Skip to main content

Rhwydweithio a’r cyfryngau cymdeithasol

Dewch yn rhwydwaithiwr hyderus a defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol i ehangu eich proffil proffesiynol.

Dewch yn rhwydwaithiwr hyderus a defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol i ehangu eich proffil proffesiynol.

Gan fod gwneud ymchwil yn aml yn cynnwys cydweithio â phartneriaid, diwydiannau a’r cyhoedd, gall datblygu eich rhwydwaith proffesiynol wella gwelededd eich ymchwil, creu cyfleoedd newydd (efallai swyddi neu gyllid), a meithrin cysylltiadau hanfodol i helpu eich gyrfa i dyfu. Mae rhwydweithio yn cwmpasu ystod o weithgareddau a rhyngweithiadau, o fynd i gynhadledd academaidd neu ddigwyddiad gyrfa i ddefnyddio platfformau’r cyfryngau cymdeithasol fel LinkedIn a ResearchGate i ymgysylltu â chymheiriaid yn eich maes. I ymchwilwyr ar unrhyw gam o’u gyrfa, mae rhwydweithio yn sgìl cyflogadwyedd allweddol sy’n hanfodol ar gyfer datblygu eich gyrfa yn y dyfodol.

Sut y gall rhwydweithio helpu ymchwilwyr

“Mae rhwydweithio yn sgìl hanfodol i ymchwilwyr, gan gynnig llwybrau i gydweithio, cyfleoedd gyrfa a thwf proffesiynol. Trwy meithrin a chynnal cysylltiadau, gallwch rannu gwybodaeth, cael mewnwelediad, a chreu cyfleoedd newydd sydd o fudd i'ch rôl bresennol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.”
Vitae (2025) Researcher Development Framework, B3.4

Mae rhwydweithio yn rhan bwysig o unrhyw yrfa ym maes ymchwil, gan gefnogi rhannu syniadau a gwybodaeth, hwyluso cydweithio, a’ch helpu i sefydlu eich enw da yn eich maes.

Yn nodweddiadol, mae rhwydweithio yn digwydd mewn dwy brif ffordd:

  • Rhwydweithio rhagweithiol – cymryd yr awenau i gysylltu â chysylltiadau newydd ac i ddatblygu cysylltiadau a allai arwain at gyfleoedd gyrfa neu ymchwil. Mae enghreifftiau yn cynnwys cysylltu â rhywun ar LinkedIn neu ResearchGate.
  • Rhwydweithio adweithiol – ymateb i sefyllfaoedd pan allwch fanteisio ar gyfarfodydd neu ddigwyddiadau drwy ofyn y cwestiynau cywir a chynnal y cysylltiad ar gyfer y dyfodol. Mae enghreifftiau yn cynnwys gwneud cysylltiadau parhaol mewn cynhadledd academaidd, er enghraifft, neu ddigwyddiad a gynhelir gan yr Academi Ddoethurol.

Gallwch ddarllenmwy am rwydweithio ar Dyfodol Myfyrwyr+. Rydym hefyd yn argymell gwylio’r weminar isod gan Jobs.ac.uk am rwydweithio ar ôl COVID-19:

Dod yn rhwydweithiwr hyderus

Er y gallai rhai unigolion deimlo eu bod wedi’u bywiogi trwy wneud cysylltiadau newydd, i unigolion eraill gall sefyllfaoedd rhwydweithio a chymdeithasol fod yn brofiad blinderus neu nerfus. Mae’n bwysig cofio bod pawb yn dod â’u harddull eu hunain i gyfnewidfa rhwydwaith; nid yw’n ymwneud â bod yr unigolyn mwyaf hyderus neu frwdfrydig yn yr ystafell. Yn lle hynny, canolbwyntiwch ar sut y gallwch chi fod yn ddilys a sut y gallwch chi ddod â’ch personoliaeth eich hun i ryngweithiadau rhwydweithio. Bod yn fyfyriol, â diddordeb, a gwrando’n astud ar unigolion eraill ac ymgysylltu â nhw yw’r cyfan sydd ei angen arnoch i wneud argraff gadarnhaol, barhaol.

Er mwyn helpu i fagu hyder o ran rhwydweithio, rydym yn argymell y canlynol:

  • Cael strategaeth – meddyliwch am bwy yr hoffech chi gysylltu â nhw, a pham. Beth yw pwrpas adeiladu eich rhwydwaith a pham ydych chi’n meddwl y bydd yn helpu? Bydd hyn yn eich helpu i dargedu eich cysylltiadau yn fwy penodol.
  • Ymarfer – achubwch ar unrhyw gyfleoedd sydd gennych chi i ymarfer eich sgiliau cyfathrebu trwy siarad amdanoch chi’ch hun a’ch ymchwil ag unigolion eraill. Hyd yn oed os yw’n gydweithwyr yn eich grŵp ymchwil neu ysgol academaidd neu gyd-fyfyrwyr doethurol, defnyddiwch sgyrsiau gyda nhw i helpu i fagu hyder ar gyfer rhyngweithio yn y dyfodol.
  • Dechreuwch gyda chysylltiad rhithwir neu ar-lein – os yw’r syniad o siarad â rhywun newydd mewn cynhadledd yn rhy frawychus, rhowch gynnig ar gysylltiad rhithwir, megis cais neu e-bost LinkedIn.

Mae gan Jobs.ac.uk awgrymiadau gwych ar gyfer rhwydweithio academaidd, gan gynnwys cynllun gweithredu ar gyfer datblygu eich sgiliau rhwydweithio y gellir ei lawrlwytho i’ch helpu i ddechrau arni.

Defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel ymchwilydd

Mae cyfryngau cymdeithasol yn arf poblogaidd a phwerus i ymchwilwyr rannu eu gwaith, adeiladu eu rhwydwaith, a datblygu eu henw da proffesiynol. Gall gwahanol platfformau ar-lein gefnogi gwahanol agweddau ar eich datblygiad proffesiynol a gyrfaol. Er enghraifft, gall X a LinkedIn eich helpu i gymryd rhan mewn trafodaeth academaidd ar-lein, datblygu eich ymwybyddiaeth o’r fasnach ac adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol, tra gall ResearchGate eich helpu i arddangos eich ymchwil academaidd i gynulleidfa ehangach. Mae gan The Social Academic gyngor defnyddiol ar gyfer academyddion ynghylch platfformau cyfryngau cymdeithasol penodol, yn ogystal â chanllaw cyffredinol ar gyfryngau cymdeithasol ar gyfer academyddion yn 2025.

Cofiwch wahaniaethu rhwng eich proffiliau personol a phroffesiynol wrth ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol ar-lein. Ceisiwch gadw eich proffiliau personol a phroffesiynol ar wahân, gyda’ch proffiliau personol mor breifat â phosibl. Darllenwch gyngor Jobs.ac.uk ar sut i gydbwyso eich presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol â’ch bywyd proffesiynol.

Mae hefyd yn bwysig cofio y gall cyfryngau cymdeithasol fod yn lle anodd lle gall dadl fod yn niweidiol ac yn ofidus. Weithiau mae cyfrifon yn bodoli i greu dadlau ynghylch pynciau penodol yn unig. Mewn rhai achosion, mae’r ymddygiad hwn yn drosedd. Mae gan y brifysgol ganllawiau ar sut i ddelio ag aflonyddu ar-lein sy’n gysylltiedig ag ymchwil.

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio rhagor am y pwnc hwn: