Newyddion yr Is-Ganghellor

Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

Annwyl gydweithiwr,

Yn fy ebost diwethaf fe addewais i rannu’r newyddion diweddaraf gyda chi ar ein sefyllfa ariannol. Rydych chi wedi ymateb yn rhagorol i’r heriau enfawr sydd wedi codi yn sgil Covid-19 hyd yma, ac er ein bod yn wynebu rhai heriau yn y flwyddyn ariannol bresennol (sy’n dod i ben ym mis Gorffennaf), mae’n edrych yn debygol y gallwn ymdopi â nhw. Bydd y problemau gwirioneddol yn codi yn y flwyddyn ariannol (ac academaidd) nesaf, 2020/21. 

Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi casglu mai’r sector addysg fydd yn gweld yr effaith mwyaf difrifol yn sgil pandemig Covid-19 o blith pob sector, gyda chwymp o 90% yn y cyfraniad gwerth ychwanegol i’r economi.  Mae adroddiad London Economics a gomisiynwyd ac a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) yn egluro’r gwirioneddau llym. Yng Nghymru, yn y flwyddyn academaidd nesaf, mae’r adroddiad yn cyfrifo y gallai wyth prifysgol Cymru gyda’i gilydd golli 13,250 o fyfyrwyr, gyda thros hanner y rhain yn rhyngwladol. Mae hyn yn trosi’n gwymp cyfunol o £98m mewn incwm, er bod hyn yn cyfeirio at incwm ffioedd dechreuwyr newydd yn unig. Mae’r adroddiad yn awgrymu y gallai prifysgolion o’r un maint ac ehangder gweithgaredd â ni weld cwymp o 24% mewn cofrestriadau myfyrwyr blwyddyn gyntaf. Yn ogystal byddem ni’n colli incwm o breswylfeydd ac arlwyaeth, a dylem ni hefyd ddisgwyl gostyngiad mewn incwm gan fyfyrwyr sy’n dychwelyd a myfyrwyr ôl-raddedig. Yn anffodus mae hyn yn golygu bod hyd yn oed y ffigur cyfartalog a geir yn yr adroddiad o £37m o golled yn debygol o fod yn dan-ddatganiad sylweddol.

Gan weithio gyda Grŵp Russell, yn gynharach y mis hwn cyflwynodd Universities UK (UUK) gynigion ar ran y sector i lywodraeth San Steffan am gymorth ariannol fyddai’n galluogi sefydliadau i chwarae eu rhan yn llawn i gefnogi adfywiad cymdeithasol ac economaidd y wlad ar ôl y pandemig. Cyfeiriodd UUK at y tebygolrwydd o ostyngiad sylweddol mewn cofrestriadau myfyrwyr o’r tu allan i’r DU, sydd ar hyn o bryd yn dod â ffioedd blynyddol o £6.9bn, lefel sylweddol o ohirio ymhlith darpar fyfyrwyr y DU a chwymp mawr yn yr incwm cenedlaethol o lety, arlwyaeth a chynadleddau, sydd ar hyn o bryd yn £790m. Nid yw’r rhain yn effeithiau y gellir eu gwrthbwyso gyda rhaglenni’r llywodraeth sydd ar gael yn gyffredinol fel y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cyfleuster Cyllid Corfforaethol, ac felly mae UUK wedi gofyn am gyllid ychwanegol sylweddol am flwyddyn er mwyn i ni allu goroesi’r cyfnod anodd hwn. Ar ben hynny, mae UUK/MillionPlus newydd gyflwyno cynnig i’r Adran Addysg/Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n edrych ar sut gall prifysgolion a’r llywodraeth gydweithio er mwyn rhoi hwb i adnoddau addysg a chadw gweithwyr allweddol.

Bydd yr effeithiau’n amrywio ym mhob prifysgol, ac rydym ni’n llunio ein modelau ein hunain o’r effaith posibl ar Gaerdydd. Er bod cyfrifiadau fel hyn yn dibynnu ar y rhagdybiaethau sy’n sail iddynt, ychydig iawn o obaith mae unrhyw ragdybiaethau rhesymol yn ei gynnig y bydd y canlyniad yn unrhyw beth ond yn heriol dros ben. Mae ein modelu’n rhagdybio ymddygiad gwahanol ar ran dechreuwyr newydd i’r myfyrwyr sy’n dychwelyd, ac mewn rhai senarios mae’n tybio erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd y byddwn yn gallu cynnwys niferoedd cyfyngedig o fyfyrwyr a staff ar y campws gan ddilyn protocolau hylendid a phellhau cymdeithasol llym, ond y bydd y rhan fwyaf o’r addysgu’n parhau i gael ei gyflwyno o bell. Gallai fod yn bosibl agor y campws mewn ffordd fwy cyfyngedig yn gynnar yn yr haf i alluogi ymchwilwyr i ddefnyddio labordai a chyfleusterau eraill, ond ni ellir gwarantu dim ar hyn o bryd. 

Er bod y senarios hyn yn amrywio o ran pa mor obeithiol yw eu rhagdybiaethau, mae pob un yn gredadwy ar sail yr hyn a wyddom ar hyn o bryd. Yn anffodus, mae hyd yn oed y gorau yn eu plith yn dangos diffygion yn y flwyddyn nesaf o dros £50m os na chymerwn ni unrhyw gamau. Er bod llawer o newidynnau anhysbys, byddai golwg realistig yn rhagweld y byddwn yn colli tua 20% o’n hincwm neu £110m. Hyd yn oed pe bai’r cyllid y galwyd amdano gan UUK a Grŵp Russell yn dod i’r fei, byddai unrhyw fudd i Gaerdydd ar y gorau’n haneru’r diffyg hwnnw, a fyddai’n ein gadael mewn sefyllfa anghynaladwy o hyd.

Rydym ni mewn sefyllfa dda o’n cymharu â llawer o brifysgolion oherwydd ein bod wedi rheoli ein cyllid yn ddarbodus dros y blynyddoedd ac mae’r camau cyfunol a gymeron ni drwy Trawsffurfio Caerdydd wedi helpu’n aruthrol. Ond mae’n bosibl y byddwn ni hefyd yn wynebu problemau llif arian yn y flwyddyn academaidd nesaf os daw’r senarios lleiaf gobeithiol i fod. Am y rheswm hwn rydym ni’n gweithio’n agos gydag undebau’r campws i ymdrin â’r heriau sy’n ein hwynebu. Mae’n bwysig cynnal y trafodaethau hynny o’r dechrau yn hytrach nag aros tan y byddwn yn wynebu argyfwng ariannol.

Gallaf eich sicrhau chi fy mod yn cyfathrebu’n fynych gyda gweinidogion llywodraeth Cymru a’u hymgynghorwyr. Maen nhw’n gefnogol ac yn cydymdeimlo ond maen nhw hefyd yn wynebu cyfyngiadau ariannol difrifol. Os byddwn ni’n wynebu colledion sylweddol ni fydd llywodraeth Cymru’n gallu cynnig mesurau lliniaru sylweddol oni bai bod y Trysorlys yn caniatáu’r cyllid a geisir gan UUK.

Mae llawer iawn nad ydym yn ei wybod o hyd. Dydyn ni ddim yn gwybod pryd caiff y cyfyngiadau ar symud eu llacio nac i ba raddau, pa fesurau fydd yn parhau ar waith i reoli lledaeniad y firws na sut y bydd y rhain yn effeithio ar leoliadau addysgol. Y peth da yw ein bod yn cymryd rhan mewn trafodaethau gyda’r llywodraeth ar sut i ailagor prifysgolion yn ddiogel, ond mae newidiynnau eraill fel y cyfyngiadau ar deithio na fydd gennym ni fawr o ddylanwad arnyn nhw os o gwbl. Felly er bod rhaid i ni beidio â gwneud penderfyniadau byrbwyll, rhaid i ni hefyd beidio ag oedi rhag cymryd camau pan fydd amgylchiadau’n caniatáu hynny.

Mae angen i ni weld sut y bydd pethau’n datblygu dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ond rydym ni’n ddigon siŵr y byddwn yn wynebu cwymp difrifol mewn refeniw fel ein bod wedi gosod nifer o fesurau ar waith eisoes i helpu i ddiogelu ein staff presennol, yn cynnwys:

  • Atal unrhyw wariant cyfalaf newydd ar adeiladu neu gyfarpar
  • Rhewi pob recriwtio ar wahân i rolau hanfodol, fydd angen cael eu cymeradwyo gen i
  • Adolygu ein trefniadau gwobrwyo a chydnabod i gyfyngu ar gostau
  • Nodi rolau ar gyfer ffyrlo
  • Adolygu a newid y ffordd rydym ni’n cyflwyno ac yn asesu llawer o’n cyrsiau
  • Gostyngiadau cyflog gwirfoddol gan aelodau o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol.

Ar y pwynt olaf, gallaf gyhoeddi fy mod wedi gofyn am 20% o ostyngiad yn fy nghyflog, ac mae aelodau eraill o’r Bwrdd hefyd wedi cytuno ar 10% o ostyngiad yn eu cyflog. Bydd enillion o’r mesurau hyn (a fydd yn parhau am bedwar mis yn y lle cyntaf) yn mynd tuag at gronfa caledi i fyfyrwyr a staff y mae Covid-19 wedi effeithio arnyn nhw.

Mae’n ddrwg gen i orfod ysgrifennu atoch mewn modd mor besimistaidd, ond mae’n bwysig ein bod yn realistig am yr argyfwng hwn, pa mor hir mae’n debygol o barhau a beth sydd angen i ni ei wneud i oroesi’r storm. Yn amlwg, bydd angen i ni ddiwygio ein strategaeth, Y Ffordd Ymlaen 2018-23 gan bwysleisio blaenoriaethau newydd, a’r pwysicaf yn eu plith fydd diogelu iechyd a lles ein myfyrwyr a’n staff. Yn gyd-ddibynnol gyda’r flaenoriaeth honno mae cynaladwyedd ariannol; mae angen i ni reoli ein cyllid yn ddarbodus er mwyn i ni allu dod allan yn gryf a chwarae ein rhan yn y cyfnod adfer. Bydd boddhad myfyrwyr, gweithgaredd ymchwil a chenhadaeth ddinesig – yn enwedig ein cyfraniad at drin yr argyfwng presennol – yn hanfodol. Os byddwn ni’n cydweithio, yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig a pharhau’n ystwyth ac yn hyblyg, byddwn yn dod drwy’r argyfwng hwn yn ddiogel, fel y mae’r Brifysgol wedi gwneud sawl tro yn y gorffennol.

Dymuniadau gorau, Colin Riordan
Is-Ganghellor