Skip to main content

Cael profiad gwaith

Archwilio cyfleoedd i ennill profiad fel ymchwilydd ar ddechrau eich gyrfa.

Nid yw profiad gwaith ar gyfer myfyrwyr israddedig yn unig; mae llawer o opsiynau i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ymgymryd â phrofiad gwaith, a llawer o fanteision ymarferol o wneud hynny! Gall ennill profiad y tu allan i’ch maes ymchwil helpu i ategu eich gradd ymchwil a’ch gyrfa ym maes ymchwil yn y dyfodol, neu eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy pwysig a fydd yn eich gwneud yn fwy cystadleuol ar gyfer rolau yn y dyfodol – er enghraifft, rolau ym maes polisi neu rolau ymgysylltu â’r cyhoedd.

Profiad gwaith i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig

Mae llawer o resymau pam y gall profiad gwaith eich helpu i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol. Gall eich helpu i wneud y canlynol:

  • Ehangu ac amrywio eich set sgiliau, eich ymwybyddiaeth fasnachol a’ch gwybodaeth am amgylcheddau gwaith bywyd go iawn
  • Cwrdd â phobl newydd ac ehangu eich rhwydwaith
  • Defnyddio eich sgiliau ymchwil mewn cymwysiadau ymarferol go iawn, gan ddod â buddion ac effaith ehangach i amrywiaeth o sectorau
  • Archwilio rolau y tu allan i’r byd academaidd neu addysg uwch
  • Meithrin hunanymwybyddiaeth a hyder
  • Rhoi hwb i’ch CV a gwneud argraff mewn marchnad swyddi sy’n fwyfwy cystadleuol

Efallai y bydd gennych leoliadau gwaith neu interniaethau gorfodol wedi’u cynnwys fel rhan o’ch astudiaethau doethurol – er enghraifft, trwy raglen hyfforddiant doethurol. Fel myfyriwr ymchwil presennol ym Mhrifysgol Caerdydd, gallwch hefyd gael cymorth gan dîm Dyfodol Myfyrwyr i ennill profiad gwaith, sydd â’r fantais ychwanegol o fod yn hyblyg fel y gellir ei wneud ochr yn ochr â’ch astudiaethau. Gallwch ddarllen mwy ar fewnrwyd y myfyrwyr a’n cyngor ar ddod o hyd i brofiad gwaith ar Dyfodol Myfyrwyr +.

Awgrymiadau gorau ar gyfer ennill profiad gwaith

Er bod llawer o resymau dros gwblhau profiad gwaith yn ystod eich gradd ymchwil, bydd pethau ychwanegol i chi eu hystyried i sicrhau ei fod yn gweithio i chi, eich goruchwyliwr a’ch corff ariannu. Rydym yn argymell eich bod yn ystyried y pethau canlynol er mwyn dewis yr amser a’r cyfle sy’n iawn i chi:

Gall eich goruchwyliwr eich helpu trwy drafod eich cynlluniau gyda chi a'ch cynghori ynghylch a ydynt yn realistig ai peidio, a bydd yn helpu gyda'ch datblygiad personol hefyd. Efallai y bydd ganddo gysylltiadau hefyd a all helpu i hwyluso'r cyfle.

Os ydych chi’n cael eich ariannu gan gyngor ymchwil a bod angen gohirio eich astudiaethau er mwyn cwblhau eich profiad gwaith, gwiriwch gyda’ch cyllidwr a yw’n iawn gwneud hynny. Mae rhai yn gwahardd myfyrwyr rhag gohirio astudio at y diben hwn.
Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol sy’n astudio ar fisa, bydd angen i chi sicrhau nad ydych chi’n gweithio mwy nag 20 awr yr wythnos i gyd.

Fel myfyriwr ymchwil, mae gennych sgiliau trosglwyddadwy dymunol iawn y gallech wneud defnydd ohonynt mewn sawl sector a rôl. Byddwch yn agored i gyfleoedd a allai fod y tu allan i'ch sector neu y tu allan i’ch maes ymchwil. Darllenwch gyngor Vitae ar sut i fod yn ymatebol i gyfleoedd.

Efallai y bydd adegau yn ystod eich astudiaethau pan fydd ymgymryd â phrofiad gwaith yn fwy ymarferol. Efallai y bydd angen i chi hefyd drafod gyda chyflogwyr ynghylch eich argaeledd. Bydd yn rhaid i chi ystyried pa mor ymarferol fydd hi i ymgymryd â phrofiad gwaith a nodi amseroedd sy'n gweithio orau i chi, yn dibynnu ar ble rydych chi yn ystod eich astudiaethau. Efallai y bydd opsiynau rhan-amser yn fwy ymarferol pan fyddwch yn gweithio ychydig o oriau yn ystod yr wythnos, ond efallai y gallwch weithio'n llawnamser am gyfnod byr, megis dros wyliau neu wyliau’r brifysgol.

Cymerwch amser i fyfyrio ar yr hyn rydych chi'n ei ddysgu o unrhyw brofiad rydych chi'n ymgymryd ag ef. Meddyliwch am y mewnwelediadau rydych chi wedi'u hennill a sut y gallwch chi gysylltu rhain â'ch gwaith academaidd a'u hintegreiddio â'ch galluoedd ymchwil. Mae eich profiad gwaith yn debygol o ddylanwadu ar gyfeiriad eich gyrfa, p’un ai ei ddiben yw cadarnhau’r hyn yr ydych am ei wneud neu’r hyn nad ydych am ei wneud! Efallai y byddwch yn sylwi bod eich hunaniaeth broffesiynol yn symud oddi wrth ymchwil i rywbeth ehangach. Defnyddiwch hunanymwybyddiaeth i fireinio'ch cynlluniau, daliwch ati i archwilio cyfleoedd newydd, a mireiniwch y sgiliau rheoli gyrfa y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y dyfodol. Mae Vitae gan Vitae gyngor ardderchog ar hunanfyfyrio.

Ennill profiad fel aelod o staff ymchwil

Gall fod yn anoddach dod o hyd i brofiad gwaith tra byddwch mewn cyflogaeth. Mae cynllun paru’r Gymdeithas Frenhinol  yn enghraifft dda o gynllun hyfforddi a mentora ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa. Mae’r cynllun yn gyfle i wyddonwyr sy’n gweithio ar draws pob disgyblaeth STEMM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg), yn ogystal â gwyddonwyr cymdeithasol neu ymddygiadol sy’n defnyddio neu sydd â gorgyffwrdd â disgyblaethau STEMM, gael mewnwelediad i sut mae senedd a’r llywodraeth yn gweithio.

Os na allwch ennill profiad gwaith yn ystod eich rôl bresennol, mae opsiynau eraill i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ac i archwilio cyfleoedd newydd! Ystyriwch beth arall y gallech chi ei wneud yn lle hynny. Dyma rai enghreifftiau:

    • Cyfweliadau i gael gwybodaeth – defnyddiwch eich rhwydwaith presennol i archwilio cyfweliadau gwybodaeth, sef sgyrsiau anffurfiol pan fyddwch yn darganfod mwy am swyddi neu sectorau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Mae cyfweliadau gwybodaeth yn arf proffesiynol amhrisiadwy a all eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am symudiadau gyrfa yn y dyfodol, yn enwedig yn absenoldeb profiad gwaith yn y maes hwnnw.
    • Gwirfoddoli – er bod gwirfoddoli yn dal i fod yn fath o brofiad gwaith, gall rolau gwirfoddoli (yn aml gydag elusennau) gymryd llawer llai o amser, a gallant fod yn haws eu cyflawni ar yr un pryd ag ymrwymiadau eraill. Gallai gwirfoddoli eich helpu i ddatblygu sgiliau pwysig wrth gefnogi achos neu destun angerdd sy’n agos at eich calon neu sy’n cyd-fynd â’ch nodau gyrfa. Mae Sense about Science, er enghraifft, yn elusen a rhwydwaith o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sy’n hyrwyddo diddordeb y cyhoedd mewn gwyddoniaeth a thystiolaeth gadarn – ac maent yn dibynnu ar waith gwirfoddolwyr. Mae sefydliadau fel Volunteering Matters, Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru a Gwirfoddoli Caerdydd i gyd yn hysbysebu ac yn hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Ym Mhrifysgol Caerdydd (fel sy’n wir am y rhan fwyaf o sefydliadau addysg uwch), bydd yna hefyd rwydweithiau staff amrywiol y gallech chi wirfoddoli eich amser gyda nhw. Gallai’r rhain ymwneud â nod strategol neu werth sefydliadol – er enghraifft, ehangu cyfranogiad neu ddeallusrwydd artiffisial ym myd addysg – yn ogystal â rhwydweithiau sy’n cefnogi staff o grwpiau penodol fel staff LHDT neu staff o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol. Defnyddiwch fewnrwyd y staff i ddarganfod pa rwydweithiau a gweithgorau sydd ar gael.
    • Secondiadau – ym myd addysg uwch, weithiau gall fod yn bosibl ymgymryd â swyddi cyfnod penodol fel secondiad o’ch swydd barhaol bresennol. Gallai hyn fod yn ffordd wych o ennill profiad ychwanegol neu roi cynnig ar rywbeth newydd, yn enwedig mewn adran gwasanaethau proffesiynol. Mae rhai cynghorau cyllido yn y DU hefyd yn cynnig secondiadau am gyfnod o hyd at 36 mis – er enghraifft, secondiad Innovation Scholars yn y gwyddorau biofeddygol. Mae gan Jobs.ac.uk gyngor ar fanteision ac anfanteision gwneud secondiad.

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio rhagor am y pwnc hwn: