Skip to main content

Gyrfaoedd ym meysydd ymchwil a pholisi

Utilise your research expertise in research-related and policy careers.

Mae llawer o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn defnyddio eu sgiliau rheoli ymchwil i ddilyn rolau sy’n ymwneud ag ymchwil a pholisi y tu allan i’r byd academaidd. Mae ymchwil wedi amlygu’r gwerth enfawr y mae cyflogwyr yn ei roi ar sgiliau ymchwil a dadansoddol graddedigion doethurol, yn ogystal â sgiliau cysylltiedig megis meddwl beirniadol ac arloesi. Mae gyrfaoedd ymchwil a pholisi y tu allan i’r byd academaidd yn bodoli mewn llawer o wahanol sectorau, gan roi cyfleoedd i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i barhau i ymchwilio yn y maes y mae ganddynt arbenigedd ynddo, i gefnogi neu i hwyluso ymchwil a chyfathrebu ymchwil, ac i ddefnyddio eu sgiliau ymchwil i gael effaith gymdeithasol ehangach.

Rolau ymchwil y tu allan i’r byd academaidd

Mae data’n amlygu’n gyson boblogrwydd gyrfaoedd ymchwil y tu allan i’r byd academaidd ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Mae cyhoeddiad diweddaraf Vitae, ‘What do researchers do?’, sy’n archwilio cyflogaeth graddedigion doethurol, yn dangos bod 70% o’r holl raddedigion doethuriaeth cyflogedig sy’n hanu o’r DU a arolygwyd yn defnyddio sgiliau ymchwil yn eu rôl a bod dros 60% wedi cynnal ymchwil neu ddehongli ymchwil.

Cynhelir ymchwil ym mron pob sector a diwydiant at ddibenion ac amcanion amrywiol. Gallech fod yn gweithio ar ymchwil yn y maes y mae gennych arbenigedd ynddo mewn amgylchedd gwahanol – er enghraifft, mewn amgylchedd ymchwil a datblygu masnachol neu ar gyfer y llywodraeth. Neu fe allech chi fod yn defnyddio eich sgiliau ymchwil mewn ffyrdd gwahanol – er enghraifft, trwy weithio mewn ymgynghoriaeth neu drwy gynnal ymchwil i’r farchnad.

Mae’r graffigyn isod gan Taylor a Francis yn amlygu rhai llwybrau gyrfa ymchwil poblogaidd ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

Welsh version of CDR Infographic

Enghreifftiau o rolau ymchwil a pholisi

Isod ceir rhagor o fanylion am rai rolau ymchwil poblogaidd y tu allan i’r byd academaidd:

Mae gan unigolion sy’n gweithio ym maes rheoli a gweinyddu ymchwil rolau eang ac amrywiol, y mae pob un ohonynt yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o effaith ac effeithiolrwydd ymchwil unigolion eraill. Gallai hyn gynnwys nodi ffynonellau cyllid, negodi contractau gyda noddwyr allanol, rheolaeth ariannol prosiectau ymchwil, a dosbarthu/rhannu ymchwil. Er nad yw'r rhai sy'n rheoli ymchwil yn aml yn cynnal eu hymchwil eu hunain, mae eu gwaith yn hanfodol i bob agwedd ar allbwn ymchwil sefydliad. Gallai’r math hwn o rôl fod yn addas i chi os ydych yn angerddol am effaith a gwerth ehangach ymchwil ac eisiau parhau i weithio o fewn y gymuned ymchwil, ond efallai nad ydych am fod yn gyfrifol am gynnal eich ymchwil eich hun. Mae’r rôl hon hefyd yn bodoli mewn addysg uwch.

Gallwch edrych ar wefan Cymdeithas y Rheolwyr a Gweinyddwyr Ymchwil a throsolwg Indeed o rôl rheolwr ymchwil am ragor o wybodaeth. Mae hefyd yn syniad da edrych ar hysbysebion swyddi gwag mewn sectorau eraill i ddeall beth yw’r gofynion o ran y rolau hyn, er enghraifft mae’r hysbyseb swydd rheolwr ymchwil hwn mewn sefydliad polisi annibynnol ac mae’r hysbyseb swydd rheolwr ymchwil hwn mewn elusen.

Ffordd arall o weithio mewn maes sy'n gysylltiedig ag ymchwil yw gweithio ym maes eiddo deallusol. Mae eiddo deallusol yn cynnwys unrhyw ddyfais, proses, dyluniad neu gynnyrch y gellir sicrhau hawlfraint, patent neu nod masnach ar ei gyfer i'w atal rhag cael ei ddwyn neu ei gopïo gan eraill. Mae gweithio ym maes eiddo deallusol yn ffordd o barhau i weithio o fewn y byd ymchwil, trwy ddiogelu allbynnau ymchwil unigolion eraill.

Mae llawer o wahanol bobl yn ymwneud â diogelu eiddo deallusol, gan arwain at opsiynau gyrfa amrywiol i'r rhai sydd â diddordeb yn y maes:

  • Tîm eiddo deallusol y brifysgol: Mae gan y rhan fwyaf o brifysgolion dîm penodedig i helpu academyddion i ddiogelu eu heiddo deallusol a nodi pa gynnwys sydd angen amddiffyniad o'r fath. Ym Mhrifysgol Caerdydd, er enghraifft, this is Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesedd sy’n gyfrifol am wneud hynnyResearch and Innovation Services
  • Archwilydd patentau: Unigolion sydd â gwybodaeth dechnegol ym maes pob cais sy'n craffu ar agweddau technegol a chyfreithiol unrhyw gais am batent. Mae gan Prospects broffil swydd defnyddiol ar gyfer archwiliwr patentau.
  • Twrnai patentau: IUnigolion mewn proffesiwn cyfreithiol arbenigol sy'n gymwys i gynghori cleientiaid am batentau (a hawliau eiddo deallusol eraill fel arfer). Fel arfer gyda gwybodaeth dechnegol yn y maes, mae twrneiod patentau yn cynorthwyo ymgeiswyr i gael patentau a roddir gan swyddfeydd patentau ledled y byd. Mae gradd mewn pwnc STEM fel arfer yn ofynnol i gael swydd hyfforddai ac, er nad yw'n hanfodol, mae gan nifer o dwrneiod patentau radd Meistr neu ddoethuriaeth. Mae gan Prospects broffil swydd defnyddiol ar gyfer twrnai patentau Patent Attorney job profile
  • Y Swyddfa Eiddo Deallusol: Yn y DU, dyma'r corff sy'n gyfrifol am reoleiddio hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys patentau, dyluniadau, nodau masnach a hawlfreintiau. Gallwch ddarllen mwy amdanynt a'u gwaith ar wefan Gov.uk  a chwilio am rolau yn y Swyddfa Eiddo Deallusol ar wefan gyrfaoedd y Gwasanaeth Sifil 

I gael rhagor o wybodaeth am yrfaoedd ym maes eiddo deallusol, ewch i wefan IP Careers

Polisïau yw’r rheolau, y rheoliadau a’r cyfarwyddiadau sy’n llywio ein gweithgareddau o ddydd i ddydd. O bolisïau dychwelyd i siopau i gamau a nodir yn y gyfraith, mae polisi o'n cwmpas. Mae gweithwyr polisi yn ymdrechu i sicrhau bod y rheolau a ddilynwn yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cael eu llywio gan ymchwil drwyadl o ansawdd uchel. Mae’n bosibl na fydd gan unigolion sydd â’r awdurdod i ddatblygu polisïau’r arbenigedd sydd ei angen i sicrhau eu bod yn mynd i’r afael â’r materion mwyaf priodol, ac yn cynrychioli anghenion y rhai y bydd y polisi’n effeithio arnynt. O ganlyniad, mae gweithwyr ym maes polisi yn aml yn cael eu cyflogi mewn rolau cynghori i adolygu datblygu polisi ac i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol. Mae cwmpas rôl gweithiwr ym maes polisi yn llawer ehangach na rôl ymchwilydd academaidd; maent yn aml yn cynghori ar faes pwnc ar gyfer cleientiaid lluosog, yn hytrach na chanolbwyntio ar un pwnc ymchwil penodol. Yn hynny o beth, mae gyrfa ym maes polisi yn addas ar gyfer pobl sy'n hoffi rôl amrywiol a dynamig.

Mae gyrfaoedd ym maes polisi yn gofyn am y canlynol:

  • Dealltwriaeth o fanylion technegol a sut mae popeth yn cyd-fynd â'r darlun ehangach
  • Y gallu i egluro deunydd pwnc i gynulleidfaoedd lleyg
  • Gwasanaethau ymgysylltu â’r cyhoedd rhagorol
  • Sgiliau rhyngbersonol cryf
  • Sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid, os ydynt yn rhyngweithio â rhanddeiliaid

Mae gweithwyr ym maes polisi i'w cael mewn amrywiaeth enfawr o sefydliadau, er enghraifft, y Gwasanaeth Sifil ac adrannau'r llywodraeth, elusennau, a melinau trafod. Mae gan Prospects broffil swydd Swyddog Polisi defnyddiol. Mae’n bosibl chwilio am swyddi Swyddog Polisi ar wefannau Gyrfaoedd y Gwasanaeth Sifil a Charity Job. Mae Trysorlys EF a'r GIG yn cynnig cynlluniau i raddedigion ym maes polisi, a chyfleoedd i fyfyrwyr doethurol wneud interniaethau polisi, er enghraifft, Cynllun Interniaethau Polisi i Fyfyrwyr PhD gydag Academi’r Gwyddorau Meddygol. Mae gan UKRI flog defnyddiol am bolisi gwyddoniaeth sy'n tynnu sylw at ffyrdd o gymryd rhan mewn gwaith polisi fel ymchwilydd.

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio rhagor am y pwnc hwn: