Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Ffarwel gyfeillion…

Rwyf yn ysgrifennu hwn ar fore fy niwrnod olaf yn Ddirprwy Is-Ganghellor, mewn cyflwr o sioc (i ble’r aeth y 40 mlynedd ddiwethaf?) a thristwch (mae’r cylch academaidd blynyddol wedi llywodraethu fy mywyd ers i mi fod yn 5 oed).  Bydd llawer ohonoch yn gwybod i mi ddod i Goleg y Brifysgol Caerdydd yn fyfyriwr israddedig, ac aros ymlaen tan i mi gwblhau fy ngradd PhD.  Rwyf i wedi gwneud popeth o gontract oriau sero (fel arfer dysgu gyda’r nos, nad oedd neb arall yn awyddus i’w wneud) i fod yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol (a phopeth arall yn y canol hefyd mae’n siŵr).  Rwyf i wedi gweithio mewn llefydd eraill, ond mae i Gaerdydd le arbennig iawn yn fy nghalon.  Wnaf i ddim esgus fod popeth yn wych yma – yn wir mae canlyniadau’r NSS eleni’n ein hatgoffa’n ddigon clir bod digon ar ôl i’w wneud – ond hoffwn i ofyn i bawb gofio mor lwcus ydyn ni i gael gweithio mewn sector lle gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymdeithas.  Mae wedi bod yn fraint cael cyfarfod a gweithio gyda staff mor greadigol, gofalgar a dynamig a bod yn rhan o drawsnewid bywydau’r genhedlaeth nesaf.

Pan gyflwynais fy ngradd PhD roedd fy mab yn 3 oed (mae’n 37 bellach!) ac fe nodais yn yr adran diolchiadau ‘efallai na fydd gan mami gymaint o waith cartref nawr, a mwy o amser i chwarae’.  Pan oedd e gartref dros y Nadolig fe welodd gyfrol fy nhraethawd ymchwil, daeth i’r gegin a nodi ei fod yn dal i aros!  Felly ydy, mae wedi bod yn waith caled, ac yn llawer o waith – ond mae bod yn rhan o fywyd mor wych yn gwneud i mi deimlo’n ostyngedig.  Dylwn i orffen drwy barhau i gydnabod cefnogaeth fy nheulu – allwn i ddim fod wedi’i wneud hebddyn nhw wrth fy ochr.

Rydyn ni’n hynod o ffodus y bydd yr Athro Amanda Coffey yn dechrau fel DIG newydd fory – rwy’n gwybod ei bod yn angerddol dros addysg a’r grym sydd gan addysg i newid bywydau.  Rwy’n dymuno’r gorau iddi yn y dyfodol.

Os gwnaf i ddechrau enwi’r bobl rwy’n ddiolchgar iddyn nhw, rwy’n siŵr o anghofio enw rhywun – felly i bawb, yn y gorffennol ac yn y presennol: Diolch – mae wedi bod yn wych!