Bob blwyddyn mewn seremonïau Graddio, mae cyfle i’r Brifysgol anrhydeddu unigolion sy’n neilltuol yn eu meysydd priodol trwy ddyfarnu Cymrodoriaeth Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd. Byddai Pwyllgor y Cymrodorion yn croesawu awgrymiadau am unigolion neilltuol y gellid rhoi anrhydedd felly iddynt yn 2015.   

Caiff Cymrodoriaethau Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd eu dyfarnu gan amlaf i unigolion sy’n cyflawni un neu fwy o’r meini prawf canlynol:

(i)  maent wedi cyflawni rhagoriaeth academaidd a rôl arwain genedlaethol neu ryngwladol mewn disgyblaeth academaidd a gynigir yng Nghaerdydd;

(ii)  maent wedi gwneud cyfraniad sylweddol at newid cymdeithasol ar lefel genedlaethol neu ryngwladol;

(iii)  maent wedi gwneud cyfraniad diwylliannol sylweddol ar lefel genedlaethol neu ryngwladol;

(iv)  maent wedi codi proffil rhyngwladol Caerdydd a Chymru yn eu maes penodol.

Yn ychwanegol, bydd Pwyllgor y Cymrodorion yn ystyried cysylltiadau personol yr unigolion a enwebwyd â Chaerdydd a Chymru, a’r cyfraniad tebygol y gallai’r unigolyn ei wneud i’r Brifysgol yn y dyfodol o ganlyniad i’r cysylltiad.

I weld rhestr o’r rheiny sydd eisoes wedi cael eu hanrhydeddu gan y Brifysgol, trowch at: http://www.caerdydd.ac.uk/about/honorary-fellows/previous-recipients

Dylid cyflwyno enwebiadau ar-lein yn:

https://www.surveys.caerdydd.ac.uk/honoraryfellows neu

https://www.surveys.caerdydd.ac.uk/cymrodorion

Dyddiad cau:  17:00 dydd Gwener 5 Medi 2014

Cysylltwch ar gyfer ymholiadau:  Ali Carter (e-bost: carterac@caerdydd.ac.uk neu estyniad ffôn: 74777)