Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Tachwedd 2017

Annwyl gydweithiwr

Cafwyd dau gyhoeddiad hir-ddisgwyliedig ym mis Tachwedd. Cyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr y rheolau ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil nesaf, a chyhoeddodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ei phapur gwyn ar y Strategaeth Ddiwydiannol. Mae’r ddau fater hyn o ddiddordeb mawr i ni, ond nid oedd unrhyw beth yn y naill ddogfen na’r llall oedd yn syndod mawr, ac er gwaethaf eu pwysigrwydd, nid yw’r un ohonynt yn fater brys, felly byddaf yn dychwelyd atynt rywbryd yn y dyfodol. Yn hytrach, hoffwn sôn am y datblygiad pwysig arall y mis hwn, sef yr anghydfod posibl rhwng Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) a’r prifysgolion sy’n cymryd rhan yng Nghynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS). Mae’n ddrwg gen i os nad yw hyn yn effeithio arnoch chi’n uniongyrchol, ond mae’n fater pwysig dros ben nid yn unig i Brifysgol Caerdydd, ond i’r sector cyfan, felly rwy’n teimlo y dylwn ei drafod yn fanwl yn fy ebost y mis hwn.

Y cwestiwn sylfaenol sydd wrth wraidd yr anghydfod hwn yw cynaliadwyedd ariannol prifysgolion. Mae’n amlwg bod addysg uwch yn ddrud, a dros y degawd diwethaf mae dau ffactor wedi gwneud ariannu prifysgolion yn fater mwyfwy dadleuol. Y cyntaf yw’r cydbwysedd rhwng yr unigolyn a’r wladwriaeth o ran ariannu. Yn fras, pa gyfran o’r gost o fynd i’r Brifysgol ddylai’r unigolyn sy’n elwa’n uniongyrchol ei thalu, a pha gyfran ddylai’r wladwriaeth ei thalu? Yr ail yw’r cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy’n mynd i’r brifysgol. Nod llywodraeth Blair oedd cynyddu’r gyfran o bobl ifanc rhwng 17 a 30 oed sy’n cael gradd prifysgol i 50%. Cafodd y polisi hwn ei seilio ar ddata gan y Sefydliad er Cydweithredu a Datblygu Economaidd (OECD) sy’n awgrymu bod perthynas rhwng y gyfran o bobl mewn gwlad benodol â gradd uwch a ffyniant y wlad honno yn y dyfodol. Roedd y mater yn ddadleuol iawn, ond yn raddol cafodd ei dderbyn ar y cyfan, ac yn y pen draw cafodd y cyfyngiad ar niferoedd myfyrwyr ei ddiddymu, gan olygu bod unrhyw un yn gallu mynd i’r brifysgol ar yr amod ei fod yn gymwys i gael lle. Mae’r cyfuniad hwn o ehangu sylweddol ac o symud baich y gost i’r unigolyn wedi arwain at fwy o bwyslais ar y costau sy’n gysylltiedig â chynnig addysg.

Ar lefel ymarferol, mae hyn wedi arwain at gwestiynau ynghylch y gost i brifysgolion i addysgu myfyrwyr, ac a ydynt yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw’r costau hyn yn isel, yn enwedig yng nghyd-destun ffioedd uwch. Yn sicr, dyna sydd yn rhannol wrth wraidd yr adolygiad ‘gwerth am arian’ o gyllid addysg uwch yn Lloegr a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yng nghynhadledd y Ceidwadwyr. Ac yn y bôn, dyna yw hanfod yr anghytundeb presennol ynglŷn â Chynllun Pensiwn y Prifysgolion. Mae’r rhan fwyaf o’r costau sydd gan brifysgolion yn gysylltiedig â staffio. Yn gyffredinol, mae’r costau hyn yn amrywio rhwng tua 50% a 60% o gyfanswm y trosiant (yn achos Caerdydd rydym bellach wedi cyrraedd tua 57%, neu £290m o drosiant y Brifysgol, sef £505m). Golyga hyn fod unrhyw gynnydd yng nghostau cyflogaeth yn cael effaith ar unwaith ar ein gallu i gynnig gwasanaethau, ac ar ein cynaliadwyedd ariannol yn y pen draw.

Y broblem sydd gennym yw bod USS yn gynllun Buddion Diffiniedig, sy’n golygu bod lefel derfynol y pensiwn yn cael ei chyfrifo ar sail cyflog cyfartalog a/neu derfynol y gweithiwr, yn hytrach nag ar sail cyfraniad y cyflogwyr a gweithwyr dros y blynyddoedd i ariannu’r pensiwn hwnnw. Golyga hyn y gallai’r swm y mae’n rhaid i gyflogwyr a gweithwyr ei dalu gynyddu er mwyn sicrhau y bydd modd ariannu pensiynau’r dyfodol. Ar hyn o bryd mae’r cyflogwr (y Brifysgol) yn talu 18% o gyflog gweithwyr USS i’r cynllun ac mae’r gweithwyr yn talu 8% o’u cyflog. Bydd y cynllun yn cael ei brisio bob tair blynedd. Golyga hyn fod amcangyfrif yn cael ei wneud o gostau cyffredinol y cynllun yn y dyfodol, a chyfrifir a oes digon o asedau i ariannu’r rhwymedigaethau yn y dyfodol wrth i bobl dderbyn eu pensiynau. Wrth gwrs, mae cyfrifiad o’r fath yn eithriadol o gymhleth ac yn cynnwys nifer o dybiaethau o fewn amrediad risg. Mae’n ddyletswydd ar yr Ymddiriedolwr USS i wneud yn siŵr bod yna ddealltwriaeth o gostau a risgiau’r dyfodol, a bod y cynllun wedi’i ariannu’n ddigonol i sicrhau bod y buddiolwyr wedi eu hamddiffyn. I fod yn glir, mae gan yr Ymddiriedolwr ddyletswydd gyfreithiol i weithredu ar ran y buddiolwyr ac, fel rhan o hynny, i asesu gallu’r cyflogwyr i ariannu’r cynllun. Mae’n werth esbonio mai ymddiriedolwr corfforaethol yw’r Ymddiriedolwr USS, nid unigolyn. Mae’r Ymddiriedolwr yn cynnwys Bwrdd Cyfarwyddwyr gyda phedwar aelod a benodir gan Brifysgolion y DU (UUK), tri aelod a benodir gan UCU, a phum aelod annibynnol. Mae gan y Bwrdd (yr Ymddiriedolwr) ddyletswydd i gyfarwyddo’r cynllun i sicrhau bod y buddion a addawyd yn cael eu talu i’r buddiolwyr yn unol â’r amserlenni y cytunwyd arnynt. Mae’n rhaid i’r Ymddiriedolwr fod yn fodlon ar y drefn, ac yn o gystal â hynny mae’n rhaid iddo ddangos bod lefel y cyfraniad yn ddigon i sicrhau y gellir gwneud y taliadau hynny yn y dyfodol. Yr unig ddewis arall yw newid y cynllun a lleihau’r buddion yn y dyfodol (mae buddion y gorffennol hyd at yr adeg pan gaiff y cynllun ei newid wedi eu gwarchod). Yn achos USS, fodd bynnag, nid oes gan yr Ymddiriedolwr bwerau dan reolau’r cynllun i gynnig newidiadau o’r fath. Y cyfan y gall yr Ymddiriedolwr ei wneud yw mynnu bod yn rhaid i gyfraniadau’r cyflogwr gynyddu. Drwy wneud hynny, mae’n rhaid iddo ystyried gallu’r cyflogwyr i barhau mewn sefyllfa gynaliadwy wrth wneud taliadau o’r fath (hynny yw, mae’n rhaid iddo fod yn hyderus am ‘gyfamod’ y cyflogwr). Mae hyn yn bwysig: ni all yr Ymddiriedolwr orfodi’r cyflogwr i dalu heb ystyried a oes modd iddo wneud hynny, ac ni ddylai’r cyflogwyr ymrwymo i gyfundrefn ariannu ar gyfer y dyfodol a allai peryglu sefydlogrwydd ei sefydliadau.

Fodd bynnag, mae modd newid rheolau’r cynllun. Nod newidiadau o’r fath fyddai sicrhau bod y cynllun yn gynaliadwy drwy leihau buddion yn y dyfodol (fel y dywedais uchod, mae buddion y gorffennol wedi eu gwarchod dan y gyfraith) fel na fyddai cyfraniadau’r dyfodol yn bygwth cynaliadwyedd y sefydliadau neu’n golygu bod yn rhaid i weithwyr dalu hyd yn oed yn fwy na’r gyfradd bresennol o 8% o’u cyflog. Mae’n rhaid i unrhyw newidiadau gael eu cynnig gan y Cyd-bwyllgor Trafod Telerau, sy’n cynnwys pum aelod a enwebwyd gan Brifysgolion y DU a phum aelod a enwebwyd gan UCU, gyda chadeirydd annibynnol. Dyma, yn anffodus, lle ceir anghytundeb. Y cam cyntaf wrth gyflwyno newidiadau i’r cynllun fyddai cynnig i wneud hynny gan y Cyd-bwyllgor. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i bawb yn y Cyd-bwyllgor gytuno. Hyd yma, ni chafwyd unrhyw gytundeb ynglŷn â dyfodol y cynllun.

Fe soniais uchod fod angen i’r Ymddiriedolwr ystyried gwerth y gronfa bob tair blynedd a phenderfynu a yw’n cael ei ariannu’n ddigonol ar gyfer y dyfodol i dalu’r buddion angenrheidiol i bensiynwyr. Mae dull cyfrifo’r cynllun yn bwnc llosg. Mae UCU (a nifer o academyddion arbenigol) yn dadlau bod y tybiaethau sy’n sail ar gyfer asesu ei werth or-ofalus, ac y byddai newid y cyfrifiadau actiwaraidd yn cael gwared ar y broblem neu’n ei lleihau yn sylweddol. Un o’r ystyriaethau yw’r ffaith fod pobl erbyn hyn yn byw’n llawer hirach nag oeddent pan sefydlwyd y cynllun yn wreiddiol yn y 1970au. Faint yn hirach y bydd pobl yn byw yn y dyfodol? Mae strategaethau buddsoddi’r cynllun yn ystyriaeth arall. A yw’r rhain yn or-fentrus neu’n or-ofalus? Nid oes ateb syml i gwestiynau o’r fath. Yr Ymddiriedolwr sydd i ateb y cwestiynau hyn, ond gallai UCU ac eraill herio’r ymateb. Rhaid i’r Cyd-bwyllgor Trafod Telerau ddod i benderfyniad yn y lle cyntaf, cyn mynd ati i argyhoeddi’r Ymddiriedolwr – sydd â dyletswydd ariannol i ddiogelu buddiannau’r buddiolwyr – i dderbyn y cytundeb o dan sylw. Rhaid yr Ymddiriedolwr fod yn glir ei feddwl na fydd yr hyn a gynigir yn effeithio ar allu ariannol y sefydliadau sy’n rhan o’r cynllun i anrhydeddu’r cytundeb yn y dyfodol pell.

Mae hyn ynddo’i hun yn ddigon cymhleth, ond rhaid cofio bod gan rywun arall rôl yn y broses gan fod yr Ymddiriedolwr yn cael ei reoleiddir gan y Rheoleiddiwr Pensiynau.  Unwaith eto, corff rheoleiddio sydd o dan sylw yn hytrach nag unigolyn. Nid yw’r Rheoleiddiwr Pensiynau o’r farn bod asesiad diweddaraf Ymddiriedolwr cyfamod y cyflogwyr yn or-ofalus, i’r gwrthwyneb, mae’r Rheoleiddiwr o’r farn nad yw’n ddigon ofalus. Beth bynnag fydd cynnig y Cyd-bwyllgor, ac ymateb yr Ymddiriedolwr, os nad yw’r Rheoleiddiwr Pensiynau o’r farn bod y cynllun mewn sefyllfa i allu cynnig y buddion y mae gan bensiynwyr y dyfodol hawl iddynt, gall y Rheoleiddiwr ymyrryd i sicrhau bod modd i’r cynllun wneud hynny, neu fod y cynllun yn newid ei reolau i wneud yn siŵr bod modd cynnig hawliau’r dyfodol.

Mae’n rhaid i ni gofio nad mater syml o ddweud y dylai cyflogwyr roi mwy o arian yn y cynllun yw hwn. Effaith hynny fyddai defnyddio ffioedd myfyrwyr i dalu pensiynau’r staff, yn hytrach na’u defnyddio ar gyfer eu haddysg, neu gyllid ymchwil at y diben hwnnw yn hytrach na chefnogi’r seilwaith ymchwil. Ac mae’n bosibl na fydd rhai sefydliadau’n gallu gwneud y taliadau hyn heb roi eu sefydlogrwydd ariannol yn y dyfodol mewn perygl. Mae pob prifysgol yn USS yn cael arian gan y llywodraeth: mae trethdalwyr, hefyd, yn gyndyn o weld eu harian yn mynd tuag at gefnogi cynlluniau pensiwn y mae’r Rheoleiddiwr Pensiynau, y cyflogwyr, a/neu’r Ymddiriedolwr yn eu hystyried yn anghynaliadwy ar eu ffurf bresennol. Byddai ailgyfrifo rhwymedigaethau’r cynllun drwy newid y tybiaethau sylfaenol – ateb di-gost yn y tymor byr – yn yr un modd yn gorfod cael ei gymeradwyo gan y Rheoleiddiwr Pensiynau.

Rwy’n gobeithio bod yr uchod yn dangos mai mater cymhleth yw hwn nad yw’n hawdd i ni ei ddatrys. Nid mater o gyflogwyr barus sy’n gwrthod cefnogi eu gweithwyr ydyw. Nid yw’n fater o undeb yn gwrthod cydweithio heb reswm da chwaith: mae dyletswydd ar UCU i bledio achos yr holl weithwyr yn USS, p’un a ydynt yn aelodau o UCU ai peidio. Byddai’n well gan bob un ohonom fod yn yr un sefyllfa â’r gorffennol, pan oedd y cynllun wedi’i ariannu mor dda nad oedd yn rhaid i gyflogwyr na gweithwyr wneud unrhyw gyfraniadau yn ystod ‘gwyliau pensiynau’. Yn anffodus, nid dyna’r sefyllfa heddiw. Mae cynlluniau Buddion Diffiniedig wedi cael eu diwygio neu eu disodli gan gynlluniau Cyfraniadau Diffiniedig mewn nifer o sectorau eraill, gan gynnig buddiannau sy’n llai hael na’r hyn oedd yn bosibl yn flaenorol. Nid yw hon yn sefyllfa ddelfrydol, ac nid yw’n beth newydd. Dyma’r trydydd gwaith i ni fod mewn sefyllfa anodd o’r fath ers i mi ddod yn Is-Ganghellor. Yr unig beth rwy’n ei ofyn yw y dylwn gydnabod pa mor gymhleth yw’r mater, ac osgoi twyllo ein hunain drwy feddwl bod ateb hawdd sy’n plesio pawb, er mwyn i ni allu cydweithio i ddod o hyd i’r ffordd leiaf niweidiol ymlaen.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor