Mae’r Adran Dermatoleg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi’i lleoli yn Sefydliad Dermatoleg Cymru, Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Rydym ni’n arwain y byd o ran ymchwil ac addysgu ym maes dermatoleg ac mae gennym ni dîm rhyngwladol o diwtoriaid, darlithwyr a gweinyddwyr yn rhedeg y cyrsiau a’r gweithgareddau addysgol eraill. Mae’r adran wedi ennill gwobrau niferus gan gynnwys Athro Clinigol y Flwyddyn y BMJ a Menter Arweinyddiaeth a Rheoli TGCh Eithriadol y Times Higher.

Ymchwil Dermatoleg
Cynhelir ymchwil dermatoleg o’r safon uchaf yng Nghaerdydd. Arweinydd y tîm rhyngwladol yw’r Athro Vincent Piguet.

DLQI ac Ansawdd Bywyd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu a dilysu mesurau Ansawdd Bywyd i’w defnyddio mewn dermatoleg.

Dr Paul Grinzi, Awstralia
“A minnau’n feddyg teulu, buan y bu i mi sylweddoli faint o broblemau dermatoleg y mae meddygfa’n dod ar eu traws…”

Dr Devang Patel, Gibraltar
“Dyma’r cwrs ôl-raddedig mwyaf defnyddiol i mi ei ddilyn …” Tystebau

Dr Ebele Ugochukwu, Nigeria
“Roeddwn i wrth fy modd gyda’r cwrs DPD ac roedd fel gwireddu breuddwyd …” Tystebau

Dr Samantha Gittins, UK
“Dyw hi ddim yn ormod i ddweud bod y DPD yn brofiad newidiodd fy mywyd …” Tystebau

Dr Marcus Stone, New Zealand
“Mae’r DPD yn ddiploma i’r meddyg teulu prysur yn unrhyw le yn y byd …” Tystebau

Dr Lew Hong Chau, Malaysia
“Y DPD yw’r cwrs ôl-raddedig gorau i mi ddod ar ei draws erioed …” Tystebau