau dros yr ochr arall.

Yn olaf, nid oes unrhyw sail i’r ddadl bod gwahodd yr Athro Greer i siarad yn un o ddigwyddiadau Prifysgol Caerdydd yn golygu ein bod yn cefnogi pob barn sydd ganddi am bob mater. Mae gan y rheini sydd wedi arwyddo deisebau ar ddwy ochr y ddadl hon yr hawl i’w barn. Mae gen i hawl i fy marn innau, ac mae gan yr Athro Greer yr hawl i’w barn hi. Mae’n well gen i weld dadleuon yn cael eu cynnal â chwrteisi a pharch. Cyhyd ag y bod pawb dan sylw yn aros o fewn ffiniau’r gyfraith, dylem fod yn barod i wrando ar ein gilydd heb i hynny olygu ein bod o reidrwydd yn cytuno neu’n cefnogi’r hyn a ddywedir. Dyna yw natur dadl, ac mae’n un o egwyddorion sylfaenol bywyd yn y brifysgol.

Wrth droi at faterion eraill, dywedais yn fy ebost diwethaf y byddaf yn sôn ychydig mwy am y broses o ddatblygu strategaeth dros y flwyddyn nesaf. Byddwch yn cofio fod Y Ffordd Ymlaen yn strategaeth ar gyfer 2012-2017. Pan gyrhaeddais gyntaf yn 2012, roeddwn yn ystyried bod angen brys am ddogfen strategol gryno i ddangos cyfeiriad y Brifysgol yn glir. Felly, roedd rhaid ei llunio, ei thrafod a’i chytuno yn gyflym. Mae cyfle gennym bellach i ystyried y cyfnod ar ôl 2017 yn fwy hamddenol. I’r perwyl hwnnw, yn gynharach y mis hwn, neilltuwyd y Gynhadledd Uwch-Staff flynyddol i ystyried, yn fras iawn, y materion allweddol a allai wynebu’r Brifysgol yn y tymor canolig a’r tymor hir. Nid oeddem yn trafod strategaeth fel y cyfryw, ond yn hytrach yn ystyried rhai o’r egwyddorion a ddylai fod yn sail iddi. Gwnaethom ystyried manteision ac anfanteision Y Ffordd Ymlaen ar ei gwedd bresennol, ac ystyried ai dull gweithredu cyffredinol yw’r un cywir. Gwnaethom hefyd ystyried dangosyddion perfformiad allweddol; pa mor ddefnyddiol ydynt a’r ffordd orau o’u llunio. Trafodwyd y gwerthoedd sylfaenol, ac a allai’r strategaeth ei hun gael ei harwain gan werthoedd. Yn olaf, trafodwyd y ffordd orau o ymgynghori’n eang yn ystod y broses o ddatblygu’r strategaeth.

Wythnos neu ddwy yn ddiweddarach, cynhaliwyd digwyddiad cwrdd-i-ffwrdd ar gyfer y Cyngor. Yn ystod y digwyddiad, bu corff llywodraethu’r Brifysgol yn ystyried rhai o’r cwestiynau hynny, a chytunodd ei bod yn gwneud synnwyr neilltuo’r flwyddyn academaidd sy’n weddill i dynnu cynifer o aelodau’r Brifysgol a rhanddeiliaid eraill ag sy’n ymarferol bosibl, i drafodaeth a fydd yn helpu i lywio dogfen strategol newydd ar gyfer y cyfnod ar ôl 2017. Bydd sawl ffordd o gyfrannu, ond un o’r ffyrdd pwysicaf fydd drwy gyfres o chwech neu wyth digwyddiad y byddwn yn eu cynnal yn ystod y flwyddyn hon. Bydd croestoriad o staff, myfyrwyr, aelodau’r Cyngor a rhanddeiliaid yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau a fydd yn caniatáu i ni fanteisio ar amrywiaeth eang o safbwyntiau, gan arwain at amrywiaeth o syniadau. Ni fydd dim un o’r sesiynau hyn yn llunio dogfen strategol mewn gwirionedd: y bwriad yw cynnal trafodaethau helaeth er mwyn gallu ystyried amrywiaeth o opsiynau. Yn y pen draw, byddaf yn goruchwylio’r broses o ysgrifennu dogfen derfynol, y bydd angen ei thrafod yn y Senedd ac y bydd angen i’r Cyngor gytuno arni. Penllanw’r broses fydd dogfen strategol newydd tuag at ddiwedd 2016, i’w lansio yn 2017. Bydd rhagor o wybodaeth am y sesiynau arfaethedig a ffyrdd eraill y gallwch gymryd rhan ar gael maes o law.

Yn gynharach y mis hwn, fe’m trawyd gan ddogfen a gyrhaeddodd fy nesg gan felin-drafod Gymraeg o’r enw Gorwel, a oedd yn dadlau nad yw Cymru fel cenedl ‘yn economaidd anobeithiol’. Gyda mwy o uchelgais a hunanhyder, yn ogystal â syniadau newydd a chydweithio, gallai Cymru wella ei sefyllfa a’i phroffil yn ddramatig. Cefais fy atgoffa o bethau eithaf tebyg a ddywedwyd wrthyf pan ddeuthum i’r Brifysgol i ddechrau. Roedd pobl yn dweud ein bod yn cuddio y tu ôl i bobl eraill; mae angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol a chanu ein clodydd ein hunain. Credaf ein bod bellach yn llawer gwell am gyfleu negeseuon cadarnhaol i weddill y byd. Yn yr adroddiad a lansiwyd gennym yn ddiweddar, dangoswyd bod Prifysgol Caerdydd yn cynhyrchu £6 ar gyfer economi Cymru am bob £1 mae’n ei gwario. Ond arhosodd un elfen o’r feddylfryd hon yn fy nghof. Dywedwyd wrthyf ein bod yn anweledig yma yng Nghaerdydd. Mae gan brifysgolion eraill arwyddion enfawr yn hyrwyddo eu presenoldeb, ond nid oes llawer i roi gwybod i bobl bod Prifysgol Caerdydd yn bodoli yng Nghaerdydd. Rwy’n falch o gael dweud bod hynny’n newid. Efallai eich bod eisoes wedi sylwi ar arwyddion mawr, gweladwy iawn mewn mannau amlwg yn ein hadeiladau yn Cathays. Maes o law, wrth i’r rhaglen arwyddion gael ei chwblhau’n raddol, bydd yn amhosibl anwybyddu’r ffaith bod Prifysgol Caerdydd yn bresenoldeb enfawr yng Nghaerdydd. Mae’n bwysig ein bod yn datgan ein cyflawniadau wrth y byd, ac rydym yn gwneud hyn yn rheolaidd. Ond, mae bod yn bresenoldeb gweladwy yn ein dinas ein hunain yn un mor bwysig, yn fy marn i.

Gyda dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor