Skip to main content

Cynhyrchu syniadau ar gyfer eich gyrfa

Ymchwilio i lwybrau gyrfa cyffredin i ymchwilwyr a deall sut i gynhyrchu syniadau ar gyfer eich gyrfa.

Mae ymchwilwyr heddiw yn dilyn amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa. Rhagdybir yn aml bod y rhan fwyaf o raddedigion doethurol, neu bob un ohonynt, yn parhau i weithio yn y byd academaidd, ond mae’r rhan fwyaf o raddedigion doethurol mewn gwirionedd yn dilyn rolau y tu allan i’r byd academaidd, gan amlygu’r cyfleoedd diddiwedd sydd ar gael i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i gymhwyso eu harbenigedd a’u sgiliau ymchwil yn y farchnad lafur ehangach neu i roi cynnig ar rywbeth newydd yn gyfan gwbl! Cyn rhoi mwy o fanylion am lwybrau gyrfa poblogaidd i ymchwilwyr yng ngweddill yr adran hon, bydd y dudalen hon yn amlygu sut y gallwch chi gynhyrchu syniadau gyrfa ac archwilio’r ystod lawn o opsiynau sydd ar gael i chi fel ymchwilydd ar ddechrau eich gyrfa.

Archwilio eich opsiynau a dewis sut i ddefnyddio’ch doethuriaeth

Nododd Grŵp Tasg Myfyrwyr Ymchwil a Staff Ymchwil The Association of Graduate Careers Advisory Services (AGCAS) y ffyrdd canlynol o ddisgrifio’r opsiynau gyrfa sydd ar gael i ymchwilwyr, yn dibynnu ar sut y maent yn dewis defnyddio eu doethuriaeth:

  • ‘gyrfaoedd mewn’ – swyddi lle mae meddu ar ddoethuriaeth yn ofyniad hanfodol (yn debygol o fod yn gysylltiedig â maes eich gradd)
  • ‘gyrfaoedd gyda’ – swyddi lle mae meddu ar radd ymchwil yn ddymunol
  • ‘gyrfaoedd o’ – swyddi lle nad yw gradd ymchwil yn ofyniad, ond bydd y sgiliau trosglwyddadwy a enillwyd o ganlyniad i wneud doethuriaeth yn werthfawr

Mae gradd ymchwil yn gymhwyster hynod drosglwyddadwy a all eich helpu i symud ymlaen yn y byd academaidd, yn ogystal â symud ymlaen mewn llawer o rolau a diwydiannau eraill. Efallai y byddai’n ddefnyddiol ystyried yn gyntaf sut yr hoffech ddefnyddio’ch gradd ymchwil yn eich gyrfa yn y dyfodol a pha mor agos yr hoffech i’ch gyrfa nesaf alinio naill ai â maes eich gradd ymchwil neu ymchwil yn ehangach. Er enghraifft, os ydych yn gwneud doethuriaeth mewn cynaliadwyedd, efallai y byddwch yn dewis parhau i weithio yn y byd academaidd yn y maes hwn, neu ddefnyddio’ch sgiliau trosglwyddadwy mewn sector gwahanol – er enghraifft gweithio ym maes polisi cynaliadwyedd neu o fewn elusen sy’n canolbwyntio ar wella cynaliadwyedd.

Mae sectorau cyffredin lle gallai fod angen gradd ymchwil ôl-raddedig yn cynnwys rolau’r llywodraeth a’r gwasanaeth sifil, peirianneg a’r diwydiant fferyllol. Efallai na fydd llawer o sectorau eraill yn nodi gradd ymchwil ôl-raddedig, ond nid yw hyn yn golygu na allwch wneud cais. Os nad yw gradd o’r fath wedi’i nodi, gallwch amlinellu yn eich cais sut mae’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad yr ydych chi wedi eu hennill yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf.

Gallai meddu ar ddoethuriaeth hefyd eich helpu i fod yn fwy cystadleuol ar gyfer rolau, waeth beth fo’r pwnc, oherwydd efallai y gwelwch fod eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad fel ymchwilydd yn eich galluogi i wneud cynnydd yn gyflymach. Enghraifft dda yw Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil. Mae pawb yn dechrau ar yr un pwynt ond mae cyflymder dyrchafiad yn cael ei bennu gan berfformiad, felly gall cefndir ymchwilydd fod yn werthfawr wrth eich helpu i wneud cynnydd yn gyflymach.

Cynhyrchu syniadau gyrfa

I gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich gyrfa eich hun, rydym yn argymell eich bod yn wneud y canlynol:

Gall astudiaethau achos fod yn ffordd wych o gael ysbrydoliaeth o lwybrau gyrfa ymchwilwyr eraill, gan eu bod yn arddangos yr ystod eang o rolau a diwydiannau y mae ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn eu dilyn. Mae gan wefannau fel From PhD to Life ystod wych i ddewis ohonynt, fel sy’n wir hefyd am Vitae.

Gall myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig hefyd wrando ar amrywiaeth o gyfweliadau gyda graddedigion doethurol drwy wrando ar gyfres podlediad Caffi Gyrfaoedd yr Academi Ddoethurol. Gellir cael mynediad at bob recordiad drwy fodiwl Dysgu Canolog yr Academi Ddoethurol.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r adnodd cyn-fyfyrwyr ar LinkedIn i chwilio am broffiliau o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd am syniadau am gyrchfannau gyrfa gan raddedigion doethurol sydd wedi bod yn yr un sefyllfa â chi yn ddiweddar. I gael rhagor o gyngor ar sut i greu proffil LinkedIn a sut i ddefnyddio’r nodwedd cyn-fyfyrwyr, darllenwch ein cyngor ar Dyfodol Myfyrwyr+ ynghylch rhwydweithio.

Monitrwch hysbysfyrddau swyddi a gwefannau swyddi gwag yn rheolaidd i archwilio rolau sy'n apelio atoch ar unwaith ac i gadw cofnod o'r swyddi y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Efallai y gallwch nodi patrymau yn y math o rolau neu sefydliadau rydych chi'n cael eich denu atynt.

Ymgymryd â phrofiad gwaith
Hyd yn oed os oes gennych chi brofiad gyrfa yn barod, mae profiad gwaith yn rhoi cyfle i chi brofi eich syniadau, yn enwedig os ydych chi'n archwilio rhywbeth newydd. Mae yna lawer o fathau o gyfleoedd i gael profiad gwaith y gallech chi ymgymryd â nhw gyda lefelau amrywiol o ran yr ymrwymiad ac amser sydd eu hangen i’w cwblhau. Er enghraifft, nid yw cyfweliad i gael gwybodaeth neu ddiwrnod o gysgodi swydd yn gofyn am unrhyw geisiadau fel arfer ac maent yn gyflym i’w trefnu ac nid ydynt yn cymryd llawer o amser. Gall hyd yn oed cyfleoedd fel hyn fod yn ffordd wych o ddarganfod sut beth yw rôl neu sector mewn gwirionedd. Gallwch ddarllen ein cyngor manylach ar sut i gael profiad gwaith ar y wefan hon.

Gall cyfarfod â chyflogwyr eich helpu i ehangu eich gorwelion, archwilio eich opsiynau a thyfu eich rhwydwaith. Os ydych chi'n fyfyriwr doethuriaeth presennol ym Mhrifysgol Caerdydd neu wedi graddio'n ddiweddar, gallwch fynd i ddigwyddiadau cyflogwyr a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd. Mae gwasanaethau prifysgol fel yr Academi Ddoethurol a Dyfodol Myfyrwyr yn gweithio gyda llawer o gyflogwyr graddedigion lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys ffeiriau gyrfaoedd, sesiynau sgiliau a gwybodaeth, a chyfleoedd i rwydweithio. Os nad ydych bellach yn gallu cael mynediad at gymorth gan Brifysgol Caerdydd, rhowch gynnig ar gyrff a chymdeithasau proffesiynol sydd yn yr un maes â’ch doethuriaeth neu sector o ddiddordeb – bydd llawer yn cynnal gweminarau ar-lein neu ddigwyddiadau rhwydweithio.

Mae rhwydweithio yn sgìl amhrisiadwy ar gyfer eich gyrfa! Mae gennym fwy o awgrymiadau i'ch helpu i feistroli rhwydweithio fel ymchwilydd ar y wefan hon.

Fel ymchwilydd ar ddechrau eich gyrfa, rydych mewn sefyllfa unigryw oherwydd eich cymwysterau i ymchwilio i’ch opsiynau! Cymhwyswch eich sgiliau dadansoddi, meddwl beirniadol a gwerthuso i archwilio a phwyso a mesur eich opsiynau. Yn ogystal â'r awgrymiadau uchod, gallech ddefnyddio gwefannau ag enw da fel Prospects, TargetJobs, Gyrfa Cymru a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol i archwilio proffiliau manwl o gannoedd o rolau, yn ogystal â gwahanol sectorau swyddi. O fewn y proffiliau hyn, byddwch yn canfod adnoddau a gwefannau ychwanegol ar gyfer archwilio rolau o ddiddordeb ymhellach. Gallwch ddarllen mwy o gyngor ar sut i ymchwilio i'ch opsiynau gyrfa ar Dyfodol Myfyrwyr+.

Adnoddau pellach

Use the below resources to explore this topic further: