Llongyfarchiadau mawr i Paul Crompton, Cyfarwyddwr Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau / Cyfarwyddwr Clinigol am ennill y wobr fawreddog hon.

Mae Paul Crompton wedi cyfrannu’n helaeth ym maes BioGyfathrebu mewn Meddygaeth trwy gyhoeddiadau, cyflwyniadau, addysgu ac arddangosfeydd. Cafodd Ddiploma Galwedigaethol Sefydliad Ffotograffwyr Proffesiynol Prydain o Goleg y Celfyddydau a Thechnoleg Blackpool, y DU ym 1977. Roedd yn ffotograffydd meddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru o 1977-1985 ac yn ystod y cyfnod hwn, cafodd dystysgrifau ychwanegol mewn ffotograffiaeth ac addysgu meddygol.

Paul Crompton

Yn sgil archwilio cyd-destun ehangach ffotograffiaeth a’i ddymuniad i fentora ffotograffwyr ifanc, bu’n Ddarlithydd ac yn Arweinydd Cwrs mewn Ffotograffiaeth yn Ysgol y Celfyddydau a Dylunio Sir Gaer (1985 – 1994). Yn dilyn ei M.A. mewn Astudiaethau Ffotograffig o Brifysgol Derby y DU ym 1991, fe’i penodwyd yn Ddarlithydd Ymweliadol mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg y Celfyddydau Blackpool (1992 – 1994). Gan ragweld y chwyldro mewn ffotograffiaeth ddigidol, dychwelodd i Ysbyty Athrofaol Cymru ym 1994 yn Bennaeth Ffotograffiaeth, Canolfan Adnoddau’r Cyfryngau, Caerdydd. Dros yr 13 mlynedd nesaf, bu’n rheoli’r newid i ffotograffiaeth ddigidol gan ehangu’r gwasanaeth i ddelweddu opthalmig a datblygu rôl ffotograffiaeth o fewn llwybrau gofal cleifion dermatoleg a gwella clwyfau. Yn 2007, fe’i dyrchafwyd i rôl Cyfarwyddwr a Phennaeth y Gwasanaeth yn yr un sefydliad, yn rheoli 36 aelod o staff a chyllideb weithredol flynyddol o oddeutu £1 miliwn.

Mae’n aelod ac yn arweinydd gweithgar mewn pedair cymdeithas broffesiynol, sef: IMI, OIA, BCA a HeSCA. Ar gyfer Sefydliad Darlunwyr Meddygol y DU, arweiniodd mewn moderneiddio’r llwybr gyrfa a safoni cymwysterau ar gyfer myfyrwyr ym maes cyfathrebu biofeddygol. Mae Crompton wedi derbyn nifer o wobrau am ei waith. Mae wedi cyhoeddi 12 o bapurau blaenllaw ac wedi rhoi 22 o gyflwyniadau pwysig rhwng 1982 a 2013 mewn cynadleddau proffesiynol yn y DU a’r Unol Daleithiau. Mae ganddo yrfa weithgar mewn creu ei ffotograffiaeth ei hun, ar ôl cyflwyno wyth o arddangosfeydd celf mawr er 1985. Roedd ei brosiect personol diweddaraf yn cynnwys gweithio gyda’r elusen Mamau Affrica, sy’n helpu gweithwyr gofal iechyd yn is-Sahara Affrica i fynd i’r afael â chyfraddau uchel o farwolaethau ymhlith mamau. Yn 2013, fe wnaeth hefyd helpu i osod cyfrifiaduron mewn ystafell ddosbarth addysg iechyd â phŵer solar mewn pentref anghysbell yn Sambia.

http://www.bca.org/honors/schmidt_bios/2014_Crompton.pdf