Gyrfaoedd yn y byd academaidd
Archwilio llwybrau gyrfa ar gyfer rolau ymchwil ac addysgu yn y byd academaidd.
Mae gyrfaoedd yn y byd academaidd yn amrywiol a gall rolau penodol newid yn dibynnu ar grwpiau ymchwil, sefydliadau a disgyblaethau. Serch hynny, mae gyrfaoedd academaidd fel arfer yn canolbwyntio ar ymchwil a/neu addysgu mewn sefydliad addysg uwch. Bydd cyfrifoldebau o fewn y meysydd hyn hefyd yn dibynnu ar y swydd a’r lefel.
Rolau academaidd cyffredin
Yn gyffredinol, cynigir swyddi ymchwil cynnar ar gontractau cyfnod penodol ac nid yw’n anghyffredin gweithio ar gontractau o’r fath am beth amser cyn cael rôl barhaol. Fodd bynnag, mae llwybr gyrfa arferol, hirsefydlog o fewn y byd academaidd sy’n cynnig llwybr clir o ran dilyniant, er y gall cystadleuaeth am swyddi fod yn ffyrnig.
Isod ceir canllaw sy’n ymwneud â gwahanol rolau yn y byd academaidd, wedi’u trefnu yn ôl statws, o rolau sydd â’r statws isaf i’r rhai sydd â’r statws uchaf. Mae hyn yn cynrychioli llwybr ar gyfer datblygu gyrfa o fewn y byd academaidd i’r rhai sy’n dymuno aros yn y byd hwnnw ac sy’n dymuno symud ymlaen, ond yn anaml y mae teithiau gyrfa yn dilyn patrymau llinellol! Mae’n bwysig cofio nad yw gyrfaoedd modern pob tro yn dilyn llwybr llinol. Er enghraifft, gallwch weithio y tu allan i’r byd academaidd am gyfnodau byr neu gallwch dderbyn cynnig i weithio mewn prifysgol arall neu o fewn grŵp ymchwil gwahanol.
Cymrodoriaeth ôl-ddoethurol neu gydymaith ymchwil
Yn nodweddiadol, mae’r rôl academaidd gyntaf y mae ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn ei chael ar ôl cwblhau eu gradd ymchwil yn llwyddiannus (‘cymrodoriaeth ôl-ddoethurol’) fel arfer yn swydd cyfnod penodol sy’n canolbwyntio ar ymchwil sy’n caniatáu i raddedigion doethurol ddatblygu ymhellach ac arbenigo yn y maes a ddewiswyd ganddynt. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar FindaPostDoc.
Darlithwyr cynorthwyol neu gyswllt
Mewn llawer o sefydliadau, mae gan uwch ddarlithwyr rôl sy'n canolbwyntio mwy ar addysgu, tra bod darllenwyr yn fwy seiliedig ar ymchwil. Mae darllenydd fel arfer yn swydd ganolraddol rhwng athro cyswllt neu uwch-ddarlithydd ac athro. Mae gan Jobs.ac.uk ddisgrifiad o rôl darllenydd.
Darlithydd
Fel arfer, dyma'r swydd academaidd barhaol gyntaf i lawer o ymchwilwyr, ond mae nifer cynyddol o ddarlithyddiaethau cyfnod penodol ar gael hefyd. Mae gan ddarlithwyr gyfrifoldeb i gynnal ymchwil ac addysgu israddedigion yn eu sefydliad. Bydd cyfran yr ymchwil o’i chymharu â chyfran yr addysgu yn wahanol yn dibynnu ar y sefydliad. I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen canllawiau Prospects a TargetJobs ar sut i ddod yn ddarlithydd addysg uwch.
Uwch-ddarlithydd neu ddarllenydd
Mewn llawer o sefydliadau, mae gan uwch ddarlithwyr rôl sy'n canolbwyntio mwy ar addysgu, tra bod darllenwyr yn fwy seiliedig ar ymchwil. Mae darllenydd fel arfer yn swydd ganolraddol rhwng athro cyswllt neu uwch-ddarlithydd ac athro. Mae Jobs.ac.uk has a ddisgrifiad o rôl darllenydd.
Athro cyswllt
Mae llawer o sefydliadau yn y DU bellach yn defnyddio’r term athro cyswllt yn hytrach nag uwch-ddarlithydd a darllenydd. Er ei fod yn debyg iawn i'r rolau hyn, cânt eu recriwtio'n gyffredin ar gontract cyfnod penodol i ddechrau a all ddod yn gontract parhaol ar ôl adolygiad.
Athro
Dyma’r swydd academaidd uchaf yn y DU ac mae’n cynrychioli rôl arweinyddiaeth academaidd, yn ogystal ag addysgu a gwneud gwaith ymchwil o fewn adran neu gyfadran. Fel arfer, mae gan athrawon rôl barhaol yn eu sefydliad.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r rolau hyn, defnyddiwch wefan fel Jobs.ac.uk [DOLEN: https://www.jobs.ac.uk/] i archwilio hysbysebion swyddi cyfredol ar gyfer pob swydd. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o'r hyn a ddisgwylir ar bob lefel a chyfrifoldebau pob swydd.
Tiwtoriaid graddedig
Mae rhai ysgolion yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ymgymryd ag addysgu israddedig â thâl tra byddant yn astudio. Mae pob tiwtor graddedig hefyd yn cael hyfforddiant trwy’r Academi Ddysgu ac Addysgu ar ddulliau addysgu a dysgu. Felly, mae rôl tiwtor graddedig yn ffordd wych o gael profiad uniongyrchol o addysgu mewn addysg uwch a mewnwelediad i sut beth yw cael eich cyflogi fel darlithydd
Gweithio yn y byd academaidd
Mae llawer o bethau i’w hystyried wrth ddewis gweithio yn y byd academaidd, o amodau gwaith a thâl i ddisgwyliadau o ran sgiliau, rhinweddau ac ymddygiad. Fel sy’n wir am lawer o sectorau, mae addysg uwch yn esblygu’n barhaus, felly er nad yw gyrfa academaidd byth yn sefydlog, bydd yr adnodd isod yn rhoi trosolwg defnyddiol i chi o amgylchedd gwaith y byd academaidd.
Os ydych chi’n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni’n argymell eich bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn ffenestr ar wahân.