Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 13 Hydref 2014

Posted on 13 Hydref 2014 by Mairwen Harris

Trafododd y Bwrdd y rhaglen ar gyfer Diwrnodau-i-Ffwrdd yr wythnos ganlynol. Cytunwyd mai pynciau’r prif sesiynau fydd y model ariannol, incwm o ymchwil, a thargedau asesu ac adborth yr NSS. Nodwyd y câi crynhoad ychwanegol a chyfeiriad at ganllawiau’r OSHEU ynghylch Ebola ei gyhoeddi a’i gylchredeg. Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn: Adroddiad ar
Read more


Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 6 Hydref 2014

Posted on 6 Hydref 2014 by Mairwen Harris

Dangoswyd blog newydd y Bwrdd iddo. Nodwyd bod yr adborth o weithdai Y Ffordd Ymlaen: Gwneud iddo Ddigwydd wedi tynnu sylw at ddiffygion y cyfathrebu mewnol, a gwelir y blog yn ffordd o wella hynny. Rhoir y blog ar y wefan sy’n wynebu tuag allan tan i’r fewnrwyd gael ei datblygu’n llawn. Wedi hynny, gellir
Read more


Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 29 Medi 2014

Posted on 29 Medi 2014 by Mairwen Harris

Cafodd y Bwrdd adroddiad ar weithdai Y Ffordd Ymlaen: Gwneud Iddo Ddigwydd a redwyd yn ystod 2013/14. Crynhodd yr adroddiad ddarganfyddiadau arolwg a seiliwyd ar ddadansoddiad o’r allbynnau, arolwg ar-lein, grŵp ffocws a rhai cyfweliadau un-i-un dilynol. Ar y cyfan, llwyddodd y gweithdai i gael y staff i ymgysylltu â’r strategaeth ac â’r ffyrdd y
Read more


Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 15 Medi 2014

Posted on 15 Medi 2014 by Mairwen Harris

Ym mis Gorffennaf, cyflwynodd Undeb y Myfyrwyr Gyflwyniad Ysgrifenedig Myfyrwyr 2014 i’r Cyngor. Ynddo, nodwyd eu strategaeth ar gyfer y flwyddyn academaidd 2014/15. Trafodwyd ymateb drafft y Brifysgol gan y Bwrdd, a chaiff ei gyflwyno i’r Cyngor ym mis Hydref 2014. Nodwyd bod ymateb y Brifysgol, am y tro cyntaf, yn cynnwys crynodeb o’r cynnydd
Read more


Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 8 Medi 2014

Posted on 8 Medi 2014 by Mairwen Harris

Astudiodd y Bwrdd ganlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (yr NSS) ar gyfer 2014. Yng nghategori ‘bodlonrwydd cyffredinol’ yr NSS cafodd Caerdydd sgôr, ar gyfartaledd, o 89%, sef yr un canlyniad â’r flwyddyn cynt. Nodwyd i CPLAN gael 100%. Yn y categori ‘asesu ac adborth’, yr oedd y cyfartaledd wedi codi 3% i 69%, y naill
Read more