
- Cafodd yr Athro Treasure ei llongyfarch gan y Bwrdd ar gael ei phenodi’n Is-Ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth. Byd dyn dechrau ei swydd ym mis Ebrill 2017.
- Soniodd yr Athro Jones am ei ymweliad diweddar ag India, lle aeth i nifer o gyfarfodydd llwyddiannus a threfnus iawn, a lle buodd yn ymweld â sefydliadau â labordai yng ngwahanol gamau o’u datblygiad.
- Cafodd y Bwrdd y cynllun bras ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu.
- Cafodd y Bwrdd yr ail ddiweddariad i’r cynllun gweithredu ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr gan y tri Choleg.
- Cafodd y Bwrdd bapur am gynllun Ysgoloriaeth Ymchwil Ryngwladol ddiwygiedig. Nodwyd bod angen dadansoddi goblygiadau ariannol y cynllun ymhellach.
- Cafodd y Bwrdd bapur am y Gronfa Seilwaith Ymchwil, a mân ddiwygiad yn y cynllun ar gyfer yr alwad nesaf.
- Cytunodd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol i gymeradwyo’r ymateb drafft i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i fenthyciadau doethurol ôl-raddedig erbyn y dyddiad cau ar 16 Rhagfyr.
- Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am LearnPlus.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata
- Adroddiad chwarterol Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Cynfyfyrwyr
- Adroddiad misol Rhyngwladol ac Ewrop y Dirprwy Is-Ganghellor
- Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.
- Adroddiad misol yr Ystadau