Rhwydwaith Nystagmus

Dyfarnwyd £15,000 i dîm ymchwil Prifysgol Caerdydd yn y coleg i ddatblygu prawf i fesur effaith cyflwr y llygad, nystagmus, yn gywir. Mae’r wobr yn cael ei rhoi gan Rwydwaith Nystagmus a hon yw’r gyntaf mewn cynllun blynyddol newydd gan yr elusen.

Yn ddiweddar, mae’r Uned Ymchwil ar gyfer Nystagmus (RUN) ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi tystiolaeth fod craffter gweledol yn ffordd amhriodol o fesur gweithrediad gweledol mewn nystagmus.  Bydd y prawf, a ddyluniwyd gan y Dr Matt Dunn a chyfarwyddwr RUN yr Athro Jonathan T. Erichsen, yn caniatáu ‘amser i weld’ a’r parth nwl y dylid ei ystyried wrth asesu effeithiau nystagmus (symudiadau anwirfoddol y llygad).

Dywedodd y Dr Dunn: “Mae gwaith diweddar o’n labordy yn awgrymu nad yw craffter gweledol efallai yn ffordd berthnasol o fesur wrth asesu newidiadau mewn perfformiad gweledol mewn pobl sydd â nystagmus. Rydym ni felly’n ddiolchgar iawn i Rwydwaith Nystagmus am ddarparu’r cyllid hwn a fydd yn galluogi i ni ymchwilio i natur ‘amseru’ gweledol mewn nystagmus plant. Efallai y bydd hyn yn cynnig dull i fesur profiad gweledol yn fwy cywir ac asesu effeithiolrwydd triniaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn ogystal â thriniaethau yn y dyfodol.”

Dywedodd Vivien Jones, Llywydd, Rhwydwaith Nystagmus:

“Bydd y cynnig o bosibl yn cael effaith sylweddol ar y gymuned ymchwil trwy ddarparu offeryn newydd pwysig i fesur triniaeth sy’n bodoli eisoes a thriniaethau newydd. Bydd hyn hefyd o fudd i’r rheiny sydd â nystagmus sydd am wybod yn glir p’un a yw triniaethau sy’n bodoli eisoes neu driniaethau newydd yn arwain at wella’r golwg.”

Mae Rhwydwaith Nystagmus wedi neilltuo dros £40,000 ar gyfer cyllid ymchwil yn 2014. Trefnwyd eisoes bod gwobrau ar gael i ymchwilwyr yng Nghaerlŷr a Southampton yn ogystal â Chaerdydd o dan gynllun grantiau bach arloesol sy’n ariannu eitemau llai nad yw cyllid yn aml ar gael ar eu cyfer. Bydd yr elusen yn trefnu gwobr o £10,000 hefyd ar sail llwyddiant y diwrnod ymwybyddiaeth o nystagmus – sef ‘Wobbly Wednesday’ – ar 5 Tachwedd.

I gael mwy o wybodaeth am Rwydwaith Nystagmus, cysylltwch â: John Sanders, Rheolwr Datblygu, ffôn: 029 2045 4242, e-bost: john.sanders@nystagmusnet.org neu’r llinell gymorth: 0845 634 2630, e-bost:info@nystagmusnet.org gwefan:http://www.nystagmusnet.org