Skip to main content

Gwneud cais am gyllid academaidd

Archwilio'r dirwedd ariannu a nodi ffyrdd o ariannu ymchwil yn y byd academaidd.

Mae cyllid yn elfen hanfodol o ddatblygu gyrfa yn y byd academaidd. Gallai amrywiaeth o ffynonellau ariannu fod yn sybsideiddio eich cyflogaeth neu astudiaethau, prosiectau ymchwil neu gymrodoriaeth, ac mae’n bwysig deall cyd-destun cyllid mewn addysg uwch, prif ffynonellau’r opsiynau cyllido sydd ar gael, a’r cymorth sydd ar gael i’ch helpu gyda’ch ceisiadau.

Prif ffynonellau cyllid

Mae amrywiaeth o ffynonellau cyllid ar gael:

Un o’r prif ffynonellau cyllid yw cyllid cyhoeddus, a weinyddir drwy Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI). Mae UKRI yn cynnwys naw cyngor ymchwil ar wahân, y mae saith ohonynt i gyd yn benodol i bynciau.

Bydd gan bob cyngor ymchwil gyngor sy'n benodol i'ch maes ymchwil sy’n cwmpasu cyngor ar gyllid a chanllawiau manwl ar geisiadau. Mae ganddynt gyngor datblygu gyrfa hefyd, gan ddarparu fframweithiau awgrymedig i'ch helpu i nodi pa ffynhonnell o'u cyllid sydd fwyaf priodol ar gyfer y cam rydych chi arno yn eich cyfnod gyrfa – er enghraifft, cyngor y Cyngor Ymchwil Feddygol ar y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i ennill cymorth.

Mae sefydliadau elusennol hefyd yn ariannu ymchwil, gan gynnwys elusennau fel Wellcome ac Ymchwil Canser y DU. Defnyddiwch eich gwybodaeth o'ch maes ymchwil penodol i nodi sefydliadau elusennol perthnasol ac archwilio cyfleoedd ariannu yn eich maes.

Gall cyrff proffesiynol neu sefydliadau aelodaeth yn eich disgyblaeth gynnig ychydig o gyllid neu grantiau i gefnogi ymchwil. Eghraifft yw Cymdeithas Frenhinol Bioleg, sy'n cynnig grantiau ar gyfer talu costau teithio. Gwiriwch wefannau pob sefydliad yn uniongyrchol.

Bydd gan brifysgolion eu ffynonellau cyllid eu hunain ar gael ar gyfer ymchwilwyr o fewn eu sefydliad.

Gall aelodau staff presennol Prifysgol Caerdydd weld yr holl gyfleoedd ariannu sydd ar gael ar y fewnrwyd. Mae llawer o brifysgolion hefyd yn cynnig cyllid ar gyfer lleoliadau ymchwil mewnol ar gyfer myfyrwyr presennol, fel arfer yn ystod yr haf. Mae'r cyllid hwn fel arfer yn golygu gallu talu am fyfyriwr i gefnogi prosiect ymchwil dros fisoedd yr haf (chwe wythnos i ddau fis, fel arfer). Ym Mhrifysgol Caerdydd, gelwir y cynllun hwn yn gynllun interniaethau ar y campws a gall staff academaidd wneud cais am gyllid ar gyfer cymorth tymor byr i fyfyrwyr ar gyfer eu hymchwil.

Mae darparwyr cyllid rhyngwladol y gall ymchwilwyr yn y DU gael mynediad atynt, ac mae Rhaglen Cymrodoriaethau Ymchwil Marie Sklodowska-Curie yn enghraifft dda ohonynt. Mae gan UKRI gyngor pellach ar gyllid a chymorth rhyngwladol.

Cymrodoriaethau

Mae cymrodoriaethau yn gyfleoedd ariannu cyfnod penodol sy’n caniatáu i ymchwilwyr academaidd ganolbwyntio ar eu hymchwil. Yn nodweddiadol, mae cymrodoriaethau yn ariannu rhywfaint neu’r cyfan o’ch cyflog ac weithiau rhai o’r costau ymchwil cysylltiedig hefyd. Felly, mae ceisiadau am gymrodoriaethau yn rhan cais am gyllid ac yn rhan cais am swydd, ac fel arfer cânt eu cyflwyno i’r corff ariannu yn hytrach na’ch sefydliad lletyol.

Gallwch ddarllen mwy am y cymorth cymrodoriaeth sydd ar gael i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ym Mhrifysgol Caerdydd ar fewnrwyd y staff. Mae gan UKRI wybodaeth ddefnyddiol am gymrodoriaethau hefyd.

Cymorth i wneud cais am gyllid

Nid ydych chi ar eich pen eich hun yn yr ymdrech i ddod o hyd i gyllid a gwneud cais amdano! Mae gan Brifysgol Caerdydd gymorth pwrpasol i’ch helpu chi. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar fewnrwyd y staff. Os ydych yn aelod o staff presennol Prifysgol Caerdydd, gallwch hefyd ddefnyddio eich manylion mewngofnodi ar gyfer Prifysgol Caerdydd i gael mynediad i Research Professional, sef cronfa ddata ar-lein o gyfleoedd ariannu.

Gallech hefyd ystyried y canlynol:

  • Mynd i weithdai sy’n ymwneud â chyllid a/neu gymrodoriaethau a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd
  • Ymgysylltu â Rhaglen Ymchwilwyr Caerdydd, rhaglen hyfforddi a datblygu rhad ac am ddim i’r holl staff a gyflogir ym Mhrifysgol Caerdydd o fewn Llwybr Gyrfa Ymchwil
  • Cadw llygad ar unrhyw ddiweddariadau cyllido ar lefel coleg – os ydych chi’n aelod o staff Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, efallai y byddwch hefyd yn cael gwybodaeth am gyllid yng nghylchlythyr wythnosol y brifysgol, Blas
  • Gwirio gyda’ch grŵp ymchwil, prif ymchwilydd neu oruchwyliwr
  • Mynd i weithdai sy’n cael eu cynnal yn rheolaidd gan Brifysgol Caerdydd – weithiau mae arianwyr yn cymryd rhan yn y rhain
  • Cysylltu ag arianwyr yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw ymholiadau nad ydynt yn cael sylw uniongyrchol ar eu gwefan

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Fel ariannwr ymchwil cyhoeddus mwyaf yn y DU, mae gan UKRI bolisïau cryf i gefnogi cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym maes ymchwil academaidd, gyda chynghorau ymchwil penodol hefyd sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod y sylfaen ymchwil yn y DU yn amrywiol.

Mae UKRI yn mynd ati i fynd i’r afael â thangynrychioli a chyfranogiad gweithredol drwy fentrau megis darparu cyllid i gynyddu amrywiaeth, dyrannu cyllid sy’n cefnogi newid diwylliant, a chyflwyno fformat CV naratif safonedig ar gyfer ein ceisiadau am grantiau

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio rhagor am y pwnc hwn: