Ym mis Medi eleni, bydd arweinwyr rhyngwladol yn ymgasglu yng Nghymru yn y digwyddiad mwyaf erioed i gael ei gynnal ym Mhrydain, wrth i’r DU gynnal uwchgynhadledd NATO. 

Mae’r Brifysgol wedi sefydlu Grŵp Cynllunio Wrth Gefn ar gyfer Digwyddiadau Mawr a chrëwyd tudalennau gwe dynodedig i gyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf cyn ac yn ystod yr uwchgynhadledd (4 a 5 Medi).

Sylwer ar y diweddariadau canlynol o’r Grŵp Cynllunio Wrth Gefn diweddar:

Cardiau Adnabod:  Cofiwch gario eich cerdyn adnabod y Brifysgol ar bob adeg a sicrhau bod modd ei weld. Mae’n debygol y bydd cardiau adnabod yn cael eu gwirio. Rhoddir cardiau adnabod y Brifysgol i staff dros dro hefyd a dylai Ysgolion a Gwasanaethau Proffesiynol sy’n cyflogi staff dros dro gael cardiau adnabod ar gyfer staff dros dro.

Cludiant cyhoeddus: Y bwriad yw y bydd cludiant cyhoeddus yn gweithredu mor arferol ag y bo modd a dyma yw’r ffordd o deithio a fydd yn cael ei hargymell i Gaerdydd ac yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod tyngedfennol. Edrychwch ar wefan Cyngor Caerdydd i gael mwy o wybodaeth.

http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/cardiff-bus-diversions-nato-summit-7584826

Aflonyddwch ar y ffordd

Darperir gwybodaeth swyddogol a lleol am draffig, teithio a ffyrdd sydd ar gau ar wefan gov.uk

https://www.gov.uk/nato-wales-local#travel-and-road-closures

Mae gwybodaeth am ffyrdd sydd ar gau ar gael ar wefan Wales online hefyd, sef:

http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/nato-summit-2014-road-closures-7580267

Gallwch edrych ar wefan Cyngor Caerdydd hefyd i gael diweddariadau ar dagfeydd traffig.

http://www.traffic-wales.com/

Mae gwefan Heddlu Gwent yn ymdrin â thraffig ynghyd â materion eraill yn ymwneud â’r heddlu:

http://www.gwent.police.uk/advice-and-guidance/community/nato-summit/

Parcio ger y Brifysgol: Disgwylir y bydd nifer y lleoedd parcio yn gyfyngedig yn ardal y ganolfan ddinesig. Bydd cyfyngiadau ar ffyrdd mynediad hefyd.

Teithio awyr

Bydd maes awyr Caerdydd yn cael ei ddefnyddio pan fydd cynrychiolwyr yr Uwchgynhadledd a’u staff yn cyrraedd ac yn gadael.  Disgwylir y bydd cynrychiolwyr a staff cymorth yn dechrau cyrraedd y maes awyr brynhawn dydd Mercher, 3 Medi a bore dydd Iau, 4 Medi. Bydd cynrychiolwyr yn gadael prynhawn dydd Gwener, 5 Medi.

Bydd traffig cynyddol ar y ffordd o’r maes awyr i Westy Celtic Manor a bydd yr heddlu yn rheoli rhwystrau sylweddol ar y ffyrdd ar hyd y daith i sicrhau diogelwch y cynrychiolydd. Bydd Port Road (A4050), Croes Cwrlwys, yr A4232 a’r M4 yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol ynghyd â ffyrdd eraill sy’n ymuno â’r rhain.

Edrychwch ar y tudalennau gwe i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch a diogeledd, parcio a theithio, gwasanaethau arlwyo, digwyddiadau ac archebu ystafelloedd, cau adeiladau a threfniadau gweithio: www.caerdydd.ac.uk/nato-summit-advice