Newyddion yr Is-Ganghellor, Y diweddaraf am Gyfarfodau

Tarfu digidol: Ydy robotiaid yn cymryd ein swyddi?

Professor Phillip Brown with Welsh Government Ministers
Professor Phillip Brown with Welsh Government Ministers

Ar ddiwrnod cwrdd i ffwrdd blynyddol Bwrdd Gweithredol y Brifysgol ym mis Medi, cawsom sesiwn PESTLE i ystyried y risgiau, yr heriau a’r cyfleoedd Gwleidyddol, Economaidd, Cymdeithasol, Technolegol, Cyfreithiol ac Amgylcheddol sy’n wynebu’r Brifysgol.  Byddwn yn rhannu sesiynau PESTLE y dyfodol drwy ein blog.

Gwahoddais yr Athro Phillip Brown, Athro Ymchwil Nodedig, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol i’n helpu i ddeall sut mae datblygiadau cyflym mewn arloesedd digidol yn debygol o effeithio ar yr economi a dyfodol byd gwaith yng Nghymru, a’r cyfleoedd y bydd hyn yn eu cyflwyno i ni.

Roeddwn eisiau rhannu cyfraniad arbenigol Phillip ynghyd â’r materion a drafodwyd gennym:

Mae dylanwad technoleg ar ddyfodol byd gwaith yn bwnc llosg. Yng nghyd-destun cyflogau disymud, cyni cyhoeddus a Brexit, mae cryn ansicrwydd ynghylch beth mae arloesedd digidol yn ei olygu i fywoliaethau pobl a chenedlaethau’r dyfodol. Mae sail dda i’r pryderon hyn, gan fod trafodaethau am awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial yn aml yn cael eu cyflwyno fel bygythiad i swyddi a phreifatrwydd personol.

Yn y gwanwyn y llynedd, gofynnodd Ken Skates AM, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, i mi gadeirio adolygiad i ystyried sut byddai datblygiadau cyflym ym maes arloesedd digidol yn debygol o effeithio ar economi a dyfodol gwaith Cymru. Darllenwch yr adroddiad terfynol a lansiwyd yn ddiweddar

Mae arloesedd digidol yn drobwynt, ond nid tynged yw technoleg. Mae’n rhaid i economïau, p’un a ydynt yn fawr neu’n fach, wedi’u datblygu neu ar i fyny, wynebu heriau mawr i sefydlu modelau busnes, arferion cyflogaeth a ffyrdd newydd o feithrin sgiliau eu gweithlu. Er bod hyn yn cyflwyno heriau sylweddol, mae hefyd yn cynnig cyfleoedd newydd i ddefnyddio arloesedd digidol i wella ansawdd swyddi, cynhyrchedd busnesau, cyflwyniad gwasanaethau cyhoeddus a lles unigol. Drwy fentrau beiddgar ac arweinyddiaeth greadigol, gall Cymru drawsffurfio’r dirwedd economaidd er lles pawb, yn hytrach na grŵp dethol yn unig. Byddai hyn yn gwneud i’r economi weithio i bobl mewn ffordd gynaliadwy a chynhwysol. Mae gan Brifysgol Caerdydd, ar y cyd â sefydliadau Addysg Uwch eraill, rôl allweddol i’w chwarae yn y broses drawsffurfio hon.

Newidiadau pwysig wedi’u rhag-weld dros y degawd nesaf mwy neu lai

Archwiliodd yr adolygiad y llenyddiaeth ymchwil ynghylch effaith awtomeiddio ar swyddi. Mae’n amlygu gwendidau sylweddol mewn dylunio ymchwil ac yn herio nifer o dybiaethau allweddol sy’n llywio trafodaethau cyhoeddus. Mae’r adroddiad yn dod i’r casgliadau canlynol:  

  • Mae’r bygythiad o ‘ddiweithdra technolegol’ wedi’i orbwysleisio
  • Bydd mwy o effaith ar rai diwydiannau a galwedigaethau nag eraill
  • Nid yw Cymru’n wynebu mwy o risg o awtomeiddio swyddi na’r rhan fwyaf o’r DU
  • Ni fydd plant ysgol heddiw yn mynd i mewn i swyddi nad ydynt yn bodoli eto – swyddi sydd eisoes yn bodoli fydd 90% ohonynt
  • Nid yw awtomeiddio’n ymosod o waelod y strwythur galwedigaethol yn unig. Mae hefyd yn cael effaith sylweddol ar ‘swyddi i raddedigion’
  • Dylid disgwyl newidiadau mawr i natur a phrofiad gwaith ar draws y strwythur galwedigaethol cyfan
  • Diffyg swyddi / ansawdd swyddi yw’r prif broblem, nid hyfforddi pobl gyda’r sgiliau ‘cywir’. Yr her sylfaenol yw sut i drawsffurfio economi Cymru (a’r DU yn ehangach), er mwyn creu mwy o’r swyddi a ‘addawyd’ i bobl am fuddsoddi mewn addysg uwch.

Beth yw’r materion/achosion nad ydym yn eu hystyried ar hyn o bryd?

Un her fawr i Brifysgol Caerdydd (a system ehangach addysg uwch) yw nad yw’r ‘pedwerydd chwyldro diwydiannol’ yn oes unigryw o arloesedd technolegol, ond yn fwy o oes ailgyfuno. Canfu astudiaeth o batentau Americanaidd o 1790 tan 2010 fod y rhan fwyaf o batentau’n cynnwys ailgyfuno neu fireinio cyfuniadau presennol o dechnoleg yn hytrach na chreu galluoedd technolegol newydd. Mae’n cynnwys unrhyw gynhyrchion a gwasanaethau newydd, ond hefyd, ffyrdd mwy cynhyrchiol neu arloesol o wneud pethau presennol. Mae cynnydd cyflym mewn pŵer cyfrifiadura a chamau ymlaen mewn gwybodaeth mewn llawer o feysydd academaidd, sy’n ymwrthod â hen wahaniaethau rhwng Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (pynciau STEM). Er bod buddsoddi mewn Ymchwil a Datblygiad ac addysg uwch o safon fyd-eang yn chwarae rôl hanfodol, mewn oes o ailgyfuno, mae angen i ni ganolbwyntio ar feithrin diwylliant o arloesedd digidol a dysgu gydol oes ar draws yr economi gyfan a chymdeithas ehangach.

Beth yw’r cyfleoedd a’r pethau mwyaf cyffrous sydd ar y gorwel?

  • Sut gall Prifysgol Caerdydd gyfrannu at gyflwyno Cymru4.0?
  • Disgwylir hwb mawr i drawsffurfio diwydiannol a sbardunir gan dechnoleg
  • Cynnig i sefydlu Sefydliad Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Economi’r Dyfodol (wedi’i ddiffinio’n fras iawn, gan gynnwys materion ynghylch moeseg, cynhwysiant cymdeithasol a grymuso unigolion)
  • Agwedd ‘amlbrifysgol’ at ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru
  • Hybu enw da rhyngwladol ymchwil Addysg Uwch a mentrau addysg ôl-raddedig tramor sy’n gysylltiedig â Chymru4.0
  • Cymeradwyaeth glir o Adolygiad Reid a Diamond sy’n galw am gynyddu cyllid ar gyfer Ymchwil a Datblygu, yn enwedig ar ôl Brexit
  • Menter fawr i wneud Cymru’n arweinydd byd-eang o ran sgiliau, gwaith a dadansoddeg ddiwydiannol.

Mewn llawer o ffyrdd, mae angen i’r Brifysgol gychwyn ei thrafodaeth ei hun am heriau a chyfleoedd sy’n codi o arloesedd digidol, a sut gall gyfrannu at gyflwyno Cymru 4.0. Er bod yr ystod o fentrau ar draws Cymru sy’n ystyried arloesedd digidol wedi creu argraff arnaf, mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u halinio’n wael a heb y raddfa i wneud gwahaniaeth go iawn. Datgelodd y sesiwn PESTLE gydag aelodau o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol gyfoeth gweithgarwch ymchwil y Brifysgol gyfan a pharodrwydd i wrando ar syniadau. Man cychwyn amlwg yw cychwyn trafodaeth am ba 5-6 maes allweddol y mae’r Brifysgol eisiau enw da rhyngwladol ynddynt. Un enghraifft amlwg a amlygwyd gan y sesiwn PESTLE yw’r ymchwil a’r addysg a gynhelir ar hyn o bryd ynghylch Ynni Glân a’r Economi Gylchol, a dyma un o’r Clystyrau Arloesedd Diwydiannol a ganfuwyd yn yr Adolygiad Digidol.