Parhau â’ch datblygiad proffesiynol
Symudwch ymlaen yn eich gyrfa drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus a chefnogaeth mentor.
Mae datblygiad proffesiynol parhaus yn disgrifio’r ystod eang o weithgareddau y mae gweithwyr proffesiynol yn cymryd rhan ynddynt drwy gydol eu gyrfa broffesiynol er mwyn datblygu a gwella eu galluoedd. Tra bod cymhwyster academaidd fel arfer yn dilyn cyfnod diffiniedig o ddysgu strwythuredig, mae datblygiad proffesiynol parhaus yn hunangyfeiriedig i raddau helaeth, er y gellir ei lywio gan fframwaith proffesiynol ehangach, neu ei osod o fewn un, yn dibynnu ar eich rôl, eich diwydiant, a’r cam rydych chi wedi’i gyrraedd yn eich gyrfa. Pa bynnag rôl neu ddiwydiant a ddewiswch, mae datblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol ar gyfer gwneud cynnydd yn eich gyrfa yn y dyfodol. O ddysgu sgiliau a thechnolegau newydd i gadw golwg ar faterion sy’n dod i’r amlwg yn eich maes, bydd datblygiad pellach yn eich helpu i ragori yn eich rôl bresennol, gan ddod yn fwy cystadleuol ar gyfer eich cam nesaf. Gall mentor proffesiynol hefyd eich cefnogi yn eich gyrfa, gan gynnig cyngor a chefnogaeth i’ch helpu i ddatblygu, yn seiliedig ar yr hyn y maent wedi’i ddysgu o’u profiadau eu hunain.
Deall datblygiad proffesiynol parhaus
Mae Jobs.ac.uk yn diffinio datblygiad proffesiynol parhaus fel a ganlyn:
“..y broses o olrhain a dogfennu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad yr ydych yn eu hennill yn ffurfiol ac yn anffurfiol wrth i chi weithio, y tu hwnt i unrhyw hyfforddiant cychwynnol. Mae'n gofnod o'r hyn rydych chi'n ei brofi, ei ddysgu, ac yna'n ei gymhwyso. Defnyddir y term yn gyffredinol i olygu ffolder neu bortffolio ffisegol sy’n dogfennu eich datblygiad fel gweithiwr proffesiynol..”
Maent yn dadlau bod angen i ddatblygiad proffesiynol parhaus:
- bod yn broses sy’n cael ei dogfennu
- bod yn hunangyfeiriedig: wedi’i arwain gennych chi, nid eich cyflogwr
- canolbwyntio ar ddysgu o brofiad, dysgu myfyriol ac adolygu
- eich helpu i osod nodau ac amcanion o ran datblygiad
- cynnwys dysgu ffurfiol ac anffurfiol
Mae llawer o fanteision i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus, fel gwerthuso eich sgiliau a’ch cyflawniadau (yn ddefnyddiol ar gyfer ceisiadau a chynllunio gyrfa yn y dyfodol), datblygu sgiliau, rhinweddau a phrofiadau sydd eu hangen i symud ymlaen yn eich maes dewisol, a dangos eich ymrwymiad proffesiynol i’ch goruchwyliwr presennol, eich rheolwr, a’ch cyflogwyr yn y dyfodol.
Gallwch wylio’r fideo byr hwn gan The CPD Certification Service sy’n esbonio beth yw datblygiad proffesiynol parhaus:
Nodi cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus
Gallwch ymgymryd ag ystod enfawr o weithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus, gan gynnwys gweminarau, mynd i gynadleddau a digwyddiadau, ymgymryd ag e-ddysgu, a bod yn rhan o rwydwaith neu fforwm, ond mae’n bwysig eich bod yn nodi datblygiad proffesiynol parhaus a fydd fwyaf addas i chi, eich sgiliau presennol, a’ch nodau gyrfa yn y dyfodol.
Fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig neu ymchwilydd ar ddechrau eich gyrfa, mae Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae yn darparu strwythur ardderchog ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ac fe’i cydnabyddir gan arianwyr a chyflogwyr allweddol ym maes ymchwil. Mae gwefan Vitae yn darparu cyngor, cymorth ac adnoddau i’ch helpu i ddatblygu pob un o’r sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau o fewn y fframwaith.
Er bod cynnal datblygiad proffesiynol parhaus yn aml yn broses hunangyfeiriedig, gallai’r broses hon fod yn fwy strwythuredig os caiff ei harwain gan sefydliad neu gorff allanol, sy’n aml yn annog neu’n hwyluso datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer ei aelodau. Mae dros 1,000 o sefydliadau a chyrff proffesiynol ar draws y DU, felly mae’n bwysig rheoli a chofnodi unrhyw weithgareddau datblygiad proffesiynol parhaus yr ydych yn ymgymryd â nhw yn unol â’r cyrff yr ydych yn aelod ohonynt. Mae dewis bod yn aelod o gorff neu sefydliad proffesiynol ynddo’i hun yn enghraifft wych o ddatblygiad proffesiynol parhaus! Os nad ydych wedi ymuno ag unrhyw rai eto, efallai y byddwch yn ystyried archwilio’r llu o wahanol gyrff proffesiynol sydd ar gael ac ymuno ag un (neu nifer) sy’n cefnogi eich nodau gyrfa. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Sefydliadau sy’n gysylltiedig â’ch maes ymchwil neu ddisgyblaeth academaidd – er enghraifft, Cymdeithas Seicolegol Prydain, y Sefydliad Ffiseg, a’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol
- Sefydliadau sy’n berthnasol i addysg uwch (os ydych yn fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig neu’n cael eich cyflogi mewn sefydliad addysg uwch) – mae enghreifftiau’n cynnwys Advance HE (sy’n cefnogi cymwysterau dysgu ac addysgu amrywiol a gyflawnir gan fyfyrwyr doethurol a staff addysgu academaidd) neu Gymdeithas y Rheolwyr a Gweinyddwyr Ymchwil
- Sefydliadau sy’n gysylltiedig â’ch rôl a’ch sector (nid ymchwil) – mae enghreifftiau’n cynnwys Cymdeithas y Cyfreithwyr neu’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (ar gyfer gweithwyr adnoddau dynol proffesiynol)
Gallech chwilio gwefannau’r cynghorau ymchwil yn y DU (sy’n berthnasol i’ch disgyblaeth neu ymchwil) gan fod ganddynt yn aml ganllawiau a chyngor penodol ar y sgiliau a ddisgwylir wrth weithio o fewn eu sector.
Mae gan The CPD Certification Service fideo defnyddiol hefyd am y gwahanol ffurfiau y gall datblygiad proffesiynol parhaus eu cymryd:
Sut y gall mentora helpu eich gyrfa
Mae mentora hefyd yn offeryn hynod werthfawr ar gyfer eich datblygiad proffesiynol a gyrfaol. Mae’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu yn diffinio mentora fel a ganlyn:
“Mae mentora yn y gweithle yn disgrifio perthynas pan fo cydweithiwr mwy profiadol yn rhannu ei wybodaeth ehangach i gefnogi datblygiad unigolyn dibrofiad. Mae'n rhaid meddu ar sgiliau megis y gallu i holi, gwrando, egluro ac ailfframio sy'n gysylltiedig â hyfforddi….”
Ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, mae mentor yn ymchwilydd mwy profiadol a all eich cynghori a’ch cefnogi, yn ogystal â rhannu mewnwelediad a dysgu o’i brofiadau ei hun. Yn ddelfrydol, mewn perthynas fentora mae’r ddau gyfranogwr yn dysgu, ac mae’r mentor a’r mentorai yn datblygu sgiliau, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o ganlyniad i’r berthynas.
Os ydych yn dymuno dilyn rôl nad yw’n gysylltiedig ag ymchwil, efallai y byddwch yn dod o hyd i fentor yn gweithio yn y maes rydych chi’n dymuno bod yn rhan ohono. Mae mentora fel arfer yn berthynas anffurfiol y gallech ei sefydlu eich hun gyda chyswllt dibynadwy, ond mae sefydliadau addysg uwch yn aml yn cynnig rhaglen fwy ffurfiol, fel Rhaglen Mentora Academaidd Prifysgol Caerdydd y gall ymchwilwyr sydd ar ddechrau eu gyrfa ymuno â hi.
Wrth i chi symud ymlaen o fewn eich gyrfa, efallai y byddwch yn ystyried dod yn fentor i’r rhai llai profiadol yn eich maes. Mae gan Vitae gyngor rhagorol ar fentora, gan gynnwys sut y gall mentora fod o fudd i’r gymuned ymchwil ehangach