Skip to main content

Gwneud cais am rolau academaidd

Deall prosesau recriwtio nodweddiadol ar gyfer rolau yn y byd academaidd a'r ffordd orau i sefyll allan.

Nid oes unrhyw yrfa academaidd yn dilyn yr un llwybr yn union ond, fel gydag unrhyw ddiwydiant arall, dylai ceiswyr swyddi academaidd ymgyfarwyddo â thueddiadau, datblygiadau a nodweddion allweddol y diwydiant (addysg uwch) y maent am ymuno â nhw. Mae prosesau recriwtio’r byd academaidd yn wahanol i brosesau ymgeisio mewn sectorau eraill, felly gall deall beth i’w ddisgwyl a sut orau i sefyll allan eich rhoi yn y sefyllfa orau posibl wrth wneud cais am rolau academaidd cystadleuol. Mae’r adran hon yn canolbwyntio’n benodol ar wneud cais am rolau yn y byd academaidd, ond gallwch gael cyngor ar wahân ar sut i wneud cais am rolau y tu allan i’r byd academaidd ar y wefan hon.

Deall prosesau recriwtio yn y byd academaidd

Defnyddiwch yr adnodd isod i ddeall mwy am brosesau recriwtio mewn addysg uwch:

Os ydych chi’n defnyddio dyfais symudol i edrych ar y dudalen hon, rydyn ni’n argymell eich bod yn agor y gweithgaredd hwn mewn ffenestr ar wahân.

Gallwch hefyd wylio’r weminar isod gan Jobs.ac.uk sy’n ymwneud â pharatoi ar gyfer y farchnad swyddi academaidd:

Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio rhagor am y pwnc hwn: