Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Hydref 2019

Annwyl gydweithiwr

Nawr fod y flwyddyn academaidd newydd ar waith mae’n briodol myfyrio ar yr heriau ar gyfer 2019-20 yn nhermau ein hymdrechion academaidd, yn enwedig gan fod gennym ddau adolygiad pwysig o’n hansawdd academaidd i baratoi ar eu cyfer. Un o’r rhain yw’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF), fydd yn gyfarwydd i chi ac y byddaf yn dychwelyd ato yn y man. Efallai fod y llall yn llai cyfarwydd, ond mewn rhai ffyrdd mae’r un mor bwysig: Yr Adolygiad Gwella Ansawdd (QER), a gynhelir gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA). Dyma’r tro cyntaf i’r broses gael ei chynnal, yn dilyn mandad Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. Gallwch ddarllen mwy am yr adolygiad yma, ond yn gryno, diben y QER yw dangos bod ein darpariaeth addysgol o safon ac ansawdd academaidd priodol yn erbyn gwaelodlin o ofynion rheoleiddiol, yn ogystal â mynegi barn ar sut rydym ni’n defnyddio gwybodaeth a thystiolaeth i ffurfio ein hymagwedd strategol at wella profiad y myfyriwr. Efallai nad yw hyn yn swnio’n ddramatig iawn, ac yn wir dyw’r farn y deuir iddi ddim yn ymddangos fel pe bai wedi’i chynllunio i gyflymu’r galon, gyda thri dyfarniad posibl: bodloni’r gofynion, bodloni’r gofynion gydag amodau neu ddim yn bodloni’r gofynion. Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau ein bod yn bodloni’r gofynion. Gallai canlyniadau peidio â gwneud hynny fod yn eithriadol o ddifrifol, gan fod angen canlyniad QER llwyddiannus i gael Cynllun Ffioedd a Mynediad a chadw ein trwydded noddwr Haen 4, y byddai’n amhosibl i ni recriwtio myfyrwyr rhyngwladol hebddi. Ddechrau mis Rhagfyr byddwn yn cyflwyno dau adroddiad (un hunanasesiad ac un ar sut rydym ni’n bodloni’r gofynion) a bydd Undeb y Myfyrwyr yn cyflwyno eu hadroddiad nhw. Bydd tîm yr ASA yn ymweld â Chaerdydd ddwywaith, unwaith ddechrau mis Chwefror ac yna ddechrau mis Mawrth 2020, cyn cyhoeddi eu canlyniadau rai wythnosau’n ddiweddarach. Bydd angen ymdrech ac ymrwymiad sylweddol gennym ni drwy’r holl broses a bydd yn bwysig iawn i ni i gyd gefnogi’r rheini sy’n cymryd rhan uniongyrchol fel bo angen; rwy’n ddiolchgar i bawb sy’n gweithio ar hwn.

Ymhen ychydig dros flwyddyn, ar 27 Tachwedd 2020, byddwn yn cyflwyno ein set data ar gyfer REF 2021. Dyddiad y cyfrifiad i’r holl staff sydd â chyfrifoldeb sylweddol am ymchwil yw 31 Gorffennaf 2020, mae’r cyfnod asesu ar gyfer yr 120 astudiaeth achos effaith sydd angen i ni eu llunio yn rhychwantu 1 Awst 2012 i 31 Gorffennaf 2020, yn seiliedig ar ymchwil yn y cyfnod 1 Ionawr 2000 i 31 Rhagfyr 2010, tra bo datganiadau amgylchedd, yn cynnwys datganiad sefydliadol am y tro cyntaf, yn cwmpasu’r cyfnod 1 Awst 2013 at 31 Gorffennaf 2020. Gallwn barhau i drafod hyn ond byddai’n haws i chi ddarllen am REF 2021 yma os hoffech wneud hynny; digon yw nodi ei fod yn waith enfawr, cymhleth a hanfodol sydd yn gofyn am ymdrech tîm mawr. Er ein bod wedi gwneud cynnydd rhagorol, gyda 99% o staff cymwys â chynnyrch y gellid ei gyflwyno, mae amser o hyd i ragor o gynnyrch ymddangos a bydd pob eitem 4* arall yn helpu i wella cyfartaledd ein pwynt graddfa fydd yn ei dro yn helpu i gynyddu ein pŵer ymchwil. Mae’r astudiaethau achos effaith y soniais amdanyn nhw uchod hefyd yn hanfodol; mae’n bwysig bod digon o amser ar gael i gydweithwyr sy’n gweithio arnyn nhw ac yn wir ar unrhyw gynhyrchion pellach sy’n debygol o gael eu cynnwys. Rydym ni wedi penodi swyddogion achos effaith ym mhob Coleg sy’n gweithio gyda’r Deoniaid Ymchwil, Penaethiaid Ysgol ac wrth gwrs yr ymchwilwyr y mae’r hanesion achos wedi’u seilio ar eu gwaith. Rwy’n siwr nad oes angen i mi bwysleisio pwysigrwydd REF ac rwy’n ddiolchgar i bawb sy’n gweithio i wella ansawdd a maint ein cyflwyniad yn 2021.

Yn ein cynhadledd staff uwch yn ddiweddar trafodwyd y QER a’r REF, ond hefyd cafwyd sesiwn ar yr argyfwng hinsawdd a mater pwysig hiliaeth. Dwyf i ddim yn ymddiheuro am ddychwelyd at y naill fater na’r llall, yn enwedig yr olaf, gan fod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ddiweddar wedi cyhoeddi ei adroddiad sydd yn wir yn ddeifiol ar aflonyddu hiliol ym mhrifysgolion y DU. Y prif gyhuddiad yw bod prifysgolion wedi anwybyddu graddfa’r hiliaeth ar gampysau a rhaid i mi ddweud bod y disgrifiad hwn yn gyfarwydd i mi, a chadarnhawyd hyn i mi gan nifer o gydweithwyr sydd â phrofiad personol o hyn. Ymunodd rhai ohonyn nhw â ni yn y gynhadledd staff uwch i drafod y materion hyn a thrafod sut y dylem ni ymateb. Ar ran y Brifysgol rwy’n croesawu’r adroddiad hwn ac yn eich sicrhau y byddwn yn ei ystyried yn ofalus ym Mwrdd Gweithredol y Brifysgol a maes o law yn y Cyngor. Mae cydnabod y broblem a siarad am hiliaeth yn bwysig iawn, ond mae angen hefyd i ni gymryd camau i ddileu rhwystrau at ddyrchafiad a gwella cynrychiolaeth mewn swyddi arweiniol drwy greu amgylchedd cefnogol fydd yn caniatáu i’r holl staff lwyddo yn eu swyddi a’u huchelgais. Dylwn ddweud hefyd na ddylem, wrth amlygu un math o wahaniaethu ar ffurf hiliaeth, dynnu ein sylw oddi wrth fathau eraill o wahaniaethu, boed ar ffurf nodwedd sy’n warchodedig yn gyfreithlon ai peidio. Fodd bynnag, mae gennym ddyletswydd i gadw cwestiwn hiliaeth ym mlaen ein meddwl oherwydd ei bod yn broblem ddwys na chaiff ei datrys drwy fesurau tymor byr. Dylwn ddweud bod rhaid i mi ymddiheuro am wall yn fy ebost ym mis Medi pan ddywedais fod y grwpiau llywio a sefydlwyd i ymdrin â’r pryderon hyn wedi’u cyd-gadeirio gan aelod o’r Bwrdd Gweithredol a chydweithiwr BAME. Mewn gwirionedd Michelle Alexis sy’n cadeirio’r grŵp llywio cyffredinol, Jeff Allen y grŵp Myfyrwyr ac Abyd Quinn-Aziz y grŵp staff; mae aelodau o’r Bwrdd Gweithredol (yn fy nghynnwys i) yn gefnogol iawn i’r gwaith hwn ac yn ddiolchgar i holl aelodau’r grwpiau am y ffocws maen nhw’n ei roi i’r materion pwysig hyn.

Fel y dywedais buom ni hefyd yn trafod yr argyfwng hinsawdd, sydd nid yn unig yn fater o bwys cyhoeddus, ond hefyd yn uchel iawn ar restr pryderon myfyrwyr a staff. Fel y gwyddoch mae gennym amrywiaeth eang o ymchwil yn y maes hwn, gyda rhywfaint yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Maes Danau Girang, ein gorsaf ymchwil yn jyngl Borneo Sabah, ym Malaysia.   Yr Athro Benoit Goossens sy’n arwain yr ymchwil yno i fioamrywiaeth, cadwraeth ac ailgoedwigo. Mae’r olaf yn elfen allweddol yn y drafodaeth ar newid yn yr hinsawdd; er bod angen toriadau llym mewn allyriadau ar yr argyfwng hinsawdd, mae helpu fforestydd i aildyfu hefyd yn bwysig. Mae Canolfan Maes Danau Girang yn cymryd camau ymarferol yn hyn o beth ac os hoffech chi helpu neu gymryd rhan gallwch wneud hynny drwy gefnogi eu prosiect plannu coed, Regrow Borneo, sy’n rhan o’u hymchwil i sut i adfer y difrod sydd eisoes wedi’i wneud.

Ddiwedd mis diwethaf cawsom newyddion gwych am fater pwysig arall sy’n wynebu cymdeithas. Mae Sefydliad Wolfson yn cynnig cefnogaeth hael i sefydlu canolfan ymchwil arloesol fydd yn ymchwilio ac yn datblygu ffyrdd newydd i leihau gorbryder ac iselder mewn pobl ifanc. Bydd cyllid o £10m yn gadael i ni greu Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, gyda’r Athro Stephan Collishaw a’r Athro Frances Rice yn gyd-gyfarwyddwyr. Mae hwn yn gyflawniad rhagorol ac yn fenter bwysig iawn a hoffwn gofnodi diolch y Brifysgol i’r cyd-gyfarwyddwyr a’u tîm, ac i TJ Rawlinson a’r tîm yn yr Adran Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr. Mae Prifysgol Caerdydd ar y blaen nid yn unig mewn ymchwil i iechyd meddwl ond hefyd arferion ar gyfer delio â’r problemau mae’r brifysgol hon a phob prifysgol yn eu hwynebu. Rydym ni’n datblygu strategaeth prifysgol gyfan ar iechyd meddwl ac rwy’n gobeithio siarad mwy am hyn mewn ebost yn y dyfodol. Yn y cyfamser, rydym ni mewn sefyllfa ffodus gyda rhodd Wolfson i weithio mewn partneriaeth gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal â Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Byrddau Iechyd Prifysgol ac ysgolion ar draws Cymru i wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl ifanc.

Ar fater arall yn ymwneud ag iechyd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi tynnu sylw at achosion o glwy’r pennau yng Nghaerdydd. Dylai staff a myfyrwyr sicrhau bod eu brechiadau rheolaidd yn gyfredol; chwiliwch am symptomau.

Bob dwy flynedd rydym ni’n cynnal arolwg staff, a disgwylir i’r nesaf fod yn fyw ar 4 Tachwedd. Cofiwch gymryd rhan, ac os hoffech ragor o wybodaeth am y camau rydym ni wedi eu cymryd i wella cydweithio a’r ffyrdd rydym ni’n cefnogi eraill ers yr arolwg staff diwethaf, edrychwch yma.

Yn ôl at faterion academaidd, yn gynt y mis hwn cynhaliom ni ddigwyddiad yn Llundain gyda’n prifysgolion partner Caerfaddon, Bryste a Chaerwysg i nodi pum mlynedd o GW4. Cawsom ddiwrnod rhagorol, gyda thros 100 o arweinwyr gwâdd o fyd diwydiant, y llywodraeth, cyrff ariannu a’r byd academaidd yn dod ynghyd i gydnabod cyd-lwyddiannau GW4 dros y pum mlynedd ddiwethaf ac i glywed am ein mentrau ar gyfer y dyfodol. Siaradodd yr Athro Kim Graham yn ei rôl fel cadeirydd Bwrdd GW4, a chlywsom gan amrywiaeth o siaradwyr o’n prifysgolion a’n cyrff partner. Roedd yn wych clywed ein bod, ers sefydlu GW4, wedi buddsoddi dros £2.8m mewn 87 o gymunedau ymchwil cydweithredol ar draws y pedair prifysgol, gan gynhyrchu £37m o incwm ymchwil, a bod partneriaeth GW4 yn arwain dros 30 o raglenni hyfforddi doethurol hynod gydweithredol a gyllidir yn allanol, yn cynnwys amrywiaeth o bartneriaid academaidd ac anacademaidd. Mae Cynghrair GW4 yn gadael i ni rannu mynediad at gyfarpar a chyfleusterau ar raddfa fawr fel cyfleusterau Delweddu Swyddogaethol In-vivo Cyn-glinigol ar draws y sefydliadau, yn cynnwys sganiwr Micro PET/CT yng nghyfleuster PETIC Caerdydd a sganiwr MRI anifeiliaid mawr 3T yng Nghanolfan Ymchwil Fiofeddygol Drosiadol Bryste. Mae llwyddiannau cydweithredol GW4 ar raddfa fawr yn cynnwys ffurfio Cynghrair Diogelwch Dŵr GW4, y consortiwm ymchwil dŵr mwyaf yn y DU, dan arweiniad yr Athro Isabelle Durance o Brifysgol Caerdydd. Mae GW4 yn enghraifft wych o gydweithio rhanbarthol sy’n gwella ein gallu i gydweithio yma yng Nghymru ac sy’n cynnig cyfle i ni lwyddo wrth gystadlu gyda chyrff llawer mwy mewn mannau eraill yn y DU.

Yn olaf, wrth i fi ysgrifennu, daeth yn amlwg y cynhelir etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr yn sgil yr estyniad i aelodaeth y DU o’r UE hyd at ddiwedd mis Ionawr. Does dim amheuaeth y bydd yr ymgyrch yn rymus ac mae llawer yn y fantol. Gofynnaf i’n holl gydweithwyr fod mor gefnogol â phosibl i’r staff a’r myfyrwyr hynny sy’n ddinasyddion gwledydd eraill yr UE ac a allai fod yn teimlo wedi’u hansefydlogi yn sgil yr ansicrwydd a thôn rhywfaint o’r drafodaeth gyhoeddus. Fel Prifysgol rydym ni mor gefnogol ag y gallwn fod yn ymarferol, ond ar lefel ddynol ac unigol gobeithio y gallwn ni helpu hefyd.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor