Newyddion yr Is-Ganghellor

Neges gan yr Is-Ganghellor i’r staff

Annwyl gydweithiwr,

Diben Prifysgolion yw creu a rhannu gwybodaeth, er budd pawb. Mae hwn yn ddatganiad clir o’n diben ac ar yr un pryd yn ddisgrifiad gor-syml o’n gweithgaredd. Rwy’n petruso rhag archwilio’r goblygiadau athronyddol; gallem ystyried yn fanwl yr hyn mae gwybodaeth yn ei olygu, a yw’n cael ei chreu a sut, beth yw goblygiadau rhannu pan wyddom na fydd y rhan fwyaf o bobl yn gwybod beth rydym ni’n ei wneud, sut i ddiffinio budd, ac a yw unrhyw fuddion mewn gwirionedd i bawb. Ond fe’m hatgoffwyd am graidd ein diben fel prifysgol pan glywais y newyddion am ddarganfyddiad rhyfeddol diweddaraf y Prosiect Cydweithredol Gwyddonol Ligo-Virgo rhyngwladol, tîm ag iddo fil o aelodau i ymchwilio i donnau disgyrchol, ac mae grŵp Caerdydd sydd bellach o dan arweiniad yr Athro Stephen Fairhurst wedi chwarae rhan flaenllaw ynddo ers iddo gael ei sefydlu yn 1997. Mae’n ymddangos fod y dystiolaeth o’r dadansoddiad o donnau disgyrchol a ganfuwyd gan offerynnau Ligo’n nodi bodolaeth corff yn y gorffennol oedd rhywle rhwng twll tu a seren niwtron o ran màs, sy’n ddatblygiad hynod o arwyddocaol yn ein dealltwriaeth o’r ffordd y datblygodd y bydysawd a sut mae’n gweithio. Dyma enghraifft ragorol o wybodaeth newydd yn dod i fodolaeth, ond heb os byddai rhai’n holi beth yw’r budd i bawb. Yr ateb yw bod angen i ni aros a gweld, ond yn y cyfamser, does bosib fod deall sut mae hanfodion y bydysawd yn gweithredu’n bwysig i’r ddynoliaeth. Does dim amheuaeth y daw manteision yn sgil yr ymdrech ddeallusol a thechnolegol i’r amlwg yn ddiweddarach er eu bod ar hyn o bryd yn anhysbys.

Mewn cromfachau yng nghanol y stori hon, rydym ni wedi cael llwyddiannau ymchwil rhagorol yn ddiweddar lle mae’r buddion yn fwy uniongyrchol amlwg, fel dyfarniad newydd i’r Athro Katharine Brain o’r Ysgol Meddygaeth, sy’n gweithio ar agweddau ymddygiadol rheoli canser, ar gyfer prosiect a gyllidir gan Ymchwil Canser Cymru yn edrych ar hyfywedd ymgyrch ymwybyddiaeth symptomau mewn ardal economaidd-gymdeithasol ddifreintiedig i helpu gyda lleihau anghydraddoldebau iechyd. Mae Dr Kate Moles o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yn arwain tîm ymchwil a gyllidir gan yr Academi Brydeinig mewn partneriaeth gyda phrifysgolion Bryste, Caerwysg a Gulu yn Uganda, mewn prosiect i rymuso pobl ifanc yn Uganda i ymgysylltu’n feirniadol â’u gorffennol mewn perthynas â gwrthdaro a’i waddol yn eu bywyd bob dydd. Mae’r prosiect hwn yn cefnogi dyfodol pobl ifanc yn uniongyrchol, yn ysbryd ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ninnau er bod y cyd-destun yn wahanol iawn, ac mae’r buddion yn amlwg. Gallwn ymfalchïo yn ein record yn y meysydd hyn, ond fel prifysgol, rhaid i ni hefyd fod yn rhydd i greu gwybodaeth ym mhob cyd-destun, hyd yn oed pan fydd y buddion i gymdeithas yn llai amlwg yn uniongyrchol.

Yn ôl at y tonnau disgyrchol, a cheir tri phen trawiadol yn y stori hon. Un yw bod rôl flaenllaw un o’n myfyrwyr PhD rhagorol niferus, Charlie Hoy, wedi’i chydnabod yn rhyngwladol, fel y gwelwch o’r stori hon yn y New York Times. Mae hyn yn tystio i’r gwaith rhagorol mae’r grŵp yn ei wneud i sicrhau llif talent a chyflwyno’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr. Mae’n wych gweld ein myfyrwyr yn hawlio’u lle wrth galon darganfyddiad gwyddonol mor drawsnewidiol, ac mae’n ei deimlo’n amlwg i bawb.

Yr ail yw bod y penderfyniad i ehangu ein gweithgaredd yn y maes hwn drwy sefydlu ein labordy offeryniaeth ein hunain i ategu ein gwaith dadansoddol a damcaniaethol yn dangos ei werth. Dan arweiniad yr Athro Hartmut Grote yn y maes mae’n bosibl mai ni yw’r grŵp tonnau disgyrchol mwyaf cynhwysfawr a chyflawn yn y wlad, ac mae’n agor amrywiaeth enfawr o gyfleoedd i ymgysylltu â ffynonellau cyllid na fyddai cyn hyn ar gael i ni.

Y trydydd yw rhywbeth a ddywedodd yr Athro Nils Andersson o Brifysgol Southampton yn y stori hon gan y BBC: ‘Dyw ffiseg niwclear ddim yn wyddor fanwl gywir lle rydym ni’n gwybod popeth’. Mewn un ystyr mae hyn yn wireb; mewn ystyr arall, byddai llawer o bobl yn meddwl y gwrthwyneb yn llwyr. Mae hwn yn gwestiwn amserol, gyda’r graddau y gallwn ddibynnu ar ‘y wyddoniaeth’ yn destun trafod helaeth yn ddiweddar. Mae hyn yn fy arwain at ein gwaith yn ailagor y campws dros y misoedd nesaf. Caiff ein hymdrechion yn hyn o beth eu llywio i raddau helaeth gan ein harbenigedd mewnol, ond mae’n sicr yn wir dweud nad yw’r cyngor gwyddonol a chlinigol gorau a diweddaraf hyd yn oed yn gallu penderfynu ar ein rhan, nac ateb yr holl gwestiynau sy’n parhau am glefyd COVID-19 sy’n dal yn ddirgelwch, na datrys yr holl ffyrdd mae’r firws ei hun, SARS-CoV-2, yn gweithredu.

Ac eto, er gwaethaf diffyg gwybodaeth sicr, mae’n rhaid i ni wneud penderfyniadau a hoffwn egluro lle’r ydym ni ar hyn o bryd.

Fel y gwyddoch o bosibl, rwyf i wedi bod yn cadeirio ein Tasglu Coronafeirws ers rhai wythnosau bellach, ac rydym ni wedi gwneud llawer o gynnydd. Rwyf i’n hynod o ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn, sydd wedi ein galluogi i ddatblygu cynlluniau helaeth a chynyddol fanwl ar sut y byddwn yn darparu gwasanaethau, addysgu myfyrwyr, cynnal ymchwil ynghyd â busnes y Brifysgol drwy greu a rhannu gwybodaeth er budd pawb dan amgylchiadau COVID-19.

Bydd y gweithredu hwn yn digwydd mewn tri cham. Mae Cam 1 eisoes wedi’i gyflawni, gydag agor cyfleusterau ymchwil yn ofalus drwy ehangu’r diffiniad o ymchwil hanfodol i ystyried y lleihad ym mynychder coronafeirws a’r lefel is o drosglwyddo yn y gymuned. Cam 2 yw agor cyfleusterau ymchwil yn ehangach, gan ganiatáu cynifer â phosibl o ymchwilwyr y mae angen mynediad at gyfleusterau arnynt yn ôl ar y campws yn ystod mis Gorffennaf a rhan o fis Awst. Mantais ychwanegol hyn yw caniatáu i ni beilota’r mesurau rydym ni’n eu cymryd. Bydd Cam 3, o ddiwedd mis Medi, yn cynnwys croesawu’r holl fyfyrwyr yn ôl i’r campws gan sicrhau darpariaeth hefyd i’r rheini a allai, am resymau’n ymwneud â covid, fod angen parhau i astudio o bell am gyfnod. Yn yr achosion hynny byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol i fodloni eu hanghenion, fel y byddem mewn amgylchiadau eraill lle byddai anghenion penodol gan fyfyrwyr. Fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, dylai’r rhai sy’n gallu gweithio o bell barhau i wneud hynny, oherwydd mae’r broblem yn mynd yn fwy cymhleth po fwyaf o bobl sydd ar y campws. Nod yr ymagwedd hon yw lleihau’r risg i lefel dderbyniol, ac er bod modd i chi weld gwaith manwl y Tasglu ar y fewnrwyd, hoffwn egluro’r strategaeth gyffredinol.

Mae lleihau risg i lefel dderbyniol yn cynnwys dwy elfen. Un yw bod y sefydliad yn cymryd camau i ddiogelu’r gymuned, fel sicrhau bod yr adeiladau a’r ystafelloedd yn parhau o fewn capasiti diogel ac nad ydynt yn gorlenwi, creu systemau unffordd a sicrhau bod digon o gyfleusterau toiled a gorsafoedd diheintio dwylo, a gosod sgriniau lle bo angen. Mae’r ail yn ymwneud â sut rydym ni’n cydweithio i ddiogelu ein gilydd drwy fabwysiadu ymddygiad fydd yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd y feirws yn lledaenu os ceir heintiad neu nifer o achosion.  Gellir dadansoddi’r strategaeth mewn pedair elfen sy’n gorgyffwrdd, sef rhyngweithio cymdeithasol, hylendid, mesurau diogelu a phrofi. Yn sylfaen i hyn mae diwylliant o ymwybyddiaeth covid.

Mae rhyngweithio cymdeithasol yn cyfeirio at yr ymddygiad angenrheidiol wrth i ni ymwneud â’n gilydd wyneb yn wyneb, yn enwedig dan do. Wyddom ni ddim eto beth fydd y canllawiau ar bellhau cymdeithasol erbyn mis Medi, pan fyddwn ni’n disgwyl niferoedd mawr o bobl ar y campws unwaith eto. Ond pa un a yw’r canllaw pellhau’n 1m, 1.5m neu 2m, y peth allweddol yw bod pawb yn diogelu ei gilydd drwy ddefnyddio synnwyr cyffredin a chadw ar wahân i’r graddau y bo’n ymarferol yn ôl y canllaw. Yn ymarferol, mae’n gwneud synnwyr ystyried yr arweiniad ynghylch cadw pellter yn ogystal â ffactorau eraill, gan gynnwys cyfeiriadedd (peidio â wynebu pobl eraill yn uniongyrchol wrth siarad yn agos), hyd (pa mor hir mae rhywun yn agos) a gwisgo gorchudd wyneb. Byddwn yn disgwyl i bawb sy’n dod i mewn i’n hadeiladau wisgo gorchudd wyneb a byddwn yn cyhoeddi canllawiau ar hyn. Gyda’i gilydd, nid yw’r mesurau hyn yn ymwneud â diogelwch personol yn unig, ond â diogelu pawb. Os bydd pawb yn gweithredu yn ysbryd yr ymagwedd hon byddwn yn yn llai tebygol o ddioddef heintiadau neu gynnydd afreolus os ceir achosion.

Rhan hanfodol o hyn wrth gwrs yw hylendid. Mae golchi dwylo’n fynych yn parhau’n un o’r mesurau pwysicaf y gallwn ni eu cymryd, fel y mae osgoi cyffwrdd â’ch wyneb gyda dwylo sydd heb eu golchi pan fyddwch mewn mannau cyhoeddus. Byddwn yn sicrhau bod arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn cael eu glanhau’n rheolaidd, ac yn darparu deunyddiau diheintio i ddeiliaid adeiladau eu defnyddio, fel sydd i’w gweld mewn llefydd cyhoeddus eraill fel archfarchnadoedd. Yn wir bydd llawer o’r mesurau’n gyfarwydd o brofiadau siopa ac ati.

Ar wahân i’r gorchuddion wyneb (a gwisgo feisorau a menig mewn rhai mannau) byddwn yn gosod sgriniau persbecs lle mae hynny’n gwneud synnwyr. Gall rhwystrau ffisegol atal trosglwyddo’n effeithiol ac rydym ni’n edrych ar ein hadeiladau i gyd i weld ble y gellid ac y dylid eu gosod.

O ran profi, rydym yn ceisio sefydlu ein cyfleusterau ein hunain gyda’r bwriad o allu cynnal profion COVID-19 gyda phawb sy’n dychwelwyd i’r campws ym mis Medi. Rydym hefyd yn gobeithio cynnal samplau achlysurol wedi hynny fel bod gennym system fydd yn rhoi rhybudd cynnar o unrhyw achos. Gadewch i ni fod yn glir: ni fydd hon yn system anffaeledig ar gyfer canfod y feirws yn ein cymuned, ond dylai roi syniad i ni o’r amledd cychwynnol ac efallai ein galluogi i ganfod achosion cudd ymhlith grwpiau asymptomatig o fyfyrwyr a/neu staff. Mae hwn yn brosiect mawr a allai gynnwys profi gwrthgyrff (i weld a yw pobl wedi cael yr haint yn flaenorol) ac efallai y bydd yn caniatáu i ni gynnal ymchwil yn y maes. Byddai unrhyw brofion cadarnhaol (ac mae’r rheini’n debygol o fod yn brin, ar sail yr hyn a wyddom ar hyn o bryd) yn cael eu cyfeirio at y GIG ar gyfer olrhain cysylltiadau. Byddai angen i’r unigolion dan sylw a’u cysylltiadau hunanynysu wrth gwrs, a byddwn yn cynnig unrhyw gefnogaeth angenrheidiol yn hyn o beth.

Felly bydd profi’n cynnig rhai manteision ond ni fydd yn ateb y broblem ar ei ben ei hun. Ni fyddai unrhyw un o’r mesurau uchod yn gwneud hynny, ond gyda’i gilydd, o gael eu parchu’n gyson, rydym ni’n credu y byddant yn ein helpu i leihau’r risg i lefel dderbyniol ac yn rhoi cyfle i ni ganfod a chyfyngu unrhyw achosion o drosglwyddo mewn da bryd i atal lledaenu ehangach. Bydd yr holl ganllawiau arferol ar waith hefyd; dylai unrhyw un sy’n dioddef symptomau eu hadrodd a hunanynysu’n briodol. Dyna beth yw diwylliant o ymwybyddiaeth covid: byddai ceisio gorfodi rheolau llym yn annhebygol o weithio, ond os yw pawb yn cydnabod pwysigrwydd diogelu ein gilydd drwy ddilyn y gweithdrefnau cyhyd ag y bo’n bosibl, mae pob cyfle i ni weithredu’n dda fel prifysgol mewn amgylchedd risg isel. Rhwng hyn a mis Medi byddwn yn darparu canllawiau manwl a chynhwysfawr.

Yn olaf, wrth i’r epidemig yn y DU ddod dan reolaeth gyda’r nifer o heintiau’n lleihau, mae’r cyfyngiadau symud yn cael eu llacio’n raddol. I gydnabod hynny, ni fydd dydd Gwener bellach yn cael ei ddynodi’n arbennig, ond byddwn yn gofyn i reolwyr llinell, ac yn wir i bawb, beidio â threfnu cyfarfodydd fideo ar ddydd Gwener a chadw’r traffig ebost i’r isafswm angenrheidiol. Mae’n bwysig ein bod yn cadw’r pwyntiau gorau a ddysgom o’r cyfnod clo, yn enwedig gan y bydd gofynion iechyd cyhoeddus y feirws yn dylanwadu ar ein harferion am y dyfodol rhagweladwy.

Cofion gorau, Colin Riordan
Is-Ganghellor