Dewiswyd Converis fel system rheoli gwybodaeth ymchwil y Brifysgol. Cymeradwywyd y dewis gan Grŵp Llywio Data Ymchwil a Rhaglen Rheoli Gwybodaeth (RDIM) y Brifysgol ym mis Mehefin. Bydd y system:

  • Yn darparu cyfleusterau i ymchwilwyr gynyddu pa mor weladwy yw eu hymchwil a’u data ymchwil ar-lein, gan ennill proffil uwch a chyfleoedd gwell ar gyfer cydweithio a chyllid;
  • Yn lleihau’r baich o ran gweinyddu ymchwil. Bydd yn ei gwneud yn haws mynd at wybodaeth am ymchwil a rheoli prosiectau – gan ryddhau amser ar gyfer ymchwil.
  • Yn ei gwneud yn symlach i ymchwilwyr ailddefnyddio gwybodaeth am eu hymchwil i gynhyrchu proffiliau ymchwilwyr, CVau a darparu gwybodaeth i systemau allanol am ddeilliannau ymchwil.
  • Yn ei gwneud yn haws i ddychwelyd cyflwyniad REF 2020 y Brifysgol.

Mae tîm y rhaglen yn edrych ymlaen at ddechrau defnyddio’r feddalwedd dros yr haf a’i dangos i gyfranogion yn yr hydref/gaeaf.

Bydd y rhaglen yn darparu polisi, hyfforddiant, cymorth, storio canolog ac offer metaddata newydd hefyd. Bydd y rhain yn helpu ymchwilwyr i reoli eu data ymchwil a bodloni gofynion cyllidwyr ar gyfer trefnu bod data ar gael. I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Sarah Phillips PhillipsSJ7@Caerdydd.ac.uk neu’r Dr Peter Obee ObeePC@Caerdydd.ac.uk neu trowch at dudalen Cysylltiadau RDIM