CVs, ceisiadau, a chyfweliadau
Creu CVs a cheisiadau cymhellol a gwybod sut i sefyll allan mewn cyfweliadau.
Fel arfer, bydd angen cyfuniad o CV, cais ar-lein (a allai gynnwys datganiad personol neu ddatganiad ategol ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau academaidd) a phroses gyfweld ar gyfer ceisiadau am unrhyw swydd a hysbysebir. Gallwch sefyll ar wahân i’r gystadleuaeth trwy baratoi eich hun ar gyfer pob un o’r camau hyn, a deall sut y gallai’r prosesau hyn edrych ychydig yn wahanol ar gyfer rolau academaidd.
Ceisiadau am rolau y tu allan i’r byd academaidd
Yr hyn sy’n allweddol i lywio ceisiadau am swyddi y tu allan i’r byd academaidd yw sut y byddwch yn trosi’ch sgiliau a’ch profiadau yn effeithiol a’u gwneud yn berthnasol i’r rolau yr ydych yn ymgeisio amdanynt. Teilwra yw’r enw ar hyn ac mae’n hanfodol i ddangos i gyflogwyr y tu allan i’r byd academaidd bod gennych y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad y maent yn chwilio amdanynt. Er enghraifft, mae’r CV ffuglennol hwn yn enghraifft ddefnyddiol o CV sydd wedi’i deilwra tuag at rôl ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae pwyslais y CV yn fwy ar amlygu’r sgiliau a’r profiad perthnasol o fewn maes cyfathrebu gwyddoniaeth a chyfathrebu i amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Rhoddwyd llai o bwyslais ar gyflawniadau academaidd, gwobrau a sgiliau technegol. Mae gan Vitae dempledi CV ychwanegol.
Defnyddiwch ein cyngor helaeth ar Dyfodol Myfyrwyr+ ar sut i lunio dogfennau CV a cheisiadau, a sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau, ar gyfer rolau nad ydynt yn rolau academaidd. Rydym hefyd yn argymell darllen ein cyngor ar sut i wneud cais am swyddi y tu allan i’r byd academaidd ar y wefan hon. Mae Jobs on Toast hefyd yn adnodd defnyddiol iawn i ymchwilwyr sydd am gael mynediad at swyddi y tu allan i’r byd academaidd.
Ceisiadau am rolau academaidd
Os ydych chi’n gwneud cais am rolau academaidd, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n gwneud CV, datganiad personol a chais effeithiol, yn ogystal â sut i sefyll ar wahân mewn cyfweliad. Er bod gorgyffwrdd, yn sicr, o ran yr arferion gorau ar gyfer gwneud cais am rolau y tu allan i’r byd academaidd, mae yna ffactorau penodol y dylech eu cofio er mwyn sicrhau bod eich cais wedi’i addasu’n ddigonol i’r amgylchedd academaidd a’r gofynion ar gyfer rolau academaidd.
Defnyddiwch ein cyngor ac adnoddau isod i ddarganfod mwy am yr hyn sy’n gwneud CV a datganiad personol/ategol academaidd effeithiol a sut i sefyll ar wahân mewn cyfweliad academaidd.
Dogfennau CV academaidd
Mae dogfennau CV academaidd, er bod ganddynt lawer yn gyffredin â dogfennau CV ar gyfer diwydiannau eraill, yn sefyll allan ar eu pennau eu hunain. Bydd eich CV academaidd yn datblygu ac yn aeddfedu gyda chi felly mae’n syniad da dechrau arno pan fyddwch yng nghanol cwblhau eich doethuriaeth a chadw cofnod o ddiweddariadau y mae angen i chi eu hystyried y tro nesaf y byddwch yn ei ddefnyddio. Os ydych chi eisoes yn cael eich cyflogi fel ymchwilydd, mae meddwl sut y bydd eich profiad cynyddol yn cael ei gyflwyno hefyd yn bwysig.
“Mae CV academaidd yn wahanol i rai eraill gan y dylai gynnwys adrannau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’ch ymchwil, a sgiliau a phrofiadau cysylltiedig eraill … Nid oes fformat penodol ar gyfer CV academaidd: eich dewis chi yw eich cynllun … Cofiwch mai’r tair elfen allweddol y mae darpar gyflogwyr yn chwilio amdanynt yw Ymchwil, Addysgu a Gweinyddu, felly dylid blaenoriaethu’r tair elfen hyn yn bendant a’u cynnwys ym mhob CV academaidd.".”
Prif ffocws CV academaidd yw eich profiadau, sgiliau a gwybodaeth academaidd, ymchwil ac addysgu. Yn wahanol i ddogfennau CV ar gyfer sectorau eraill lle mae CV dwy dudalen yn nodweddiadol, gall CV academaidd, yn enwedig ar gyfer staff profiadol, fod hyd at bedair tudalen o hyd (ac weithiau’n hirach). Bydd ganddo adrannau arbenigol na fyddech chi’n disgwyl dod o hyd iddynt mewn CV y tu allan i’r byd academaidd – er enghraifft, cynadleddau a chyflwyniadau, cyhoeddiadau, profiad addysgu/goruchwylio, cyllid, gwobrau a diddordebau ymchwil. Cymerwch olwg ar yr enghraifft yma o CV academaidd a ddarperir gan Prospects, sy’n rhoi mewnwelediad gwych i sut y gallech chi strwythuro eich CV.
Mae UKRI hefyd wedi cyflwyno fformat CV naratif ar gyfer ceisiadau grant, y gallwch ddarllen mwy amdano ar eu gwefan.
Datganiadau personol/ategol academaidd
Mae ceisiadau am swyddi academaidd yn aml yn gofyn am ryw fath o ddatganiad personol neu ddatganiad ategol. O fewn hyn, bydd gofyn i chi ddarparu tystiolaeth eich bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer y swydd, wedi’i rhannu yn aml yn feini prawf sydd naill ai’n hanfodol neu’n ddymunol ar gyfer y swydd. Yn ogystal â hyn, bydd y darllenwyr hefyd yn ceisio cael amcan o’ch cymhelliant i wneud cais am y rôl a dod yn rhan o’r brifysgol / adran / grŵp penodol hwnnw, yn ogystal â sut mae’r rôl hon yn cyd-fynd â’ch nodau gyrfa yn y dyfodol.
Rydym yn argymell dilyn yr awgrymiadau isod i helpu eich datganiad personol i sefyll ar wahân:
Dilyn strwythur clir
Dim ond un darn o destun yw eich datganiad felly mae angen iddo fod yn hawdd ei ddarllen a'i ddilyn – mae angen iddo fod yn glir pa faen prawf rydych yn mynd i'r afael ag ef. Rhestrwch bob maen prawf yn ei dro fel is-bennawd ond, os oes cyfrif geiriau, trafodwch bob un mewn paragraff ar wahân gan ddefnyddio’r un geiriau ag y mae’r cyflogwr wedi’u defnyddio.
Rhoi enghreifftiau penodol
Dangoswch sut rydych chi'n bodloni pob maen prawf trwy ddefnyddio enghreifftiau penodol, wrth ddangos hefyd ehangder eich sgiliau a'ch arbenigedd.
Rydym yn argymell datgan eich sgiliau, arbenigedd neu brofiad ac yna dangos hyn trwy enghraifft benodol. Er enghraifft:
Meini prawf – Profiad addysgu sylweddol o ansawdd rhagorol
Honiad – Rhowch drosolwg o ystod eich profiad addysgu (ar wahanol lefelau ac o wahanol fathau), gan gynnwys gwerthusiadau/adborth a llwybr eich datblygiad proffesiynol (er enghraifft, unrhyw gymwysterau neu hyfforddiant ychwanegol, perthnasol yr ydych wedi'u cyflawni, e.e. cynllun cymrodoriaeth Advance HE)
Dangos: Ehangwch ar enghraifft benodol o addysgu cwrs neu grŵp bach, gan roi manylion eich dull a’ch athroniaeth ac ansawdd eich addysgu. Gallwch ddefnyddio'r dull STAR i'ch helpu i ymhelaethu ar enghraifft neu brofiad penodol. Ystyr STAR yw Sefyllfa (Situation), Tasg (Task), Gweithred (Action) a Chanlyniad (Result) ac mae'r dull hwn yn darparu canllaw defnyddiol i’ch helpu i ymhelaethu ar brofiadau er mwyn dangos tystiolaeth o sut mae cymwyseddau penodol wedi'u datblygu.
Cynnwys eich cymhelliant a'ch diddordeb
Cynnwys eich cymhelliant a'ch diddordeb
- Eich cymhelliant ar gyfer gwneud cais am y rôl
- Eich diddordeb mewn ymuno â'r grŵp ymchwil, yr adran neu'r brifysgol benodol honno
- Eich nodau gyrfa a sut mae'r rôl hon yn ategu/cefnogi'r rheini
- Trosolwg o’r hyn y gallwch ei gyfrannu at y rôl a’r adran/prifysgol – amlygwch rai o’ch cyflawniadau, gwerthoedd a chryfderau allweddol
Gallwch hefyd ddarllen cyngor Job.ac.uk ar yr hyn y dylech ei gynnwys mewn datganiad personol.
Cyfweliadau academaidd
Defnyddiwch ein hadnodd isod i’ch helpu i baratoi ar gyfer cyfweliad academaidd ac i ddeall beth i’w ddisgwyl:
Os ydych chi’n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni’n argymell eich bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn ffenestr ar wahân.
Gallwch hefyd ddarllen y canllaw defnyddiol hwn gan Jobs.ac.uk ynglŷn â sut i wneud cais am swydd academaidd