Ym mis Ebrill 2013, Lansiwyd ymgynghoriad ar greu Athrofa Addysg Feddygol a Deintyddol a geisiodd safbwyntiau gan grŵp eang o bobl – staff a myfyrwyr, yn ogystal â rhanddeiliaid allanol – er mwyn ffurfio’r ffordd ymlaen. Mae’r Coleg yn arbennig o ddiolchgar i randdeiliaid am dreulio amser yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Amlygodd yr adborth safbwyntiau rhanddeiliaid ynglŷn â’r manteision a’r pryderon canfyddedig sy’n gysylltiedig â ffurfio Athrofa sy’n cynnwys nodweddion allweddol yr Ysgolion Deintyddiaeth, Meddygaeth ac Addysg Feddygol a Deintyddol Ôl-raddedig. Yn gyffredinol, roedd y farn ynglŷn â dymunoldeb y cynnig wedi’i rhannu’n gyfartal.

Roedd adborth ansoddol o’r ymgynghoriad yn atgyfnerthu’r farn y byddai cysoni gweithgareddau ategol y tair Ysgol trwy greu Athrofa Addysg Feddygol a Deintyddol yn arwain at fudd sylweddol. Gallai rhannu arfer gorau, datblygu gweithgareddau rhyngbroffesiynol, a mwy o gapasiti ddarparu llwyfan go iawn ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Mae’n bosibl y gellid mynd i’r afael â’r pryderon a amlygwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad trwy gynnwys mesurau diogelu yn strwythur yr Athrofa, neu trwy’r broses o sefydlu a gweithredu’r Athrofa. Gellir ymdrin â diffygion posibl eraill trwy egluro amcanion yr Athrofa, a gellir rhoi sylw i eraill – yn enwedig ymateb y myfyrwyr Deintyddiaeth – trwy gyfathrebu’n fwy uniongyrchol â’r corff myfyrwyr er mwyn egluro natur y cynnig ac ymateb i unrhyw bryderon.

Mae’r tabl canlynol yn amlygu’r cynnydd a wnaed yn y misoedd diweddar a’r amserlen ar gyfer cerrig milltir allweddol:

table
Bydd diweddariad arall ar y cynnig ar gael yn fuan. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Claire Morgan (MorganCL2@caerdydd.ac.uk) neu Manjit Bansal (Bansalm@caerdydd.ac.uk) a fydd yn gallu eich cynorthwyo.