Cynllunio a rheoli eich gyrfa
Datblygwch strategaethau hunanymwybyddiaeth a strategaethau rheoli gyrfa i gynllunio a rheoli eich gyrfa.
I gynllunio a rheoli eich gyrfa fel ymchwilydd, mae’n bwysig datblygu hunanymwybyddiaeth dda a sgiliau rheoli gyrfa cryf. Mae adnabod eich cryfderau, eich gwerthoedd a’ch cymhellion yn hanfodol er mwyn deall y swyddi a’r sectorau a fyddai’n gweddu orau i chi. Mae angen i chi hefyd feithrin y sgiliau a fydd yn eich helpu i gynllunio ar gyfer y byrdymor, gwneud penderfyniadau effeithiol o ran eich gyrfa, a llywio’r yrfa honno’n llwyddiannus yn yr hirdymor.
Rheoli eich gyrfa
Mae gennym gyngor helaeth ar Dyfodol Myfyrwyr+ i’ch helpu i feithrin y sgiliau y mae arnoch eu hangen i reoli eich gyrfa.
Rydym yn argymell archwilio’r cynnwys hwn i’ch helpu i:
- Nodi sgiliau rheoli gyrfa pwysig, yn ogystal â deall sut i wneud penderfyniad mewn perthynas â gyrfa.
- Datblygu hunanymwybyddiaeth a dealltwriaeth fanwl o’ch cryfderau, eich sgiliau, eich gwerthoedd a’ch cymhellion o ran gyrfa.
- Nodi’r modd y gallai moeseg ddylanwadu ar ddatblygiad eich gyrfa.
Gallech hefyd ystyried cwblhau’r cwrs ar-lein gan Vitae ar ddechrau cynllunio eich datblygiad proffesiynol, cwrs y gallwch ei gyrchu gyda’ch cyfeiriad e-bost prifysgol (mae Prifysgol Caerdydd yn aelod sefydliadol o Vitae).
Rydym hefyd yn argymell:
- Canolbwyntio ar eich gyrfa yn gynnar. Nid yw byth yn rhy fuan i ddechrau neilltuo amser i’ch gyrfa.
- Defnyddio Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae (RDF) i fyfyrio ar sgiliau, gyrfa a datblygiad proffesiynol.
- Ymgysylltu â’r cymorth a gynigir gan Brifysgol Caerdydd trwy’r Academi Ddoethurol neu wasanaethau megis Dyfodol Myfyrwyr.
- Trafod eich syniadau ar gyfer gyrfa a’ch datblygiad proffesiynol â’ch goruchwyliwr, prif ymchwilydd neu reolwr.
- Archwilio adnoddau ehangach sydd ar gael ar Dyfodol Myfyrwyr+, sef adnodd gyrfaoedd i holl fyfyrwyr a graddedigion Prifysgol Caerdydd ac un sy’n ymdrin â sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, a hynny o lwyddo wrth wneud ceisiadau, gwneud defnydd o LinkedIn a chwilio am swyddi, i gyngor ar rwydweithio a’r modd y gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial i gefnogi datblygiad eich gyrfa.