Newyddion yr Is-Ganghellor

Ymateb yr Is-ganghellor i’r llythyr agored gan y grŵp Staff Prifysgol Caerdydd yn erbyn Brexit

Diolch am eich llythyr agored am Brexit (dyddiedig 10 Medi 2018) a’ch pryderon ynghylch ei effaith ar y Brifysgol, ein staff a’n myfyrwyr, ac addysg uwch.

Rydych yn codi nifer o bwyntiau pwysig yn eich llythyr, ac rwy’n gobeithio mynd i’r afael â nhw.

Yn dilyn y bleidlais yn Refferendwm yr UE ac yn y blynyddoedd ar ôl hynny, rydym wedi bod yn dra ymwybodol o effaith Brexit ar staff. Mae 28% o’n staff academaidd yn hanu o’r UE neu wledydd rhyngwladol, ac rydym wedi bod yn gwneud popeth posibl i’w helpu.

Er enghraifft, rydym wedi ymateb i geisiadau am wybodaeth gan staff yn dilyn y bleidlais i adael, drwy gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau, gan gynnwys cynnig sesiynau cymorth o dan arweiniad arbenigwyr cyfreithiol ar gyfer staff sy’n pryderu am oblygiadau Brexit.

Fe wnaethom greu tudalennau ar y fewnrwyd a rhwydweithiau cymorth ar gyfer staff o Ewrop, ac rydym yn parhau i’w diweddaru wrth i wybodaeth newydd ddod i’r fei. Mae hyn wedi cael ymateb ffafriol iawn.

Yn ogystal, fe wnaethom drefnu i roi cymorth ariannol i’r aelodau hynny o’n staff oedd am wneud cais ar gyfer preswylio, ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu polisïau a dulliau gweithredu er mwyn cynnig cymorth ariannol pellach.

Rydych hefyd yn cyfeirio at yr angen i gael ein gweld a chymryd rhan yn y ddadl gyhoeddus ehangach sydd ohoni.

Rwy’n cytuno â hynny, ac fel Is-ganghellor, rwyf wedi ceisio dangos gwerth bod yn aelod o’r UE i’n prifysgolion ar lwyfannau gwleidyddol a chyhoeddus, cyn ac ar ôl y refferendwm.

Rwy’n aelod o Grŵp Cynghori ar Ewrop Llywodraeth Cymru sy’n cynnig cyngor ar yr heriau a’r cyfleoedd sy’n codi wrth i’r DU adael yr UE.

Yn ogystal, rydw i wedi bod yn eiriolwr dros bwysigrwydd symudedd academaidd, ac roeddwn yn un o bedwar o Is-gangellorion Grŵp Russell, yn cynrychioli pob un o wledydd y DU, wnaeth lofnodi llythyr i Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, ar y mater hwn.

Roedd y llythyr yn ategu ei fwriad i wneud hawliau cyfatebol ar gyfer gwladolion yr UE a’r DU yn flaenoriaeth. Roedd hefyd yn ei annog i barhau â chysylltiadau presennol a gwarchod perthnasoedd gwaith er mwyn sicrhau bod ymchwil ar y cyd yn parhau.

Byddaf yn parhau i bledio’r achos hwn.

Rydych yn llygad eich lle yn tynnu sylw at rai o’r heriau sy’n codi wrth i’r DU adael yr UE. Rhaid i ni warchod rhwydweithiau cydweithredol a’r holl fanteision y mae’r UE yn eu cynnig i ni ym meysydd ymchwil, addysgu, a chyfnewid myfyrwyr a staff.

Rydym wedi ymrwymo i barhau i adeiladu a chynnal ein partneriaethau a’n cydweithrediadau Ewropeaidd. Mae cydweithio o’r fath – yn ogystal â chael arian – yn hanfodol os yw’r Deyrnas Unedig i gynnal ei statws fel arweinydd ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg, a datblygu diwylliant o arloesedd.

Rwyf wedi pwysleisio’r negeseuon hynny ar bob cyfle, a byddaf yn parhau i wneud hynny.

Yr hyn sy’n rhaid i ni wneud yn ogystal yw ceisio’r fantais orau nid yn unig ar gyfer y Brifysgol, ond ar gyfer Cymru, y DU a’r byd, wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rhaid i ni fod yn barod i fachu’r cyfleoedd a ddaw ar ein traws, yn ogystal â chynnal y rheiny a gynhyrchwyd gennym hyd yn hyn.

Er enghraifft, rwyf o’r farn y dylem ystyried y cyfleoedd i greu rhaglen symudedd allanol ryngwladol fydd yn helpu i gefnogi’r broses ehangach o feithrin agwedd ryngwladol mewn addysg yng Nghymru a’r DU. Codais y pwynt hwn mewn cyfweliad gyda BBC Wales ym mis Chwefror.

Rydw i wedi bod yn hapus i siarad yn gyhoeddus am Brexit, ei heriau a’i gyfleoedd, ac rwy’n parhau i fod yn hapus i wneud hynny. Cefais sgwrs gyda’r Times Higher Education yn fwyaf diweddar am y bil sydd ar y gweill gan y Llywodraeth ar fewnfudo yn dilyn Brexit, a’r cyfle allai godi yn sgîl hwnnw.

Rydych yn awgrymu bod y Brifysgol wedi cadw’n dawel ers y refferendwm. Rydym wedi mynegi ein pryderon fel sefydliad mewn ffyrdd, er nad ydynt mor amlwg ar yr olwg gyntaf, sy’n uniongyrchol gysylltiedig â phrosesau democrataidd y DU.

Ers y refferendwm yn 2016, rydym wedi nodi heriau Brexit mewn llu o ymchwiliadau gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, y Cynulliad Cenedlaethol a Thŷ’r Cyffredin. Mae grwpiau sy’n cynrychioli’r sector wedi gwneud cyflwyniadau tebyg, gan gynnwys Prifysgolion Cymru, Prifysgolion y Deyrnas Unedig a Grŵp Russell.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyflwyno tystiolaeth sy’n mynegi’n eglur beth yw’r heriau yn sgîl Brexit i enw da, ansawdd, cynaliadwyedd ac amrywiaeth addysg uwch. Mae’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth hon ar gael i’r cyhoedd.

Yn ogystal, mae’r cyflwyniadau i’n cynrychiolwyr etholedig wedi pwysleisio beth yw’r manteision sylweddol y mae bod yn aelod o’r UE yn eu cynnig, gan bledio’r achos dros gynnal manteision o’r fath yn dilyn Brexit. Er enghraifft, byddwn yn eich annog, i fwrw golwg ar ein cyflwyniad diweddaraf i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2018.

Rydych yn cyfeirio at y cytundeb terfynol, a brwydro am bleidlais wybodus.  Rhwydd hynt i bob unigolyn yw hi i benderfynu a ydynt am fod ymhlith y rheini sy’n galw am bleidlais bellach. Fel Is-ganghellor, rydw i wedi bod yn glir ynghylch effaith Brexit ac, yn hanfodol, y byddai goblygiadau difrifol i ni a’r sector yn ehangach, yn sgîl sefyllfa ‘dim cytundeb’.

Yn dilyn papur gwyn diweddar Llywodraeth y DU, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ceisio cael rhagor o sicrwydd, mwy cadarn. Rydym ni’n ymbil arnynt i wneud ymrwymiad cadarn dros allu staff a myfyrwyr yr UE i symud yn rhydd, gan gynnwys cynnal mynediad at Erasmus+.

Rydym hefyd yn ceisio sicrwydd dros gynnal neu gynyddu cronfeydd datblygu rhanbarthol a weinyddwyd yn flaenorol gan yr EU ac i’r rhain gael eu gweinyddu ar lefel ddatganoledig.

Mae’r Brifysgol wedi bod yn ystyried effaith Brexit yng nghyd-destun ei chyfeiriad strategol a’i ffocws, a bydd yn parhau i wneud hynny.

Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod Prifysgol Caerdydd yn gymuned ryngwladol sy’n gwerthfawrogi staff a ddaw i weithio yma o bedwar ban byd. Mae tua 600 o’n staff yn hanu o wledydd nad ydynt yn yr UE. Mae’r amrywiaeth hon yn meithrin creadigrwydd ac arloesedd, ac mae’n rhan hollbwysig o’n diwylliant. Ni fydd hynny’n newid.

Bydd Prifysgol Caerdydd yn parhau i fod yn Brifysgol oddefgar, amrywiol, gyfeillgar a chroesawgar i staff a myfyrwyr o Ewrop ar ôl Brexit.