Skip to main content

Gyrfaoedd amgen a gyrfaoedd sydd â chysylltiad agos â’r byd academaidd mewn addysg uwch

Discover alternative roles and professional services in higher education institutions.

Er ei bod yn bosibl mai rolau academaidd yw’r swyddi mwyaf gweladwy o fewn prifysgolion, mae ystod enfawr o rolau mewn sefydliadau addysg uwch, yn bennaf o fewn y seilwaith ymchwil ehangach a gwasanaethau proffesiynol. Mae prifysgolion fel arfer yn sefydliadau mawr iawn sy’n cyflogi miloedd o aelodau o staff ar draws meysydd amrywiol. Mae gennych lawer o opsiynau i barhau i weithio o fewn amgylchedd prifysgol, hyd yn oed os nad ydych am barhau mewn rôl ymchwil academaidd neu ddarlithio.

Rolau amgen mewn prifysgolion

“Mae gwasanaethau proffesiynol ar draws darparwyr addysg yn cwmpasu ystod eang o swyddi nad ydynt yn rhai academaidd sy'n cefnogi addysgu, ymchwil ac ymgysylltu â'r gymuned. Mae'r rolau hyn yn hanfodol i’r gweithrediad a'r llwyddiant, gan sicrhau bod agweddau gweinyddol a gweithredol yn cael eu rheoli'n fedrus.”
Jobs.ac.uk - 'What are professional services in higher education?'

Mae Jobs.ac.uk yn darparu’r enghreifftiau canlynol o wasanaethau proffesiynol allweddol ym myd addysg uwch:

  • Gweinyddu a rheoli
  • Gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr
  • Cyllid a chyfrifo
  • Gweinyddiaeth ymchwil (mae gennym gyngor ychwanegol ar yrfaoedd rheoli ymchwil)
  • Marchnata a chyfathrebu
  • Technoleg gwybodaeth (TG)
  • Adnoddau dynol
  • Rheoli cyfleusterau

Gall eich gradd ymchwil eich helpu i gael mynediad i’r rolau hyn, cymaint ag y gall ar gyfer rolau academaidd. Gallai pwnc eich gradd ymchwil ymwneud â rôl gwasanaethau proffesiynol yn benodol – er enghraifft, ym maes adnoddau dynol, marchnata, neu gyllid a chyfrifo. Gallai’r sgiliau trosglwyddadwy tra datblygedig rydych wedi’u datblygu trwy wneud eich gradd ymchwil, yn ogystal â’ch gwybodaeth fanwl o weithio mewn amgylchedd addysg uwch, hefyd roi mantais gystadleuol i chi, yn ogystal ag unrhyw brofiad gwaith perthnasol a gawsoch y tu allan i’r byd academaidd.

Os nad ydych yn siŵr a fyddai un o’r rolau amgen hyn yn addas i chi, ystyriwch siarad â staff gwasanaethau proffesiynol ar draws Prifysgol Caerdydd neu ddefnyddio’r fewnrwyd ar gyfer staff i ddarganfod mwy am wahanol adrannau. Efallai y byddwch hefyd yn cysylltu ag adrannau penodol y mae gennych ddiddordeb ynddynt yn uniongyrchol i drefnu cyfnod anffurfiol o brofiad gwaith, megis cysgodi swydd.

Gallwch chwilio am y mathau hyn o rolau mewn prifysgolion ar y gwefannau canlynol:

  • Tudalennau swyddi gwag ar wefannau prifysgolion penodol
  • Jobs.ac.uk (gallwch hidlo yn ôl math o rôl)
  • The Guardian Jobs
  • Swyddi Times Higher Education

Swyddi ychwanegol yn y sector ehangach

Gallwch hefyd barhau i weithio o fewn y sector addysg uwch ehangach heb weithio i brifysgol. Mae amrywiaeth o sefydliadau, o elusennau i gyrff polisi, melinau trafod ac adrannau llywodraethau sy’n gweithio ym meysydd cyllido, llywodraethu a pholisi addysg uwch. Mae enghreifftiau yn cynnwys Medr, y Sefydliad Polisi Addysg Uwch, y Swyddfa Fyfyrwyr and chynghorau ymchwil, yn ogystal ag undebau llafur fel Undeb y Prifysgolion a Cholegau.

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio rhagor am y pwnc hwn: