HR Partner Team - CBLS

Mae’n bleser gennym gadarnhau strwythur y tîm Partneru Busnes AD o fis Awst 2014. Mae datblygu strwythur Coleg o fewn y Brifysgol wedi annog adolygiad o ble orau i reoli a darparu gwasanaethau. Ar gyfer AD, y bwriad yw sicrhau bod ein gwasanaeth i Goleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd yn effeithiol ac yn ychwanegu gwerth tra’n parhau i wella safonau. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn rhannu arfer gorau i sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu cyflwyno yn y ffordd orau posibl a lleihau’r dyblygu, lle bo’n briodol. Bydd hyn yn gyrru gwasanaeth o ansawdd uchel, sy’n ymatebol ac yn gadarn. Bydd yn rhoi cyfle i wella datblygiad unigolion ymhellach hefyd i ddarparu gwasanaeth proffesiynol. Ar gyfer ymholiadau trafodaethol, parhewch i gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaethau Pobl ar 79777 neu anfonwch neges e-bost i people@caerdydd.ac.uk

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r mater hwn i Bartner Busnes AD y Coleg, Samantha Clark, yn ClarkS8@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio 029 20688653.