Newyddion yr Is-Ganghellor

Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

Annwyl gydweithiwr,

Fel y byddech wedi’i ddisgwyl, argyfwng y coronafeirws gafodd y prif sylw yn fy ebost ar 7 Mai 2020, ond nodais hefyd nad yw’r pandemig yn golygu y dylem anwybyddu materion eraill oedd eisoes yn bodoli ac yn peri llawer o ofid megis cydraddoldeb hiliol. Lai na thair wythnos yn ddiweddarach, ar 25 Mai, cafodd llofruddiaeth erchyll George Floyd ei ffilmio ym Minneapolis. Fe wnaeth natur y digwyddiad syfrdanu’r byd, yn y modd nad oedd y swyddog o dan sylw yn hidio ei fod yn cael ei ffilmio ac yn poeni dim am bledion anobeithiol y dioddefwr am ei fywyd. Roedd hyn er gwaetha’r ffaith ei fod yn gwybod bod rhywun yn ei ffilmio, ond parhaodd i’w atal drwy bwyso ar ei wddf nes ei bod yn rhy hwyr. Yn anffodus, mae marwolaeth Mr Floyd yn rhan o batrwm hirsefydlog. Ychydig cyn hynny, ar 13 Mawrth, saethodd yr heddlu Breonna Taylor yn farw yn Louisville, KT, ac fe’i dilynwyd gan farwolaeth Rayshard Brooks ar 12 Mehefin mewn amgylchiadau tebyg yn Atlanta, GA.

Roedd y digwyddiadau yn symbol o broblem lawer ehangach sy’n effeithio ar nifer o wledydd mewn sawl ffordd, ac rydym i gyd wedi gweld effeithiau’r rhain yn cael eu mynegi mewn protestiadau eang mewn cysylltiad â mudiad Mae Bywydau Du o Bwys.  Rwyf yn gwybod bod aelodau unigol o Brifysgol Caerdydd yn rhannu’r ffieidd-dra a arweiniodd at y protestiadau byd-eang, ond rwyf yn derbyn ein bod ni fel sefydliad wedi ymateb yn hwyr ac mewn modd na chafodd ddigon o effaith. O ganlyniad i hynny’n rhannol, cawsom ebyst gan fyfyrwyr a staff yn gofyn i ni wneud datganiad cryfach a mwy eglur, a gallwch ddarllen fy ymateb yma. Byddwch yn ymwybodol fy mod wedi rhoi llawer o sylw i’r mater yn ddiweddar, ac rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd. Fodd bynnag, mae llawer i’w wneud eto ac nid ydym yn agos i ddatrys problem hiliaeth. Drwy gydnabod y broblem a siarad amdani, rwyf yn gobeithio ein bod mewn sefyllfa gryfach erbyn hyn, ond mae’n amlwg bod angen i ni gymryd camau pellach er mwyn newid pethau mewn gwirionedd.

Er enghraifft, mae angen llawer mwy o ddealltwriaeth, ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth arnom o fraint pobl wyn, a byddwn yn gwneud cyhoeddiad cyn bo hir ynglŷn â sut rydym yn bwriadu cefnogi ac annog hyn. Rhaid i ni ymdrin â chwynion ynghylch hiliaeth o ddifrif, ymchwilio iddynt a chymryd camau. Mae hwn yn fater sy’n berthnasol ar hyn o bryd gan ein bod wedi cael cwyn ddifrifol gan fyfyrwyr, a byddwn yn ymateb iddi yn gyflym ac mewn modd mor gynhwysfawr â phosibl. Byddaf yn ymgynghori ynglŷn â’r syniad o gyflwyno dolen gyswllt benodol – ombwdsmon o bosibl – er mwyn sicrhau ein bod yn mynd ati’n ddiymdroi i ymdrin â chwynion am hiliaeth ac ymateb iddynt. Yn 2018, fe wnaethom gynnal adolygiad o gysylltiadau hanesyddol posibl rhwng Prifysgol Caerdydd a’r fasnach gaethweision; ni ddaethom o hyd i rai, ond yn dilyn digwyddiadau diweddar, byddwn yn yn cynnal archwiliad pellach o’n celfyddydwaith a’n cerfluniau cyhoeddus. Byddwn yn ehangu’r casgliadau sydd gennym yn ein llyfrgelloedd am feysydd fel Hanes Pobl Dduon ac yn ystyried sut gallwn ddeall, rhannu a dathlu amrywiaeth ein hanes, nid yn unig fel prifysgol, ond fel dinas a gwlad.

Er mai achosion o drais ac anhrefn sy’n cael y prif sylw yn y penawdau, ni ddylai unrhyw un amau’r teimladau cryfion oedd yn amlwg ym mhrotestiadau heddychlon Mae Bywydau Du o Bwys a gynhaliwyd ledled y Deyrnas Unedig, ac yma yng Nghaerdydd. Un o’n myfyrwyr wnaeth drefnu’r brotest heddychlon hon ym Mharc Bute, ac roedd rhaid i’r llu o bobl aeth iddi gadw pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau. Byddai unrhyw un oedd yno wedi clywed hanesion dirdynnol am brofiadau o hiliaeth yn y wlad hon, gan gynnwys yng Nghaerdydd. Yn amlwg, nid fi yw’r person addas i geisio egluro profiadau o hiliaeth ym mhrifysgolion Prydain. Rwyf yn argymell yn gryf iawn eich bod yn darllen yr erthygl  ardderchog ‘A case to answer’ gan Valerie Amos, Is-Ganghellor SOAS. Y gwir amdani, a minnau’n berson gwyn sydd â braint a phŵer fel ei gilydd, gwrando yw fy rôl i, a gweithredu ar sail cyngor. Yr hyn rwyf yn ei glywed yw bod pobl yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd a bod yr amrywiaeth sy’n bodoli ar draws cymdeithas, yn bodoli ar draws y gymuned BAME hefyd. Nid yw’r gymuned hon yn unffurf o bell ffordd ac mae’n cynnwys nifer fawr o gymunedau, traddodiadau a diwylliannau. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn teimlo’n ddig, wedi’u brifo ac yn ymdopi ag ystod o emosiynau negyddol, ac mae’n rhaid i ni ystyried yr effaith bosibl ar staff a myfyrwyr. Yn anad dim, rhaid i ni barhau i wrando, gweithredu a chydweithio â staff a myfyrwyr BAME ar brosiectau pwysig fel gwella amrywiaeth ymhlith arweinwyr y Brifysgol, cau’r bwlch dyfarnu, dadwladychu’r cwricwlwm a sicrhau bod myfyrwyr ac ymgeiswyr yn cael yr un cyfleoedd. Rwyf yn difaru mod i heb ddeall y materion hyn na gweithredu arnynt yn gynharach yn fy nghyfnod fel Is-Ganghellor. Rwyf yn teimlo bod rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hanesyddol hwn i newid pethau mewn gwirionedd, gan adeiladu ar y sylfaen yr ydym wedi’i dechrau ei chreu yn ddiweddar.

Gan symud ymlaen i faterion eraill, diolch i bawb a aeth i’r drafferth o wylio’r weminar i’r holl staff yr wythnos ddiwethaf. Un o’r rhesymau dros ddewis cynnal y digwyddiad bryd hynny oedd am ein bod wedi gobeithio gallu gwneud cyhoeddiad am y camau nesaf. Fodd bynnag, nid oeddem mewn sefyllfa i wneud hynny a bydd angen rhagor o amser arnom. Rwyf yn ymddiheuro i’r rhai ohonoch oedd wedi gobeithio cael mwy na diweddariad yn unig. Fodd bynnag, gobeithio iddo fod o werth o ran rhannu’r bwriad y tu ôl i’n gwaith er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu ein hunain gymaint â phosibl ar gyfer y flwyddyn nesaf. Cawsom dros 500 o gwestiynau yn ystod y digwyddiad, a byddwn yn ymateb iddynt. Fel y gallwch ei ddychmygu, mae hon yn dipyn o dasg ac nid yw wedi’i chwblhau eto, ond rydym yn rhannu’r cwestiynau yn ôl thema a byddwn yn eu cyhoeddi gydag ymatebion yr wythnos nesaf. Un o’r themâu sydd eisoes wedi dod i’r amlwg yw’r awydd i ni hwyluso trefniadau gweithio mwy hyblyg, a byddwn yn edrych ar hyn yn fanylach cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cynnal digwyddiadau eraill o’r fath, yn enwedig pan fydd datblygiadau newydd yn y sefyllfa gyfnewidiol ac ansicr ohoni.

Yng nghyfarfod y Senedd ar 17 Mehefin, fe wnaethom drafod, ymysg llu o bethau eraill, yr ymgynghoriad sy’n mynd rhagddo ar ddogfen Y Ffordd Ymlaen ar ei newydd wedd. Os nad ydych wedi ymateb eto, gallwch wneud hynny yma. Mae rhai pobl wedi bod yn gofyn beth yw’r gwahaniaeth rhwng y Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs) cyfredol a’r Ffactorau Llwyddiant Hanfodol yn y cynigion. Os oes modd eu cyflawni o hyd (ac nad oes ffactorau fel cyfyngiadau teithio yn amharu arnynt), byddwn yn parhau i fonitro’r dangosyddion yn yr is-strategaethau perthnasol. Fodd bynnag, nid dangosyddion perfformiad yw ein blaenoriaeth mwyach. Yn hytrach, rydym am ganolbwyntio ar y ffactorau llwyddiant critigol fydd yn ein galluogi i ymdopi â’r blynyddoedd anodd o’n blaenau a dod allan y pen arall mewn byd ôl-COVID yn y sefyllfa gryfaf bosibl. Yn syml, mae angen i ni fel sefydliad oroesi a ffynnu. I allu gwneud hynny rhaid i ni ganolbwyntio ar iechyd staff a myfyrwyr, iechyd a diogelwch, cynaladwyedd ariannol, profiad y myfyrwyr, ymchwil, a’n cenhadaeth ddinesig gyda phwyslais penodol ar ein hymateb i COVID. Bydd angen i ni leihau llwyth gwaith gymaint ag y gallwn er mwyn i ni allu canolbwyntio ar y meysydd hyn a bod yn barod i gyfaddawdu lle bo angen er mwyn llwyddo. Rhaid i ni gofio mai cynnig cyfeiriad mae Y Ffordd Ymlaen, nid yw’n pennu’r holl fanylion am beth ydym yn ei wneud. Dyma pam yr ydym wedi cynnal ymgynghoriad ysgafn, a byddwn yn ymgorffori’r canlyniadau mewn papur ar gyfer y Cyngor y mis nesaf.

Yn olaf, un o’r ymatebion cynnar rydym wedi cael i’r ymgynghoriad yw pobl yn gofyn beth sydd wedi digwydd i Brexit. Mae hwn yn bwynt teg, yn enwedig gan fod y posibilrwydd o gael cytundeb cynhwysfawr gyda’r UE yn llawer llai tebygol yn ôl pob golwg, ac mai digon cyfyngedig fydd cwmpas unrhyw gytundeb yn ôl pob tebyg. Mae’n gwbl bosibl mai dim ond ar y materion mwyaf brys y mae’r naill ochr yn fodlon eu hystyried yn flaenoriaethau y bydd cytundeb. Nid oes modd trafod holl oblygiadau hyn yn yr ebost hwn, ond byddaf yn eu trafod yn y dyfodol pan fyddwn yn gwybod rhagor am sut mae’r trafodaethau’n dod yn eu blaen. Fodd bynnag, dylem yn sicr barhau i gydweithio’n llawn â mecanweithiau ymchwil y DU, ac mae’r un peth yn wir ar gyfer Erasmus+ a chynlluniau eraill sy’n bodoli ar hyn o bryd. Yn ôl beth wyf yn ei ddeall, mae llywodraeth y DU yn bwriadu sefydlu cynlluniau domestig amgen os nad oes modd dod i gytundeb ynglŷn â gadael i ni gymryd rhan ar 1 Ionawr 2021, ac maent yn ymgynghori â ni ar y materion hyn. O ran Y Ffordd Newydd ar ei newydd wedd, bydd ei darpariaethau yn ein hannog i ganolbwyntio ar y blaenoriaethau pwysicaf os bydd newid o bwys ar ddiwedd y cyfnod pontio, yn union yn yr un modd y mae’n ein galluogi i wneud hynny yng nghyd-destun hynod ansicr argyfwng y coronafeirws.

Dymuniadau gorau Colin Riordan
Is-Ganghellor