Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Ionawr 2018

Annwyl gydweithiwr

Efallai y cofiwch imi ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar yr anghydfod ynghylch Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS) yn rhifyn mis Tachwedd o’r ebost misol hwn y llynedd. Gweithredu diwydiannol yw’r cam nesaf yn yr anghydfod erbyn hyn. Nid wyf yn bwriadu ailadrodd yr hyn a ddywedais bryd hynny, ond mae ar gael o hyd ar flog Bwrdd Gweithredol y Brifysgol os hoffech atgoffa eich hun. Fel yr oeddem wedi’i ragweld, rydym mewn sefyllfa anodd dros ben, ac mae gennyf bob cydymdeimlad ag aelodau USS sy’n bryderus ynghylch y ffactorau cymhleth ac amrywiol o dan sylw, ac yn awyddus i’w trafod. Rydym eisoes wedi trefnu sesiynau hysbysu gan Mercer (mae un ohonynt i’w gweld yma) a byddwn yn gofyn iddynt ddychwelyd ar ôl i ymgynghoriad USS ynghylch y newidiadau arfaethedig ddechrau ym mis Mawrth. Da chi, cymerwch ran yn yr ymgynghoriad ac ewch i’r sesiynau os oes modd.

Rydw i wedi cael nifer o negeseuon ebost ynghylch hyn, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ysgrifennu ataf. Rydw i’n cydnabod y pryder ynghylch y prisiad. Oherwydd hynny, rydw i wedi gofyn i’r Rhag Is-Ganghellor, yr Athro Karen Holford, wahodd awgrymiadau ar gyfer pwy fyddai’n aelodau addas o grŵp technegol i ddadansoddi’r prisiad actiwaraidd.  Y gwir amdani yw bod disgwyl i brisiad 2017 a gynhaliwyd gan Fwrdd Ymddiriedolwyr USS ddatgelu diffyg o dros £5bn. Fodd bynnag, fe gwestiynodd y Rheoleiddiwr Pensiynau y rhagdybiaethau a wnaed gan USS ynglŷn â gallu’r cyflogwyr i gefnogi’r cynllun pe byddai’r prisiad yn rhy optimistaidd, ac y byddai dros £7bn o ddiffyg yn y pen draw. Cyfrifoldeb y Rheoleiddiwr Pensiynau yw gwneud yn siŵr bod y cynllun wedi’i ariannu’n ddigonol i warchod buddion pensiynwyr y dyfodol. O ystyried cyflwr yr economi fyd-eang a rhagdybiaethau actiwaraidd ynghylch pa mor hir y bydd cynlluniau o’r fath yn para, bydd yn mynnu bod rhagdybiaethau ceidwadol yn cael eu gwneud.

Mae datrys yr anghydfod hwn yn dalcen caled oherwydd natur y rhagdybiaethau hyn. Nid yw hyn fel anghydfod ynghylch tâl lle mae’n bosibl dod i gytundeb hanner ffordd. Os bydd USS yn aros fel y mae nawr, ac yn rhoi’r un lefel o fuddion diffiniedig, byddai’n rhaid i bob aelod gael bron i 4% yn llai o gyflog (oherwydd byddai eu cyfraniadau pensiwn yn codi) a byddai costau cyflogau prifysgolion yn codi dros 7%. Yn ein hachos ni, byddai hynny’n golygu gorfod talu dros £10m yn ychwanegol, a byddai’n ein rhoi mewn sefyllfa ariannol hynod ansicr. Hyd yn oed ar ôl yr holl wariant ychwanegol hwn, mae posibilrwydd cryf y gallem fod yn yr un sefyllfa eto mewn tair blynedd, fel y digwyddodd yn y prisiad diwethaf. Ni fyddai ceisio dod i gyfaddawd rhwng bod mewn sefyllfa o’r fath a chael cynllun cyfraniadau diffiniedig yn mynd i’r afael â’r diffyg yn y cynllun. Yn amlwg, mae’r cynllun cyfraniad diffiniedig, sy’n cael ei gynnig gan UUK, yn llai deniadol na chynllun buddion diffiniedig. Gyda chynllun cyfraniad diffiniedig, mae aelodau yn adeiladu cronfa bensiwn yn ystod eu gyrfa. Mae’r cynllun yn buddsoddi ynddo ac mae’n talu’r hyn sydd wedi’i gronni pan mae’r pensiwn yn daladwy. Mae’n golygu nad oes unrhyw sicrwydd y byddai lefel benodol o bensiwn yn cael ei thalu mewn perthynas â chyflog terfynol neu gyfartaledd eich cyflog dros eich gyrfa. Fodd bynnag, mae’n fodd o gronni pensiwn da ac mae’n galluogi rhai aelodau i amrywio eu cyfraniad at y cynllun. Er y byddai cyflogwyr yn parhau i gyfrannu 18% o gyflogau (sy’n gyfraniad sylweddol o’i gymharu â nifer o sectorau), byddai gweithwyr yn cyfrannu 8% o’u cyflog, er bod modd iddynt gyfrannu llai na hynny dros dro, os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Fel arall, gallent gyfrannu swm dros ben, fel y maent yn gallu gwneud ar hyn o bryd. Mae’n werth cofio y byddai’n gynllun da dros ben o hyd o’i gymharu â sectorau eraill, ac y byddai’r gyfraith yn gwarchod yr holl fuddion sydd wedi’u cronni hyd yma.

Wedi dweud hynny, mae’n ddealladwy bod aelodau’r cynllun yn teimlo’n gryf ynghylch y mater. Rydym yn wynebu amgylchiadau hynod anffodus y mae UUK ac UCU wedi bod yn ceisio mynd i’r afael â nhw, ond yn aflwyddiannus hyd yma, ers 2011. Mae pob un o’r prisiadau tair blynedd sydd wedi’u cynnal ers hynny wedi bod yn waeth na’r un flaenorol. Mae hyn wedi ein harwain at sefyllfa lle bydd ariannu’r cynllun yn costio swm aruthrol yn y dyfodol. Mae dewis clir o’n blaen, ac er bod pob hawl gan aelodau UCU i weithredu’n ddiwydiannol, mae’n anodd gweld sut y gallwn ddod i gyfaddawd oni bai y bydd rhyw fodd annisgwyl o ddatrys y mater yn dod i’r amlwg. Rydym wedi rhoi rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar y fewnrwyd os oes diddordeb gennych.

Ar nodyn mwy gobeithiol, braf oedd gweld aelodau o’n grŵp Tonnau Disgyrchiant yn seremoni’r wobr Nobel yn Stockholm ar gyfer arweinwyr byd-eang y grŵp. Rydw i wedi sôn am eu gwaith arloesol ar sawl achlysur, ond fel y nododd un o fy nghydweithwyr, nid wyf wedi tynnu sylw at yr Athro Harry Collins o’r Brifysgol sydd wedi bod yn arbenigwr hynod awdurdodol am waith ym maes tonnau disgyrchiant ers 1972. Mae’r Athro Collins yn gymdeithasegydd gwyddoniaeth ac mae wedi cadw llygad barcud ar esblygiad y prosiect yn ogystal ag ysgrifennu sawl llyfr am y pwnc, gan gynnwys ei lyfr diweddaraf, Gravity’s Kiss: The Detection of Gravitational Waves. Mae’r llyfr hwn yn canolbwyntio ar y digwyddiad hollbwysig pan gafodd tonnau disgyrchiant eu canfod am y tro cyntaf yn 2015, a chafodd ei enwi ar restr Smithsonian o’r deg llyfr gwyddonol gorau yn 2017. Mae wedi mynd ati drwy ddod yn aelod y gellir ymddiried ynddo o’r gymuned wyddonol berthnasol a’i harsylwi, cyn belled â phosibl, i geisio cael gwell dealltwriaeth o sut mae gwaith gwyddonol yn cael ei wneud mewn gwirionedd. O ystyried maint y grŵp ac ers faint mae’r prosiect wedi cael ei gynnal, mae hyn wedi bod yn ymrwymiad o bwys, ond mae wedi rhoi darlun hynod ddiddorol na fyddai wedi bod yn bosibl mewn unrhyw ffordd arall. Mae lefel y manylder am y wyddoniaeth o dan sylw yn ddefnyddiol dros ben i unrhyw un nad yw’n arbenigo ym maes tonnau disgyrchiant. Ar ben hynny, mae’r cofnod o wyddoniaeth ar waith o ddydd i ddydd a’r wybodaeth hollbwysig a gynhyrchir yn amhrisiadwy.

Dim ond ychydig o bwyntiau i gloi: efallai i chi weld bod Y Ffordd Ymlaen newydd, sy’n cwmpasu’r cyfnod rhwng nawr a 2023, wedi’i chyhoeddi. Nid wyf am sôn amdano’n fanwl nawr, ond yn ystod yr Wythnos Siarad (5-9 Chwefror), gallwch glywed gen i ac aelodau eraill Bwrdd y Brifysgol a gofyn cwestiynau am hyn neu unrhyw fater arall. Braf yw cael dweud hefyd ein bod wedi penodi Cyfarwyddwr newydd ar gyfer yr Academi Ddoethurol: Mae’r Athro Anwen Williams wedi ymgymryd â’r rôl hon ac mae ganddi gynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol. A phleser o’r mwyaf hefyd oedd gweld nifer o bobl sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd yn cael eu hanrhydeddu yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd. I mi’n bersonol, pleser arbennig oedd gallu llongyfarch yr Athro Karen Holford ar gael ei CBE am ei gwasanaeth ym maes peirianneg ac am hyrwyddo menywod ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg. Dyma wobr hynod haeddiannol, ac yn brawf o’r gwaith eithriadol o bwysig y mae Karen yn ei wneud yn y meysydd hyn.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor