Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Gorffennaf 2018

Annwyl gydweithiwr

Pleser yw dechrau ebost y mis hwn, yr olaf yn y flwyddyn academaidd hon, drwy longyfarch cydweithwyr a chyfeillion y Brifysgol a gafodd eu cydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines fis diwethaf. Cafodd yr Athro Billie Hunter, Athro Bydwreigiaeth Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, CBE am wasanaethau i fydwreigiaeth ac addysg bydwreigiaeth yn y DU ac Ewrop, tra bod yr Athro Graham Hutchings, Athro Regius mewn Cemeg a Chyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd y Brifysgol, wedi cael CBE am wasanaethau i gemeg ac arloesedd. Dyfarnwyd MBE i’r Athro Haley Gomez, o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, am wasanaethau i astroffiseg, seryddiaeth a gweithgareddau allgymorth. Cafodd y Cymrawd Anrhydeddus Robert Wainwright, cyn-gyfarwyddwr Europol, ei gydnabod hefyd drwy gael ei urddo’n farchog am wasanaethau i blismona a diogelwch. Llongyfarchiadau mawr i bob un ar ran y Brifysgol gyfan.

Yn aml, dros y blynyddoedd, rydw i wedi gorfod sôn am yr ansicrwydd sy’n ein hwynebu fel prifysgol, ac wrth gwrs mae hyn yn fwy amlwg nag erioed o’r blaen ar hyn o bryd, ac yn cynnwys Brexit, anghydfodau ynglŷn â phensiynau a thâl, ac yma yng Nghymru, y dyfodol gwleidyddol wrth i Brif Weinidog newydd gael ei ethol. Ni all neb ragweld canlyniad y materion hynny, ac nid oes llawer y gallaf ei ddweud ar hyn o bryd fyddai’n ymhelaethu ar y ddadl gyhoeddus. Fodd bynnag, er gwaethaf yr ansicrwydd mae’n rhaid i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol, felly yn gynharach y mis hwn cytunodd ein Cyngor ar ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, gan edrych ymlaen i’r ddwy flynedd nesaf. Byddwn yn gweithredu gyda diffyg ariannol am un flwyddyn arall cyn dychwelyd i sefyllfa lle bydd gennym warged bach yn y flwyddyn ganlynol, ac yna dychwelyd i lefel gwarged 2013-14. Erbyn hynny bydd effeithiau llawn adolygiad Diamond yn amlwg yn ein grant gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Er i ni gyllido’n ofalus iawn dros y blynyddoedd er mwyn i ni allu bod mewn diffyg am gyfnodau byr, ni allwn wneud hynny am gyfnod amhenodol ac, yn wir, mae angen i ni gadw’r cyfnodau hynny mor fyr â phosibl. Er mwyn cyflawni’r rhaglen hon bydd yn rhaid i ni ystyried yn ofalus sut i roi trefn ar ein hadnoddau a byddwn am adolygu ein blaenoriaethau buddsoddi. Wrth wneud hynny mae’n hynod bwysig i ni sicrhau bod ystyriaethau academaidd yn cael blaenoriaeth, a’n bod yn manteisio ar y cyfle i gryfhau ein sefyllfa fel prifysgol yng Ngrŵp Russell, a’r unig brifysgol yng Nghymru sydd â siawns realistig o gyrraedd y 100 uchaf yn y byd, wrth i ni fynd ati i gyflawni’r perfformiad ariannol sydd ei angen. Bydd gwaith ar y materion hyn yn parhau drwy’r haf ac i dymor yr hydref, a bydd ein Prif Swyddog Ariannol, Mr Rob Williams, yn ysgrifennu erthygl ar gyfer Blas gyda mwy o fanylion dros yr wythnosau nesaf.

Y digwyddiad mawr ym mis Gorffennaf, wrth gwrs, yw Graddio, a gynhaliwyd yn llwyddiannus eto eleni. Mae’n ddigwyddiad mawr: Croesodd 7,200 o fyfyrwyr y llwyfan yn Neuadd Dewi Sant yn ystod yr wythnos, gyda chefnogaeth 25,000 o’u ffrindiau ac aelodau teulu. Cynhaliwyd 17 o seremonïau gennym a chynigiwyd naw o Gymrodoriaethau er Anrhydedd, a gweithiodd Dylan y Ddraig (masgot y Brifysgol) yn ddiwyd, weithiau mewn tywydd crasboeth, i sefyll mewn lluniau gyda graddedigion a’u gwesteion. Croesawodd ein cydweithwyr yn y gwasanaeth arlwyo 14,000 o bobl yn y derbyniadau graddio (newydd a gwell), gan weini 56,000 o canapés, 15,000 o gacennau bach, a 60,000 o wydrau Prosecco.  Ar ben hynny, cawsom 4,500 o boteli o gwrw dathliadol Prifysgol Caerdydd a fragwyd gan Fragdy Bang-On ym Mhen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth â’r Ysgol Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol. Bydd ein graddedigion newydd yn ymuno â dros 160,000 o gynfyfyrwyr mewn dros 180 o wledydd ledled y byd. Mae’n gyfnod o weithredu dwys lle mae angen cydweithio ar draws y Brifysgol. Yn ogystal ag Annabel Hurst a’i thîm yn y sector arlwyo, trefnodd Fran Dunderdale a’i chydweithwyr yn y Gofrestrfa y cyflwyniad graddedigion hollbwysig a’r materion cysylltiedig, a chwaraeodd Ali Carter a’i chydweithwyr yn nhîm y cynfyfyrwyr ran bwysig yn y Cymrodoriaethau er Anrhydedd a’r digwyddiadau dathlu cysylltiedig, yn ogystal â chefnogi ein holl raddedigion newydd. Gweithiodd timau’r Porthorion, Diogelwch, TG a Chyfathrebu’n agos gyda’i gilydd a gyda’r Prif Farsialiaid a’r Areithwyr, a byddai’r seremonïau ar eu colled heb eu cyfraniad.  Rydym hefyd yn elwa’n fawr ar gymorth y gwirfoddolwyr graddio sy’n tywys myfyrwyr a gwesteion o gwmpas y ddinas, ac wrth gwrs, ni allai hynny ddigwydd heb gefnogaeth werthfawr cydweithwyr academaidd ac Ysgolion ar draws y sefydliad. Mae’r digwyddiad cyfan i’w weld yn gwella bob blwyddyn, a hoffwn ddiolch yn fawr i bawb wnaeth cymaint o ymdrech i’w wneud yn llwyddiant ysgubol.

Fel y soniais yn fy ebost fis diwethaf, mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd eleni rhwng 3 a 11 Awst ym Mae Caerdydd ac mae’r Brifysgol yn chwarae rhan ganolog. Yn ogystal â noddi’r Goron a chael ein pabell Prifysgol Caerdydd arferol, rydym yn noddi’r Babell Wyddoniaeth ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth enfawr o weithgareddau sy’n cynnwys llawer o wahanol rannau o’r Brifysgol, gan gynnwys y Celfyddydau Creadigol a Hanes, Meddygaeth, Fferylliaeth a Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr. Mae’n gyfle gwych nid yn unig i arddangos ein hymchwil a’r cyfraniad yr ydym yn ei wneud at ein cymunedau lleol, ond hefyd ein hymrwymiad i Gymru. Eleni bydd cyfres newydd o ddigwyddiadau, Mas ar y Maes, sy’n fenter gydweithredol rhwng y gymuned LGBT, Stonewall Cymru a’r Eisteddfod. At ei gilydd, mae’n edrych fel rhaglen gyffrous, felly ewch draw os cewch chi gyfle.

Yn olaf, mewn tabl cynghrair newydd daeth Prifysgol Caerdydd yn 1af yng Nghymru ac yn 32ain yn Ewrop ar gyfer rhagoriaeth ein haddysgu, ac mae ffigurau cyflogaeth ymadawyr diweddaraf yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) ar gyfer 2016/2017 yn dangos bod mwy o’n graddedigion nag erioed o’r blaen wedi cael swydd a/neu’n parhau i astudio chwe mis ar ôl graddio. Roedd 95.7% o israddedigion amser llawn Prifysgol Caerdydd wedi’u cyflogi a/neu’n astudio, sef o 3,060 o blith 3,195. Dyma’r ganran uchaf ers i’r ffigurau ddechrau chwe blynedd yn ôl ac mae’n uwch na chyfartaledd presennol y DU, sef 94.6%.

Nid wyf fel arfer yn anfon ebost ym mis Awst, felly’r tro nesaf y byddwch yn clywed gennyf fydd diwedd mis Medi. Tan hynny, gobeithio y byddwch yn mwynhau gweddill yr haf rhyfeddol (hyd yma) hwn.

 

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor